Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Straen arholiadau – ar gyfer pobl ifanc 11-18 oed 

Gwybodaeth i bobl ifanc ar straen arholiadau a ble i fynd am gymorth. 

Deall straen arholiadau 

Mae arholiadau yn straen i'r rhan fwyaf ohonon ni. Ac rydyn ni i gyd yn profi straen mewn gwahanol ffyrdd.

Os wyt ti'n cael trafferth ymdopi, dwyt ti ddim ar dy ben dy hun. Rydyn ni yma i dy helpu i reoli dy deimladau am arholiadau. 

Mwy o wybodaeth am straen arholiadau 

Oes angen awgrymiadau arnat i ymdopi â straen arholiadau? 

Edrycha ar ein tudalen awgrymiadau nawr

Beth yw straen arholiadau? 

Gall arholiadau ddod â llawer o bwysau. Ac mae'n hawdd teimlo dy fod yn cael dy lethu ganddyn nhw.  

Mae llawer ohonon ni'n gwybod sut deimlad yw bod dan straen. Ond nid oes un ffordd i ddisgrifio beth yw straen. 

Efallai y bydd straen yn teimlo'n wahanol i ti nag y mae i rywun arall. Gall sut rydyn ni'n profi straen deimlo'n wahanol ar wahanol adegau. Gall hefyd ddibynnu ar beth sy'n ei achosi. 

Gall teimlo dan straen, yn bryderus neu dan bwysau am arholiadau fod yn anodd ymdopi ag ef. Ond mae yna bethau a all helpu – mae'n ymwneud â dod o hyd i'r hyn sy'n iawn i ti. 

Disgrifiodd y bobl ifanc y siaradon ni â nhw straen arholiadau fel: 

Fel presenoldeb cyson, llethol yn yr wythnosau cyn arholiad, wedi’i ddominyddu gan feddyliau pryderus am baratoi, panig, a hunan-amheuaeth – Pippa, 18

Cyfnod byr o dy fywyd ond gall deimlo mor hir a llafurus – yn enwedig gyda phethau eraill yn y cefndir fel tyfu i fyny, cyfeillgarwch a newidiadau eraill – Megan, 17

Pwysau ar fy ysgwyddau o beidio eisiau siomi nid yn unig fi fy hun, ond y rhai o'm cwmpas – Lace, 17

Roedd yr holl emosiynau negyddol hyn wedi adeiladu y tu mewn i mi a doeddwn i ddim yn gwybod beth i'w wneud â nhw – Bernadine, 18

Beth sy'n achosi straen arholiadau? 

Gall straen arholiadau fod yn fwy na theimlo'n nerfus ar ddiwrnod arholiad. Gall hefyd fod yn sut wyt ti'n teimlo yn arwain at arholiadau, yn ystod arholiadau ac wrth aros am ganlyniadau. Gallai pethau eraill wneud i ni deimlo'n waeth hefyd.  

Gallai’r rhain gynnwys: 

 

  • Ddim yn teimlo'n barod nac wedi paratoi ar gyfer arholiadau, fel teimlo ar ei hôl hi gydag adolygu. Mae gan Childline ragor o wybodaeth am baratoi ar gyfer arholiadau.  

  • Poeni am sut y byddi di'n gwneud yn yr arholiad, yn enwedig pan nad wyt ti'n gwybod beth fydd ynddo. 

  • Poeni am sefyll arholiadau mewn gwahanol sefyllfaoedd, fel mewn lle newydd neu o dan amodau wedi'u hamseru. Neu os wyt ti'n cael addysg gartref neu'n sefyll arholiadau yn yr ysbyty. 

  • Pwysau gan eraill, fel rhieni, gofalwyr neu athrawon. 

  • Rhoi pwysau arnat ti dy hun i gael graddau penodol. 

  • Cymharu dy hun ag eraill, fel credu bod yn rhaid i ti gael yr un canlyniadau â dy ffrindiau neu bartner. Neu deimlo nad wyt ti'n ymdopi cystal â'r bobl rwyt ti'n eu gweld ar gyfryngau cymdeithasol. 

  • Poeni am y dyfodol, fel mynd i'r brifysgol neu gael swydd.   

  • Wedi cael trafferth gydag arholiadau o'r blaen, fel poeni am arholiadau'r dyfodol os wyt ti wedi gweld TGAU yn straen. 

