Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Deall dicter – ar gyfer pobl ifanc 11-18 oed

Gwybodaeth i bobl ifanc am beth y mae dicter yn ei feddwl a pam fod angen cymorth arnon ni weithiau i ddelio gyda dicter.

 

Mae'n ddrwg gennym, nid oes gennym fersiwn Gymraeg o'r dudalen hon ar hyn o bryd.

Beth yw dicter?

Mae dicter yn emosiwn normal yr ydyn ni i gyd yn ei deimlo weithiau. Er nad ydy dicter yn broblem iechyd meddwl , mae’n gallu effeithio ar ein lles meddwl.

Gallwn fod yn ddig neu’n flin pan deimlwn yn rhwystredig, dan straen neu os teimlwn fod rhywun wedi ein trin yn wael. Weithiau mae dicter yn gallu bod yn ddi-fudd ond dro arall mae’n gallu helpu.

Weithiau nid ydyn ni’n gwybod pam y teimlwn yn ddig ond mae hynny’n ocê. Beth bynnag ydy’r rheswm, gallwn fynegi dicter yn ddiogel.

Mae deall dicter yn rhan bwysig o ddysgu sut i reoli ein dicter.

Rwy'n gallu teimlo’n rhwystredig ac yn trïo peidio ei gymryd allan ar bobl eraill, ond weithiau rwy'n methu. Rwy'n mynd yn flin gyda phobl ac weithiau’n mynd yn drist iawn iawn, am ddim rheswm o gwbl – Chantelle, 13

Pam ydyn ni’n mynd yn ddig weithiau?

Gallwn fynd yn ddig am lwyth o wahanol resymau, yn enwedig os ydyn ni’n mynd drwy brofiadau neu deimladau anodd. Rydyn ni’n aml yn galw’r pethau hyn yn ‘drigyrs’ ond mae’n ocê os ydy e’n well gennyt ti eu galw’n rhywbeth arall.

Mae gan bawb drigyrs ar gyfer mynd yn ddig. Yn yr adran yma, rhestrir rhai o’r trigyrs y gallet ti efallai uniaethu gyda nhw.

Gallwn gael profiadau anodd sy’n gallu arwain at ddicter, fel:

  • Bwlio
  • Rhywun yn gwahaniaethu yn eich erbyn neu’n eich cam-drin
  • Gweld neu gael profiad o bobl eraill yn ymddwyn yn ymosodol neu’n dreisgar
  • Colli rhywun agos atom ni
  • Mynd drwy broblemau perthynas neu deimlo’n unig
  • Problem iechyd meddwl, yn enwedig os ydy rhywun yn ein trin yn annheg o’r herwydd
  • Ddim yn hoffi ein cyrff a’r ffordd yr ydyn ni’n edrych – gelwir hyn weithiau’n ddelwedd corff
  • Pethau’n digwydd yn ein cyrff fel poen, blinder, eisiau bwyd, neu gyfnod y glasoed a hormonau
  • Defnyddio alcohol neu gyffuriau
  • Gweld pethau anodd yn y newyddion neu yn y byd, fel hiliaeth neu newid hinsawdd
  • Mynd drwy rywbeth sy’n effeithio ar ein bywydau neu gynlluniau ar gyfer y dyfodol, fel y pandemig
  • Pethau’n digwydd yn yr ysgol, coleg neu’r gwaith, fel teimlo bod angen i ni wneud yn dda yn ein hastudiaethau, neu yn ein swydd

Efallai y bydd gennyn ni deimladau anodd sy’n gallu arwain at ddicter, fel teimlo’n:

  • Anniogel, dan ymosodiad neu dan fygythiad
  • Rhwystredig neu heb bŵer
  • Fel nad ydy pobl yn ein parchu neu werthfawrogi
  • Cywilydd neu embaras
  • Hunan-hyder neu hunan-werth isel
  • Dan straen a dan bwysau, oherwydd arholiadau neu or-wneud pethau yn y gwaith
  • Teimlo’n euog /difaru ein dewisiadau a phenderfyniadau
  • Bod pobl eraill yn ein barnu neu’n ein cam-ddeall
  • Methu siarad am na deall ein teimladau
  • Bod pethau’n ormod i ni, neu ymddwyn yn fyrbwyll

Gallwn brofi rhai o’r teimladau anodd hyn oherwydd ein bod yn niwro-amrywiol, os wyt ti'n awtistig neu gydag ADHD er enghraifft.

