Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Anhwylderau personoliaeth

Mae'r adran hon yn egluro anhwylderau personoliaeth, gan gynnwys beth allai achosi hynny a sut gallwch chi gael gafael ar driniaeth a chymorth. Mae'n cynnwys awgrymiadau ar gyfer sut i helpu eich hun, a chanllawiau i ffrindiau a theulu.

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Gymraeg. This link will take you to a Welsh translation of this page.

Mae'r adran hon ar gyfer ffrindiau a theulu sydd am gefnogi rhywun sydd wedi cael diagnosis o anhwylder personoliaeth.

 

Os oes rhywun rydych chi'n ei adnabod wedi cael diagnosis o anhwylder personoliaeth, gall ei feddyliau, ei deimladau a'i ymddygiad ei gwneud hi'n anodd iddo gynnal perthynas dda gyda chi bob amser.

Weithiau, efallai eich bod yn ei chael hi'n anodd gwybod beth i'w ddweud neu sut i helpu. Ond mae yna lawer o bethau cadarnhaol y gallwch eu gwneud i'w gefnogi:

  • Ceisiwch fod yn amyneddgar – os ydy rhywun sy'n annwyl i chi'n ei chael hi'n anodd delio â'i emosiynau, ceisiwch beidio â mynd i ddadlau yn fyrbwyll. Gallai fod yn well aros nes bod y ddau ohonoch chi'n teimlo'n fwy pwyllog i siarad am bethau.

Rydw i wedi dod yn ymwybodol iawn o'm teimladau a'm hemosiynau, ond weithiau rydw i'n ei chael hi'n anodd iawn eu rheoli. Mae fel petai rhywun wedi cymryd drosodd yn fy mhen am amser byr, yna rydw i'n teimlo cywilydd mawr am yr hyn rydw i wedi'i wneud, ac yn gwthio pobl i ffwrdd er mwyn ceisio gwneud i mi fy hun deimlo'n well.

  • Siaradwch gyda nhw yn dosturiol ac yn bwyllog – pan fydd rhywun yn cael teimladau a meddyliau anodd, gall ei ymddygiad fod yn annisgwyl neu wneud i chi deimlo'n ypset, a gallech chi deimlo'n ansicr. Ceisiwch ddeall beth mae'n mynd drwyddo a beth sy'n effeithio ar ei feddyliau, ei deimladau a'i ymddygiad – gall hyn eich helpu i beidio â chynhyrfu.
  • Peidiwch â'i feirniadu – ceisiwch wrando arno heb ddweud wrtho y dylai deimlo fel y mae neu ei fod yn rhy sensitif. Efallai na fyddwch chi'n deall pam ei fod yn teimlo fel hyn, ond gall cydnabod a gwerthfawrogi sut mae'n teimlo olygu llawer.

Ceisiwch gydnabod a deall - peidiwch â chwestiynu fy meddyliau na fy safbwyntiau. Rhowch eich hun yn fy esgidiau i. Pe bai chi'n cael y meddyliau a'r teimladau hynny, sut fydden nhw'n gwneud i chi deimlo?

  • Atgoffwch nhw o agweddau eraill ar ei bersonoliaeth – dydy diagnosis o anhwylder personoliaeth ddim yn golygu nad ydy rhywun yn stopio bod yn hoffus, yn glyfar, yn ddoniol, yn garedig, yn llawn cymhelliant neu'n greadigol. Gall fod yn galonogol ei atgoffa am y pethau eraill rydych chi'n eu gweld ynddo, yn enwedig os ydy o'n cael trafferth gweld y rhain ei hun.
  • Ceisiwch osod ffiniau a disgwyliadau clir – gall fod yn ddefnyddiol gwneud yn siŵr eich bod chi'ch dau yn gwybod beth ydy ffiniau eich perthynas, a beth rydych chi'n ei ddisgwyl gan y naill a'r llall. Gall hyn eich helpu chi i reoli sefyllfaoedd a theimladau anodd. Gallai fod yn ddefnyddiol cytuno ar sut rydych chi'n disgwyl siarad â'i gilydd, sut rydych chi'n disgwyl iddo ef siarad â chi neu beth rydych chi'n gallu ei wneud i helpu a beth dydych chi ddim yn gallu ei wneud.

Dyweda wrtha' i beth ydy dy broblem di, gad i mi fod yno i ti am newid. Paid â dal unrhyw beth yn ôl, cofia rannu dy anawsterau, fi ydy dy ffrind di wedi'r cyfan. Bydd yn gwneud i mi deimlo'n werthfawr ac yn ddefnyddiol.

  • Dysgwch beth sy'n ei sbarduno – siaradwch â'r sawl sy'n annwyl i chi a cheisio darganfod pa sefyllfaoedd neu sgyrsiau sy'n gwneud iddo feddwl neu deimlo'n negyddol a chael emosiynau negyddol.
  • Dysgwch fwy am anhwylder personoliaeth, a helpwch i herio'r stigma – mae anhwylder personoliaeth yn ddiagnosis cymhleth, ac efallai y bydd yn rhaid i'r sawl sy'n annwyl i chi ddelio â chamsyniadau pobl eraill yn ogystal ag ymdopi â'i broblem iechyd meddwl ei hun. Mae ein tudalennau gwybodaeth am anhwylderau personoliaeth a gwahanol fathau o anhwylderau personoliaeth yn cynnwys rhagor o wybodaeth.
  • Helpwch nhw i chwilio am driniaeth a chymorth – edrychwch ar ein tudalennau sut mae cefnogi rhywun i chwilio am help i gael rhagor o wybodaeth.
  • Helpwch nhw i ddod o hyd i eiriolwr – edrychwch ar ein tudalennau eiriolaeth i gael rhagor o wybodaeth.
  • Gofalwch amdanoch chi eich hun – gall fod yn anodd iawn i chi gefnogi rhywun sy'n annwyl i chi ac sy'n cael anawsterau. Ceisiwch gofio bod eich iechyd meddwl eich hun yn bwysig hefyd. Edrychwch ar ein tudalennau ymdopi wrth gefnogi rhywun arallrheoli straen a chynnal eich lles i gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut i ofalu amdanoch eich hun.

Weithiau, pan fyddwn ni ddim yn gwybod pwy ydyn ni, dydyn ni ddim yn gwybod pam ein bod ni'n gwneud yr hyn rydyn ni'n ei wneud, bydd gan un person obaith a bydd yn gweld rhywbeth y tu ôl i'r llygaid hynny, rhywbeth nad ydyn ni'n gallu ei weld ein hunain, a gall ein hachub ni a dweud wrthym ni y gallwn ni fod yn iawn.

Cyhoeddwyd y wybodaeth hon yn Ionawr 2020. Byddwn yn ei diwygio yn 2023.

Mae cyfeirnodau ar gael. Os dymunwch atgynhyrchu'r wybodaeth hon, ewch i'n tudalen ar ganiatâd a thrwydded.

arrow_upwardYn ôl i'r brig