Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Awgrymiadau ar gyfer rheoli’r broses o adael CAMHS

Mae’r dudalen hon yn cynnig cyngor ac awgrymiadau i helpu pobl ifanc sydd yn y broses o adael CAMHS.

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Gymraeg. This link will take you to a Welsh translation of this page.

Mae’r wybodaeth hon ar gyfer pobl ifanc sy’n gadael Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHS, neu SCAMHS yng Nghymru) am unrhyw reswm. Os mai dim ond gwybodaeth am adael i symud i Wasanaethau Iechyd Meddwl i Oedolion (AMHS) rydych ei hangen, edrychwch ar ein tudalennau symud i AMHS a phroblemau wrth symud.

Os ydych chi eisiau cael cymorth gan CAMHS am y tro cyntaf, efallai y byddai’n ddefnyddiol darllen ein gwybodaeth am ddeall CAMHS.

Gall gadael CAMHS deimlo fel profiad anodd iawn. Yn enwedig os oes llawer o brofiadau eraill yn digwydd i chi ar hyn o bryd, fel:

  • Gadael yr ysgol, neu fynd yn ôl i’r ysgol os ydych chi wedi bod yn sâl
  • Sefyll arholiadau neu astudio
  • Cael problemau perthynas â phobl sy’n agos atoch chi
  • Symud i le newydd ar gyfer prifysgol neu goleg
  • Meddwl beth allech chi ei wneud fel swydd
  • Symud i Wasanaethau Iechyd Meddwl i Oedolion (AMHS) neu i wasanaeth arall i oedolion

Os ydych chi’n parhau i gael cymorth ar gyfer eich iechyd meddwl, neu’n cael eich rhyddhau, gall ein hawgrymiadau eich helpu i deimlo’n well am adael CAMHS.

Mae’r dudalen hon yn cynnig awgrymiadau sy’n gallu rhoi arweiniad i chi ar sut i wneud y canlynol:

Gofyn i’ch tîm CAMHS am wybodaeth

Cyn eich apwyntiadau, gallech chi gynllunio ychydig o gwestiynau i ofyn i’ch tîm gofal beth i’w ddisgwyl pan fyddwch chi’n gadael. Gall deall yr hyn sy’n digwydd eich helpu i deimlo bod gennych chi fwy o reolaeth.

Pa gwestiynau allaf i eu gofyn i fy nhîm CAMHS?

Does dim cwestiynau cywir neu anghywir, ond dyma rai syniadau i’ch rhoi chi ar ben ffordd. Os nad ydych chi’n teimlo’n gyfforddus, gallech chi ofyn i oedolyn neu eiriolwr dibynadwy ofyn ar eich rhan chi.

  • Ar ba oedran y bydd CAMHS yn rhoi’r gorau i fy nghefnogi yn fy ardal?
  • Pa fath o wasanaethau oedolion sydd ar gael yn fy ardal i?
  • Os nad ydw i’n mynd i AMHS, pa fathau eraill o gymorth sydd ar gael?
  • Ble alla i ddod o hyd i gopi o’r polisi rydych yn ei ddefnyddio i symud o CAMHS i AHMS?
  • Os ydych chi’n byw yn Lloegr: ydw i o dan y Dull Rhaglen Ofal (CPA)?
  • Alla i weld fy nghynllun gofal?
  • Pwy fydd yn rheoli’r broses o’m symud i AMHS?
  • Pa mor aml fydda i’n cwrdd â rhywun i drafod y cynlluniau ar gyfer symud?
  • Oes gen i gynllun pontio, ac a gaf i ei weld?
  • Pa fathau o gymorth a thriniaeth fydda i’n cael fy atgyfeirio ar eu cyfer?
  • Gyda phwy alla i siarad os ydw i’n teimlo bod fy iechyd meddwl yn gwaethygu ar ôl cael fy rhyddhau?
  • Ydw i’n dal yn gallu cael fy atgyfeirio at AMHS yn y dyfodol?
  • Allwch chi fy atgyfeirio at unrhyw wasanaethau eraill ar gyfer oedolion?
  • Pa fathau eraill o gymorth alla i ddod o hyd iddyn nhw yn y gymuned?
  • Alla i gael fy ailasesu gan CAMHS os bydd angen i mi wneud hynny?

