Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Paranoia

Yn egluro paranoia, gan gynnwys achosion posibl a sut i gael triniaeth a chymorth. Yn cynnwys awgrymiadau ynglŷn â sut i helpu eich hun, a chanllawiau i ffrindiau a theulu.

This page is also available in English.

Beth yw paranoia?

Paranoia yw meddwl a theimlo eich bod yn cael eich bygwth mewn rhyw ffordd, hyd yn oed os nad oes llawer o dystiolaeth, os o gwbl, bod hynny’n digwydd. Mae meddyliau paranoiaidd hefyd yn cael eu disgrifio fel rhithdybiau. Mae llawer o wahanol fathau o fygythiadau a allai fod yn codi ofn arnoch neu’n gwneud i chi boeni.

Gallai amheuon wedi eu chwyddo hefyd fod yn feddyliau paranoiaidd. Er enghraifft, mae rhywun wedi dweud rhywbeth cas amdanoch unwaith, ac rydych chi’n credu bod ganddo ymgyrch gasineb yn eich erbyn.

Mae’r dudalen hon yn trafod:

Mewn paranoia, mae ofnau’n cael eu chwyddo ac mae pawb rydych yn ei gyfarfod yn cael ei dynnu i mewn i’r we honno. Rydych yn dod yn ganolbwynt bydysawd bygythiol.

Am ba fathau o bethau y gallech chi fod â pharanoia?

Bydd profiad pob unigolyn o baranoia yn wahanol. Ond dyma rai enghreifftiau o fathau cyffredin o feddyliau paranoiaidd.

Efallai eich bod yn meddwl:

  • bod pobl yn siarad amdanoch y tu ôl i’ch cefn, neu bod pobl neu sefydliadau yn eich gwylio (ar-lein neu all-lein)
  • bod pobl eraill yn ceisio gwneud i chi edrych yn wael neu eich cau allan
  • bod perygl i chi gael niwed corfforol neu gael eich lladd
  • bod pobl yn defnyddio awgrymiadau ac ystyron deublyg i’ch bygwth yn gyfrinachol neu i wneud i chi deimlo’n wael
  • bod pobl eraill yn ceisio eich cynhyrfu neu eich gwylltio’n fwriadol
  • bod pobl yn ceisio cymryd eich arian neu eich eiddo
  • bod pobl eraill yn tarfu ar eich gweithredoedd neu eich meddyliau
  • eich bod yn cael eich rheoli neu bod y llywodraeth yn eich targedu chi

Efallai y bydd y meddyliau hyn yn gryf iawn drwy’r adeg, neu ddim ond weithiau pan fyddwch mewn sefyllfa sy’n achosi straen meddyliol. Gallent fod yn achosi llawer o ofid i chi neu mae’n bosibl na fyddant yn poeni gormod arnoch.

Rwy’n ei chael hi’n anodd iawn i drystio pobl, oherwydd mae rhywbeth yn fy mhen yn dweud wrtha i eu bod nhw ar fy ôl i.

Mae’r rhan fwyaf o bobl yn cael meddyliau paranoiaidd am fygythiadau neu niwed iddyn nhw eu hunain, ond gallwch hefyd gael meddyliau paranoiaidd am fygythiadau neu niwed i bobl eraill, i’ch diwylliant neu i gymdeithas yn gyffredinol.

Beth sy’n cyfri fel meddyliau paranoiaidd?

Fel arfer, mae meddyliau paranoiaidd yn ymwneud â’ch syniadau chi am bobl eraill, a beth y gallai’r bobl hyn fod yn ei wneud neu ei feddwl. Mae’n anodd dweud weithiau a yw meddyliau amheus yn baranoia neu ddim, yn enwedig os yw rhywun arall yn dweud bod eich meddyliau’n rhai paranoiaidd a chithau ddim yn meddwl eu bod nhw. Gallai’r person hwn fod yn ffrind, aelod o’r teulu neu feddyg, er enghraifft.

Mae’n bosibl bod pobl yn meddwl am risgiau mewn ffyrdd gwahanol ac yn credu bod gwahanol bethau yn dystiolaeth dda neu ddrwg o feddyliau amheus. Gall pobl hefyd fod yn credu gwahanol bethau ar sail yr un dystiolaeth. Yn y pen draw, mae’n rhaid i chi benderfynu hyn drosoch eich hun.

