Mathau o broblemau iechyd meddwl
Mae’r dudalen hon yn rhoi rhai enghreifftiau o broblemau iechyd meddwl. Mae hefyd yn rhoi sylw i deimladau, profiadau ac ymddygiadau. Mae'r rhain yn gallu bod yn rhan o broblem iechyd meddwl neu gallant ymddangos ar eu pen eu hunain.
Rhagor o wybodaeth am iechyd meddwl
Yn ansicr beth yw iechyd meddwl?
Edrycha ar ein tudalen am ddeall iechyd meddwlEnghreifftiau o broblemau iechyd meddwl
Os yw’n mynd yn anodd i ni ymdopi â’r ffordd rydyn ni’n meddwl, yn teimlo neu’n ymddwyn, fe allai fod yn arwydd o broblem iechyd meddwl.
Efallai y byddi’n clywed neu’n ffafrio defnyddio’r termau canlynol yn lle ‘problem iechyd meddwl’:
- Gwaeledd meddwl
- Salwch meddwl
- Cyflyrau iechyd meddwl
- Anhwylderau iechyd meddwl
- Iechyd neu les emosiynol gwael
- Lles meddyliol gwael
- Does dim term cywir neu anghywir. Mae pob un ohonom yn ffafrio term gwahanol.
Iselder
Efallai y clywi di bobl eraill yn dweud mai iselder ydy teimlo’n isel dy ysbryd. Ond mae’n gallu effeithio ar ein bywydau mewn mwy o ffyrdd na dim ond teimlo’n drist neu’n isel. Gallai hefyd gynnwys methu â theimlo dim neu deimlo’n anobeithiol am amser hir.
Gallai’r teimladau hyn effeithio ar dy fywyd mewn gwahanol ffyrdd. Er enghraifft, efallai dy fod yn teimlo dy fod yn methu â chysgu neu fwyta, neu efallai dy fod yn aml yn teimlo’n flinedig. Efallai y byddi’n ei chael yn anoddach gofalu amdanat dy hun ac y byddi hefyd yn stopio gwneud y pethau rwyt ti’n eu mwynhau.
Gorbryder
Gorbryder yw pan fyddwn ni’n teimlo’n ofnus, yn pryderus neu’n nerfus. Mae pawb yn teimlo'n orbryderus o dro i dro. Fe all rhywfaint o bryder hefyd helpu i’n cadw’n ddiogel.
Ond pan fydd y teimladau hyn yn para’n hir, fe allant gael effaith fawr ar ein bywyd.
Er enghraifft, efallai y byddi di’n poeni am bethau a allai ddigwydd. Ac yn osgoi pethau fel mynd i’r ysgol neu fod yng nghwmni pobl eraill. Fe allet hefyd fod yn cael pyliau o banig.
Mi gymerodd amser hir iawn i mi allu gwybod bod gen i orbryder a dysgu sut i ddelio efo fo. Ond mae’n rhaid iti wastad ddeall nad wyt ti’n ddim gwahanol i neb arall – Beyla, 13
Problemau bwyta
Problemau bwyta ydy pan fydd gennym berthynas anodd gyda bwyd. Fe allant weithiau fod yn rhan o anhwylder bwyta neu arferion bwyta di-drefn. Yn aml, maen nhw’n ffordd o ymdopi â theimladau neu brofiadau anodd eraill.
Fe all unrhyw un gael problemau bwyta – beth bynnag fo’u hoedran, eu rhyw, eu pwysau neu eu cefndir.
Mae problemau bwyta yn gallu cael effaith ddifrifol ar ein perthynas gyda bwyd ac ar ein bywyd. Efallai ein bod yn methu â stopio meddwl am fwyd ac yn osgoi ffrindiau, yr ysgol neu’r gwaith.
Fe all problemau bwyta weithiau fod yn gysylltiedig â delwedd ein corff – sut rydyn ni’n meddwl ac yn teimlo amdanon ni ein hunain a’n corff.