Trawma a dicter

Os ydyn ni wedi cael trawma, rydyn ni’n fwy tebygol o deimlo bod pethau’n fygythiad i ni. Pan deimlwn dan fygythiad, gallwn ymateb mewn ffordd sy’n cael ei weld gan bobl eraill fel dicter. Gall deimlo fel dicter i ni, hefyd.

Mae dicter yn gallu cuddio teimladau sy’n gysylltiedig â thrawma, fel teimlo’n ofnus, ypsét neu beidio â chael ein cymryd o ddifrif. Mae’r teimladau hyn i gyd yn gyffredin i bobl sydd wedi cael trawma.

Gall teimlo’n ddig hefyd ddod o gemegion straen, fel adrenalin. Mae ein cyrff yn rhyddhau cemegion straen i geisio ein cadw’n ddiogel – pan deimlwn fod rhywbeth yn fygythiad er enghraifft.

Am fwy o wybodaeth, cer i’n hadran sy'n ymwneud â thrawma.

 

Roedd y dicter a deimlwn yn bennaf oherwydd teimlo’n fregus a bod eraill yn fy ngham-ddeall. Teimlais fod yn rhaid i mi sefyll i fyny drosof fy hun oherwydd eu hanwybodaeth, ond gall fod yn anodd adnabod hyn ar y pryd – Keara, 17

decorative

Bydd rhai ohonom efallai heb syniad pam ein bod yn teimlo’n ddig, ac mae hynny’n ocê. Ond gall deimlo’n rhwystredig neu’n frawychus os na wyddom ni pam ein bod yn teimlo’n ddig.

Siaradon ni gyda phobl ifanc a rannodd eu profiadau a’u teimladau anodd a arweiniodd at eu dicter:

Pobl ddim yn gwrando arna i.

Teimlo ar goll neu mewn trap.

Bod yn ofalwr ifanc.

Pwysau gan gyfoedion.

Teimlo fy mod yn colli allan.

Straen a gorboeni’n gyffredinol.

Anwybodaeth – yn enwedig am Anghenion Addysgol Arbennig ac Anabledd (SEND) a gwahanol ddiwylliannau.

Os oes mwy nag un peth yn dy drafferthu ers tro, gall fod yn anodd deall pam y teimlwn yn ddig. Neu efallai fod rhywbeth wedi digwydd i’n ypsetio, ond heb i ni sylweddoli ei fod yn dal i’n ypsetio.

Gallwn deimlo’n ddig am resymau sydd heb eu rhestru ar y dudalen hon. Neu deimlo’n ddig heb wybod pam.

Gwahaniaethu, cam-drin a bwlio

Gallwn deimlo’n ddig os ydy rhywun wedi gwahaniaethu yn ein herbyn, ein cam-drin, bwlio neu ein trin yn annheg. Gallwn hefyd deimlo’n ddig os gwelwn y pethau hyn yn digwydd yn y byd, fel yn y newyddion.

Mae teimlo’n ddig yn gwbl ddilys ac weithiau mae dicter yn gallu ein helpu mewn sefyllfa fel hyn.

Sut alla i droi dicter yn weithredu?

Dyma awgrymiadau o lefydd i gysylltu â phobl ifanc eraill er mwyn troi dy ddicter yn weithredu.

Gall dicter fod yn gysylltiedig â chael dy fwlio, bwlio rhywun arall, neu’r ddau. Nid dy fai di ydy cael dy fwlio. A dydy e ddim yn iawn bwlio pobl eraill. Gallwn i gyd ddod o hyd i ffyrdd o reoli ein dicter heb frifo pobl eraill.