  • Ymdopi â newidiadau bywyd, fel symud o'r ysgol uwchradd i'r coleg. 

  • Cael problemau gartref neu mewn perthnasoedd gyda theulu, ffrindiau neu bartneriaid. 

  • Gofalu am aelod o'r teulu neu rywun rwyt ti'n byw gyda nhw. 

  • Byw gyda phroblemau iechyd corfforol neu feddyliol neu beidio â chael y cymorth cywir. 

  • Byw gyda chyflwr niwroamrywiol, fel ADHD, awtistiaeth neu ddyslecsia.  

 

Efallai y byddi di'n teimlo dan straen am resymau nad ydyn nhw wedi'u rhestru yma. Efallai y byddi di hefyd yn profi rhai o'r pethau hyn ar yr un pryd. A gallai pethau adeiladu i fyny a theimlo'n ormod.  

Gallwn ni ddysgu rheoli straen arholiadau. Ac efallai y bydd rhai o'r ffyrdd rwyt ti'n rheoli straen arholiadau yn dy helpu i ymdopi mewn ffyrdd eraill hefyd. Mae awgrymiadau gyda ni ar sut i reoli straen arholiadau. 

Cefais fy nghadw mewn lleoliad claf mewnol tra’n cael fy nhrin am fy iechyd meddwl ar yr adeg pan oeddwn yn sefyll fy arholiadau. Roeddwn i'n teimlo'n unig iawn ac wedi fy natgysylltu o'r byd y tu allan a doedd gen i ddim llawer o bobl i siarad ac uniaethu â nhw – Lace, 17

Mae cael addysg gartref […] yn brofiad gwahanol iawn i bobl yn yr ysgol – yn aml rwyt ti'n mynd i ganolfan arholiadau nad wyt ti erioed wedi bod ynddi o'r blaen gyda phobl nad wyt ti'n eu hadnabod. Efallai hefyd nad wyt ti wedi gwneud ffug arholiadau neu wedi bod yn y math hwnnw o amgylchedd ers amser maith – Megan, 17

Sut gallai straen arholiadau effeithio arnaf i? 

Gall straen arholiadau effeithio ar sut rydyn  ni'n teimlo, yn meddwl ac yn ymddwyn. Efallai y byddi di'n profi pethau gwahanol cyn, yn ystod ac ar ôl dy arholiadau.  

Efallai bod rhai ohonon ni wedi mynd trwy lawer o straen yn ein bywydau. Neu efallai mai arholiadau yw un o'r digwyddiadau llawn straen cyntaf i ti ei wynebu. 

Gall gwybod sut mae straen yn edrych i ni ein helpu i adnabod yr arwyddion yn gynnar. Er mwyn i ni gael cymorth neu drio gwahanol awgrymiadau i reoli straen arholiadau.

Rydyn ni wedi rhestru rhai teimladau, meddyliau a ymddygiadau y gallet ti eu profi isod.   

  • Gorbryderus neu boeni 

  • Pethau'n ormod i ti 

  • Cynhyrfus  

  • Panig  

  • Wedi blino'n lân 

  • Euog 

  • Wedi diflasu neu wedi cael llond bol 

  • Yn rhwystredig neu'n ddig 

  • Embaras 

  • Llidiog  

  • Siomedig 

  • Dryslyd 

  • Crynu 

  • Teimlo'n sâl 

  • Cur pen  

  • Pendro 

  • Poen stumog 

  • Newidiadau mewn arferion bwyta 

  • Crio neu deimlo ein bod ni eisiau crio mwy nag arfer 

  • Cael trafferth canolbwyntio 

  • Anghofus 

  • Aflonydd 

  • Teimlo'n llawn tyndra yn ein corff 

  • Newidiadau mewn anadlu neu anadlu yn gyflym iawn 

  • Chwysu llawer 

  • Teimlo'n flinedig 

  • Ofn methu 

  • Ofn siomi ein hunain neu eraill 

  • Cymharu ein hunain ag eraill 

  • Teimlo fel na allwn ni ymdopi 

  • Teimlo fel bod pethau'n ddibwrpas 

  • Meddwl dy fod yn wirion neu'n dwp 

  • Amau dy hun 

  • Teimlo bod angen i ni fod yn berffaith  

  • Credu bod popeth yn anghywir neu'n ddrwg 

  • Osgoi pethau fel adolygu  

  • Gweithio gormod heb gymryd seibiannau 

  • Dweud pethau negyddol amdanon ni'n hunain 

  • Peidio â gwneud y pethau rwyt ti'n eu mwynhau fel arfer 

  • Peidio â threulio digon o amser gyda phobl sy'n bwysig i ni 

  • Yn ei chael hi'n anoddach i ofalu am ein llesiant, fel peidio â theimlo ein bod yn gallu cysgu neu fwyta 

