Gofyn am help ar gyfer problem iechyd meddwl

Canllaw i gymryd y camau cyntaf, gwneud penderfyniadau awdurdodedig a chael y cymorth iawn i chi.

Your stories

How going to A&E helped me

Caroline blogs about how a visit to A&E helped her to realise she needed help.

Caroline
Posted on 27/11/2013

Lots of social phobia, but no friends

John blogs about living with social phobia and the steps he’s taking to recover.

Posted on 15/06/2015

Sut y gallaf helpu rhywun arall i ofyn am help?

Mae'r adran hon ar gyfer ffrindiau a theulu rhywun sy'n wynebu problem iechyd meddwl, sydd am eu helpu i ofyn am help.

Bydd y rhan fwyaf o bobl sy'n dioddef problem iechyd meddwl yn siarad â'i ffrindiau a theulu cyn siarad â gweithiwr iechyd proffesiynol, felly gall y cymorth rydych yn ei gynnig fod yn werthfawr iawn. Mae'r dudalen hon yn cynnwys gwybodaeth am y canlynol:

  • cynnig cymorth emosiynol
  • cynnig cymorth ymarferol
  • beth y gallwch ei wneud os na fydd rhywun yn gallu gofyn am help neu os na fydd yn fodlon gwneud hynny
  • beth y gallwch ei wneud mewn argyfwng
  • gofalu amdanoch chi eich hun

Pa gymorth emosiynol y gallaf ei gynnig?

Os bydd rhywun yn rhoi gwybod eu bod yn cael meddyliau a theimladau anodd, mae'n gyffredin i bobl deimlo nad ydynt yn gwybod beth i'w wneud na'i ddweud - ond does dim angen unrhyw hyfforddiant arbennig arnoch i ddangos i rywun eich bod yn gofidio amdanynt, ac yn aml dyma'r help mwyaf gwerthfawr y gallwch ei gynnig.

Er enghraifft, gall helpu i wneud y canlynol:

  • Gwrando. Mae rhoi cyfle i rywun siarad a gwrando ar sut mae'n teimlo yn bwysig iawn, a gall fod o gymorth ynddo'i hun.
  • Cynnig sicrwydd. Gall gofyn am help fod yn deimlad unig a brawychus ar adegau. Rhowch wybod iddynt nad ydynt ar eu pen eu hunain, ac y byddwch yno i helpu.
  • Peidio â chynhyrfu, er y byddwch efallai yn teimlo'n ofidus. Bydd hyn yn eu helpu i ymdawelu hefyd, ac yn dangos iddynt y gallant siarad â chi yn agored heb beri gofid i chi.
  • Bod yn amyneddgar. Efallai yr hoffech gael rhagor o fanylion am eu teimladau a'u meddyliau, neu am iddynt gael help ar unwaith. Ond mae'n bwysig gadael iddynt hwy benderfynu pa mor gyflym y dylai pethau ddigwydd.
  • Ceisio peidio â gwneud rhagdybiaethau. Gallai eich safbwynt chi fod yn ddefnyddiol, ond ceisiwch beidio â chymryd yn ganiataol eich bod eisoes yn gwybod beth sydd wedi achosi eu teimladau, neu beth fydd yn helpu.
  • Cynnal y cysylltiad cymdeithasol. Gallai rhan o'r cymorth emosiynol a gynigiwch olygu cadw pethau mor normal â phosibl. Gallai hyn olygu cynnwys eich ffrind neu aelod o'r teulu mewn digwyddiadau cymdeithasol, neu sgwrsio am rannau eraill o'ch bywydau.

Pa gymorth ymarferol y gallaf ei gynnig?