I gael rhagor o wybodaeth a chyngor am ble i gael help gyda phroblemau bwyta, edrycha ar wefan Beat.
Anhwylder gorfodaeth obsesiyno (OCD)
Mae dwy brif ran i anhwylder obsesiynol-gymhellol (OCD) - obsesiynau a gorfodaethau.
Mae obsesiynau yn feddyliau, teimladau, delweddau, ysfeydd, pryderon neu amheuon sy’n ymddangos dro ar ôl tro yn ein meddwl. Maen nhw’n gallu teimlo fel eu bod nhw’n sownd, a’n bod yn methu â chael gwared ohonyn nhw. Maen nhw’n gallu peri gofid mawr.
Mae gorfodaethau yn bethau rydyn ni’n teimlo bod yn rhaid inni eu gwneud, er mwyn gwneud inni deimlo’n well am yr obsesiynau. Gallwn fod yn gwneud y rhain yn gorfforol neu yn ein pen.
Fe allai gorfodaethau wneud iti deimlo’n well i ddechrau. Ond efallai y gweli di, po fwyaf y byddi’n gwneud gorfodaeth, y cryfaf yw’r ysfa i’w gwneud eto. Ac fe all meddyliau a theimladau anodd ddychwelyd wedyn hefyd.
Yn yr ysgol roeddwn i’n cael trafferth canolbwyntio... oherwydd yr holl orfodaethau a oedd yn mynd drwy fy ymennydd ar y pryd – Lily, 16
Anhwylder deubegynol
Gydag anhwylder deubegynol gallwn fod mewn hwyliau da aruthrol ar adegau ac wedyn yn isel iawn ein hwyliau.
Weithiau fe allwn deimlo’n llawn egni ac yn gyffrous iawn, cysgu llai neu gymryd mwy o risgiau nag arfer. Mania neu hypomania y mae meddygon yn galw hyn.
Ar adegau eraill, gallwn deimlo iselder ac yn isel ein hwyliau, neu feddwl am hunan-niweidio neu hunanladdiad. Fe all yr eithafion hyn bara am ychydig ddyddiau neu fwy. A gall deimlo’n frawychus iawn.
Mae hwyliau pawb yn newid o bryd i’w gilydd. Ond os oes gennym anhwylder deubegynol, fe all y newidiadau hyn beri gofid mawr a chael effaith fawr ar eich bywyd. Fe allet hefyd fod yn profi pethau eraill, fel seicosis.
Dydy problemau iechyd meddwl ddim yn dy ddiffinio di nac yn dy wneud yn llai o berson ni waeth beth mae pobl eraill yn ei feddwl. Ti ydy ti - Aisha, 18.
Anhwylder personoliaeth
Gall meddygon roi diagnosis o anhwylder personoliaeth inni os ydy'r ffordd rydyn ni’n meddwl, yn teimlo ac yn ymddwyn yn anodd i ni.
Er enghraifft, efallai y byddwn yn brwydro i reoli ein hemosiynau, a gyda’r ffordd rydym yn gweld ein hunain a phobl eraill.
Mae rhai gweithwyr iechyd proffesiynol yn anghytuno ynghylch beth yw anhwylder personoliaeth. Ac ynghylch a ddylai pobl ifanc gael y diagnosis hwn. Dydy e ddim yn glir bob tro. Fe all fod yn anodd cael diagnosis fel person ifanc.
Anhwylder straen wedi trawma (PTSD)
Mae PTSD yn rhywbeth y gall seiciatrydd roi diagnosis ohono os wyt ti wedi cael profiad o un neu ragor o ddigwyddiadau trawmatig. Gallet hefyd gael diagnosis o PTSD cymhleth os ges di brofiad trawmatig pan oeddet yn ifanc neu os ydy’r profiad hwnnw wedi para am amser hir.
Efallai dy fod yn ail-fyw’r hyn a ddigwyddodd, yn cael hunllefau neu’n osgoi pethau sy’n dy atgoffa o’r hyn a ddigwyddodd. Mae’n rhywbeth sy’n gallu bod yn anodd iawn byw ag o. Gallet ti fod yn profi’r pethau hyn ar unwaith neu ar ôl dipyn o amser.
