Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Deall hunan-niweidio i bobl 11-18 oed 

Gwybodaeth i helpu pobl ifanc i ddeall hunan-niweidio. Mae’n trafod pam y byddwn ni’n hunan-niweidio, a sut i siarad gyda phobl eraill am hyn.

Mae'n ddrwg gennym, nid oes gennym fersiwn Gymraeg o'r dudalen hon ar hyn o bryd.

Hunan-niweidio – y cefndir 

Byddwn ni i gyd yn profi teimladau anodd rywbryd yn ein bywydau, ac yn ymdopi mewn ffyrdd gwahanol.

Efallai y bydd rhai ohonon ni’n defnyddio hunan-niweidio i geisio ymdopi, neu i beidio â meddwl am y peth. Neu efallai y byddi di wedi clywed am hunan-niweidio, ond ddim yn sicr beth mae hynny’n ei olygu.

Mae hunan-niweidio yn gallu effeithio arnon ni mewn nifer o ffyrdd gwahanol. Mae siarad am hunan-niweidio yn gallu bod yn anodd, ond mae ffyrdd i wneud hyn yn haws. Rydyn ni yma i dy helpu di i ddeall ac i wybod ble i gael help.

decorative

Rhybudd: efallai y bydd y pynciau ar y dudalen hon yn creu teimladau anodd.

Gofala dy fod ti’n teimlo ddiogel cyn cario ymlaen i ddarllen.

Cadw'n ddiogel

Os wyt ti'n teimlo fel bod ti wedi dy lethu, neu eisiau brifo dy hun, mae cymorth ar gael i ti trafod pethau. Rwyt ti'n haeddu cymorth cyn gynted ag y sydd ei angen.

I siarad â rhywun yn gyfrinachol am sut rwyt ti'n teimlo, gallet ti:


Os wyt ti'n teimlo y gallet ti ceisio lladd dy hun, neu os wyt ti wedi brifo dy hun yn ddifrifol, mae hwn yn argyfwng
. Gallet ti:

  • Ffonio 999 a gofyn am ambiwlans.
  • Dweud wrth oedolyn rwyt yn ymddiried ynddo a gofyn iddynt ffonio 999 am help.


Mae argyfyngau iechyd meddwl yn ddifrifol. Nid wyt ti’n yn gwastraffu amser neb.

Sut i ymdopi â hunan-niweidio?

Os bydd angen syniadau arnat ti i ymdopi y funud yma, neu i wybod sut i gael help, mae gennyn ni wybodaeth i dy helpu.

Beth ydy hunan-niweidio? 

Hunan-niweidio ydy pan fyddwn ni’n ein brifo ein hunain er mwyn ymdopi â theimladau anodd.    

Efallai y byddwn ni’n hunan-niweidio am nifer o resymau gwahanol, ac mewn ffyrdd gwahanol. Weithiau, efallai na fyddwn ni’n sylweddoli ein bod ni wedi hunan-niweidio tan wedyn.

Dydy llawer o bobl ddim yn deall beth ydy hunan-niweidio. Oherwydd hyn, efallai y byddan nhw’n gwneud neu’n dweud pethau sy’n brifo pobl. Stigma ydy’r enw ar hyn. 

Beth am i ni edrych ar rai o’r mythau sy’n gallu arwain at stigma?

Mae’n bosib hunan-niweidio mewn nifer o ffyrdd gwahanol, er enghraifft:

  • Clwyfo, brathu, taro neu losgi ein hunain
  • Taro pethau, fel dyrnu wal
  • Gwenwyno ein hunain, er enghraifft drwy gymryd gor-ddos
  • Gwneud pethau sy’n ddrwg i’n hiechyd, fel yfed gormod o alcohol neu gael rhyw anniogel
  • Peidio â gofalu amdanon ni’n hunain, er enghraifft drwy beidio â bwyta neu ymolchi
  • Hunan-niweidio digidol

Efallai y byddwn ni’n ein brifo ein hunain mewn ffyrdd eraill hefyd. Neu efallai y byddwn ni’n ein brifo ein hunain, ond ddim yn ystyried hynny yn hunan-niweidio.

Mae deall yn well beth ydy hunan-niweidio yn gallu’n helpu ni i wybod pryd fydd angen help arnon ni.

Mae’n bosib hunan-niweidio mewn nifer o ffyrdd gwahanol. Doeddwn i ddim yn sylweddoli fy mod i’n hunan-niweidio pan oedd pethau ar eu gwaethaf.

Efallai y byddwn ni’n ein brifo ein hunain mewn ffyrdd sydd ddim yn gorfforol. Er enghraifft, drwy frifo ein teimladau neu feddwl pethau drwg amdanon ni’n hunain. Efallai na fydd pobl yn adnabod nac yn deall hunan-niweidio sydd ddim yn gorfforol yn yr un ffordd ag y byddan nhw’n deall hunan-niweidio corfforol.

