Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Paranoia

Yn egluro paranoia, gan gynnwys achosion posibl a sut i gael triniaeth a chymorth. Yn cynnwys awgrymiadau ynglŷn â sut i helpu eich hun, a chanllawiau i ffrindiau a theulu.

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Gymraeg. This link will take you to a Welsh translation of this page.

Sut allai paranoia effeithio arna i?

Gallech fod yn gwneud neu’n teimlo pethau penodol o ganlyniad i’ch meddyliau paranoiaidd. Efallai y byddwch yn teimlo bod y pethau hyn yn helpu ar y pryd – ond yn yr hirdymor gallent wneud eich paranoia yn waeth.

Ymddygiadau diogelwch

Mae ymddygiadau diogelwch yn bethau rydych yn eu gwneud oherwydd eu bod nhw’n gwneud i chi deimlo’n ddiogel. Er enghraifft, efallai y byddwch yn osgoi rhai pobl neu leoedd, yn aros yn y tŷ yn lle mynd allan neu’n gwisgo dillad diogelwch. Mae’r rhain hefyd yn cael eu galw’n ymddygiadau ceisio diogelwch.

Ymddygiad tuag at bobl eraill

Os ydych yn meddwl bod rhywun yn eich bygwth neu bod rhywun eisiau eich niweidio mewn rhyw ffordd, mae’n bosibl y byddwch yn ymddwyn yn amheus neu’n ymosodol tuag ato. Efallai y byddwch yn ei wthio i ffwrdd neu’n penderfynu eich bod yn well hebddo.

Ond mae hyn yn golygu y gallai pobl ddechrau eich trin yn wahanol. Efallai y bydd y person hwnnw’n ceisio eich osgoi chi hefyd. Efallai y bydd yn anos i chi wneud ffrindiau, neu gadw ffrindiau. Gall hyn wneud i chi deimlo fel pe bai rheswm da dros yr hyn roeddech chi’n ei gredu yn y lle cyntaf.

Weithiau gall ymddygiadau diogelwch ddechrau gweithredu fel tystiolaeth ar gyfer eich meddyliau paranoiaidd. Efallai y byddwch yn meddwl eich bod yn ddiogel oherwydd eich bod yn gwneud y pethau hynny, ac yna’n eu gwneud fwy fyth. Ond mae hyn yn golygu nad ydych yn cael cyfle i drio ffyrdd gwahanol o ymdopi â sefyllfaoedd sy’n codi ofn arnoch, neu i roi’r hyn rydych yn ei gredu ar brawf a gweld a oes rheswm da dros gredu hynny ai peidio.

Gall therapïau siarad eich helpu i roi eich meddyliau ar brawf ac ymarfer ymdopi â sefyllfaoedd a phobl sy’n codi ofn arnoch. Gall hyn fod yn brofiad anghyfforddus iawn i ddechrau ond dylai’r therapydd gynnig llawer o gefnogaeth i chi a mynd â phethau ar gyflymder sy’n addas i chi.

Gall paranoia ymddangos fel pe bai’n gwneud pobl yn hunanol iawn, ac yn achosi iddyn nhw ymgolli ynddyn nhw eu hunain.

Ynysu

Gall meddyliau paranoiaidd wneud i chi deimlo eich bod ar eich pen eich hun. Efallai y byddwch yn teimlo bod neb yn eich deall, a gall fod yn anodd pan fydd pobl eraill ddim yn credu rhywbeth sy’n teimlo’n real iawn i chi. Os byddwch yn osgoi pobl neu’n aros yn y tŷ yn lle mynd allan, efallai y byddwch yn teimlo hyd yn oed yn fwy unig. Efallai y byddech yn hoffi darllen ein gwybodaeth am siarad gyda rhywun rydych yn ei drystio

Mae paranoia yn salwch unig a brawychus iawn – mae’n gwneud i bobl golli eu hyder.

Poeni a theimlo’n drist

Efallai y byddwch yn teimlo’n bryderus ac y byddwch yn poeni am eich meddyliau paranoiaidd, neu y byddwch yn teimlo’n isel ac yn drist ynglŷn â beth maen nhw’n ei olygu a sut y gallant effeithio ar eich bywyd.

Gallai gorbryder a theimlo’n isel eich gwneud yn fwy agored i feddyliau paranoiaidd. Mae ymchwil hefyd wedi dangos bod meddyliau paranoiaidd yn achosi mwy o ofid i bobl sy’n fwy pryderus neu sy’n teimlo’n isel. Efallai y byddech yn hoffi darllen ein gwybodaeth am orbryder ac iselder.

Yr hyn wnaeth fy nharo i o ddifri oedd cryfder y panig. Ro’n i’n teimlo fel pe bai rhywun wedi rhoi cyllell ynof fi. Ro’n i’n sylweddoli mai meddyliau paranoiaidd oedd y rhain, ond yr hyn oedd yn fy nychryn i oedd y syniad y gallwn i feddwl rhywbeth mor od â hyn.

Clywed lleisiau, paranoia a sgitsoffrenia 

Gwyliwch Miles yn siarad am ei brofiadau o baranoia a chlywed lleisiau.  

Paranoia a stigma

Mae llawer o bobl yn camddeall beth yw paranoia. Mae’n bwysig cofio nad chi yw’r unig un, a does dim rhaid i chi ddioddef cael pobl yn eich trin yn wael. Dyma rai opsiynau i chi feddwl amdanyn nhw:

  • Dangoswch yr wybodaeth yma i bobl i’w helpu nhw i ddeall mwy am baranoia.
  • Siaradwch gyda phobl eraill sy’n dioddef o baranoia drwy fynd i grŵp cefnogaeth gan gymheiriaid – neu sefydlwch eich grŵp eich hun.
  • Rhannwch eich profiad gyda phobl eraill. Mae Mind yn cyhoeddi blogiau a blogiau fideo gan bobl sydd wedi cael profiad o broblemau iechyd meddwl, gan gynnwys paranoia. Edrychwch ar ein tudalennau storïau iechyd meddwl, a’r wybodaeth ynglŷn â sut i gyfrannu eich stori gyda blog neu flog.  
  • Gwybod eich hawliau. Mae mwy o wybodaeth ar ein tudalennau am hawliau cyfreithiol.
  • Gwnewch rywbeth gyda Mind. Mae manylion ynglŷn â’r gwahanol ffyrdd y gallwch ein helpu ni i herio stigma i’w gweld ar ein tudalen ymgyrchu.

Diweddarwyd y wybodaeth hon ddiwethaf yng Ngorffennaf 2020. Byddwn yn ei diwygio yn 2023.

Mae cyfeirnodau ar gael. Os dymunwch atgynhyrchu'r wybodaeth hon, ewch i'n tudalen ar ganiatâd a thrwydded.

arrow_upwardYn ôl i'r brig