Dydy mynd drwy drawma ddim bob amser yn golygu y byddwn yn cael diagnosis o PTSD neu PTSD cymhleth. Mae rhagor o fanylion ar gael yn ein gwybodaeth am drawma.
Ymosododd rhywun arnaf o fewn pythefnos ar ôl dechrau yn yr ysgol uwchradd. Arweiniodd hynny at fwlio difrifol. Byddwn i’n dod adref wedi ypsetio ac yn emosiynol iawn – Scarlett, 15
Teimladau, ymddygiadau a phrofiadau eraill
Rydyn ni i gyd yn cael teimladau a phrofiadau sy’n gallu bod yn anodd ymdopi â nhw weithiau. Fel os ydyn ni’n mynd yn flin neu’n ypset ar ôl ffrae neu’n teimlo’n nerfus cyn arholiad. Mae hyn yn gallu effeithio ar ein hymddygiad. Er enghraifft, efallai na fyddwn eisiau gwneud y pethau rydym yn eu mwynhau fel arfer.
Weithiau mae’r teimladau, y profiadau a’r ymddygiadau hyn yn rhan o broblem iechyd meddwl. Ond fe all y rhain fodoli ar eu pen eu hunain hefyd. Efallai y byddi hefyd yn clywed y rhain yn cael eu galw’n symptomau.
Cofia: beth bynnag rwyt ti’n mynd drwyddo, rwyt ti’n haeddu help. Does dim gwahaniaeth ers pa mor hir rwyt ti wedi bod yn teimlo fel hyn.
Dicter
Mae pawb yn gallu teimlo’n ddig weithiau. Ond fe all dicter fod yn broblem pan aiff allan o reolaeth, neu pan allwn ni mo’i reoli’n ddiogel. I gael rhagor o wybodaeth, edrycha ar ein tudalennau ar ddeall dicter ac awgrymiadau ar reoli dicter.
Pyliau o banig
Mae pyliau o banig yn gallu teimlo’n wahanol i bawb.
Ond mae llawer ohonom yn dweud eu bod fel teimladau sydyn a dwys o ofn a phryder. Mae ein corff yn gallu ymateb mewn gwahanol ffyrdd ac efallai y byddwn yn teimlo na allwn reoli’r hyn sy’n digwydd y tu mewn nac o’n cwmpas.
Efallai y byddwn hefyd yn ei chael hi’n anodd anadlu, yn teimlo’n benysgafn neu y bydd ein calon yn curo’n gyflymach nag arfer.
Diffyg hyder a hunan-barch
Weithiau dydyn ni ddim yn teimlo’n dda amdanon ni ein hunain. Efallai y byddwn yn amau ein hunain neu’n meddwl nad ydyn ni’n ddigon da. Os wyt ti wedi teimlo fel hyn ers tro, yna efallai dy fod yn dioddef o ddiffyg hyder neu hunan-barch.
Fe all hyn wneud ein hiechyd meddwl yn waeth neu gall fod yn rhan o broblem iechyd meddwl. Ond mae llawer o bethau y galli di eu gwneud i wella’r ffordd rwyt ti’n teimlo amdanat ti dy hun. Darllena ein tudalen i gael awgrymiadau ar sut i fagu hyder a hunan-barch.
Straen
Mae llawer o bethau gwahanol yn gallu achosi straen. Ac mae straen yn gallu effeithio ar bob un ohonom mewn ffyrdd gwahanol. Os ydy straen yn ein llethu, fe all hyn effeithio ar ein hiechyd meddwl. Er enghraifft, mae rhai ohonom yn teimlo dan straen cyn, yn ystod ac ar ôl arholiadau. Mae gennym awgrymiadau ar sut i ymdopi â straen arholiadau.
Mae'n bwysig gwybod nad yw dy drafferthion yn dy ddiffinio...a dy fod ti, yn y pendraw, yn gryfach na nhw.