Gallai hunan-niweidio sydd ddim yn gorfforol gynnwys pethau fel bod yn hunanfeirniadol, sarhau ein hunain, neu hunan-niweidio digidol.

Hunan-niweidio digidol

Hunan-niweidio digidol ydy pan fyddwn ni’n defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol a’r rhyngrwyd i’n brifo ni’n hunain. Mae hyn yn gallu cynnwys:

  •  Anfon negeseuon cas neu sarhaus aton ni’n hunain, neu amdanon ni’n hunain, ar-lein 
  • Chwilio am wrthdaro ar-lein, neu dreulio llawer o amser yng nghanol gwrthdaro
  • Chwilio am wybodaeth sy’n niweidiol i bobl fel ni, neu sy’n gwahaniaethu yn erbyn pobl fel ni
  • Ymwneud â chynnwys ar-lein, neu greu cynnwys ar-lein, sy’n hybu hunan-niweidio

Mae llawer o bobl yn credu mai dim ond merched sy’n hunan-niweidio. Efallai y bydd meddygon neu wasanaethau i bobl sy’n hunan-niweidio yn gweld merched yn amlach, ond dydy hynny ddim yn golygu mai dim ond nhw sydd angen help.

Mae unrhyw un yn gallu hunan-niweidio, a dydy rhywedd rhywun ddim yn berthnasol. Ac efallai fod mythau fel y rhain yn ei gwneud hi’n fwy anodd i ni chwilio am help. Yn enwedig os na fyddwn ni’n teimlo ein bod ni’n gallu cael help, neu os byddwn ni’n ofni y bydd pobl yn ein barnu ni neu’n ein camddeall ni.

Mae pawb o bob oed yn gallu hunan-niweidio.

Ond efallai ei bod hi’n fwy anodd deall beth ydy ystyr hunan-niweidio pan fyddwn ni’n iau. Efallai na fyddwn ni’n deall mai hunan-niweidio ydyn ni. Neu efallai na fydd gennyn ni’r geiriau i ofyn am help.

Efallai y bydd rhai ohonon ni’n cuddio ein bod ni’n hunan-niweidio, a rhai eraill ddim. Efallai na fydd ein hunan-niweidio ni’n amlwg. Neu efallai na fyddwn ni’n gwybod ein bod ni’n hunan-niweidio, hyd yn oed.

Ond mae hunan-niweidio’n gallu tynnu sylw at y ffaith bod angen help neu ryw fath o sicrwydd arnon ni.

Fe allai rhywun honni bod unigolyn yn chwilio am sylw wrth hunan-niweidio, ond fyddan nhw ddim yn deall. Neu efallai y bydd rhywun yn canolbwyntio ar beth rydyn ni’n ei wneud, yn hytrach nag ar y rhesymau y tu ôl i hynny.

Mae’r myth mai chwilio am sylw mae rhywun sy’n hunan-niweidio yn gallu gwneud y cywilydd a’r stigma yn waeth. Mae hyn yn gallu’i gwneud hi’n fwy anodd i ni ofyn am yr help rydyn ni’i angen. Ond mae llawer o opsiynau i gael help pan fydd rhywun yn hunan-niweidio.

Weithiau, efallai y byddwn ni’n rhoi cynnig ar wahanol bethau er mwyn ein cadw ni’n hunain yn ddiogel ac i’n hatal rhag hunan-niweidio. Dydy gwneud y pethau hyn ddim yn golygu ein bod ni’n chwilio am sylw chwaith.

Cofia: rwyt ti’n haeddu cael help.

Efallai y bydd rhai pobl yn credu ein bod ni’n hunan-niweidio gan ein bod ni’n copïo pobl eraill sy’n gwneud hynny. Ond mae llawer o resymau pam y gallwn ni fod yn hunan-niweidio. A dydy bod yn agos at rywun sydd wedi hunan-niweidio ddim yn golygu y byddwn ninnau’n hunan-niweidio hefyd.

Ond efallai y byddwn ni:

  • Yn dechrau gweld hunan-niweidio fel ymateb ‘normal’ neu fel ffordd o ddelio â theimladau neu brofiadau anodd.
  • Yn dysgu gan rywun arall sut i niweidio’n hunain.
  • Yn dod o hyd i ffrindiau sydd hefyd yn hunan-niweidio neu sydd â phroblemau iechyd meddwl. Gallai hyn fod oherwydd bod gennyn ni ddealltwriaeth gyffredin o bethau. Neu oherwydd ein bod ni’n poeni y bydd pobl eraill yn ein barnu.  

Am ba resymau bynnag y byddwn ni’n hunan-niweidio, mae’n bwysig iawn dod o hyd i’r help iawn. Mae gennyn ni awgrymiadau fan hyn hefyd am sut i helpu rhywun ifanc arall sy’n hunan-niweidio.  