Mae meddyliau amheus yn fwy tebygol o fod yn baranoiaidd yn yr amgylchiadau hyn:

  • os oes neb arall yn rhannu’r meddyliau amheus
  • os nad oes tystiolaeth bendant ar gyfer y meddyliau amheus
  • os oes tystiolaeth yn erbyn y meddyliau amheus
  • os yw hi’n annhebygol y byddech chi’n cael eich targedu
  • os yw’r meddyliau amheus gennych o hyd er bod pobl eraill wedi ceisio dweud wrthych nad oes rheswm i chi boeni
  • os yw eich amheuon yn seiliedig ar deimladau a digwyddiadau amwys

Trodd rhedwr arall ei wyneb i edrych arna i wrth fynd heibio a theimlais don enfawr o bryder yn fy nharo. 'Wyt ti’n fy nilyn i?' gwaeddais. Roeddwn i’n meddwl ei fod yn asiant, wedi’i heirio gan fy nghyflogwr i dracio fy symudiadau.

Beth am amheuon y gellir eu cyfiawnhau?

Nid yw meddyliau amheus bob amser yn baranoia. Mae gan bob un ohonom reswm da dros fod yn amheus weithiau. Mae amheuon y gellir eu cyfiawnhau yn amheuon sydd â thystiolaeth i’w cefnogi. Er enghraifft, os oes llawer o bobl wedi cael eu mygio ar eich stryd, nid paranoia yw meddwl y gallech chi gael eich mygio hefyd a bod yn ofalus wrth gerdded drwy eich ardal. Gall amheuon y gellir eu cyfiawnhau eich helpu i gadw’n ddiogel.

Gall tystiolaeth a chyfiawnhad fod yn llawer o bethau gwahanol. Gallai eich tystiolaeth fod yn brofiad unigol, ond gallai fod yn hanes o gael eich erlyn neu wahaniaethu yn eich erbyn. Er enghraifft, os ydych yn ddyn ifanc du, ac rydych yn gwybod bod yr heddlu’n targedu mwy o ddynion du ar gyfer stopio a chwilio, nid paranoia yw teimlo bod mwy o fygythiad y byddwch chi’n cael eich stopio a’ch chwilio.

Weithiau mae’n anodd penderfynu a yw eich meddyliau yn baranoia ynteu’n amheuon y gellir eu cyfiawnhau. Gall ein gwybodaeth ynglŷn â beth sy’n cyfri fel meddyliau paranoiaidd a helpu eich hun eich helpu i benderfynu.

Ydy paranoia yn broblem iechyd meddwl?

Mae paranoia yn symptom o rai problemau iechyd meddwl ond nid yw’n ddiagnosis ynddo’i hun.

Gall meddyliau paranoiaidd amrywio - o baranoia ysgafn i baranoia difrifol iawn - a gall y profiadau fod yn wahanol iawn i bawb. Mae hyn yn dibynnu ar nifer o ffactorau:

  • i ba raddau rydych yn credu’r meddyliau paranoiaidd
  • i ba raddau rydych yn meddwl am y meddyliau paranoiaidd
  • i ba raddau mae’r meddyliau paranoiaidd yn achosi gofid i chi
  • i ba raddau mae’r meddyliau paranoiaidd yn amharu ar eich bywyd bob dydd

Mae llawer o bobl yn cael profiad o baranoia ysgafn ar ryw adeg yn eu bywydau – tua un o bob tri ohonom efallai. Yr enw a roddir am hyn fel arfer yw paranoia anghlinigol. Yn aml iawn mae’r mathau hyn o feddyliau paranoiaidd yn newid dros gyfnod – felly efallai y byddwch yn sylweddoli na ellir eu cyfiawnhau neu y byddwch yn stopio cael y meddyliau penodol hyn.

Ar ben arall y sbectrwm mae paranoia difrifol iawn (sydd hefyd yn cael ei alw’n baranoia clinigol neu rithdybiau erledigaeth). Os yw eich paranoia yn fwy difrifol rydych yn fwy tebygol o fod angen triniaeth.

Gall paranoia fod yn symptom o’r problemau iechyd meddwl hyn:

  • sgitsoffrenia paranoiaidd – math o sgitsoffrenia lle rydych yn cael meddyliau paranoiaidd eithafol
  • anhwylder rhithdybiol (y math lle mae rhywun yn meddwl ei fod yn cael ei erlid) – math o seicosis lle rydych yn cael un brif rithdyb sy’n ymwneud â chael eich niweidio gan bobl eraill
  • anhwylder personoliaeth paranoiaidd

Diweddarwyd y wybodaeth hon ddiwethaf yng Nghorffennaf 2020. Byddwn yn ei diwygio yn 2023.

Mae cyfeirnodau ar gael. Os dymunwch atgynhyrchu'r wybodaeth hon, ewch i'n tudalen ar ganiatâd a thrwydded.

Trusted Information Creator Kitemark (PIF TICK)
arrow_upwardYn ôl i'r brig