Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Paranoia

Yn egluro paranoia, gan gynnwys achosion posibl a sut i gael triniaeth a chymorth. Yn cynnwys awgrymiadau ynglŷn â sut i helpu eich hun, a chanllawiau i ffrindiau a theulu.

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Gymraeg. This link will take you to a Welsh translation of this page.

Mae’r adran hon ar gyfer ffrindiau a theulu sydd eisiau cefnogi rhywun maen nhw’n ei adnabod sydd â pharanoia.

 

Os oes gennych berthynas neu ffrind a allai fod yn cael meddyliau paranoiaidd, mae’n anodd gwybod sut i helpu. Efallai y byddwch yn teimlo nad ydych yn siŵr sut i ymateb, yn enwedig os nad ydych yn cytuno â’r hyn y mae’r person yn ei gredu.

Meddyliwch ydy hi’n bosibl bod rheswm da dros yr hyn y mae’r unigolyn yn ei gredu

Mae’n hawdd wfftio meddyliau fel rhai paranoiaidd os nad ydych yn cytuno â nhw neu os nad ydyn nhw’n cyfateb i’ch profiad chi. Mae hyd yn oed yn haws os yw’r person rydych yn agos ato wedi cael meddyliau paranoiaidd neu rithdybiaethau eraill yn y gorffennol. Ond mae’n bwysig ceisio gwneud yn siŵr nad ydych yn gwneud rhagdybiaethau.

Meddyliwch a oes sail i’r hyn y mae’r unigolyn yn ei gredu

Hyd yn oed os ydych yn teimlo na ellir cyfiawnhau’r meddyliau, mae’n werth cofio y bydd llawer o feddyliau paranoiaidd wedi datblygu o orbryder am sefyllfa real. Ceisiwch ddarganfod a oes sail dros ofnau’r unigolyn. Gall hyn helpu’r ddau ohonoch i ddeall sut mae’r meddyliau wedi datblygu.

Y peth sydd wedi fy helpu i fwyaf yw bod rhywun yn fy nghymryd i o ddifri. Ar ryw lefel rydw i’n gwybod nad ydy hi’n bosibl i’r pethau rydw i’n eu credu fod yn real, ond i mi maen nhw’n wirioneddol ddychrynllyd. Mae trin yr ofn fel rhywbeth real iawn, hyd yn oed os nad ydych chi’n gallu cytuno â fy rhesymau dros yr ofn, mor bwysig.

Siarad yn agored

Gall meddyliau paranoiaidd wneud i bobl deimlo eu bod nhw ar eu pen eu hunain, ond gall siarad amdanyn nhw helpu i leihau’r straen. Efallai y bydd eich safbwynt chi’n rhoi tawelwch meddwl iddyn nhw ac yn rhoi persbectif gwahanol.

Peidio ag wfftio ofnau rhywun

Hyd yn oed os nad ydych yn cytuno bod rhywun dan fygythiad neu mewn perygl, ceisiwch ddeall sut mae’n teimlo. Mae’n bwysig sylweddoli bod ei deimladau’n real iawn, hyd yn oed os nad oes sail i’r hyn y mae’r person yn ei gredu.

Canolbwyntio ar deimladau’r unigolyn

Ceisiwch ganolbwyntio ar y gofid a chynnig cysur. Mae’n bosibl cydnabod ofn yr unigolyn a’i deimladau heb gytuno â’r rheswm pam y mae’n teimlo felly.

[Mae’n help os ydy rhywun yn gallu] delio gyda’r cynnwrf drwy ganolbwyntio ar y teimladau... [a] rhoi cysur drwy ymadroddion cyffredinol fel 'Mae popeth yn iawn, does dim byd i boeni amdano, rwyt ti’n saff.' Gall darparu gweithgareddau sy’n tynnu sylw oddi ar bethau eraill hefyd helpu i dorri cylch y paranoia.

Helpu’r unigolyn i gael cymorth

Allwch chi ddim gorfodi rhywun i gael help os nad ydyn nhw eisiau help, felly mae’n bwysig sicrhau y person sy’n agos atoch chi ei bod hi’n iawn i ofyn am help, a bod help ar gael. Edrychwch ar ein tudalennau am sut i helpu rhywun arall i gael cymorth ar gyfer ei iechyd meddwl i gael mwy o wybodaeth.

Parchu dymuniadau’r unigolyn

Hyd yn oed os ydych yn teimlo mai chi sy’n gwybod beth sydd orau, mae’n bwysig parchu dymuniadau’r unigolyn a pheidio â cheisio cymryd drosodd neu wneud penderfyniadau hebddo.

Gwneud yn siŵr eich bod yn gwybod sut i gael help mewn argyfwng

Os yw’r person sy’n agos atoch chi heb allu siarad gyda chi am ei brofiadau, gallai fynd yn wael iawn cyn i chi sylweddoli bod arno angen help. Os ydych yn poeni bod aelod o’ch teulu neu ffrind yn mynd yn wael iawn neu’n cael argyfwng iechyd meddwl, gallech awgrymu ei fod yn defnyddio ei gynllun argyfwng (os oes ganddo un). Mae ein gwybodaeth am wasanaethau argyfwng yn egluro mwy am y cymorth sydd ar gael i helpu rhywun sydd mewn argyfwng.

Gofalu amdanoch eich hun

Gall gweld rhywun rydych yn poeni amdano yn profi paranoia fod yn brofiad gofidus neu frawychus hyd yn oed. Efallai y byddwch yn teimlo nad oes gennych chi amser i chi eich hun, ond mae gofalu am eich lles eich hun yn bwysig i chi ac i’r person arall. Efallai y gallai therapi siarad neu gefnogaeth gan gymheiriaid fod o gymorth i chi. Gallai hyn fod ar gael mewn cangen leol o Mind neu drwy grŵp gofalwyr, er enghraifft Carers UK.

Edrychwch ar ein tudalennau am ofalu amdanoch eich hun wrth gefnogi rhywun arall a sut i wella eich lles meddyliol er mwyn cael mwy o wybodaeth.

Mae edrych ar ôl rhywun sydd â pharanoia yn waith blinedig iawn … cael yr un sgyrsiau ddydd ar ôl dydd. Fe wnes i ddysgu cadw fy sgyrsiau gyda fy nhad yn glir ac yn gryno iawn, cadw at ffiniau penodol a gwneud beth o’n i’n dweud roeddwn i’n mynd i’w wneud bob amser, a gwneud yn siŵr nad oedd cyfle i neb gamddehongli rhywbeth.

Diweddarwyd y wybodaeth hon ddiwethaf yng Ngorffennaf 2020. Byddwn yn ei diwygio yn 2023.

Mae cyfeirnodau ar gael. Os dymunwch atgynhyrchu'r wybodaeth hon, ewch i'n tudalen ar ganiatâd a thrwydded.

arrow_upwardYn ôl i'r brig