Mae rhai ohonon ni’n hunan-niweidio unwaith ac wedyn byth yn gwneud hynny eto. Neu efallai y byddwn ni’n ein brifo ein hunain dros gyfnod hir o amser. Dim ots am ba mor hir y byddwn ni’n hunan-niweidio, nid dim ond cyfnod ydy hwn. Ac mae’n bwysig peidio â’i anwybyddu.

Fydd clywed rhywun yn dweud mai ‘dim ond cyfnod ydy o’ neu ‘rho’r gorau iddi’ ddim yn stopio’r hunan-niweidio. Efallai y bydd yn gwneud i rai ohonon ni deimlo’n waeth. Gallai hyn ein harwain i frifo ein hunain fwy fyth.

Mae angen i ni i gyd ddeall ein bod ni’n cael ein deall. A gyda’r cymorth iawn, gallwn ni ddysgu ffyrdd newydd o ymdopi â’n teimladau.

Os byddwn ni’n hunan-niweidio, dydy hynny ddim yn golygu ein bod ni’n ystyried dod â’n bywydau i ben.

Weithiau, byddwn ni’n hunan-niweidio er mwyn ymdopi â theimladau neu brofiadau anodd. Efallai ei bod hi’n teimlo mai dim ond un peth fydd yn gallu ein helpu ni ar y pryd. Ond mae pethau eraill sy’n gallu helpu, ac mae’r rhain i’w gweld yn ein hawgrymiadau am sut i ymdopi â hunan-niweidio.

Bydd rhai ohonon ni sy’n hunan-niweidio hefyd yn profi teimladau hunanladdol. Ond dydy hynny ddim wastad yn golygu ein bod ni eisiau marw.

Os wyt ti wedi dy frifo dy hun yn ddrwg, neu’n teimlo y gallet ti roi cynnig ar ladd dy hun, mae hynny’n argyfwng. Ffonia 999 yn syth bin i wneud yn siŵr dy fod ti’n cael help.

Dydy’r cyfryngau cymdeithasol a fforymau ar-lein ddim wastad yn achosi i bobl hunan-niweidio. Maen nhw’n gallu cynnig ffynonellau da o help i reoli hunan-niweidio. Er enghraifft:

  • Rhannu ffyrdd o dynnu sylw ac ymdopi
  • Rhannu pethau sydd wedi gweithio’n dda
  • Siarad gyda phobl ifanc eraill sy’n deall
  • Cael help gan sefydliadau eraill

Mae’n bwysig dod o hyd i wybodaeth ddiogel, ddibynadwy am hunan-niweidio. Fe allet ti ddefnyddio gwefannau fel Mind, Alumina neu Childline.

Ond mae’r cyfryngau cymdeithasol hefyd yn gallu creu teimladau chwithig. Efallai y bydd rhai pobl:

  • Yn rhannu lluniau o hunan-niweidio
  • Yn postio disgrifiadau manwl o hunan-niweidio
  • Yn annog pobl eraill i hunan-niweidio drwy gymharu neu ‘gystadlaethau’
  • Yn bwlio pobl eraill ar-lein

Efallai hefyd y byddwn ni’n hunan-niweidio’n ddigidol.

Os byddi di’n dod ar draws cynnwys fel hyn sy’n creu sbardun i ti, mae modd ei flocio a chuddio’r pethau rwyt ti’n gallu’u gweld ar y cyfryngau cymdeithasol.  

Fe alli di roi gwybod am bobl rwyt ti’n pryderu yn eu cylch, neu sy’n ymddangos fel pe baen nhw’n ceisio gwneud i bobl eraill deimlo’n waeth. Efallai mai defnyddiol hefyd fydd y canllawiau ar gyfer rhoi gwybod am hunan-niweidio ar wefan Internet Matters.

Paid â mynd i dyrchu’n ddi-baid wrth chwilio am hunan-niweidio ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae’n achosi mwy o ddrwg nag o dda.

Efallai na fyddwn ni’n hunain yn gwybod ein bod ni’n hunan-niweidio, hyd yn oed. Neu efallai y byddwn ni’n hunan-niweidio mewn ffyrdd dydy pobl eraill ddim yn gallu’u gweld, neu mewn ffyrdd sydd ddim yn gadael creithiau nac anafiadau. Neu efallai ein bod ni’n cuddio ein bod ni’n hunan-niweidio.

Efallai y byddwn ni’n ei guddio gan ein bod ni’n teimlo cywilydd neu’n poeni sut bydd pobl eraill yn ymateb. Neu gan nad ydyn ni eisiau teimlo yn faich ar bobl.

Efallai hefyd na fyddwn ni’n adnabod ein hunan-niweidio ein hunain. Fe allai hyn ymddangos fel rhywbeth eraill – er enghraifft, ein hymddygiad pan fyddwn ni’n ddig. Felly efallai y bydd yn cymryd mwy o amser i rywun arall sylwi, neu i ni fynd i chwilio am help.

