Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Problemau wrth symud o CAMHS i AMHS

Gwybodaeth i bobl ifanc am beth allai fynd o’i le pan rydych chi’n disgwyl symud o CAMHS i AMHS.

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Gymraeg. This link will take you to a Welsh translation of this page.

Os ydych chi eisiau gwybod beth i’w ddisgwyl wrth symud i Wasanaethau Iechyd Meddwl i Oedolion (AMHS), efallai y byddai’n ddefnyddiol i darllen ein tudalen ar adael CAMHS i symud i AMHS i ddechrau.

Os ydych chi’n dal i gael cymorth gan CAMHS ond eich bod yn cael problemau, gweler hefyd ein tudalen ar broblemau y gallech eu hwynebu yn CAMHS.

Weithiau dydy symud o Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHS, neu SCAMHS yng Nghymru) i Wasanaethau Iechyd Meddwl i Oedolion (AMHS) ddim yn mynd fel y dylai, ac efallai y bydd angen i chi roi gwybod i rywun.

Ni waeth beth yw’r broblem, dydych chi ddim ar eich pen eich hun ac rydych chi’n haeddu cymorth.

Mae’r dudalen hon yn ymdrin â:

Dydw i ddim yn adnabod neb a oedd yn teimlo bod y broses drawsnewid yn hawdd, ac rwy’n meddwl ei bod yn bwysig gwybod hynny cyn mynd i mewn. Roedd yn llethol i mi... ond fe wnes i ei oroesi.

Pa broblemau allwn i eu hwynebu wrth symud i AMHS?

I lawer o bobl ifanc, gall symud o CAMHS i AMHS fod yn broses ddidrafferth. Ond mewn achosion eraill, efallai y bydd problemau.

Dyma rai problemau cyffredin:

  • Does neb yn rheoli’r broses o symud o CAMHS, pan ddylai fod gennych gydlynydd gofal neu weithiwr pontio.
  • Does neb wedi rhoi copi o’ch cynllun gofal i chi, i esbonio beth sydd ei angen arnoch a pha gefnogaeth fyddwch yn ei chael yn AMHS.
  • Rydych chi wedi cael copi o’ch cynllun gofal, ond nid ydych yn cytuno â’r hyn mae’n ei ddweud
  • Nid yw CAMHS wedi eich atgyfeirio at AMHS eto, ond rydych chi eisiau cael eich atgyfeirio.
  • Mae bwlch mawr rhwng gadael CAMHS a dechrau cael cymorth gan AMHS. Gallai hyn ddigwydd oherwydd amseroedd aros neu oedi o ran prosesu.
  • Mae rhywun wedi dweud wrthych chi nad ydych chi’n bodloni’r meini prawf i gael help gan AMHS.

Ni waeth beth yw’r broblem, rydym ni yma i’ch helpu chi i ddod o hyd i’r cymorth sydd ei angen arnoch.

Cofiwch ei bod yn debygol y bydd yn rhaid aros yn hir wrth drosglwyddo i wasanaethau oedolion, ond dydy hynny ddim yn golygu nad ydych chi’n bwysig.

Beth os na fydd y Gwasanaethau Iechyd Meddwl i Oedolion yn fy helpu i?

Dim ond rhai pobl ifanc sy’n cael cymorth gan CAMHS sy’n mynd ymlaen i gael cymorth gan AMHS.

Weithiau, yn seiliedig ar eich atgyfeiriad ac wrth ddarganfod pa gymorth sydd ei angen arnoch, efallai y bydd rhai gwasanaethau oedolion yn dweud na allan nhw gynnig cymorth i chi. Os yw hyn yn digwydd, dylen nhw esbonio pam a dweud wrthych lle arall gallwch fynd am gymorth.

Os nad ydych chi’n cytuno â’u penderfyniad, siaradwch â’ch tîm CAMHS i gael gwybod beth allwch chi ei wneud. Mae’n wahanol i bob gwasanaeth ac ardal leol.

