Paranoia
Yn egluro paranoia, gan gynnwys achosion posibl a sut i gael triniaeth a chymorth. Yn cynnwys awgrymiadau ynglŷn â sut i helpu eich hun, a chanllawiau i ffrindiau a theulu.
Pa driniaeth sydd ar gael?
Os yw eich meddyliau paranoiaidd yn achosi gofid i chi efallai y byddwch eisiau chwilio am driniaeth. Efallai hefyd y byddwch yn cael cynnig triniaeth ar gyfer paranoia fel rhan o’ch triniaeth ar gyfer problem iechyd meddwl.
Y cam cyntaf fel arfer yw mynd i weld eich meddyg teulu. Gall ein gwybodaeth am ofyn am help ar gyfer problem iechyd meddwl eich helpu i siarad gyda’ch meddyg am eich iechyd meddwl.
Therapi siarad
Gall therapïau siarad eich helpu i ddeall eich profiadau a datblygu strategaethau ymdopi er mwyn delio gyda nhw.
Therapi ymddygiadol gwybyddol
Y math mwyaf cyffredin o therapi siarad ar gyfer paranoia ydy therapi ymddygiadol gwybyddol (CBT). Yn ystod CBT, byddwch yn archwilio’r ffordd rydych yn meddwl a’r dystiolaeth ar gyfer yr hyn rydych yn ei gredu ac yn edrych am wahanol ddehongliadau posibl. Gall CBT hefyd helpu i leihau pryder a gorbryder sy’n gallu dylanwadu ar deimladau paranoiaidd a’u gwneud yn waeth.
Fe wnes i lawer o CBT, gan archwilio meddyliau negyddol a thrio’u cymharu â thystiolaeth i’r gwrthwyneb. Roedd siarad drwy’r broses hon gyda phobl eraill a oedd yn gallu gweld ‘tystiolaeth’ arall neu ffyrdd eraill o edrych ar bethau yn help mawr.
Therapïau siarad eraill
Mae llawer o fathau eraill o therapïau siarad ar gael, gan gynnwys:
- therapi seicodynamig
- cwnsela
- therapi teulu (neu systemig)
Mae therapïau siarad am ddim ar y GIG, ond mae’n bosibl y bydd yr amseroedd aros yn amrywio a gallant fod yn hir. Gallech ddewis gweld therapydd yn breifat os gallwch fforddio hynny. Mae gan Gymdeithas Seicotherapi Ymddygiadol a Gwybyddol Prydain (BABCP) a Chymdeithas Cwnsela a Seicotherapi Prydain (BACP) restr o therapyddion sydd wedi eu hyfforddi a’u cofrestru.
Celfyddydau a therapïau creadigol
Mae’r celfyddydau a therapïau creadigol yn defnyddio gweithgareddau sy’n seiliedig ar y celfyddydau i’ch helpu i fynegi eich teimladau, mewn amgylchedd therapiwtig. Gall y mathau hyn o therapïau fod yn ddefnyddiol os ydych yn teimlo ei bod yn anodd i chi siarad am eich profiad.
Meddyginiaeth
Os ydych wedi cael diagnosis o sgitsoffrenia paranoiaidd neu anhwylder rhithdybiaethol, mae’n debyg y byddwch yn cael cynnig cyffur gwrthseicotig i leihau eich symptomau. Gallai cyffuriau gwrthseicotig leihau meddyliau paranoiaidd neu wneud i chi deimlo eu bod yn llai o fygythiad i chi.
Os ydych yn dioddef o orbryder neu iselder, gallai eich meddyg teulu gynnig gwrth-iselyddion neu dawelyddion ysgafn i chi. Gall y rhain eich helpu i boeni llai am y meddyliau, a gallant eu stopio rhag mynd yn waeth. Mae gwybodaeth gyffredinol i’w gweld ar ein tudalennau am feddyginiaeth.
Diweddarwyd y wybodaeth hon ddiwethaf yng Ngorffennaf 2020. Byddwn yn ei diwygio yn 2023.
Mae cyfeirnodau ar gael. Os dymunwch atgynhyrchu'r wybodaeth hon, ewch i'n tudalen ar ganiatâd a thrwydded.