Mae hunan-niweidio’n gallu edrych yn wahanol i ni i gyd. Weithiau, efallai y byddwn ni’n ein cymharu ein hunain â phobl eraill ac yn teimlo nad ydy ein sefyllfa’n ddigon difrifol i ofyn am help.

Does dim angen i ni deimlo cywilydd ein bod ni’n hunan-niweidio. Mae sgwrsio am bethau’n gallu helpu.

Mae hunan-niweidio’n gallu bod yn gysylltiedig â gwahanol fathau o broblemau iechyd meddwl. Ond os ydyn ni’n hunan-niweidio, dydy hynny ddim wastad yn golygu bod gennyn ni broblem iechyd meddwl fel iselder.

Os oes gen ti broblem iechyd meddwl neu beidio, mae hi wastad yn bosib cael help os wyt ti’n hunan-niweidio.

Cofia: mae iechyd meddwl yn golygu sut byddwn ni’n meddwl, yn teimlo ac yn gweithredu. Mae’n bwysig gofalu am ein hiechyd meddwl, os oes gennyn ni broblem iechyd meddwl neu beidio.

Gyda’r help iawn, fe allwn ni hunan-niweidio llai, ac wedyn roi’r gorau i hunan-niweidio yn llwyr.

Ond efallai na fydd hyn wastad yn hawdd. Proses ydy gwella o hunan-niweidio, ac mae’n gallu bod yn broses wahanol i bawb ohonon ni.

I rai ohonon ni, efallai y bydd gwella’n golygu rheoli’r ysfa i hunan-niweidio, neu ddod o hyd i ffyrdd newydd o ymdopi. I bobl eraill, efallai y bydd yn golygu dod o hyd i lefydd diogel i sgwrsio am sut rydyn ni’n teimlo. Dydy gwella ddim wastad yn golygu hunan-niweidio llai neu roi’r gorau’n llwyr i hunan-niweidio.

Weithiau, efallai y byddwn ni’n dod ar draws heriau yn y broses, ac mae hynny’n iawn. Mae hyn yn golygu dysgu beth sy’n ein helpu ni, a beth sydd ddim yn ein helpu ni.

Pam fyddwn i eisiau hunan-niweidio?

Efallai y byddwn ni’n hunan-niweidio am resymau gwahanol iawn i’n gilydd.

Efallai y byddwn ni’n hunan-niweidio i ddelio â rhywbeth anodd yn ein bywydau. Neu fel ffordd o ymdopi â theimladau sy’n ein llethu ni. Weithiau, efallai na fyddwn ni’n gwybod pam ein bod ni wedi ein brifo ein hunain.

Efallai y bydd rhai ohonon ni’n hunan-niweidio unwaith ac wedyn yn rhoi cynnig ar ffyrdd eraill o ymdopi. Ond efallai y bydd rhai ohonon ni’n teimlo ei fod yn helpu, felly byddwn ni’n dechrau dibynnu arno.

Dyma rai rhesymau posib pam y gallen ni hunan-niweidio:

  • Byw gyda phroblemau iechyd – fel problemau iechyd meddwl neu iechyd corfforol, neu brofiadau sy’n gysylltiedig ag iechyd meddwl gwael, fel dicter neu glywed lleisiau.
  • Teimlo’n unig neu’n ynysig – er enghraifft, os byddwn ni’n symud i ardal newydd, neu os byddwn ni heb ffrindiau.
  • Profiadau poenus neu brofiadau sy’n achosi straen – fel problemau mewn perthynas, problemau tai, problemau yn yr ysgol, y coleg neu’r gwaith, neu broblemau ariannol.
  • Bwlio – fel cael dy fwlio, bwlio rywun arall, neu’r ddau.
  • Cael dy gam-drin neu brofi gwahaniaethu – er enghraifft, oherwydd ein rhywioldeb, ein hil neu’n hunaniaeth rhywedd.  
  • Pethau’n mynnu dod i’r meddwl – meddyliau ydy’r rhain sy’n dychwelyd o hyd i’n meddyliau pan na fyddwn ni eisiau iddyn nhw wneud hynny.
  • Pan na fyddwn ni’n hoffi sut rydyn ni’n meddwl amdanon ni’n hunain – er enghraifft, diffyg hunan-barch neu bryderon am ddelwedd y corff. Neu pan fyddwn ni’n teimlo’n ansicr am ein hunaniaeth, fel ein rhywedd, ein rhywioldeb, ein hil neu’n crefydd.
  • Teimlo nad ydy pobl yn ein deall niefallai na fyddwn ni’n gwybod sut rydyn ni’n teimlo, neu ddim yn gallu dweud wrth bobl eraill sut rydyn ni’n teimlo.
  • Problemau cysgu – os byddwn ni’n cael trafferth cysgu, mae’n gallu effeithio ar ein lles ni. Mae mwy o wybodaeth yn ein tudalen am gysgu ac iechyd meddwl.
  • Teimlo nad ydyn ni’n cael ein derbyn am bwy ydyn ni, ac nad ydy pobl o’n cwmpas ni yn gefn i ni.
  • Defnyddio alcohol neu gyffuriau – efallai y byddwn ni’n defnyddio’r rhain i geisio ymdopi. Ond efallai mai dim ond yn y tymor byr y bydd hyn yn helpu, ac fe allai wneud pethau’n fwy anodd i ni yn y tymor hir. Efallai y byddwn ni’n hunan-niweidio yr un pryd ag y byddwn ni’n defnyddio cyffuriau neu alcohol.  
  • Teimlo’n ansicr sut byddi di’n ymdopi fel arall, neu i ddangos dy fod ti angen help – er enghraifft, os bydd pobl eraill o dy gwmpas di’n hunan-niweidio, efallai y byddi di’n teimlo bod hyn yn ffordd o ymdopi. Neu efallai y byddi di’n teimlo bod angen i ti hunan-niweidio i ddangos beth rwyt ti’n ei wynebu.
  • Bod yn fympwyol – mae hyn yn golygu gwneud pethau heb feddwl beth allai ddigwydd.