Roedd pobl yn aml yn fy marnu cyn dod i fy adnabod, oherwydd fy mod yn ymddwyn yn wahanol i bobl eraill. Roedd hyn yn arwain at fwlio. Roedd llwyth o bobl yn fy ngadael allan o bethau gan wneud i mi deimlo eu bod yn fy nghasáu ac yn ddig iawn – Keara, 17

Os ydy pobl wedi gwahaniaethu yn erbyn ti, dy gam-drin neu fwlio, ar-lein neu wyneb yn wyneb, gallet:

Gall gwahaniaethu, cam-drin, bwlio a chael dy drin yn annheg effeithio ar ein hunan-werth – mae’n bwysig meddwl am sut i ofalu amdanom ein hunain.

Os nad wyt ti'n siŵr os wyt ti'n cael dy gam-drin neu beidio, gallet ti dysgu mwy gan Childline neu YoungMinds. Mae gwefan Childline hefyd yn cynnwys gwybodaeth am wahanol fathau o fwlio.

decorative

Nid yw gwahaniaethu, cam-drin na bwlio byth yn dderbyniol. Nid yw hyn yn rhywbeth y dylai unrhyw un ohonom orfod ei ddioddef.

Rwyt ti'n haeddu cefnogaeth.

Arwyddion dicter

Pan ddechreuwn fynd yn ddig, gallwn sylwi ein bod yn teimlo neu’n ymddwyn yn wahanol, er enghraifft:

  • Tensiwn mewn gwahanol gyhyrau
  • Gwgu neu symud ein haeliau’n agos at ei gilydd
  • Gwasgu ein dyrnau neu ein dannedd
  • Calon yn curo’n gynt
  • Anadlu’n gynt neu gael trafferth anadlu’n ddwfn
  • Teimlo ein stumog yn corddi a symud o gwmpas
  • Ysgwyd
  • Mynd yn boethach neu ddechrau chwysu
  • Teimlo’n biwis a phigog gyda’r sefyllfa, ni ein hunain, neu rywun arall
  • Beio pobl eraill am sut y teimlwn
  • Cael trafferth canolbwyntio neu feddwl yn glir
  • Gwneud yr un symudiadau drosodd a throsodd, fel camu nôl a blaen neu deimlo fel gafr ar daranau

Ai dicter ydy’r unig reswm am yr arwyddion hyn?

Dydy’r arwyddion yma ddim yn golygu ein bod yn teimlo’n ddig bob tro.

Mae rhai problemau iechyd meddwl yn dangos arwyddion tebyg i ddicter o ran teimladau ac ymddygiad, fel gorbryderu neu orboeni. Yr un peth gyda phrofiadau anodd, fel straen neu drawma.

A gallwn hefyd deimlo’n ddig pan fydd gennyn ni broblem iechyd meddwl, neu ar yr un pryd â phrofiad anodd.

Mae ein hymennydd yn ymateb i beth y mae’n ei weld fel ‘perygl’. Mae’n defnyddio’r arwyddion yma i’n cadw’n ddiogel drwy wneud ein corff yn barod i ‘ymateb’.

Oherwydd bod dicter yn ymateb naturiol gan yr ymennydd, mae’n gallu gwneud i ni weithredu’n syth. Felly nid oes gennyn ni amser i feddwl am beth allai ddigwydd nesaf bob tro.

Gallai’r arwyddion hyn ymddangos fel nad ydyn ni mewn rheolaeth a gwneud i ni deimlo’n anniogel. Ond dros amser gallwn ddysgu i sylwi ar arwyddion dicter ac arafu ein hunain. Gall hyn roi amser i ni feddwl am sut yr ydyn ni eisiau ymateb.

Mae dicter weithiau’n dod yn ddirybudd, ond y peth pwysicaf ydy sut dw i’n ymddwyn ac ymateb iddo  – Emma, 17

Problemau a achosir gan ddicter

Yn aml iawn, bydd ymateb i rywbeth gyda dicter yn achosi problemau. Weithiau gall y problemau hyn fod yn ddifrifol iawn.