Efallai y byddai hefyd yn ddefnyddiol i chi ddarllen ein gwybodaeth am adael CAMHS.

Pa atebion allwn i geisio eu defnyddio i helpu fy mhroblemau?

Isod, cewch syniadau a allai helpu gyda rhai problemau, ond efallai y bydd rhai ohonynt yn anodd i chi. Os gallwch chi, ceisiwch gael cymorth ychwanegol gan ffrind neu oedolyn dibynadwy.

Os ydych chi’n anhapus â’r ffordd mae pethau’n mynd gyda’ch proses bontio, dylech chi ddweud wrth bwy bynnag sy’n rheoli’r broses o symud i AMHS. Dylai hwn fod yn gydlynydd gofal yn Lloegr, neu’n weithiwr pontio yng Nghymru.

Os nad ydych chi’n gwybod pwy yw hwnnw, gofynnwch am gael siarad â’r rheolwr AMHS lleol. Dylech chi egluro:

  • Beth sy’n mynd o’i le yn eich barn chi
  • Sut rydych chi’n teimlo am y broblem sydd gennych
  • Beth hoffech chi ei newid i wella pethau

Gallech chi wneud hyn wyneb yn wyneb, dros y ffôn, mewn llythyr neu e-bost. Y rhan fwyaf o’r amser, gallwch ddod o hyd i’w manylion cyswllt ar wefan eich CAMHS lleol, AMHS neu’r GIG lleol.

Roedd rhestr aros hir iawn gan y gwasanaeth ro’n i’n mynd i gael fy nghyfeirio ato. I mi ar y pryd, roedd yn ymddangos yn rhy bell yn y dyfodol, felly wnes i ddim atgyfeirio fy hun.

Dylai eich tîm gofal ddilyn polisi ar gyfer eich symud o CAMHS i AMHS.

Dylech ofyn i’ch tîm CAMHS i gael gweld copi o’r polisi os ydych chi:

  • Ddim yn siŵr a ydych chi'n cael y cymorth cywir
  • Teimlo nad yw symud i AMHS yn mynd fel y dylai

 

Gallai oedolyn dibynadwy neu eiriolwr fynd drwy’r polisi gyda chi. Gallant eich helpu i ddeall a ydych chi'n cael y cymorth rydych chi'n ei haeddu. I gael gwybodaeth am yr hyn a ddylai fod yn digwydd pan fyddwch yn gadael, edrychwch ar ein tudalen ar symud i AMHS.

Roedd fy nhîm yn CAMHS yn agored iawn gyda mi ynghylch sut beth oedd hyn, ac roeddwn i’n teimlo bod hynny wedi fy helpu i.

Os oes angen rhagor o gefnogaeth arnoch chi, neu os ydych chi’n cael problemau symud i AMHS, gallai fod yn ddefnyddiol dod o hyd i eiriolwr.

Mae eiriolwyr yn gallu eich helpu i siarad am y pethau sy’n bwysig i chi. Maen nhw’n annibynnol, sy’n golygu nad ydyn nhw’n gweithio i’r GIG, i gynghorau lleol nac i’r gwasanaethau cymdeithasol.

I gael gwybodaeth am sut gallan nhw eich cefnogi chi a sut i ddod o hyd i un, ewch i’n tudalen ar eiriolaeth. Gallwch hefyd ddarllen ein tudalen ar sut i eirioli drosoch eich hun.

