Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Deall diagnosis – ar gyfer pobl ifanc 11-18 oed 

Gwybodaeth i bobl ifanc am ddiagnosis iechyd meddwl a sut allai wneud iti deimlo. 

Beth yw diagnosis iechyd meddwl? 

Ffordd o ddisgrifio grŵp o brofiadau a’r effaith maen nhw’n ei gael arnat ti ydy diagnosis iechyd meddwl. Gall hyn gynnwys dy deimladau, dy feddyliau a dy ymddygiad. 

Mae gwahanol fathau o broblemau iechyd meddwl i’w cael. Mae gweithwyr meddygol proffesiynol yn gwneud diagnosis ar sail dy deimladau, dy brofiadau a dy ymddygiad. Efallai y byddi hefyd yn clywed y rhain yn cael eu galw’n symptomau.  

Efallai y bydd rhai ohonom yn cael un diagnosis ac efallai y bydd eraill yn cael mwy. Hyd yn oed os na chawn ddiagnosis, efallai y byddwn yn uniaethu ag un neu fwy ac yn gweld eu bod yn ein helpu i ddeall ein hunain yn well. 

Gall dy ddiagnosis newid hefyd. Efallai y bydd diagnosis arall yn fwy addas i dy brofiadau. Neu efallai nad wyt ti’n fodlon ar dy ddiagnosis gwreiddiol.  

Pam fyswn i eisiau diagnosis? 

Mae cael diagnosis yn gallu bod yn beth da weithiau. Mae’n gallu dy helpu i: 

  • Ddeall sut rwyt ti'n teimlo 
  • Cael enw ar yr hyn rwyt ti wedi bod yn ei brofi 
  • Teimlo’n llai unig  
  • Cael mwy o wybodaeth am yr hyn rwyt ti wedi bod yn ei brofi 
  • Dod o hyd i’r gefnogaeth a’r triniaethau iawn i helpu 
  • Egluro wrth bobl eraill beth wyt ti’n mynd drwyddo 
  • Cysylltu ag eraill sy’n cael profiadau tebyg 
  • Dod o hyd i ffyrdd o ymdopi a theimlo’n well 

Ond mae’n bosibl na gei di ddiagnosis neu efallai na fydd yn ddefnyddiol. Ac mae hyn yn iawn. Mi elli di’n dal ddod o hyd i gymorth a help gyda’r hyn rwyt ti’n mynd drwyddo. 

Mae yna reswm y tu ôl i beth rwyt ti’n ei brofi ac mae’n ffitio i’w le ac rwyt ti’n deall dy hun yn well – Dora, 17

Dydy cael diagnosis ddim yn rhoi label arnaf i – fe wnaeth imi deimlo’n llawer llai unig a gwneud imi sylweddoli bod rheswm pam roeddwn i’n teimlo mewn ffordd benodol – Mel, 15

Sut gwneir diagnosis o broblemau iechyd meddwl? 

I gael diagnosis ffurfiol, bydd angen iti siarad â gweithiwr iechyd proffesiynol.  

Mae siarad gyda meddyg yn aml yn lle da i ddechrau. Efallai y bydd yn siarad gyda ti am yr hyn maen nhw’n meddwl rwyt ti’n ei brofi a lle galli di ddod o hyd i gymorth. 

Efallai y bydd hefyd yn dy gyfeirio i’r Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMHS). Dyma lle bydd gweithiwr meddygol proffesiynol yn dy asesu ac efallai yn rhoi diagnosis iti. Mae rhai CAMHS hefyd yn derbyn atgyfeiriadau oddi wrth ysgolion a gweithwyr cymdeithasol. 

Os galli, fe allet ti gael asesiad preifat. Ond mae hyn yn costio. 

Bechod na fyddai rhywun wedi bod yno i fi ar ôl fy asesiadau, i ddweud nad ydy diagnosis yn fy niffinio i a bod meddygon yno i fy helpu. 

Beth sy’n digwydd yn ystod asesiad iechyd meddwl? 

Seiciatrydd neu seicolegydd fydd yn arwain dy asesiad iechyd meddwl fel arfer. Neu fe fydd gweithiwr iechyd meddwl proffesiynol arall, fel nyrs iechyd meddwl, yn dy asesu.  

