Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Beth yw CAMHS? – ar gyfer pobl ifanc 11-18 oed

Canllaw i bobl ifanc yn esbonio beth yw CAMHS, beth maen nhw'n ei wneud a phwy y gallet ti cwrdd ag ef.

Mae'n ddrwg gennym, nid oes gennym fersiwn Gymraeg o'r dudalen hon ar hyn o bryd.

Beth yw CAMHS?

Gall Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHS, neu SCAMHS yng Nghymru) ein helpu os ydyn ni’n profi iechyd meddwl gwael.

Mae’r dudalen hon yn cynnwys gwybodaeth am yr hyn mae CAMHS yn ei wneud, ar gyfer pwy mae CAMHS a phwy y gallem gwrdd â nhw. Rydyn ni hefyd yn siarad am opsiynau triniaeth a phwy allai fod yn rhan o’ch gofal.

Pan fyddwn ni’n sôn am CAMHS ar y dudalen hon, rydyn ni’n golygu’r gwasanaethau am ddim sy’n cael eu rhedeg gan y GIG yn eich ardal chi. Nid yw’r dudalen hon yn cynnwys gwybodaeth am yr ysbyty. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn ein canolbwynt gwybodaeth am fynd i’r ysbyty.

Beth sydd ar y dudalen hon?

Neidio i dudalennau gwybodaeth:

Mwy am CAMHS

Mae gennym wybodaeth am sut i gael cymorth gan CAMHS a beth i’w wneud os wyt ti ar y rhestr aros ar gyfer CAMHS.

Os wyt ti eisoes yn cael help gan CAMHS, gallet ti darllen ein gwybodaeth am dy hawliau yn CAMHS a gadael CAMHS.

Ar gyfer pwy mae CAMHS?

Mae CAMHS fel arfer ar gyfer pobl ifanc o dan 18 oed. Maent yn gallu ein helpu gyda phroblemau iechyd meddwl, neu bethau sy’n ymwneud â’n hiechyd meddwl. Er enghraifft, os ydyn ni’n profi:

  • Tristwch, hwyliau drwg neu iselder
  • Teimladau o orbryder neu byliau o banig
  • Hyder a hunan-barch isel
  • Problemau gyda bwyd neu ddelwedd o’r corff
  • Problemau gyda dicter
  • Cael trafferth cysgu
  • Problemau gydag ailadrodd yr un gweithredoedd neu ymddygiad
  • Problemau gyda’n perthynas ag eraill
  • Clywed lleisiau neu weld pethau
  • Hunan niweidio
  • Meddyliau a theimladau hunanladdol
  • Teimladau neu brofiadau anodd ar ôl mynd drwy brofiad trawmatig, fel cam-drin

Yn ystod dy apwyntiadau cyntaf, mae’n bosibl y bydd gweithiwr meddygol proffesiynol yn dy asesu. Mae’n bosibl y byddant yn rhoi diagnosis i ti sy’n gysylltiedig â’r symptomau a’r profiadau hyn. Mae gennym ragor o wybodaeth am ddeall diagnosis

Beth mae CAMHS yn ei wneud?

Gall CAMHS gynnig gwahanol opsiynau o ran triniaeth a chymorth:

  • Therapïau siarad, fel cwnsela a therapi gwybyddol ymddygiadol (CBT). Gallai hyn fod yn therapi unigol neu’n therapi grŵp.
  • Therapïau creadigol, sy’n defnyddio celf i fynegi sut rydyn ni’n teimlo.
  • Therapi teulu, sy’n edrych ar y berthynas rhyngom ni a’n teulu neu ein system gymorth. Mae'n bosibl hefyd y byddi di’n clywed hwn yn cael ei alw’n therapi systemig.

Gall aelodau dy dîm CAMHS awgrymu’r math o driniaeth a chymorth a allai helpu yn eu barn nhw. Ond fe ddylent ofyn i ti beth fyddi di'n ei hoffi a beth fyddi di'n teimlo fwyaf cyfforddus yn ei wneud. A gweithio gyda ti i benderfynu faint o sesiynau sydd eu hangen arno ti. Mae’n bosibl y byddant yn creu cynllun gofal gyda ti i nodi hyn. 