Roeddwn i’n cael fy ngadael heb wybod pryd roeddwn i’n symud a sut roedd y broses yn gweithio.

Dweud wrth eich tîm CAMHS beth sy’n bwysig i’ch gofal

Os ydych chi’n gadael CAMHS i symud i wasanaethau oedolion fel AMHS, gallwch chi weithiau weld llawer o wahanol weithwyr iechyd proffesiynol. Gall hyn fod yn anodd os ydych chi’n gorfod ailadrodd eich stori ac esbonio’r hyn sydd ei angen arnoch i bobl wahanol.

Ceisiwch ysgrifennu’r hyn rydych yn dymuno i’r bobl sy’n eich cefnogi gael gwybod, fel y canlynol:

  • Pethau rydych chi’n eu hoffi am eich triniaeth a’ch cefnogaeth bresennol
  • Pethau sy’n bwysig i chi ar gyfer eich triniaeth a’ch cefnogaeth
  • Pethau rydych chi wedi’u cael yn anodd yn CAMHS ac eisiau eu gweld yn cael eu newid
  • Therapïau neu driniaethau rydych chi wedi rhoi cynnig arnyn nhw ac sydd wedi bod yn ddefnyddiol neu ddim yn ddefnyddiol
  • Y mathau o gymorth neu driniaethau rydych chi eisiau
  • Eich gobeithion ar gyfer eich iechyd meddwl a’ch llesiant yn y dyfodol

Gallech wneud hyn drwy lenwi pasbort pontio.

 

Felly 6 mis cyn i chi fod yn 18 oed, dyna pryd maen nhw i fod i ddechrau paratoi’r cyfan. Fe wnes i ddweud yn benodol nad oeddwn i eisiau seiciatrydd penodol pan wnes i drosglwyddo. I fod yn deg, fe wnaethon nhw hynny felly doedd dim rhaid i mi eu gweld nhw.

Llenwi ‘pasbort’ i rannu eich profiadau

Cyn i chi adael CAMHS, mae llenwi pasbort yn eich helpu i ddweud beth rydych chi eisiau i’r bobl sy’n eich cefnogi chi ei wybod. Gallwch chi restru eich anghenion a dweud wrthynt beth sy'n bwysig i chi.

Mae gennym 2 fath o dempledi pasbort. Gallwch eu llwytho i lawr a llenwi pa un bynnag sydd orau ar gyfer eich cynlluniau ar ôl gadael CAMHS:

Efallai y byddwch chi am rannu hwn â’ch meddyg teulu neu weithiwr iechyd proffesiynol arall, fel therapydd.

Lawrlwytho eich pasbort symud ymlaen o CAMHS:

Dylent roi rhywbeth fel hyn i chi yn SCAMHS yng Nghymru beth bynnag, ond gall pobl ifanc yn Lloegr hefyd gadw cofnod ysgrifenedig gan ddefnyddio ein templed.

Lawrlwytho eich pasbort ‘pontio i AMHS’:

Gallwch rannu eich pasbort gyda’ch tîm CAMHS. Gofynnwch iddyn nhw gadw copi ar eich cofnodion – gallan nhw ei anfon at unrhyw bobl newydd sy’n gweithio gyda chi yn AMHS.

Os ydych chi’n byw yng Nghymru, gallwch chi hefyd edrych ar yr enghraifft fanylach hon o Basbort Pontio i Bobl Ifanc.

Roedd yr holl broses yn llethol ond rwy’n ddiolchgar am y ffordd y llwyddodd fy nhîm i’w rheoli. Roedden nhw’n wir yn ceisio gwneud pethau mor hawdd â phosibl i mi.

Adeiladu eich rhwydwaith cymorth

Pan fyddwch chi’n gadael CAMHS am unrhyw reswm, mae’n bwysig cael cymaint o gymorth â phosibl. Gallai hyn fod yn ffrindiau, partneriaid, aelodau o’r teulu, gofalwyr neu warcheidwaid. Gallwch chi hefyd ofyn am gymorth gan weithwyr proffesiynol dibynadwy fel staff CAMHS, athrawon neu weithwyr cymdeithasol.