Yn ystod yr asesiad, efallai y byddan nhw’n gofyn iti: 

  • Sut wyt ti’n meddwl, yn teimlo ac yn ymddwyn ar hyn o bryd 
  • Ers faint wyt ti wedi bod yn teimlo fel hyn 
  • Pa effaith y mae’r teimladau a’r profiadau hyn yn ei chael ar dy fywyd 
  • Unrhyw broblemau rwyt ti’n eu cael gartref, yn yr ysgol, yn y gwaith neu mewn perthnasoedd 
  • Dy hanes meddygol 

Efallai y byddan nhw hefyd yn edrych ar dy iechyd corfforol. Ac a fu unrhyw newidiadau yn dy arferion cysgu, yn dy ddiet neu dy lefelau gweithgarwch.

Y rheswm am hyn yw efallai y byddant eisiau sicrhau nad oes gennyt unrhyw broblemau iechyd corfforol yn gyntaf.  

Pryd fydda i’n clywed yn ôl? 

Mae faint o amser mae’n ei gymryd i gael diagnosis yn gallu amrywio. Fe allet gael un ar ddiwrnod dy asesiad neu ychydig ar ôl hynny.  Weithiau, fe allai gymryd mwy o amser os bydd angen rhagor o wybodaeth. Maen nhw’n gwneud hyn er mwyn ceisio deall beth sy’n mynd ymlaen a sut yw’r ffordd orau iddyn nhw helpu. 

Yna, efallai y cei di lythyr, galwad ffôn neu apwyntiad arall i siarad am dy ddiagnosis.  

Os cei di ddiagnosis, dylai dy feddyg siarad gyda ti am y driniaeth a’r cymorth sydd ar gael. Dylen nhw adael i ti ofyn cwestiynau ac awgrymu pethau a allai helpu. Gallai hyn gynnwys llinellau cymorth neu grwpiau cymorth i’w trio. 

Cofia: does dim angen iti gael diagnosis i gael help. Mae yna bobl y gelli siarad â nhw a llefydd iti gael cymorth.

decorative

Mae’n bosibl gwella o broblem iechyd meddwl, ac mae llawer ohonom yn gwneud hynny. Efallai y byddwn yn galw hyn yn wella neu’n byw’n dda. Ond efallai y byddi’n cael trafferth gyda dy iechyd meddwl o bryd i’w gilydd.  

Pan fyddi wedi gweld pa gymorth sy’n gweithio i ti, mae’n debygol y byddi’n teimlo'n fwy abl i gadw'n iach.

Beth os nad yw fy niagnosis yn helpu? 

Efallai y bydd gennyt deimladau anodd am gael diagnosis. Er enghraifft, efallai dy fod: 

  • Yn anghytuno â’ch diagnosis 
  • Yn meddwl nad yw’n egluro'r hyn rwyt ti yn ei brofi 
  • Yn ddryslyd os yw dy ddiagnosis wedi newid llawer 
  • Yn teimlo ei fod yn label annefnyddiol ac yn poeni y bydd pobl yn dy drin yn wahanol o’r herwydd 
  • Yn meddwl ei fod yn golygu bod angen help gan weithiwr proffesiynol arnat, pan fyddai’n well gennyt gael help gan bobl yn dy gymuned 
  • Yn meddwl ei fod yn anwybyddu’r pethau eraill sy’n digwydd yn dy fywyd 
  • Yn meddwl ei fod yn rhoi’r bai arnat ti 
  • Yn poeni sut allai effeithio ar dy ddyfodol. 

Hefyd, fe all atgyfeiriadau i wasanaethau ac i gael asesiadau gymryd amser hir. Efallai y byddi’n teimlo’n rhwystredig neu’n ypset am y broses.

Mae yna lawer o stigma a rhagfarn, yn enwedig mewn lleiafrifoedd fel y gymuned ddu – Kora, 18

Beth os nad wyf yn cytuno â’m diagnosis? 

Os nad wyt ti’n cytuno â dy ddiagnosis, efallai dy fod yn teimlo nad yw'r gweithwyr proffesiynol wedi gwrando arnat. Gall hyn fod yn rhwystredig ac yn annifyr.  