Mae’n bosibl y byddwn yn gweld nad yw ein profiad gyda thriniaeth a gwasanaethau yn syml a bod llawer o adegau da a drwg. Gall fod yn heriol ar adegau hefyd. Yn enwedig os oes rhaid i ti newid llwybrau triniaeth neu weithwyr proffesiynol. Mae gennym ragor o wybodaeth am rai o’r problemau y gallet ti eu hwynebu a ble i gael cymorth.

A yw CAMHS yn gallu rhoi meddyginiaeth ar bresgripsiwn?

Nid yw CAMHS yn debygol o roi meddyginiaeth ar bresgripsiwn os wyt ti dan 18 oed. Ond weithiau mae’n bosibl y bydd ti neu eich tîm CAMHS yn teimlo y gallai meddyginiaeth helpu. 

Dim ond gweithwyr proffesiynol cymwys sy’n gallu rhoi meddyginiaeth i ni. Er enghraifft, seiciatryddion neu nyrsys sy’n rhagnodi. A dylent ei roi ar bresgripsiwn ochr yn ochr â therapi neu fathau eraill o gymorth.

Yn aml, byddant yn cadw golwg i weld sut mae pethau’n mynd er mwyn gweld sut mae’n effeithio arno ti. Ac a oes angen newidiadau. 

I gael rhagor o wybodaeth am feddyginiaeth, cer i wefan YoungMinds.

Wnes i ddim dilyn y llwybr disgwyliedig, roeddwn i'n gaeedig yn aml ac yn amharod i siarad yn agored. Yn hytrach na fy ngwthio, byddai’n siarad ac yn rhoi strategaethau i mi, gan egluro damcaniaethau’r prosesau meddwl.

Peidiwch â rhoi’r gorau iddi os nad yw un therapydd neu fath o therapi yn addas i chi. Cymerodd amser hir i mi ddod o hyd i’r cyfuniad o feddyginiaeth a therapi sy’n gweithio i mi. Ceisiwch beidio â cholli gobaith, mae rhywbeth yn siŵr o weithio i chi – Chloe, 17

Beth yw’r llwybrau triniaeth yn CAMHS?

Mae gan rai CAMHS lwybrau triniaeth. Dyma lle mae’r math o gymorth rydyn ni’n ei gael yn dibynnu ar ein profiadau neu ein diagnosis.

Gall gwasanaethau fod yn wahanol yn dibynnu ar ble rydym yn byw yng Nghymru a Lloegr. Felly ni fydd pob tîm CAMHS yn gallu rhoi’r cymorth sydd ei angen arnom.

Os na all dy CAMHS lleol roi’r help sydd ei angen arno ti, mae gennym ragor o wybodaeth am fathau eraill o opsiynau cymorth.

Yn ystod dy driniaeth, fe allai gweithwyr gofal iechyd proffesiynol dy gyfeirio at dimau mewn gwahanol rannau o CAMHS. Mae rhai o’r gwasanaethau hyn yn cynnwys:

Gall timau argyfwng ein helpu os bydd angen cymorth arnom ar frys. Maent yn cynnig cymorth tymor byr i helpu i’n cadw ni’n ddiogel. Gall hyn gynnwys llinell cymorth mewn argyfwng, a phobl sy’n gallu ein helpu ni yn ystod argyfwng iechyd meddwl. Er enghraifft, tîm cyswllt argyfwng CAMHS, y gallem ei weld yn yr Adran Damweiniau ac Achosion Brys. Neu dîm triniaeth yn y cartref, sy’n gallu ein helpu ni gartref.

Cofia: mewn argyfwng, gallet ti ffonio 999 a gofyn am ambiwlans, neu fynd i'r Adran Damweiniau ac Achosion Brys yn eich ysbyty agosaf.