Efallai ein bod ni’n ei chael hi’n fwy anodd ymdopi â’r profiadau hyn, neu’n ei chael hi’n anodd deall sut rydyn ni’n teimlo. Efallai y bydd hyn gan ein bod ni’n niwroamrywiol, er enghraifft os byddwn ni’n awtistig neu os bydd gennyn ni ADHD. Neu efallai gan ein bod ni wedi cael trawma. Ond fe allai fod rhesymau eraill hefyd.

Wrth dyfu i fyny fel merch awtistig, oedd heb gael diagnosis, roeddwn i’n dibynnu ar hunan-niweidio. Dyna sut roeddwn i’n rheoli pethau mewn byd nad oeddwn i’n ei ddeall nac yn gallu ymdopi’n dda ynddo – Rose, 16

Ar ôl i fy mam farw, es i le tywyll iawn a doeddwn i ddim yn teimlo bod ffordd allan oni bai fy mod i’n hunan-niweidio – Reggie, 15

Dywedodd rhai pobl ifanc eu bod nhw’n hunan-niweidio oherwydd eu bod nhw’n ceisio:

  • Dangos sut maen nhw’n teimlo heb siarad
  • Tynnu eu sylw eu hunain oddi wrth y ffordd roedden nhw’n teimlo
  • Ymdopi â theimladau, meddyliau neu atgofion poenus, neu ddianc rhagddyn nhw
  • Teimlo mewn mwy o reolaeth
  • Eu cosbi eu hunain am rywbeth
  • Osgoi teimlo eu bod nhw wedi datgysylltu â’r byd, neu wedi datgysylltu â’u hunain
  • Creu rheswm i ofalu amdanyn nhw’u hunain, er enghraifft drwy ofalu am glwyfau
  • Rheoli meddyliau am hunanladdiad

Beth ydy sbardunau? 

Efallai y bydd rhai meddyliau, teimladau a phrofiadau yn rhoi’r ysfa i ni hunan-niweidio eto. Sbardunau ydy’r enw ar y rhain. Mae ein sbardunau ni i gyd yn wahanol. Ond mae deall ein sbardunau ni, a’n rhesymau ni dros hunan-niweidio, yn gallu ein helpu i ddod o hyd i ffyrdd o gadw’n ddiogel. Mae cynllun diogelwch yn gallu bod yn lle defnyddiol i wneud nodyn o’r rhain.

Rydw i’n helpu rhywun arall sy’n hunan-niweidio

Os wyt ti’n ceisio helpu rhywun ifanc arall, mae gennyn ni gyngor a syniadau i ti.

Gan amlaf, teimlo straen oedd y rheswm, a’r awydd i gael gwared ar y straen yna. Ond peth tymor byr oedd hyn, oherwydd doeddwn i ddim yn delio ag achos gwaelodol y straen. Fe ddaeth hwnnw yn ôl, felly roeddwn i’n teimlo fy mod i’n sownd mewn cylch – Carys, 18

decorative

Os nad wyt ti’n deall pam dy fod ti’n hunan-niweidio, mae hynny’n iawn. Dwyt ti ddim ar dy ben dy hun, ac fe alli di gael help o hyd.

 

Hunan-niweidio a gwahaniaethu

Mae gwahaniaethu’n gallu cael effaith anferth ar ein hiechyd meddwl ac ar yr help rydyn ni’n ei gael. Os byddwn ni’n profi gwahaniaethu, fe allai hyn hefyd ein gwneud ni’n fwy tebygol o hunan-niweidio.

Efallai na fyddwn ni’n teimlo ei bod hi’n ddiogel siarad yn agored am sut rydyn ni’n teimlo. Mae hynny’n enwedig os ydy’r gwahaniaethu’n gysylltiedig â rhannau o’n hunaniaeth ni, fel ein hil, ein crefydd, ein diwylliant, ein rhywedd neu’n rhywioldeb.