Gall dicter achosi problemau fel:

  • Gwneud difrod i’n perthnasoedd, fel ffraeo’n aml neu fynd i helynt
  • Cymryd ein dicter allan arnon ni ein hunain neu ar bobl eraill, neu feddwl am wneud hynny
  • Gwneud i ni deimlo’n euog, cywilydd neu ddifaru, a allai effeithio ar ein hunan-hyder a hunan-werth
  • Pethau’n dechrau mynd allan o reolaeth ac effeithio ar ein bywydau pob dydd, fel ein bod yn teimlo’n ddig drwy’r amser

Sut alla i reoli problemau dicter?

Os wyt ti'n cael problemau gyda dicter, mae gennyn ni lwyth o gyngor i helpu.

Ar adegau eraill, gall dicter ein helpu. Gall dicter ein helpu pan deimlwn fod rhywun yn ein trin yn wael, drwy:

  • Ein gwneud yn ymwybodol bod rhywbeth yn ein trafferthu neu os nad ydy rhywbeth yn teimlo’n iawn
  • Ein hannog i sefyll fyny dros y pethau sy’n bwysig i ni, fel troi dicter yn weithredu yn erbyn gwahaniaethu

Dydy teimlo’n ddig ddim yn beth hollol negyddol neu ddrwg, dim ond y ffordd yr ydych yn delio gydag e  – Emma, 17

Pryd allai dicter fod yn broblem?

Gallai dicter fod yn broblem os na allwn ei reoli’n iawn ac os teimlwn ei fod yn mynd allan o reolaeth.

Gallai achosi problemau os byddwn yn cymryd ein dicter allan arnon ni ein hunain, sy’n gallu bod yn fath o hunan-niwed. Neu drwy gymryd ein dicter allan ar bobl eraill, drwy ein hymddygiad neu sut y siaradwn gyda nhw.

Gallai dicter fod yn broblem os ydy e’n troi’n ymosodol neu’n dreisgar. Mae’r math yma o ymddygiad yn cynnwys pethau fel:

  • Bygwth pobl, codi ein lleisiau neu siarad yn fwy chwyrn neu gas nag arfer
  • Torri neu daflu pethau
  • Cwffio gyda phobl neu frifo pobl yn gorfforol
  • Gwneud pobl eraill yn ddig neu frifo eu teimladau, p’un ai y bwriadwn wneud hynny neu beidio
  • Dyrnu tyllau yn y waliau neu gicio pethau, sy’n gallu bod yn fath o hunan-niwed

Gall ymddygiad ymosodol a threisgar ddychryn neu frifo’r bobl o’n cwmpas. Gallai wneud ffraeo’n waeth. A gallai arwain at broblemau difrifol fel yn yr ysgol neu gyda’r heddlu.

decorative

Mae rhai pobl yn meddwl ein bod yn ddig os ydyn ni’n ymddwyn yn ymosodol neu’n dreisgar.

Ond nid dicter yn unig ydy’r unig deimlad sy’n gwneud i ni ymddwyn fel hyn. Gallwn hefyd ymateb fel hyn oherwydd teimladau anodd eraill fel dryswch, rhwystredigaeth neu orbryderu.

Mae pobl yn gallu ein barnu neu ymateb i ni mewn ffordd ddrwg os ydyn ni’n ymddwyn yn ymosodol neu’n dreisgar. Ond gallwn hefyd ymateb fel hyn wrth geisio cuddio ofn neu boen. Mae’n ocê teimlo’n flin neu wedi cael eich brifo. Ond mae’n bwysig mynegi’r teimladau hyn mewn ffyrdd buddiol.

Ffyrdd mwy diogel a buddiol o ymdopi gyda dicter

Os wyt ti'n meddwl bod dicter yn broblem i ti, dylet ti chwilio am gyngor a chymorth.

Os wyt ti'n poeni y gallet ti fod yn cam-drin rhywun arall, mae cymorth ar gael i ti.

Os wyt ti'n brifo ti dy hun neu bobl eraill, neu’n meddwl y gallet ti gwneud hynny, mae’n bwysig i chi ofyn am help.