Problemau cysgu
Mae cysylltiad agos rhwng cwsg ac iechyd meddwl. Os ydyn ni’n cael trafferth gydag iechyd meddwl, gall hyn effeithio ar ba mor dda rydyn ni’n cysgu. Ac os ydyn ni’n cael trafferth cysgu, mae’n gallu effeithio ar ein hiechyd meddwl.
Rydyn ni gyd yn ei chael yn anodd cysgu weithiau a bydd rhai ohonom yn cael problemau cysgu. I gael rhagor o wybodaeth ac awgrymiadau ar sut i ymdopi, edrycha ar ein tudalennau ar gysgu ac iechyd meddwl a’n hawgrymiadau ar sut i gysgu’n well.
Datgysylltiad
Fe all datgysylltiad wneud i ni deimlo ein bod wedi ein datgysylltu oddi wrth ein hunain a’r byd o’n cwmpas. Er enghraifft, fe allwn deimlo nad yw ein corff yn rhan ohonom neu deimlo fel nad yw'r byd o’n cwmpas yn real. Ond mae profiad pawb yn wahanol.
Mae llawer ohonom yn cael profiad o ddatgysylltu yn ystod ein hoes, ond fe all hefyd fod yn rhan o broblem iechyd meddwl.
Trawma
Ymateb i rywbeth sydd wedi digwydd i ni ydy trawma. Gallai hyn fod oherwydd un neu fwy o brofiadau llawn straen, dychrynllyd neu ofidus. Neu fe allai fod yn gysylltiedig â rhywbeth a ddigwyddodd dros amser hir.
Efallai y byddwn yn cael ôl-fflachiadau, ac yn ail-fyw’r digwyddiad. Neu fe allem gael problemau cysgu, fel hunllefau ac arswydion nos. Efallai y bydd rhai ohonom hefyd yn datgysylltu. Fe allem gael profiad o’r pethau hyn ar unwaith neu ar ôl dipyn o amser.
Rydyn ni i gyd yn ymateb i bethau ac yn eu prosesu’n wahanol. Felly, mae’n bosibl bod rhywbeth sy’n drawmatig inni ddim yn drawmatig i rywun arall. Ac mae hynny’n iawn, does dim cywilydd mewn trawma.
Seicosis
Mae seicosis yn golygu bod ein profiad o’r byd yn wahanol i brofiad pobl eraill.
Efallai y byddwn yn clywed lleisiau, neu’n cael rhithweledigaethau a rhithdybiau. Gallai ein lleferydd neu ein meddyliau deimlo’n ddryslyd ac yn wahanol i’r arfer. Gan fod pob un ohonom yn meddwl, yn teimlo ac yn edrych ar y byd yn ein ffordd ein hunain, mae weithiau’n gallu bod yn anodd gwybod beth sy’n real a beth sydd ddim.
Efallai mai dim ond un pwl o seicosis gei di. Neu efallai y cei di dipyn o episodau dros amser. Efallai y bydd rhai ohonom yn byw gydag ef am y rhan fwyaf o’r amser. Mae’n gallu bod yn gysylltiedig â phroblemau iechyd meddwl fel anhwylder deubegynol neu sgitsoffrenia. Mae sgitsoffrenia yn ddiagnosis penodol sy'n seiliedig gael symptomau seicosis. Mae gan YoungMinds fwy o wybodaeth am sgitsoffrenia.
Ond fe all seicosis ddigwydd hefyd heb ddiagnosis o broblem iechyd meddwl. Gall ymwneud â phethau eraill sy’n digwydd yn ein bywydau fel genedigaeth, straen, defnyddio cyffuriau, neu drawma.
Dyma ychydig wybodaeth am yr hyn allech chi eu profi:
Pan gawn rithweledigaeth mae ein profiad o’n synhwyrau’n wahanol. Efallai y byddwn yn gweld pethau na all pobl eraill eu gweld, neu weld pethau sy’n edrych yn wahanol neu sy’n symud mewn ffyrdd wahanol i’r arfer. Mae meddygon yn galw’r rhain yn rhithweledigaethau gweledol.