Ac efallai na fyddwn ni wastad yn cael y cymorth rydyn ni’i angen gan y bobl o’n cwmpas ni, neu gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol. Efallai y byddwn ni’n gweld nad ydy pobl yn ein credu ni neu’n ein deall ni. Neu nad ydy’r help yn gynhwysol, neu’n addas i’n hanghenion ni. Fe allai hyn ei gwneud hi’n fwy anodd i ni dderbyn yr help sydd ar gael.

Efallai y byddwn ni’n poeni am gael ein barnu neu gael ein trin yn wahanol. Efallai y byddwn ni wedi wynebu stigma wrth ofyn am help, neu’n gwybod am bobl debyg i ni sydd wedi profi hyn. Efallai fod hyn yn golygu mai dim ond pan fydd pethau’n teimlo’n ddrwg iawn y byddwn ni’n gofyn am help. Neu efallai na fyddwn ni’n gofyn am help o gwbl.

Dydy gwahaniaethu byth yn iawn – ddylai neb ohonon ni orfod dygymod â hyn. Rwyt ti’n haeddu cael help.

Os wyt ti wedi profi gwahaniaethu, naill ai ar-lein neu wyneb yn wyneb, fe alli di wneud un o’r pethau hyn:

Mae gwahaniaethu a thriniaeth annheg yn gallu effeithio ar ein hunan-barch – mae’n bwysig dod o hyd i ffyrdd o ofalu amdanon ni’n hunain.

Sut ydw i'n dweud wrth rywyn fy mod i wedi hunan-niweidio?

Mae hunan-niweidio’n gallu creu emosiynau chwithig, fel cywilydd neu euogrwydd. Ac mae hyn yn gallu’i gwneud hi’n anodd i ni ofyn am help.

Ceisia ddweud wrth rywun rwyt ti’n ymddiried ynddo cyn gynted ag rwyt ti’n barod i gael sgwrs. Gallai’r unigolyn hwn fod yn rhywun rwyt ti’n ei adnabod, fel rhiant, gofalwr, gwarcheidwad, ffrind, neu bartner. Neu’n weithiwr proffesiynol fel athro, meddyg, gweithiwr cymdeithasol neu gwnselydd.

Os nad oes gen ti le diogel i fynd iddo, neu neb rwyt ti’n ymddiried ynddo, mae ein tudalen sy’n rhestru cysylltiadau defnyddiol yn cynnwys sefydliadau a gwasanaethau a fydd yn gallu dy helpu.

Neu fe alli di gysylltu â phobl ifanc eraill ar-lein sydd o bosib yn cael profiadau tebyg, neu fynd i fforymau fel The Mix neu Childline.

Cofia: does dim rhaid i ti wynebu hyn ar dy ben dy hun.

Ar ôl i mi sylweddoli fy mod i’n hunan-niweidio, roedd cael help yn anodd iawn; doeddwn i ddim yn gwybod gyda phwy i siarad, na sut i roi popeth roeddwn i’n ei deimlo mewn geiriau; roedd y cyfan yn ormod – Cal, 14

Cyn dweud wrth rywun dy fod ti wedi hunan-niweidio

Cyn siarad gyda rhywun, fe allet ti:

  • Ysgrifennu ar bapur sut rwyt ti’n teimlo. Fe allet ti wneud hyn pan fyddi di’n teimlo’n dawel dy feddwl, neu’n syth cyn neu ar ôl i ti hunan-niweidio.
  • Cer ati i ymarfer beth rwyt ti eisiau’i ddweud. Meddylia am beth rwyt ti’n gyfforddus yn ei rannu. Fe alli di hefyd siarad yn gyfrinachol gyda Childline neu The Mix i ddechrau.
  • Meddylia am y bobl gefnogol y gallet ti fod eisiau siarad gyda nhw. Os nad wyt ti’n teimlo bod gen ti neb y galli di fod yn agored gyda nhw, mae sefydliadau a gwasanaethau dibynadwy ar ein rhestr o gysylltiadau defnyddiol.
  • Meddylia am beth rwyt ti eisiau’i ddweud wrthyn nhw. Fe allet ti siarad wyneb yn wyneb, dros y ffôn, neu drwy neges destun. Neu fe allet ti ysgrifennu llythyr. Fe allet ti hefyd ddweud wrthyn nhw tra bod chi’n gwneud rhywbeth gyda’ch gilydd.
  • Trefna i wneud rhywbeth braf wedyn. Dydy dweud wrth rywun ddim yn hawdd, ac efallai y byddwn ni’n teimlo’n ofnus, yn llawn straen, neu’n bryderus iawn. Ond mae’n rhywbeth i fod yn falch ohono.