Mynydd iâ dicter

Mae’r llun o’r mynydd iâ dicter yn dangos beth allai dicter edrych fel i eraill ‘ar y wyneb’. Ond mae hefyd yn dangos y teimladau neu’r profiadau anodd y byddwn efallai’n mynd drwyddyn nhw ‘o dan y wyneb’. Dim ond yn Saesneg y mae’r diagram hwn ar gael ar hyn o bryd.

Illustration of an iceberg showing different feelings above and below the surface.

Cymryd dicter allan arnon ni ein hunain

Weithiau rydyn ni’n cymryd dicter allan arnon ni ein hunain. Bydd rhai’n galw hyn yn ‘ddicter tuag atom ni ein hunain’ neu’n ‘hunan-gosbi'.

Gallwn gymryd dicter allan arnon ni ein hunain drwy:

  • Hunan-feirniadaeth sy’n golygu beio, barnu neu fod yn galed arnon ni ein hunain
  • Stopio ein hunain rhag gwneud pethau sy’n rhoi mwynhad i ni, fel gweld ffrindiau neu wneud hobis
  • Defnyddio alcohol neu gyffuriau i ymdopi – am fwy o fanylion cer i wefan YoungMinds
  • Hunan-niwed, fel dyrnu’r waliau neu daro ni ein hunain – am fwy o fanylion cer i’n tudalen hunan-niwed

Dysgu bod angen help arna i beidio â chymryd dicter allan arnaf fy hun

Gallai deimlo bod hunan-niwed yn helpu i gael gwared ar rai o’r teimladau dig. Ond gall hyn wneud y dicter yn anodd i ti delio gyda.

Cadw'n ddiogel

Os wyt ti'n teimlo fel bod ti wedi dy lethu, neu eisiau brifo dy hun, mae cymorth ar gael i ti trafod pethau. Rwyt ti'n haeddu cymorth cyn gynted ag y sydd ei angen.

I siarad â rhywun yn gyfrinachol am sut rwyt ti'n teimlo, gallet ti:


Os wyt ti'n teimlo y gallet ti ceisio lladd dy hun, neu os wyt ti wedi brifo dy hun yn ddifrifol, mae hwn yn argyfwng
. Gallet ti:

  • Ffonio 999 a gofyn am ambiwlans.
  • Dweud wrth oedolyn rwyt yn ymddiried ynddo a gofyn iddynt ffonio 999 am help.


Mae argyfyngau iechyd meddwl yn ddifrifol. Nid wyt ti’n yn gwastraffu amser neb.

Roeddwn i’n defnyddio hunan-niwed i ddelio gyda phopeth negyddol yn fy mywyd, ond doedd e ddim yn ddigon. Roeddwn yn biwis gyda phobl, yn ddigywilydd ac o hyd yn flin. Roeddwn yn ddig gyda fi fy hun ac gyda’r byd.

Cyn dysgu sut i reoli fy nicter, roeddwn yn arfer â bod yn ymosodol tuag at fy nghyfoedion ac yn ei gymryd allan arnaf fy hun. Doeddwn i ddim yn ei weld fel problem oherwydd roeddwn yn defnyddio dicter fel ffordd o ymdopi – Leah, 16

Sut i reoli dicter

Gall fod yn deimlad brawychus iawn pan fydd dicter yn cymryd drosodd neu os collwn reolaeth ar sefyllfa. Mae llwyth o gynghorion ar ffyrdd diogel a mwy buddiol o reoli dicter yn y foment, ac yn y tymor hir.

Mae gennyn ni hefyd gyngor i helpu pan wyt ti'n teimlo yn ddig ar-lein neu ar messenger, neu yn yr ysgol, coleg neu’r gwaith.

Cyngor a syniadau am reoli dicter

Dyma ffyrdd o helpu dy hun i reoli dicter nawr, ac yn y dyfodol.

Paid â gadael i ddicter dy foddi rhag bod y fersiwn gorau ohonot ti dy dy hun – Leah, 16

Siarad am ddicter

Gall siarad gyda rhywun am ddicter fod yn frawychus neu anghyffyrddus, yn enwedig os ydyn ni’n cael trafferth siarad am ein teimladau.