Fe allwn hefyd deimlo pethau nad ydyn nhw yno. Neu efallai y byddwn yn clywed lleisiau.
Mae llawer ohonom yn credu pethau nad yw pobl eraill yn eu credu. Ond gyda rhithdybiau rydyn ni’n credu pethau nad ydynt yn ymddangos yn real i bobl eraill. Ond efallai eu bod nhw’n teimlo’n gwbl real i ni.
Er enghraifft, efallai ein bod yn credu bod pobl eraill yn bwriadu ein brifo. Gall hyn wneud i ni deimlo’n bryderus, a’i chael yn anodd ymddiried mewn pobl. Efallai y byddwn yn ynysu ein hunain.
Fe all rhai rhithdybiau wneud i ni gredu bod gennym alluoedd arbennig, fel ein bod yn gallu byw am byth. Efallai y byddwn yn cymryd mwy o risgiau neu’n ymddwyn yn wahanol.
Mae clywed lleisiau yn fath o rithweledigaeth. Efallai y byddwn yn clywed un neu fwy o leisiau pan nad oes neb gyda ni, neu efallai y byddwn yn clywed lleisiau nad yw pobl eraill yn gallu eu clywed.
Gall y lleisiau hyn godi ofn ar rai ohonom, ond gallem hefyd gael ein cysuro ganddynt. Gallai’r lleisiau newid dros amser hefyd.
Mae cysylltiad rhwng clywed lleisiau a seicosis. Ond gall hefyd ddigwydd ar ei ben ei hun.
Hunan-niweidio
Hunan niweidio yw pan fyddwn ni’n brifo ein hunain yn emosiynol neu’n gorfforol yn fwriadol.
Gweler ein tudalennau ar ddeall hunan niweidio a’n hawgrymiadau ar sut i ymdopi â hunan niweidio i gael rhagor o wybodaeth ac awgrymiadau ar sut i ymdopi.
Teimlo fel lladd eich hun
Mae rhai ohonom yn teimlo fel lladd ein hunain neu’n meddwl am wneud hynny. Gall hyn ein dychryn, peri dryswch a’n llethu. Mae gan YoungMinds ragor o wybodaeth am deimladau o hunanladdiad a meddwl am hunanladdiad.
Er y gallai rhai ohonom deimlo ein bod eisiau marw, mae rhai yn teimlo nad ydyn ni eisiau byw’r bywyd sydd gennym dim mwy. Gall ein profiadau fod yn wahanol iawn.
Mae wir yn bwysig iti siarad â rhywun os wyt ti’n teimlo fel hyn.
Sut mae niwroamrywiaeth yn gysylltiedig ag iechyd meddwl?
Mae niwroamrywiaeth yn ffordd o ddeall bod ymennydd gwahanol bobl yn gweithio mewn gwahanol ffyrdd. Cofia: does dim math cywir nac anghywir o ymennydd. Mae rhai pobl yn meddwl yn y ffordd y mae cymdeithas yn disgwyl iddynt wneud, a gelwir hyn yn niwronodweddiadol.
Mae bod yn niwrowahanol yn golygu bod ein hymennydd yn gweithio mewn ffordd y gellid ei hystyried yn wahanol i bobl eraill. Efallai ein bod yn rhyngweithio â’r byd mewn ffyrdd nad yw pobl eraill yn eu deall bob amser. Gall hyn fod oherwydd cyflyrau fel awtistiaeth neu anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd (ADHD). Ond gallwn fod yn niwrowahanol mewn nifer o ffyrdd eraill.
Mae bod yn niwrowahanol yn wahanol i gael problem iechyd meddwl. Ond os ydyn ni’n niwrowahanol, efallai y byddwn yn cael mwy o drafferth gyda’n hiechyd meddwl a’n teimladau. Gallai hyn fod oherwydd:
- Na chawn y gefnogaeth iawn
- Dy fod yn teimlo bod pobl yn dy gamddeall
- Ein bod yn teimlo dan straen neu’n methu ag ymdopi mewn rhai amgylcheddau
Mae gan YoungMinds fwy o wybodaeth am awtistiaeth, ADHD ac iechyd meddwl. Ni waeth beth yw’r broblem, rwyt ti’n haeddu help.