Mae diffyg hunan-barch yn gallu gwneud i ni deimlo ein bod ni’n faich ar bobl eraill. Dydy hyn ddim yn wir. Ond mae’n gallu’i gwneud hi’n fwy anodd sgwrsio. Os wyt ti’n teimlo fel hyn, rho gynnig ar ein hawgrymiadau i wella dy hyder a dy hunan-barch

Rhagor o wybodaeth am siarad ag eraill

Mae ein gwybodaeth am fod yn agored yn cynnwys mwy o awgrymiadau am sut i siarad gyda phobl eraill. Mae gennyn ni wybodaeth hefyd am siarad gyda dy feddyg.

Dechrau'r sgwrs

Os wyt ti’n teimlo’n barod i sgwrsio, fe allet ti feddwl am sut i ddechrau’r sgwrs. Does dim ffordd gywir nac anghywir o wneud hyn. Ond dyma rai pethau y gallet ti’u dweud:

  •  ‘Mae’n anodd i mi siarad am hyn, ond dwi angen dweud rhywbeth.’
  •  ‘Dwi angen i ti fod yn gefn i fi, gawn ni siarad?’
  •  ‘Dwi wedi bod yn hunan-niweidio achos fy mod i’n teimlo...’

Siarad am hunan-niweidio

Wrth siarad am hunan-niweidio, fel allet ti wneud y pethau hyn:

  • Gofyn i rywun rwyt ti’n ymddiried ynddo i dy helpu i esbonio – neu ddweud wrth rywun ar dy ran, os ydy’r unigolyn hwnnw’n teimlo’i fod yn gallu.
  • Esbonio beth fyddet ti’n hoffi i’r unigolyn ei wneudgwrando neu dy gynorthwyo i ddod o hyd i help?
  • Dyweda beth rwyt ti’n teimlo’n gyfforddus yn ei ddweud yn unig – dyweda gymaint ag y galli di, a dyna ni.
  • Cymera saib os bydd angenmae hi wastad yn bosib parhau â’r sgwrs ryw dro eto os ydy hynny’n teimlo’n iawn.
  • Sonia am gyfrinacheddos bydd yr unigolyn arall yn pryderu am dy ddiogelwch di neu ddiogelwch rhywun arall, bydd angen iddo ddweud wrth rywun. Fe alli di ofyn iddo roi gwybod i ti os bydd angen gwneud hyn.

Yn y pen draw, fe ddywedais i wrth fy rhieni, oedd yn gefn i mi’n syth. Fe wnaethon nhw fy helpu i gael cwnsela, lle roedd modd i mi siarad am fy rhesymau dros hunan-niweidio, a’r teimladau y tu ôl i hynny – Carys, 18

Beth os na fyddan nhw'n deall?

Yn ôl rhai pobl ifanc a siaradodd gyda ni, doedd pobl eraill ddim wastad yn deall beth roedden nhw wedi’i ddweud, neu ddim eisiau credu hynny. Efallai na fyddan nhw eisiau deall beth ydy hunan-niweidio, neu efallai na fyddan nhw’n gallu gwneud hynny ar y funud. Neu efallai y byddan nhw wedi cael gormod o sioc, neu fod y peth yn rhy boenus.

Cofia: dim dy fai di ydy hyn, a bydd rhywun ar gael i dy helpu.

Os byddi di’n profi hyn, ceisia beidio â rhoi’r ffidl yn y to, na chymryd y peth yn bersonol. Efallai y bydd angen mwy o amser arnyn nhw. Dyma rai awgrymiadau:

  • Bydd yn onest ynghylch pam rwyt ti’n dweud wrthyn nhwrho wybod iddyn nhw dy fod ti’n ymddiried ynddyn nhw i dy helpu di.
  • Ceisia ddeall sut gallen nhw fod yn teimloefallai y byddan nhw’n teimlo’n rhwystredig, wedi’u llethu, neu’n ddryslyd. Fe allet ti geisio siarad gyda nhw eto ryw adeg arall. Neu fe allet ti geisio siarad gyda rhywun arall yn lle hynny.
  • Rhanna wybodaeth â nhw – weithiau, fydd pobl ddim yn ymateb mewn ffordd dda oherwydd nad ydyn nhw’n deall neu’n gwybod sut i helpu. Fe allai rhannu gwybodaeth, fel y wybodaeth sydd ar y dudalen hon, eu helpu nhw i ddeall beth rwyt ti’n ei wynebu.
  • Ceisia siarad gyda nhw mewn ffordd wahanolallet ti ysgrifennu llythyr neu dynnu llun i ddangos sut rwyt ti’n teimlo? Alli di feddwl am rywun arall rwyt ti’n ymddiried ynddo a allai dy helpu di i siarad gyda nhw?

Weithiau, fydd pobl ddim yn ymateb mewn ffordd dda. Fe ddylet ti fod yn falch dy fod ti wedi ceisio gofyn am help.