Fe elli siarad â’r meddyg neu’r tîm a roddodd y diagnosis ac egluro pam nad wyt ti’n cytuno. Mae gennym wybodaeth am eirioli drosot ti dy hun a allai helpu. Os nad wyt ti’n teimlo’n gyfforddus gyda hyn, fe allet ofyn i oedolyn dibynadwy dy helpu.  

Fe elli hefyd ofyn am gael siarad â meddyg arall i weld a yw’n meddwl y gallai dy ddiagnosis fod yn wahanol. Mae hyn yn cael ei alw yn ail farn.  

Os wyt ti’n anhapus gyda'u rhesymau neu os na fyddan nhw'n gadael iti siarad â neb arall, fe allet wneud cwyn.

decorative

Fe all fod yn un ffordd o egluro’r hyn rwyt ti’n ei brofi, ond does dim angen iddo ddiffinio pwy wyt ti.  

Beth os na chaf ddiagnosis? 

Gallet beidio â chael diagnosis am lawer o wahanol resymau. Gall siarad â phobl nad ydyn ni’n eu hadnabod yn dda iawn am sut rydyn ni’n teimlo godi ofn arnon ni. Neu efallai dy fod wedi cael ymateb gwael gan deulu neu ffrindiau. 

Efallai dy fod wedi ceisio cael diagnosis ond heb allu cael un. Ac efallai ein bod yn teimlo y byddai diagnosis yn helpu i gadarnhau beth ydyn ni’n mynd drwyddo. 

Os na chewch ddiagnosis, gelli di wastad gael cymorth. Fe elli di wastad cael pethau fel therapïau siarad a chwnsela. Mae ysgolion neu sefydliadau lleol yn cynnig y rhain, a does dim rhaid iti fynd drwy CAMHS bob amser.   

Beth yw hunan ddiagnosis? 

Hunan ddiagnosis ydy pan fyddwn ni’n rhoi diagnosis i ni’n hunain heb weithiwr gofal iechyd. Fe all fod yn ffordd o wneud synnwyr o’n profiadau. 

Mae yna lawer o wybodaeth ar y cyfryngau cymdeithasol. Weithiau, fe all hyn ein helpu i ddeall beth rydyn ni’n mynd drwyddo. A sut allai hyn fod yn gysylltiedig â phroblem iechyd meddwl. Gallai hyn ein harwain i wneud hunan ddiagnosis. Ond mae’n bwysig meddwl am ba wybodaeth y gallwn ni ddibynnu arni.  

Fe allai hunan ddiagnosis fod yn ddefnyddiol: 

  • Os wyt ti’n aros am asesiad ac eisiau deall beth rwyt ti’n ei deimlo ac yn ei brofi 
  • Os nad wyt ti’n teimlo’n gyfforddus yn defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl 
  • Os nad wyt ti eisiau diagnosis ffurfiol  
  • Os wyt ti eisiau dod o hyd i ffyrdd o helpu dy hun 

Ond nid pawb ohonom fydd eisiau gwneud hunan ddiagnosis. Efallai y byddi’n teimlo fel hyn: 

  • Rwyt ti eisiau aros i weithiwr proffesiynol dy asesu 
  • Dwyt ti ddim yn ymddiried yn y wybodaeth rwyt ti’n ei gweld ar-lein 
  • Mae arnat angen diagnosis ffurfiol i gael y driniaeth a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnat 

P’un a wyt ti’n uniaethu â diagnosis ai peidio, mae yna lawer o ffyrdd o ofalu am dy les dy hun. Does dim rhaid i ti fynd drwy bethau ar dy ben dy hun.      

Fe wnes i wneud hunan ddiagnosis wrth aros am asesiadau i benderfynu a oes gen i PTSD a gorbryder. Roedd yn ddefnyddiol gan ei fod wedi fy mharatoi ac roedd yn helpu ychydig bach i wneud synnwyr o fy nheimladau wrth imi aros – Mel, 15

Doeddwn i ddim eisiau cael diagnosis proffesiynol oherwydd doeddwn i ddim eisiau i neb arall wybod, felly penderfynais roi diagnosis i mi fy hun. Ond, yn y diwedd, mi wnaeth dod o hyd i fy nghefnogaeth fy hun helpu fy iechyd meddwl – Jumi, 17

A oes rhaid i mi ddweud wrth bobl eraill am fy niagnosis?  