Mae llawer o bethau ymarferol y gallwch eu gwneud i helpu rhywun sy'n barod i ofyn am help. Er enghraifft:

  • Chwilio am wybodaeth a allai fod yn ddefnyddiol. Pan fydd rhywun yn gofyn am help gall deimlo'n ofidus ynghylch gwneud y dewis cywir, neu deimlo nad oes ganddo unrhyw reolaeth dros ei sefyllfa. Mae'r adrannau 'Pa benderfyniadau y gallaf gyfrannu atynt?' a 'Sut y gallaf sicrhau bod pobl yn gwrando arnaf' yn y llyfryn hwn yn awgrymu syniadau ar gyfer gwybodaeth y gallech ddod o hyd iddi er mwyn eu helpu i deimlo eu bod wedi'u grymuso.
  • Helpu i ysgrifennu rhestrau o gwestiynau y mae'r person rydych yn ei gefnogi am ofyn i'w feddyg, neu ei helpu i roi pwyntiau mewn trefn sy'n gwneud synnwyr (er enghraifft, rhestru'r pwynt pwysicaf gyntaf).
  • Helpu i drefnu gwaith papur, er enghraifft, sicrhau bod gan eich ffrind neu aelod o'r teulu rywle i gadw ei nodiadau, ei bresgripsiynau a chofnodion ei apwyntiadau yn ddiogel.
  • Mynd i apwyntiadau gyda nhw, os ydynt am i chi wneud hynny - gall bod gyda nhw yn yr ystafell aros helpu i dawelu eu meddyliau.
  • Eu holi am dasgau ymarferol penodol lle y gallech eu helpu, a gweithio ar y tasgau hynny. Er enghraifft, gallai hyn gynnwys:
    • cynnig lifft i'w hapwyntiad
    • trefnu gofal plant iddynt
    • gwneud ychydig o'r gwaith tŷ.
  • Dysgu mwy am y broblem iechyd meddwl y maent yn ei hwynebu, er mwyn eich helpu i feddwl am ffyrdd eraill o'u helpu. Mae ein gwefan yn darparu llawer o wybodaeth am wahanol 'Types of mental health problems', gan gynnwys tudalennau ar yr hyn y gall ffrindiau a theulu ei wneud i helpu ym mhob achos.

Beth gallaf ei wneud os na fydd rhywun am gael fy help?

Os ydych yn teimlo bod rhywun rydych yn gofidio amdano yn amlwg yn cael trafferth ond nad yw'n fodlon neu'n methu â gofyn am help ac nad yw'n fodlon derbyn unrhyw help a gynigiwch, mae'n ddealladwy y gallech deimlo'n rhwystredig, yn ofidus ac yn ddi-rym. Ond mae'n bwysig derbyn bod y person hwnnw yn unigolyn, a bod terfyn bob tro i'r hyn y gallwch ei wneud i helpu rhywun arall.

Gallwch wneud y canlynol: Ni allwch wneud y canlynol:
  • Bod yn amyneddgar.  Ni fyddwch yn gwybod y stori lawn bob tro, ac efallai y bydd rhesymau pam eu bod yn ei chael hi'n anodd gofyn am help.
  • Cynnig cymorth emosiynol a chysur. Rhoi gwybod iddynt eich bod yn gofidio amdanynt ac y byddwch yno os byddant yn newid eu meddwl.

  • Eu hysbysu sut i ofyn am help pan fyddant yn barod (er enghraifft, gallech ddangos y hwn iddynt).

  • Gofalu amdanoch chi eich hun, a gwneud yn siŵr nad ydych yn mynd yn sâl.

  • Gorfodi rhywun i siarad â chi. Gall gymryd amser i rywun deimlo ei fod yn gallu siarad yn agored, a gallai rhoi pwysau ar rywun i siarad olygu ei fod yn teimlo'n llai cysurus ynghylch dweud wrthych am ei brofiadau. 

  • Gorfodi rhywun i gael help (os yw dros 18 oed, ac nad yw'n berygl uniongyrchol iddo ef ei hun nac i rywun arall). Fel oedolion, rydym oll yn gyfrifol amdanom ni ein hunain yn y pen draw. Mae hyn yn cynnwys pryd - neu os - rydym yn dewis gofyn am help.

  • Gweld gweithiwr gofal iechyd proffesiynol ar ran rhywun arall. Ni all meddyg rannu unrhyw gyngor na manylion penodol am rywun arall heb ei ganiatâd.

Os bydd eich ffrind neu aelod o'r teulu yn gweld lledrithiau neu'n gweld pethau na all pobl eraill eu gweld, yna efallai na fyddant yn sylweddoli nac yn cytuno bod angen help arnynt. Gallant fod yn teimlo'n baranoiaidd, neu'n profi seicosis. Os felly, gall hefyd fod yn ddefnyddiol:

  • peidio â cheisio dilysu na herio eu canfyddiadau
  • cydnabod sut mae eu canfyddiadau yn gwneud iddynt deimlo (er enghraifft, yn ofidus neu'n anniogel).