Fe wnaeth gweithiwr argyfwng helpu i eiriol ar fy rhan. Dydw i ddim yn meddwl y byddwn i wedi cael cymorth gan CAMHS hebddi. Roedd hi’n arfer galw yn y tŷ unwaith yr wythnos i weld sut oeddwn i – Mollie, 18

Gall y timau hyn ein helpu os ydyn ni’n profi seicosis. Mae eu cyfyngiadau oedran yn wahanol i wasanaethau CAMHS rheolaidd, felly mae'n bosibl y byddant yn gallu helpu ti hyd yn oed os wyt ti dros 18 oed. 

Efallai y byddi di hefyd yn clywed y gwasanaeth hwn yn cael ei alw'n wasanaethau iechyd meddwl sydd mewn perygl (ARMS).

Os wyt ti’n niwrowahanol ac yn cael trafferth gyda dy iechyd meddwl, mae’n bosibl y bydd CAMHS yn gallu  helpu ti.

Mae gwasanaethau niwroddatblygiadol yn ein helpu os ydyn ni’n niwrowahanol - er enghraifft, yn awtistig neu bod gennym ADHD. Gall amseroedd aros hir iawn fod ar gyfer y gwasanaethau asesu, diagnosis a chymorth hyn.

Gall gwasanaethau anhwylderau bwyta helpu ti os oes gennych ti problem bwyta.

Mae rhai gwasanaethau’n cynnig cymorth ar gyfer mathau penodol o broblemau bwyta. Dylent allu cyfeirio ti at gymorth arall os na allant dy helpu. Gallet ti hefyd holi dy feddyg teulu.

Ers fy niagnosis o awtistiaeth, mae CAMHS wedi bod yn fwy buddiol i mi, gan fy mod i wedi teimlo fy mod i’n cael fy neall yn well ac mae fy nhriniaeth wedi bod yn fwy priodol – Chloe, 17

Pwy sy'n gweithio yn CAMHS?

Mae llawer o wahanol weithwyr proffesiynol yn gweithio yn CAMHS. Bydd pwy rwyt ti’n cwrdd â nhw yn dibynnu ar y math o driniaeth neu gymorth rwyt ti’n ei gael. Oherwydd bod CAMHS yn helpu llawer o bobl ifanc, mae’n bosibl y bydd yn rhaid i ti aros i weld rhai gweithwyr proffesiynol.

decorative

Mae’r rolau a’r termau rydyn ni’n eu defnyddio ar y dudalen hon yn ymwneud â’r staff rwyt ti’n fwyaf tebygol o’u cyfarfod yn CAMHS.

Mae’n bosibl na fyddi di’n cwrdd â phob un ohonynt, neu mae’n bosibl y bydd dy CAMHS lleol yn defnyddio geiriau gwahanol ar gyfer rolau penodol. Gallet ti pob amser eu holi os nad wyt ti’n deall beth maent yn ei wneud.

Sut fydda i’n gwybod bod gweithwyr proffesiynol yn gymwys?

Mae llawer o weithwyr proffesiynol angen bod wedi cofrestru i wneud eu gwaith. Mae hyn yn golygu bod angen cymwysterau penodol arnynt yn gyfreithiol i wneud eu gwaith. Ac mae’n rhaid iddynt fodloni safonau penodol er mwyn cadw eu cofrestriad.

Yr arfer gorau yw cofrestru, hyd yn oed os nad oes angen iddynt wneud hynny o safbwynt cyfreithiol. Gallet ti gweld a yw gweithiwr proffesiynol wedi cofrestru drwy fynd i’r gwefannau hyn:

Mae gennym ragor o wybodaeth ar y dudalen hon am y gwahanol fathau o weithwyr proffesiynol y gallet ti cwrdd â nhw, ac a oes angen iddynt fod wedi cofrestru’n gyfreithiol ai peidio. 

Os wyt ti o’r farn nad yw gweithiwr proffesiynol yn cyrraedd y safonau neu os nad yw’n gymwys, mae gennyt ti hawl i gwyno. Mae gennym ragor o wybodaeth am sut i wneud cwyn.