Siarada yn agored am niwrowahaniaeth a phryder, oherwydd fe fydd hynny’n caniatáu i bobl ofyn cwestiynau a bydd hynny wedyn yn arwain at iddynt allu dy helpu a dy ddeall yn well – Joseph, 17
Beth os nad ydy pobl eraill yn deall?
Mae llawer ohonom yn cael problemau iechyd meddwl neu deimladau a phrofiadau anodd. Ond nid yw pawb yn eu deall.
Gallai pobl ddweud neu wneud pethau sy’n brifo neu’n peri gofid. Stigma ydy’r enw ar hyn. Mae pobl yn deall rhai problemau iechyd meddwl i raddau llai ac mae mwy o stigma ynghlwm wrth rai eraill.
Nid dy gyfrifoldeb di yw ceisio addysgu'r bobl o dy gwmpas am iechyd meddwl. Ond fe elli rannu ein gwybodaeth ar ddeall iechyd meddwl i helpu.
Nid dy fai di ydy o os oes rhywun yn methu â dy ddeall neu os oes rhywun yn angharedig tuag atat.
Dyma gyngor gan bobl ifanc ar sut i ymdopi os wyt ti’n teimlo nad ydy pobl yn dy ddeall:
Nid dy fai di ydy o byth os ydy pobl yn methu â dy ddeall – Jumi, 17
Er ei bod yn bwysig cael cefnogaeth a barn pobl eraill, mae derbyn ti dy hun yn bwysig hefyd – Dora, 17
Fydd pawb ddim yn deall ac elli di ddim gorfodi pobl i feddwl mewn ffordd benodol ond nid dy gyfrifoldeb di yw gwneud i bobl ddeall hefyd. Rhaid i ti ganolbwyntio ar edrych ar ôl dy hun gymaint ag y galli – Dora, 17
Mae wir yn anodd, ond ceisia ddod o hyd i rywun y gelli siarad gyda nhw am y peth a chael dy dderbyn fel wyt ti. Bydd rhywun yn siŵr o wrando a deall – Mel, 15
Ble alla’ i gael help?
Rwyt ti’n haeddu help a chefnogaeth ar unrhyw adeg. Fe allet ti:
- Siarad â rhywun rwyt ti’n ymddiried ynddyn nhw – darllena ein hawgrymiadau ar sut i siarad â phobl eraill
- Edrych am lefydd i gael cymorth a thriniaeth – darllena ein gwybodaeth am ddod o hyd i gymorth
- Gofalu am dy les – mae gan ein tudalen awgrymiadau defnyddiol ar ffyrdd o ofalu am dy les
- Cysylltu â llinell gymorth neu linell destun – ar ein tudalen cysylltiadau defnyddiol fe weli restr o fudiadau y gelli droi atynt am help cyfrinachol a dienw
- Cysylltu ag eraill – gelli siarad â phobl ifanc sy’n mynd drwy bethau tebyg ar fyrddau negeseuon fel The Mix neu Childline
Cafodd y wybodaeth hon ei chyhoeddi ym mis Chwefror 2025. Byddwn yn ei diwygio yn Chwefror 2028.
Mae’r bobl ifanc wedi cytuno i’w geiriau ymddangos ar y dudalen hon. Dydy eu profiadau ddim yn gysylltiedig â’r bobl sy’n ymddangos yn y lluniau.
Mae cyfeiriadau ar gael ar gais. Os ydych chi am atgynhyrchu’r cynnwys hwn, ewch i’n tudalen caniatâd a thrwydded.
Am ragor o wybodaeth
Psychiatrist
This is a medical doctor that specialises in mental health. Psychiatrists can:
- Carry out assessments of your mental health
- Decide with you which treatments to try, including medication
- Be your therapist for a treatment, like group therapy