Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Paranoia

Yn egluro paranoia, gan gynnwys achosion posibl a sut i gael triniaeth a chymorth. Yn cynnwys awgrymiadau ynglŷn â sut i helpu eich hun, a chanllawiau i ffrindiau a theulu.

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Saesneg.

Pam ydw i’n cael paranoia?

Does neb yn gwybod yn iawn beth sy’n achosi paranoia. Mae llawer o theorïau a bydd gwahanol bobl yn egluro eu profiadau eu hunain mewn gwahanol ffyrdd. Mae’n debygol o fod yn gyfuniad o bethau.

Mae ymchwilwyr wedi nodi rhai ffactorau risg cyffredinol – mae’r rhain yn bethau a allai wneud meddyliau paranoiaidd yn fwy tebygol:

  • Cael profiadau neu deimladau dryslyd neu ansefydlog sy’n anodd eu hegluro.
  • Y ffordd rydych yn teimlo – os ydych yn bryderus, neu’n poeni llawer, neu os nad oes gennych lawer o hunan-dyb ac rydych yn disgwyl i bobl eraill eich beirniadu neu eich gwrthod.
  • Y ffordd rydych yn meddwl – os ydych yn tueddu i ddod i gasgliadau yn gyflym, yn credu pethau’n gryf iawn a ddim yn newid eich meddwl yn hawdd.
  • Os ydych ar eich pen eich hun.
  • Os ydych wedi cael trawma yn y gorffennol.

Mae llawer o bethau mwy penodol sy’n achosi meddyliau paranoiaidd. Weithiau gallai hyn fod oherwydd eu bod yn eich gwneud yn fwy tebygol o brofi’r ffactorau risg uchod. Dyma rai enghreifftiau o bethau a allai gyfrannu tuag at feddyliau paranoiaidd:

  • Profiadau bywyd. Rydych yn fwy tebygol o gael meddyliau paranoiaidd pan fyddwch mewn sefyllfaoedd agored i niwed, wedi eich ynysu neu dan straen a allai achosi i chi deimlo’n negyddol amdanoch eich hun. Os ydych yn cael eich bwlio yn y gwaith, neu os oes rhywun yn torri i mewn i’ch cartref, gallai hyn roi meddyliau amheus i chi a allai ddatblygu yn baranoia.
  • Profiadau yn ystod plentyndod. Gallai profiadau yn ystod plentyndod wneud i chi gredu nad ydy’r byd yn lle diogel, neu wneud i chi amau pobl eraill a methu ymddiried ynddyn nhw. Gallai’r profiadau hyn hefyd effeithio ar eich hunan-dyb a’r ffordd rydych yn meddwl fel oedolyn. Er enghraifft, gallai hyn gynnwys cael eich cam-drin gan rywun yn eich teulu, neu gael eich bwlio yn yr ysgol. Edrychwch ar wefan y Gymdeithas Genedlaethol i Bobl a gafodd eu Cam-drin yn ystod Plentyndod (NAPAC) os oes arnoch angen help i ddelio â phroblemau cael eich cam-drin yn ystod plentyndod.
  • Amgylchedd allanol. Mae ambell waith ymchwil wedi awgrymu bod meddyliau paranoiaidd yn fwy cyffredin os ydych yn byw mewn amgylchedd neu gymuned drefol lle rydych yn teimlo eich bod wedi cael eich ynysu oddi wrth y bobl sydd o’ch cwmpas ac nad oes dim byd i’ch cysylltu chi gyda nhw. Gallai adroddiadau yn y cyfryngau am droseddau, terfysgaeth a thrais hefyd arwain at deimladau paranoiaidd.
  • Iechyd meddwl. Os ydych yn dioddef o orbryder, iselder neu hunan-dyb isel, efallai y byddwch yn fwy tebygol o gael meddyliau paranoiaidd – neu y bydd meddyliau o’r fath yn achosi mwy o ofid i chi. Gallai hyn fod oherwydd eich bod yn fwy anesmwyth, yn poeni llawer neu’n fwy tebygol o ddehongli pethau mewn ffordd negyddol. Mae paranoia yn symptom o rai problemau iechyd meddwl. Mae llawer o bobl yn cael rhithdybiau paranoiaidd fel rhan o bwl o seicosis.
  • Salwch corfforol. Mae paranoia weithiau yn symptom o ambell salwch corfforol, er enghraifft clefyd Huntington, clefyd Parkinson, strôc, clefyd Alzheimer a mathau eraill o ddementia. Gall colli clyw hefyd achosi i rai pobl gael meddyliau paranoiaidd.
  • Colli cwsg. Gall colli cwsg achosi teimladau o ansicrwydd a hyd yn oed deimladau cythryblus a rhithweledigaethau. Gallai ofnau a phryderon ddatblygu yn hwyr yn y nos.
  • Effeithiau cyffuriau hamdden ac alcohol. Gallai rhai mathau o gyffuriau hamdden achosi paranoia, er enghraifft cocên, canabis, alcohol, ecstasi, LSD ac amffetaminau. Gallai hyn ddigwydd os ydych eisoes yn teimlo’n isel ac yn bryderus, neu’n cael problemau iechyd meddwl eraill. Er hyn, dydy ymchwilwyr yn dal ddim yn siŵr ydy cyffuriau hamdden yn achosi paranoia yn uniongyrchol, neu a yw pobl sy’n cael paranoia hefyd yn fwy tebygol o ddefnyddio cyffuriau hamdden. Mae rhai steroidau sy’n cael eu cymryd gan athletwyr, a rhai mathau o bryfleiddiaid, tanwydd a phaent, hefyd wedi cael eu cysylltu â pharanoia. Gallai yfed alcohol a smygu hefyd atal meddyginiaeth rhag trin eich symptomau’n effeithiol. Mae mwy o wybodaeth ar ein tudalennau am gyffuriau hamdden ac alcohol.
  • Ffactorau genetig. Mae ymchwil wedi awgrymu y gallai rhai genynnau eich gwneud yn fwy tebygol o ddatblygu paranoia – ond dydyn ni ddim yn gwybod pa rai yn union.

Seicosis ôl-enedigol a fi

"Ro’n i’n meddwl bod pawb yn sibrwd y tu ôl i nghefn i ac yn dweud mod i’n fam wael."

Beth yw’r cysylltiad rhwng paranoia a gorbryder?

Mae’r cysylltiad rhwng paranoia a gorbryder yn gymhleth. Mae’n bosibl disgrifio syniad paranoiaidd fel math penodol o syniad gorbryderus. Mae’r ddau’n ymwneud ag ymateb i’r posibilrwydd o fygythiad o ryw fath.

Gall gorbryder achosi paranoia. Mae ymchwil yn awgrymu y gall effeithio ar beth mae gennych chi baranoia amdano, am faint y mae’n para a pha mor ofidus y mae’n gwneud i chi deimlo. Gall meddyliau paranoiaidd hefyd wneud i chi deimlo’n orbryderus.

 

Diweddarwyd y wybodaeth hon ddiwethaf yng Ngorffennaf 2020. Byddwn yn ei diwygio yn 2023.

Mae cyfeirnodau ar gael. Os dymunwch atgynhyrchu'r wybodaeth hon, ewch i'n tudalen ar ganiatâd a thrwydded.

Rhannwch y wybodaeth hon

arrow_upwardYn ôl i'r brig