Pwy all roi therapi i mi yn CAMHS?

Yn CAMHS, mae llawer o wahanol weithwyr proffesiynol sy’n gallu cynnal  sesiynau therapi. Maent yn ein helpu i archwilio pethau fel sut rwyt ti’n meddwl, yn teimlo ac yn ymddwyn, a beth all ein helpu ni yn awr ac yn y dyfodol. Gallwn ni gael therapi ar ein pen ein hunain, mewn grŵp, neu gyda’r bobl rydyn ni’n byw gyda nhw.

Mae'n bosibl y bydd rhai yn eu galw’n therapyddion. Ond mae gan rai gweithwyr proffesiynol hyfforddiant neu ffocws gwahanol ar therapïau penodol. Felly mae’n bosibl y bydd ganddynt deitlau swyddi gwahanol, fel:




Gall seicolegwyr asesu ein hiechyd meddwl. Gallant hefyd roi gwahanol fathau o therapi i ni, fel therapïau siarad. Mae llawer o fathau o seicolegwyr, ond yn CAMHS maent yn fwyaf tebygol o fod yn seicolegydd clinigol.

Mae'n bosibl y byddwn ni hefyd yn cwrdd â seicolegwyr cynorthwyol, seicolegwyr dan hyfforddiant neu seicolegwyr sy'n gymdeithion clinigol. Mae pawb ohonynt yn cael eu goruchwylio gan seicolegydd hyfforddedig. Gallant helpu gyda phethau fel asesiadau, cymryd nodiadau neu ddarparu therapi siarad.

Mae’n bosibl y bydd yn gofyn am dy ganiatâd i recordio neu ysgrifennu am dy therapi. Gallet ti gofyn cwestiynau am hyn a dweud na os nad wyt ti’n teimlo’n gyfforddus. 

Mae angen i seicolegwyr clinigol fod wedi eu cofrestru’n gyfreithiol. Gallet ti gwirio a ydynt wedi cofrestru â’r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC).

Mae'n bosibl y byddi di’n clywed am rai seicotherapyddion neu gwnselwyr yn cael eu galw’n therapyddion. Fel arfer, maent yn cael eu hyfforddi mewn therapïau siarad penodol, fel therapi gwybyddol ymddygiadol neu gwnsela. Mae’n bosibl y byddant yn gweithio gyda ni am nifer penodol o sesiynau neu dros gyfnod penodol o amser.

Paid â phoeni os wyt ti’n ei chael hi’n anodd cofio enwau’r rolau a beth mae pob person yn ei wneud. Gall fod llawer o orgyffwrdd rhwng swyddi. Efallai fod gan seicolegwyr a seicotherapyddion gefndir gwahanol yn eu hyfforddiant neu addysg, er enghraifft.

Weithiau, mae therapyddion teulu yn cael eu galw’n ‘therapyddion systemig’. Mae'n bosibl y byddant yn cynnig sesiynau therapi y byddwn ni’n mynd iddynt gyda’r canlynol:

  • Ein teulu
  • Y bobl rydyn ni’n byw gyda nhw
  • Y bobl agosaf atom ni, fel gwarcheidwaid neu bobl eraill sy’n gofalu amdanoch chi

Mae'n bosibl y byddant yn siarad â chi gyda’ch gilydd, neu ar dy ben eich hun mewn rhai rhannau o’r sesiwn.

Gallant dy helpu i wneud y canlynol:

  • Siarad am bethau anodd y gallech fod yn mynd drwyddynt gyda’ch gilydd
  • Edrych ar ffyrdd y gallwch chi ddeall eich gilydd yn well
  • Dod o hyd i ffyrdd newydd o gyfathrebu â’ch gilydd a chefnogi eich gilydd

Mae therapydd creadigol yn defnyddio celf i’n helpu i fynegi ein meddyliau a’n teimladau. Mae'n bosibl y bydd rhai yn eu galw’n ‘therapyddion celf’. Weithiau mae teitl eu swydd yn seiliedig ar y math o gelf maent yn ei ddefnyddio, fel therapydd cerdd neu ddrama.