Os nad ydych chi’n cael y cymorth sydd ei angen arnoch gan CAMHS neu AMHS am unrhyw reswm, mae llawer o fannau eraill y gallwch chi fynd i gael cymorth. Er enghraifft:

  • Eich meddyg.I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’n tudalen ar fynd i weld eich meddyg.
  • Mudiadau elusennol a gwasanaethau cymunedol.Gallant gynnig cwnsela, neu grwpiau cefnogaeth gan gymheiriaid lle gallwch chi gyfarfod pobl ifanc eraill i siarad am eich profiadau a rhannu awgrymiadau.
  • Ysgol, coleg neu brifysgol.Mae’r mannau hyn yn aml yn cynnal gwasanaethau cymorth lles ac iechyd meddwl. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein tudalen am gymorth iechyd meddwl i fyfyrwyr.
  • Dod o hyd i therapydd Gall therapi preifat gostio llawer o arian. Ond i bobl sy’n gallu ei fforddio, mae’n ffordd o gael help proffesiynol ar unwaith. Os wyt ti’n 18 oed neu’n hŷn, efallai y bydd help ar gael ar ein tudalennau gwybodaeth i oedolion ar sut i ddod o hyd i therapydd a gofal yn y sector preifat.

 

I weld rhifau llinellau cymorth, gwefannau a mwy o ddewisiadau, edrychwch ar ein tudalennau dod o hyd i gymorth a’n rhestr o gysylltiadau defnyddiol ar gyfer pobl ifanc.

Roedd fy iechyd meddwl yn sefydlog ar y cyfan ar ôl hynny, ond yn naturiol roedd yna adegau da a drwg. Ar ôl ychydig, penderfynais gysylltu â’r meddyg teulu eto.

 

Gwneud cwyn ffurfiol

Os ydych chi'n cael triniaeth annheg, neu os nad ydych chi'n cael y cymorth sydd ei angen arnoch wrth symud, gallwch gwyno. Efallai y byddai’n syniad da rhoi cynnig ar rai o’r syniadau eraill ar y dudalen hon cyn cwyno.

Gallwch ofyn i rywun yn y tîm gweinyddol sut mae gwneud hyn. Efallai y byddan nhw’n gofyn i chi ysgrifennu llythyr, neu lenwi ffurflen.

Gall gwneud cwyn ffurfiol fod yn broses anodd, yn enwedig os nad ydych chi’n teimlo’n dda. I gael help a chefnogaeth, efallai y byddwch chi am wneud y canlynol:

  • Gofyn i oedolyn rydych chi’n ymddiried ynddo helpu i ysgrifennu eich llythyr, neu edrych ar yr hyn rydych chi wedi’i ysgrifennu.
  • Mynd ar-lein i weld a oes gwasanaeth eiriolaeth cwynion y GIG yn eich ardal chi. Gallan nhw eich helpu i ysgrifennu’r hyn rydych yn poeni amdano, a beth fyddech chi’n hoffi ei weld yn digwydd. Efallai y bydd sefydliadau fel VoiceAbility a POhWER yn gallu eich helpu i wneud hyn.

Templed o gŵyn e-bost neu lythyr

Ceisiwch ddefnyddio ein templed i’ch helpu i egluro’r broblem gyda’ch broses symud:

Fe wnes i gwyno a chael therapydd newydd heb unrhyw wrthdaro o ran diwylliant. Roedd y gweithwyr proffesiynol yn sylweddoli bod angen iddyn nhw wrando arna i.

Yn dibynnu ar eich gwasanaeth lleol a ble rydych chi’n byw, efallai y byddwch chi’n dechrau pontio i AMHS pan fyddwch chi dan 18 oed, neu dros 18 oed.

Ond i bobl ifanc sy’n 18 oed neu’n hŷn, efallai y bydd rhai o’n tudalennau i oedolion yn fwy defnyddiol ar gyfer gwybodaeth a chymorth. Edrychwch ar:

Cafodd yr wybodaeth hon ei chyhoeddi ym mis Rhagfyr 2022. Byddwn yn ei diwygio yn 2025.

Mae cyfeiriadau ar gael ar gais. Os hoffech chi atgynhyrchu unrhyw ran o’r wybodaeth hon, gweler ein tudalen ar ganiatadau a thrwyddedau.

Am ragor o wybodaeth

arrow_upwardYn ôl i'r brig