Ond os wyt ti’n cael trafferth rheoli dicter, gall siarad gydag oedolyn y gallwch ymddiried ynddyn nhw helpu. Ceisia egluro fod dicter wedi dod yn broblem i ti a bod angen cymorth arno ti. Gallet ti rhannu’r dudalen yma gyda pwy bynnag rwyt ti'n dewis siarad gyda nhw.

Am gyngor a syniadau am sut i siarad am dy deimladau, fel dicter, cer i’n tudalennau ar:

Mae elfen o dabŵ o gwmpas iechyd meddwl, yn enwedig yn fy niwylliant i, felly mae hynny’n un rheswm dros fod yn ddig – methu â chael yr help sydd ei angen arnat ti.

Gyda phwy alla i siarad am ddicter? 

Mae’n gallu bod yn anodd gwybod gyda phwy i siarad am deimladau anodd, ond mae llwyth o ffyrdd o siarad i rywun am deimlo’n ddig:

  • Sefydliadau a gwasanaethau. Os wyt ti'n poeni am siarad gyda rhywun rwyt ti'n yn eu hadnabod, neu siarad wyneb yn wyneb, gallet ti defnyddio gwasanaeth tecstio neu negeseua cyfrinachol. Am fwy o wybodaeth cer i'n tudalen cysylltiadau defnyddiol.
  • Pobl ifanc eraill. Cysyllta gyda nhw a rhannu profiadau drwy fforymau ar-lein fel The Mix Community Forum a Childline Message Boards.
  • Dy ysgol, coleg neu weithle. Gallai rhywun fel cwnselydd neu gymorth bugeiliol dy helpu. Neu gallet ti siarad gydag athro neu athrawes yr wyt yn ymddiried ynddyn nhw – gallent dy helpu i gael cymorth.
  • Dy meddyg teulu neu feddyg arall. Am wybodaeth am sut i ddechrau’r sgwrs, cer i’n tudalen ar siarad gyda dy feddyg.
  • Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHS). Os gallai dy ddicter fod yn gysylltiedig â phroblem iechyd meddwl,gallai rhywun dy atgyfeirio at CAMHS. Gallai CAMHS gynnig therapi neu drefnu i ti siarad gyda therapydd, seicolegydd neu seiciatrydd.

Mae gennyn ni hefyd wybodaeth am beth i’w wneud os nad oes gennyt ti unrhywun i siarad gyda nhw a sut i helpu pobl ifanc eraill gyda phroblem dicter.

Mae’n bwysig iawn cael help os wyt ti wedi hunan-niweidio neu’n meddwl y gallet ti gwneud hynny. Gallet ti siarad ag oedolyn y gallet ti ymddiried ynddyn nhw, neu rywun nad wyt yn eu hadnabod drwy decstio SHOUT at 85258.

Os wyt ti'n poeni y gallet ti troi’n gamdriniol at rywun arall, mae cymorth ar gael gan Respect.

Mewn byd sydd mor llawn o bethau negyddol, mae’n hawdd i ddicter gymryd drosodd. Ond mae help a chymorth ar gael!

decorative

Cofia: mae llwyth o help a chymorth ar gael ar gyfer teimlo’n ddig a blin.

Dwyt ti ddim ar ben dy hun.

Cafodd y wybodaeth hon ei chyhoeddi ym mis Mehefin 2025. Byddwn yn ei diwygio ym mis Mehefin 2028. 

Mae’r bobl ifanc wedi cytuno i’w geiriau ymddangos ar y dudalen hon. Dydy eu profiadau ddim yn gysylltiedig â’r bobl sy’n ymddangos yn y lluniau.

Mae cyfeiriadau ar gael ar gais. Os ydych am atgynhyrchu'r cynnwys hwn, gweler ein tudalen caniatâd a thrwyddedu.

PIF Tick quality mark logo for trusted information creators

Am ragor o wybodaeth

arrow_upwardYn ôl i'r brig