Does dim rhaid iti ddweud wrth neb am ddiagnosis os nad wyt ti eisiau. Ond fe allai dy helpu i deimlo fel bod gennyt ti fwy o gefnogaeth. 

Os cei di ddiagnosis, ni fydd dy feddyg fel arfer yn dweud wrth dy rieni, dy ofalwyr na dy warcheidwaid. Heblaw, os ydyn nhw’n poeni y gallet ti neu rywun arall fod mewn perygl. Cyfrinachedd yw’r enw ar hyn. Darllena ein tudalen i gael rhagor o wybodaeth am gyfrinachedd.  

Dy ddewis di ydy dweud wrth dy ysgol, dy goleg neu dy waith am dy ddiagnosis neu beidio. Efallai y byddan nhw’n gofyn mewn rhai sefyllfaoedd. Er enghraifft, os bydd yn effeithio ar dy allu i wneud tasgau penodol neu os oes arnat angen addasiadau rhesymol. 

Os wyt ti’n ei chael yn anodd gwneud pethau dydd i ddydd oherwydd dy iechyd meddwl, fe allai gyfrif fel anabledd. Ac efallai y byddet yn gallu cael addasiadau rhesymol i helpu.  Fel cymryd mwy o egwylion neu ddechrau a gorffen ar wahanol adegau. 

Nid oes angen diagnosis arnat i gael addasiadau rhesymol o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. 

Ar ôl iti gael cynnig swydd neu le ar gwrs, gallant dy holi am dy iechyd corfforol a dy iechyd meddwl. Os ydynt yn tynnu’r cynnig yn ôl ar ôl iti ddweud wrthyn nhw, fe allai hyn gyfrif fel gwahaniaethu. Mae gennym rhagor o wybodaeth ar wneud cwyn.

Deall cyfrinachedd

Eisiau gwybod mwy am pryd y gellir rhannu gwybodaeth am dy iechyd meddwl? 

Darllena ein tudalen ar ddeall cyfrinachedd

Mae gallu rhoi enw i gyflwr hefyd wedi golygu y gallai fy ysgol ddechrau rhoi mwy o gefnogaeth imi, fel mod i’n gallu dychwelyd yn llawn amser i’r ysgoll – Mel, 15

Ymhle alla’ i gael cymorth? 

Lle bynnag wyt ti ar dy siwrnai ddiagnosis, fe allet wneud y canlynol: 

  • Siarad â rhywun – darllena ein hawgrymiadau ar sut i siarad â phobl eraill.  
  • Edrych am lefydd i gael cymorth a thriniaeth – darllena ein gwybodaeth am ddod o hyd i gymorth
  • Gofalu am dy les – mae gan ein tudalen awgrymiadau defnyddiol ar ffyrdd o ofalu am dy les
  • Cysylltu â llinell gymorth neu linell destun – ar ein tudalen cysylltiadau defnyddiol fe weli restr o fudiadau y gelli droi atynt am help cyfrinachol a dienw.  
  • Cysylltu ag eraill – gelli siarad â phobl ifanc sy’n mynd drwy bethau tebyg ar fyrddau negeseuon fel The Mix neu Childline. 

Apiau ar gyfer iechyd meddwl

Gall rhai apiau ein helpu gyda phethau fel teimlo'n dawelach neu reoli symptomau anodd. Ond gyda chymaint o apiau, gall deimlo'n anodd gwybod ble i ddechrau.

I ddod o hyd i apiau diogel a dibynadwy i bobl ifanc, cer i lyfrgell apiau Mind.

Cafodd y wybodaeth hon ei chyhoeddi ym mis Chwefror 2025. Byddwn yn ei diwygio yn Chwefror 2028. 

Mae’r bobl ifanc wedi cytuno i’w geiriau ymddangos ar y dudalen hon. Dydy eu profiadau ddim yn gysylltiedig â’r bobl sy’n ymddangos yn y lluniau.

Mae cyfeiriadau ar gael ar gais. Os ydych chi am atgynhyrchu’r cynnwys hwn, ewch i’n tudalen caniatâd a thrwydded.

PIF Tick quality mark logo for trusted information creators

Am ragor o wybodaeth

arrow_upwardYn ôl i'r brig