I adeiladu a chynnal eich rhwydwaith cefnogi, ceisiwch wneud y canlynol:

  • Daliwch ati i siarad. Weithiau, gall rhoi gwybod i bobl beth sy’n digwydd a sut rydych chi’n teimlo wneud pethau ychydig yn haws.
  • Dywedwch wrth bobl eraill sut y gallant helpu. Efallai y byddwch chi am iddynt fod yno pan fydd eu hangen arnoch, neu ar gyfer pethau ymarferol fel mynd i apwyntiadau gyda chi.
  • Gofynnwch am help os oes angen hynny arnoch chi. Gall hyn fod yn anodd ond mae’n bwysig dweud wrth y bobl o’ch cwmpas pan fyddwch chi’n gweld pethau’n anodd.
  • Siaradwch â’ch tîm CAMHS. Os ydych chi’n poeni’n ofnadwy am adael gwasanaeth, dywedwch wrth rywun yn eich tîm CAMHS. Gallant drafod pethau gyda chi.
  • Edrychwch ar ddewisiadau eraill o ran cymorth. Gall y rhain fod ar-lein, dros y ffôn, neu yn eich ardal leol. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’n tudalen ar ddod o hyd i gymorth i bobl ifanc. Os ydych chi dros 18 oed, gallwch chi ddarllen ein gwybodaeth i oedolion am chwilio am help ar gyfer problem iechyd meddwl.

I gael syniadau am ofalu amdanoch eich hun, edrychwch ar ein tudalen ar ofalu am eich llesiant.

Mae’n helpu i sicrhau bod gennych rwydwaith cefnogaeth o’ch cwmpas o bobl y gallwch ymddiried ynddynt. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod sut i fod yno i chi eich hun pan fydd eich iechyd meddwl yn mynd yn anodd. Sefydlwch strategaethau sy’n gweithio i chi cyn i chi adael CAMHS.

Weithiau, gallwn ni ei chael yn anodd siarad â phobl sy’n agos atom am ein hiechyd meddwl. Neu efallai nad oes gennym ni neb i siarad â nhw.

Os bydd angen i chi siarad â rhywun, gallwch chi siarad â rhywun yn gyfrinachol dros y ffôn, drwy neges destun neu drwy sgwrsio ar y we. Mae’r bobl yn y sefydliadau hyn wedi cael eu hyfforddi i wrando arnoch a’ch cefnogi chi:

  • Childline. Maen nhw’n cynnig llinell gymorth 24 awr, gwasanaeth e-bost a gwasanaeth cwnsela ar-lein a dros y ffôn i blant a phobl ifanc yn y DU, i gyd am ddim. Maen nhw’n gallu darparu cwnselwyr sy’n siarad Cymraeg hefyd.
  • The Mix. Mae’n cynnig llinell gymorth, e-bost, sgwrs fyw, gwasanaeth cwnsela dros y ffôn a llinell ffôn argyfwng i unrhyw un dan 25 oed.

I ddod o hyd i fwy o sefydliadau sy’n cynnig cymorth, edrychwch ar ein rhestr o gysylltiadau defnyddiol ar gyfer pobl ifanc.

Siarad ag eraill sydd wedi gadael CAMHS

Gall siarad â phobl ifanc eraill sydd wedi bod drwy brofiadau tebyg fod yn hynod ddefnyddiol. Efallai y byddan nhw’n gallu rhoi cyngor a help i chi deimlo nad ydych chi ar eich pen eich hun.

Os nad ydych chi’n adnabod rhywun, gallwch siarad â phobl ifanc eraill ar fyrddau negeseuon ar-lein, fel KoothThe Mix a Childline.

Ar fyrddau negeseuon, gallwch:

  • Ofyn cwestiynau
  • Rhannu meddyliau
  • Holi pobl eraill am eu profiadau

Os ydych chi’n chwilio am gymorth ar-lein, cofiwch gadw’n ddiogel. Meddyliwch bob amser beth rydych chi’n teimlo’n gyfforddus yn ei rannu a beth rydych chi eisiau ei gadw’n breifat.