Mae’n bosibl y byddant hefyd yn ein hannog i roi cynnig ar weithgareddau creadigol i’n helpu i deimlo’n well. Er enghraifft, paentio, dawnsio, actio neu ysgrifennu. Gall y rhain hefyd ein helpu i roi hwb i’n hyder a’n hunan-barch.

Yn ôl y gyfraith, mae angen i therapyddion celf, cerddoriaeth a drama fod ar gofrestr y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC).

Does dim rhaid i therapyddion chwarae fod wedi eu cofrestru yn ôl y gyfraith. Ond gallant gael eu cofrestru gan Gymdeithas Therapyddion Chwarae Prydain neu Play Therapy UK.

Pwy arall all fy helpu yn CAMHS?

Mae gweithwyr iechyd proffesiynol eraill yn CAMHS sy’n gallu ein helpu ni gyda’n hiechyd meddwl mewn gwahanol ffyrdd, fel:

Meddyg meddygol sy’n arbenigo mewn iechyd meddwl yw seiciatrydd. Mae’n bosibl y byddwch chi'n clywed rhai’n eu galw’n ‘ymgynghorwyr’ neu ‘seiciatryddion ymgynghorol’.

Gall seiciatryddion roi diagnosis o broblem iechyd meddwl i ni. Gallant ddweud wrthym am driniaethau a allai fod yn addas i ni. Gallant hefyd roi meddyginiaeth ar bresgripsiwn i ti. I gael rhagor o wybodaeth am feddyginiaeth, cer i wefan YoungMinds.

Yn ôl y gyfraith, mae angen cofrestru seiciatryddion gyda’r Cyngor Meddygol Cyffredinol (GMC).

Roeddwn i wir yn teimlo fy mod i’n cael gofal yn CAMHS, yn enwedig gan fy seiciatrydd – roedd hi bob amser yn gofyn am fy mewnbwn ac yn gwneud yn siŵr fy mod i’n deall ac yn hapus gyda fy nghynllun gofal, ac yn eiriol ar fy rhan drwy gydol y broses. Roeddwn i wir yn teimlo fy mod i’n cael fy ngweld a bod ganddi ddiddordeb gwirioneddol yn fy llesiant – Evan, 18 oed

Mae ymarferwyr CAMHS fel arfer yn weithwyr proffesiynol hyfforddedig a chofrestredig. Mae’n bosibl y byddant yn rhoi therapi i ni. Neu mae’n bosibl y byddant yn ein helpu mewn ffyrdd eraill, fel cydlynu ein gofal neu wneud asesiadau.

Gallai ymarferwyr CAMHS gynnwys:

  • Nyrsys iechyd meddwl
  • Gweithwyr cymdeithasol
  • Therapyddion galwedigaethol
  • Therapyddion

Neu mae’n bosibl bod ganddynt rôl benodol arall. Gallet ti gofyn iddynt os nad wyt ti’n siŵr.

Mae nyrsys iechyd meddwl wedi cael hyfforddiant mewn nyrsio iechyd meddwl a chorfforol. Mae’n bosibl y bydd rhai yn eu galw’n ‘nyrsys seiciatrig’.

Maent yn gallu gwirio ein hiechyd meddwl a chorfforol. Os yw’n ‘nyrs sy’n rhagnodi’, mae hefyd yn gallu rhoi meddyginiaeth ar bresgripsiwn.

Yn ôl y gyfraith, mae angen i nyrsys fod ar gofrestr y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC).

Mae gweithwyr cymdeithasol yn gallu ein helpu ni a’r bobl sy'n gofalu amdanom ni, fel ein teulu neu warcheidwaid. Rhan fawr o’u gwaith yw helpu i’n cadw ni’n ddiogel.