(Gweler ein llyfrynnau ar-lein Understanding psychosis ac Understanding paranoia am ragor o wybodaeth).

Beth gallaf ei wneud os yw'n argyfwng?

Gall adegau godi pan fydd angen i'ch ffrind neu aelod o'r teulu ofyn am help mwy brys, e.e. os ydynt yn rhoi eu hunain neu rywun arall mewn perygl difrifol, uniongyrchol o niwed.

Yn y sefyllfa hon, cyhyd â'ch bod yn teimlo ei bod yn ddiogel i chi wneud hynny, dylech aros gyda nhw a'u helpu i ddilyn y camau ar gael help mewn argyfwng. (How to support someone who feels suicidal hefyd yn darparu canllawiau ar helpu rhywun sy'n teimlo ei fod yn mynd i ladd ei hun.)

Sut mae rhywun yn cael ei gadw yn yr ysbyty?

O dan amgylchiadau eithriadol, mae'n bosibl cadw rhywun yn yr ysbyty o dan un o adrannau Deddf Iechyd Meddwl 1983 (a elwir yn Saesneg yn 'being sectioned') a'i drin heb ei ganiatâd. Mae'r penderfyniad i gadw rhywun yn yr ysbyty yn un difrifol iawn, a dim ond tîm o weithwyr gofal iechyd proffesiynol cymeradwy a all wneud hyn.

Os ydych yn teimlo bod rhywun mewn perygl difrifol ac nad yw'n fodlon gofyn i unrhyw un am help, gallwch gysylltu â'i wasanaethau cymdeithasol lleol, a all benderfynu trefnu asesiad (gallwch ddod o hyd i'r rhif ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol fel arfer ar wefan y cyngor lleol).

Mae hwn yn dipyn o gyfrifoldeb, felly cyn cymryd camau i wneud hyn mae'n bwysig eich bod yn deall beth allai ddigwydd, a beth yw hawliau'r person hwnnw (gweler ein tudalennau ar Sectioning a Consent to treatment).

Gallai fod yn syniad da trafod hyn hefyd gyda rhywun rydych yn ymddiried ynddo.

Sut y gallaf ofalu amdanaf i fy hun?

Gall helpu rhywun arall roi pwysau arnoch chi. Gall gwneud yn siŵr eich bod yn gofalu am eich lles eich hun olygu bod gennych yr egni, yr amser a'r pellter i helpu rhywun arall.

Er enghraifft:

  • Cymryd seibiant pan fydd ei angen arnoch. Os yw'r gwaith o helpu rhywun yn mynd yn drech na chi neu os yw'n mynd â llawer o'ch amser neu'ch egni, gall cymryd seibiant eich dadflino.
  • Siarad â rhywun rydych yn ymddiried ynddo ynghylch sut rydych yn teimlo. Efallai y byddwch am fod yn ofalus ynghylch faint o wybodaeth rydych yn ei rhannu am y person rydych yn ei helpu, ond gall siarad â ffrind am eich teimladau chi eich helpu i deimlo bod rhywun yn eich cefnogi chi hefyd.
  • Bod yn realistig ynghylch yr hyn y gallwch ei wneud, a pheidio â gwneud gormod. Mae eich cymorth yn werthfawr iawn, ond eich ffrind neu aelod o'r teulu sy'n gorfod penderfynu gofyn am help. Cofiwch y gall pethau bach, syml helpu, a bod gwneud yn siŵr eich bod ar gael iddynt yn eu helpu llawer.

(Gweler How to cope when supporting someone else  a Sut i reoli straen i gael rhagor o syniadau am sut i wneud yn siŵr eich bod yn cadw'n iach.)


Cyhoeddwyd y wybodaeth hon yn 2015. Byddwn yn ei diwygio yn 2018.


Mental Health A-Z

Information and advice on a huge range of mental health topics

> Read our A-Z

Training

Helping you to better understand and support people with mental health problems

> Find out more

Special offers

Check out our promotional offers on print and digital booklets, for a limited time only

> Visit our shop today