Fydd rhai pobl ddim yn deall – ond eu barn nhw fydd hynny, a dim dyna’r gwir. Os bydd hynny’n digwydd, dim dy fai fydd hyn. Nhw sy’n anghywir.

decorative

Cofia: rwyt ti’n haeddu cael help. Oes yna oedolyn dibynadwy arall ar gael, tybed?

I gael rhagor o wybodaeth a syniadau, cer i’n tudalen am ddod o hyd i help.

Hunan-niweidio a chreithiau

Fydd gan bawb sy’n hunan-niweidio ddim creithiau, oherwydd mae hunan-niweidio’n gallu bod yn wahanol i bawb ohonon ni. Ond bydd gan rai ohonon ni greithiau.

Os bydd gennyn ni greithiau ar ôl hunan-niweidio, efallai y byddan nhw’n pylu. Ac efallai y byddwn ni’n teimlo cyfuniad o bethau am hyn.

Efallai y byddwn ni’n cymharu ein hunain â phobl eraill, a’r creithiau a’r anafiadau sydd ganddyn nhw. Gall hyn greu sbardunau. Neu efallai y bydd hyn yn gwneud i ti deimlo nad ydy dy brofiadau di’n bwysig.  Ond mae’n bwysig cofio ein bod ni i gyd yn wahanol, ac rydyn ni i gyd yn haeddu cael help.

Mae gennyn ni ragor o wybodaeth am ymdopi â chreithiau.

Anafiadau wrth hunan-niweidio

Os wyt ti’n poeni am anaf neu am dy iechyd, siarada gyda dy feddyg neu gofynna i oedolyn dibynadwy ofyn am gymorth meddygol i ti.

Os na alli di weld meddyg neu nyrs yn syth, ffonia GIG 111 neu 999 os yw’n argyfwng.

Mae’n bwysig gofalu am anafiadau wrth hunan-niweidio, er mwyn iddyn nhw beidio â dy wneud di’n sâl. I gael mwy o wybodaeth, cer i’r dudalen sy’n rhoi help pan fyddi di wedi anafu dy hun.

Os wyt ti’n teimlo bod pobl eraill yn dioddef mwy na ti, dydy hynny ddim yn gwneud dy boen di’n llai pwysig, nac yn llai poenus i ti – Leigh, 18

Beth ydy llithro yn ôl i hen arferion?

Pan fydd tipyn o amser wedi mynd heibio ers i ni hunan-niweidio, ond ninnau wedyn yn ailddechrau, fe allwn ni alw hyn yn ‘lithro yn ôl i hen arferion’.

Does dim angen bod â chywilydd o hyn. Fe allwn ni i gyd ddod o hyd i ffyrdd o ymdopi eto.

Efallai y byddwn ni’n llithro yn ôl oherwydd ein bod ni:

  • Yn teimlo emosiwn cryf iawn, fel tristwch, straen neu ddicter
  • Yn wynebu sefyllfa anodd, fel straen arholiad neu broblemau mewn perthynas. 
  • Yn profi trawma, sy’n golygu ymateb i rywbeth anodd, brawychus neu boenus sydd wedi digwydd i ni. 
  • Yn teimlo wedi ein brifo neu’n sâl.

Efallai y byddwn ni’n llithro yn ôl am resymau eraill. Neu efallai na fyddwn ni’n gwybod pam ein bod ni wedi llithro yn ôl. Ac mae hynny’n iawn. Mae gennyn ni ragor o awgrymiadau i dy helpu i ymdopi os byddi di’n llithro yn ôl.

Sut i ymdopi â hunan-niweidio

Gydag amser ac ymarfer, fe alli di ddod o hyd i wahanol ffyrdd o ymdopi â dy deimladau.

Mae gennyn ni lawer o awgrymiadau i helpu i dynnu dy sylw oddi ar bethau, i wneud pethau eraill yn lle hunan-niweidio, ac i oedi cyn hunan-niweidio. Mae gennyn ni hefyd awgrymiadau am bethau a allai dy helpu yn y dyfodol. 

Angen help i ymdopi â hunan-niweidio?

Mae gennyn ni awgrymiadau manwl am sut i ymdopi ag ysfeydd, yn ogystal â gwybodaeth am ble i gael triniaeth a help.

Cafodd y wybodaeth hon ei chyhoeddi ym mis Mehefin 2025. Byddwn yn ei diwygio ym mis Mehefin 2028. 

Mae’r bobl ifanc wedi cytuno i’w geiriau ymddangos ar y dudalen hon. Dydy eu profiadau ddim yn gysylltiedig â’r bobl sy’n ymddangos yn y lluniau.

Mae cyfeiriadau ar gael ar gais. Os ydych am atgynhyrchu'r cynnwys hwn, gweler ein tudalen caniatâd a thrwyddedu.

PIF Tick quality mark logo for trusted information creators

Am ragor o wybodaeth

arrow_upwardYn ôl i'r brig