Gall gweithwyr cymdeithasol:

  • Helpu os rydym mewn gofal neu mewn perygl o gamdriniaeth
  • Ein helpu ni gyda phroblemau iechyd meddwl
  • Gweithio gyda ni, a’r bobl rydyn ni’n byw gyda nhw, os ydyn ni’n mynd drwy rywbeth anodd gartref

Yn ôl y gyfraith, rhaid i weithwyr cymdeithasol fod wedi cofrestru gyda Social Work England (SWE) neu Gofal Cymdeithasol Cymru.

I gael rhagor o wybodaeth a chymorth ynghylch camdriniaeth, cer i wefan Childline.

Mae therapyddion galwedigaethol yn ein helpu gyda phethau bob dydd, fel:

  • Gofalu amdanom ein hunain, fel rheoli ein hylendid a gwneud yn siŵr ein bod ni’n bwyta’n dda
  • Gwneud pethau rydym yn eu mwynhau, fel cymdeithasu a hobïau
  • Gweithgareddau eraill, fel mynd i’r ysgol neu i’r gwaith
  • Gallant ein helpu i ddysgu, datblygu sgiliau neu ddatrys problemau.

Yn ôl y gyfraith, mae angen i therapyddion galwedigaethol fod wedi cofrestru â’r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC).

Pwy all drefnu fy ngofal yn CAMHS?

Mae rhai pobl yn gofalu am fanylion ein gofal yn CAMHS. Maent yn gallu:

  • Rheoli neu drefnu ein hapwyntiadau gofal a thriniaeth
  • Ein helpu i gynllunio ar gyfer gadael CAMHS

Cydlynwyr gofal yw ein prif gyswllt os ydyn ni’n cael triniaeth a chymorth yn CAMHS. Dylent gadw mewn cysylltiad agos â ni ac ateb unrhyw gwestiwn. Mae'n bosibl eu bod yn rhywun rydym wedi cwrdd â nhw o’r blaen, fel ymarferydd neu therapydd CAMHS. Mae'n bosibl y bydd rhai yn eu galw’n ‘weithwyr allweddol’ hefyd.

Gall dy gydlynydd gofal ateb cwestiynau am adael CAMHS a symud i Wasanaethau Iechyd Meddwl i Oedolion (AMHS).

Yng Nghymru, mae rôl ar wahân i hyn, a elwir yn ‘weithiwr pontio’, neu a elwir weithiau’n ‘gydlynydd cynllun gofal a thriniaeth’.

Gall cydlynwyr gofal neu weithwyr pontio hefyd ein helpu i wneud pasbort pontio. Mae gennym ragor o wybodaeth am sut i greu pasbort pontio, a thempled y gallet ti ei ddefnyddio.

Arhosodd fy nghydlynydd gofal gyda mi drwy gydol fy holl brofiad gyda CAMHS, felly roedd yn braf cael rhywun i aros wrth fy ochr wrth i’m hymarferwyr gofal eraill newid.

Mae’n bosibl mai gweinyddwyr neu dderbynyddion fydd y rhai cyntaf y byddwn yn siarad â nhw ar y ffôn neu’n cwrdd â nhw yn CAMHS. Maent yn gallu:

  • Trefnu neu newid apwyntiadau
  • Ateb cwestiynau am amseroedd aros
  • Cysylltu â’r un sy’n rheoli ein gofal

Dylent hefyd eich helpu gydag unrhyw gwestiwn sydd gennych chi, neu eich rhoi mewn cysylltiad â rhywun yn y gwasanaeth a all eich helpu.

Cyhoeddwyd: Mawrth 2026

Adolygiad nesaf: Mawrth 2029

Siaradon ni â phobl ifanc a gytunodd i roi dyfyniadau ar gyfer y dudalen hon. Nid yw eu profiadau yn gysylltiedig â'r bobl sy'n cael eu harddangos yn y lluniau.Mae cyfeiriadau ar gael ar gais. Os wyt ti am ailddefnyddio'r cynnwys hwn, gweler ein tudalen caniatâd a thrwydded.

PIF Tick quality mark logo for trusted information creators

Am ragor o wybodaeth

Back To Top arrow_upward