Os na fyddwn ni'n rheoli ein straen neu'n ceisio gwneud gormod efallai y byddwn yn teimlo ein bod wedi gorweithio (‘burnt out’). Mae hyn yn golygu y gallet ti deimlo'n flinedig neu'n sâl, yn dy gorff a dy feddwl. Mae gorweithio yn dweud wrthym fod angen i ni orffwys. 

Young People Focussing In Class

Byddai straen arholiadau yn effeithio arnaf yn gorfforol, byddwn yn cael cur pen a phoen gwddf. Ar y diwrnodau gwaeth byddwn i’n mynd yn benysgafn ac yn ei chael hi’n anodd canolbwyntio a pheidio â chynhyrfu – Megan, 17

Teimlo dan bwysau 

Efallai y byddi di'n teimlo bod pobl eraill yn rhoi llawer o bwysau arnat ti. Neu efallai dy fod yn rhoi pwysau arnat ti dy hun. 

Gall fod yn anodd rheoli disgwyliadau a phwysau. Os wyt ti'n cael trafferth, ceisia feddwl am y canlynol: 

  • O ble mae'r pwysau'n dod? Gall fod gennyt ti, rhiant, aelod o'r teulu neu ofalwr. Efallai bod dy ysgol yn rhoi pwysau arnat ti i wneud yn dda. 

  • Beth allai eraill ei wneud i helpu? Rho wybod iddyn nhw sut rwyt ti'n teimlo a beth hoffet ti ei gael ganddyn nhw, fel help i reoli adolygu neu gymryd seibiannau. Mae gennym rai awgrymiadau i dy helpu i fod yn agored. 

  • Ydw i'n cymharu fy hun ag eraill? Gall pobl o'n cwmpas ddylanwadu ar y ffordd yr ydyn ni'n teimlo amdanon ni'n hunain. Canolbwyntia ar yr hyn y galli di ei wneud a chreda yn dy alluoedd dy hun. Am ragor o wybodaeth, edrycha ar ein tudalen ar hyder a hunan-barch. 

Roedd pwysau o gael fy labelu fel unigolyn disglair yn academaidd ac er gwaethaf yr hyn oedd yn digwydd yn fy mywyd personol, roeddwn i'n teimlo bod yn rhaid i mi roi popeth i mewn i rywbeth sy'n 1% o fy mywyd – Lace, 17

Gall y pwysau o ddysgu cymaint o gynnwys mewn cyfnod mor fyr a bod disgwyl i ti berfformio hyd eithaf dy allu fod yn hynod llethol ac afrealistig – Dylan, 17

decorative

Os daw teimladau o straen yn ormod i'w rheoli, gall hyn effeithio ar ein llesiant. Gall straen hefyd wneud i unrhyw broblemau iechyd meddwl sydd gyda ni deimlo'n anoddach ymdopi â nhw. Am ragor o wybodaeth, edrycha ar ein tudalen ar ddeall iechyd meddwl. 

Awgrymiadau ar gyfer ymdopi â straen arholiadau 

Gall straen arholiadau deimlo fel llawer i ymdopi ag ef, ond mae yna bethau y galli di ei wneud i wella dy lesiant. Mae gennym awgrymiadau a syniadau i dy helpu i ymdopi ar adegau gwahanol. 

Ymdopi â straen arholiadau

Mae llawer o awgrymiadau gyda ni ar gyfer ymdopi â straen arholiadau a theimladau am arholiadau. 

Rwy'n hoffi cael trefn ar ôl ysgol. Efallai y byddaf yn rhoi rhyw awr i adolygu ac mewn awr arall i hunanofal – Shiloh, 16

Ble gallaf ddod o hyd i gymorth? 