Mae gwybodaeth am sut i wneud hyn ar gael ar wefan Childline.

Efallai y gwelwch fod rhai pobl wedi mynd drwy brofiadau tebyg i chi. Gall hyn fod yn galonogol, hyd yn oed os nad yw’n brofiad da.

Roedd rhai o’r bobl ifanc y buom yn siarad â nhw wedi disgrifio gadael CAMHS mewn gwahanol ffyrdd. Dyma’r mathau o bethau y gallech chi eu dysgu wrth siarad ag eraill:

Roedd gadael CAMHS yn gam mawr i mi. Roedd yn rhaid i mi ddysgu gofalu am fy iechyd meddwl fy hun a bod yn gwnselydd i mi fy hun. Roedd hynny’n anodd i ddechrau, ond roedd wedi fy helpu i fod yn fwy gwydn ac yn llai dibynnol ar eraill i dawelu fy meddwl pan oeddwn i dan straen.

Fe wnes i adael CAMHS pan oeddwn i’n 18 oed a chael fy symud i sefydliad cymorth lleol arall. Roedd y broses hon yn eithaf anodd i mi, yn enwedig oherwydd bod y 2 berson a oedd yn gofalu amdanaf, ac a oedd yn gyfrifol am fy ngofal, i ffwrdd.

Cefais fy rhyddhau gan CAMHS cyn atgyfeirio fy hun at wasanaethau therapi seicolegol lleol. Mae’r amseroedd aros ar gyfer y rheini wedi bod yn hirach na gwasanaethau plant a phobl ifanc.

Yn ystod y broses o adael, ni chefais wybod beth i’w wneud pe bai angen help arnaf yn y dyfodol na sut i ailgyfeirio.

Rhywbeth eithaf poenus oedd teimlo eich bod yn cael eich troi oddi wrth CAMHS ar ôl bod gyda nhw am fwy na 4 blynedd.

Gofalu am eich llesiant

P’un ai a ydych chi’n cael eich rhyddhau neu’n parhau â’ch cymorth yn rhywle arall, gall gadael CAMHS deimlo fel cyfnod anodd iawn. Mae’n bwysig bod yn garedig â chi’ch hun.

Yn ystod y cyfnod hwn, ceisiwch wneud y canlynol:

  • Siarad â rhywun dibynadwy ynglŷn â sut rydych chi’n teimlo, e.e. ffrind neu oedolyn rydych chi’n ymddiried ynddynt. I gael syniadau am sut i ddechrau’r sgwrs, edrychwch ar ein tudalen ar siarad â phobl eraill.
  • Gwneud pethau sy’n eich helpu i ymlacio, e.e. gwrando ar gerddoriaeth, darllen neu wylio eich hoff ffilmiau.
  • Gwneud y pethau rydych chi’n eu mwynhau, e.e. gwneud amser ar gyfer eich hoff ddiddordebau, neu dreulio amser gydag anwyliaid.
  • Gwneud blwch hunanofal. Llenwch flwch gyda phethau sy’n rhoi cysur i chi pan fyddwch chi’n teimlo’n isel neu’n cael trafferth gyda phethau. Gallwch gynnwys pethau rydych chi’n hoffi eu gwneud neu bethau sy’n eich helpu i ymlacio.

I gael rhagor o wybodaeth ac awgrymiadau ar gyfer pan fyddwch chi’n cael trafferth, edrychwch ar ein tudalennau ar ddod o hyd i gymorth a gofalu am eich llesiant.

Pan fyddwch chi’n gadael CAMHS, efallai y bydd gennych chi broblemau gyda’r broses ac y bydd angen gwybodaeth ychwanegol arnoch chi. Efallai y byddai’n ddefnyddiol darllen y tudalennau hyn:

Cafodd yr wybodaeth hon ei chyhoeddi ym mis Rhagfyr 2022. Byddwn yn ei diwygio yn 2025.

Mae cyfeiriadau ar gael ar gais. Os hoffech chi atgynhyrchu unrhyw ran o’r wybodaeth hon, gweler ein tudalen ar ganiatadau a thrwyddedau.

Am ragor o wybodaeth

arrow_upwardYn ôl i'r brig