Yn ystod arholiadau, efallai y bydd angen cymorth ychwanegol arnat ti i dy helpu i ymdopi â straen arholiadau, yn ogystal â dy iechyd meddwl. Cofia: mae'n iawn gofyn am help unrhyw bryd 

Cymorth gan yr ysgol neu'r coleg 

Efallai y bydd dy athrawon yn gallu cynnig cymorth i helpu gyda dy arholiadau. Neu galli di gael cymorth gan dy dîm gofal os wyt ti yn yr ysbyty. Gallet ti ofyn am help gyda: 

 

  • Sut i adolygu 

  • Pynciau rwyt ti'n cael trafferth gyda nhw 

  • Paratoi ar gyfer arholiadau 

  • Cydbwyso gwahanol bynciau a thestunau 

  • Sut i ofalu amdanat ti dy hun 

 

Efallai y bydd dy ysgol neu ysbyty yn gallu cynnig mwy o gymorth i ti, fel gwasanaeth cwnsela. 

Os oes gen ti broblem iechyd meddwl sy'n cyfrif fel anabledd, efallai y galli di gael addasiadau rhesymol. Er enghraifft, gallai hyn gynnwys amser ychwanegol ar gyfer arholiadau. Neu sefyll arholiadau mewn ystafell wahanol. I gael rhagor o wybodaeth am addasiadau rhesymol, edrycha ar ein tudalen ar dy hawliau. 

Os nad wyt ti'n siŵr pa gymorth sydd ar gael, siarada ag oedolyn rwyt ti'n ymddiried ynddo, fel athro neu nyrs ysgol.  

 

Young Person Showing A Teacher Work In A Classroom

Mae fy straen oherwydd yr arholiadau sydd i ddod yn aml yn achosi i mi beidio â bwyta'n iawn fel ffordd o ymdopi. I ddatrys hyn, mae fy athrawon wedi caniatáu i mi fwyta mewn ystafelloedd ar wahân - a hyd yn oed gadael gwersi adolygu i fwyt – Freddie, 17

Mathau eraill o gymorth 

Ni all pob un ohonom ddod o hyd i'r cymorth sydd ei angen arnon ni gan yr ysgol neu'r coleg. Os wyt ti'n teimlo bod pethau'n mynd yn ormod, fe allet ti:

 

  • Siarada â rhywun rwyt ti'n ymddiried ynddo, fel aelod o'r teulu, partner neu ffrind. Am syniadau ar sut i gychwyn y sgwrs, edrycha ar ein tudalen ar fod yn agored gydag eraill. 

  • Galli di ddod o hyd i fwy o gymorth trwy edrych ar ein tudalen ar ddod o hyd i gymorth i weld beth sydd ar gael. 

  • Siarada â phobl ifanc eraill a allai deimlo'n debyg ar fyrddau negeseuon fel The Mix neu Childline. 

  • Edrycha ar ein tudalen cysylltiadau defnyddiol am restr o sefydliadau eraill a all helpu. Mae rhai yn cynnig gwasanaethau testun neu negeseuon gwib ar gyfer preifatrwydd ychwanegol. 

Cadw'n ddiogel

Os wyt ti'n teimlo fel bod ti wedi dy lethu, neu eisiau brifo dy hun, mae cymorth ar gael i ti trafod pethau. Rwyt ti'n haeddu cymorth cyn gynted ag y sydd ei angen.

I siarad â rhywun yn gyfrinachol am sut rwyt ti'n teimlo, gallet ti:


Os wyt ti'n teimlo y gallet ti ceisio lladd dy hun, neu os wyt ti wedi brifo dy hun yn ddifrifol, mae hwn yn argyfwng
. Gallet ti:

  • Ffonio 999 a gofyn am ambiwlans.
  • Dweud wrth oedolyn rwyt yn ymddiried ynddo a gofyn iddynt ffonio 999 am help.


Mae argyfyngau iechyd meddwl yn ddifrifol. Nid wyt ti’n yn gwastraffu amser neb.

Cyhoeddwyd: Mawrth 2025

Adolygiad nesaf: Mawrth 2028

Siaradwyd â phobl ifanc a gytunodd i roi dyfyniadau ar gyfer y dudalen hon. Nid yw eu profiadau yn gysylltiedig â'r bobl a ddangosir yn y lluniau.

Mae cyfeiriadau ar gael ar gais. Os ydych am atgynhyrchu'r cynnwys hwn, gweler ein tudalen caniatâd a thrwyddedu.

PIF Tick quality mark logo for trusted information creators

For more information

arrow_upwardYn ôl i'r brig