Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Dydy hi byth yn rhy hwyr i ofyn am help

Dydd Gwener, 01 Medi 2023 Jasmine

Mae Jasmine yn blogio am sut mae Mind wedi ei chefnogi hi a'i mam gyda'u hiechyd meddwl.

Mae hi'n gweithredu ar Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd eleni trwy rannu ei stori. Mae hi'n blogio am sut mae Mind wedi cefnogi hi a'i mam gyda'u hiechyd meddwl.

Mae ein hymgyrch Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd yn ymwneud â sut mae dim ond dechrau'r daith yw ymwybyddiaeth, ac mae bellach yn bryd gweithredu. Boed hynny'n rhannu'ch stori i helpu eraill fel mae Jasmine wedi'i wneud neu'n gwneud rhywbeth hollol wahanol.

Sut bynnag rydych chi'n cymryd rhan, byddwch yn helpu i frwydro dros iechyd meddwl. Dysgwch fwy am sut i gymryd rhan yma.

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Gymraeg. This link will take you to a Welsh translation of this page.

Mae Mind wastad wedi bod yno i mi a fy nheulu cyn belled ag y gallaf gofio. Cafodd fy mam ddiagnosis o sgitsoffrenia pan oeddwn yn blentyn, ac roedd angen llawer iawn o help arna i gyda phroblemau efo tai, ymysg pethau eraill. Dim ond yn fy arddegau oeddwn i, felly doeddwn i ddim yn gallu gofalu amdani. Ond, roedd yna elusennau fel Mind yno i fy helpu.

“Roedd fy mam i mewn ac allan o ysbytai seiciatrig. Tra byddai hi yn yr ysbyty, byddwn i’n cael fy rhoi mewn gwahanol gartrefi maeth.”

Roedd fy mam i mewn ac allan o ysbytai seiciatrig, a byddai’r heddlu’n defnyddio’r Ddeddf Iechyd Meddwl i’w chadw hi yno. Tra byddai hi yn yr ysbyty, byddwn i’n cael cymorth gan y gwasanaethau cymdeithasol a oedd yn fy rhoi i mewn gwahanol gartrefi maeth. Roedd yn rhaid i mi cael tynnu’r rhan fwyaf o fy nannedd oherwydd eu bod nhw wedi pydru.

Ar ddechrau’r 80au, cefais fy nhynnu oddi ar fy mam gan y gwasanaethau cymdeithasol a fy rhoi mewn cartref plant, cyn imi fynd i fyw gyda Nain (mam fy mam) yng Nghernyw yn 1985. Rydw i’n greadigol iawn, ac wedi bod yn gwneud lluniau ers pan oeddwn i’n ddim o beth. Doeddwn i ddim yn gallu darllen nac ysgrifennu’n iawn nes i mi symud i fyw at fy Nain, a fuodd yn fy nysgu i dros gyfnod o bum mlynedd.

Rheoli fy nhrawma

Yn 1990, ar ôl ennill cystadleuaeth gelf genedlaethol, fe wnes i adael cartref yn 16 oed i fynd i Brifysgol Falmouth. Yn anffodus, troais at alcohol a chyffuriau er mwyn ceisio rheoli fy nhrawma. Dyma pryd y dechreuodd fy nibyniaeth, a arweiniodd at gyflyrau fel anhwylder gorbryder ac iselder – sydd bellach wedi’i ddiagnosio fel PTSD Cymhleth.

O ran fy mam, cafodd hi ei rhoi mewn cartref gofal gwych ddiwedd y 1990au. Yn anffodus, cafodd strôc y llynedd, ac mae bellach wedi colli'r gallu i gyfathrebu a chodi o’r gwely. Roedd Mam yn gwadu’r ffaith ei bod yn dioddef o salwch meddwl am flynyddoedd lawer, ac mae’n bosibl y byddai hi wedi cael bywyd gwell pe bai hi wedi gallu derbyn hynny, a gofyn am help. Roeddwn i yn yr un cwch â hi am flynyddoedd ond, rydw i nawr yn fy 40au, a does gen i ddim cywilydd o fy salwch, ac rydw i’n cael help gan MIND a’r elusen ‘CARA’. Rydw i hefyd yn cymryd meddyginiaeth ac wedi newid fy ffordd o fyw.

“Roeddwn i’n dioddef o byliau o banig difrifol, ac rydw i’n meddwl mai dyna oedd ffordd fy nghorff o ddweud wrtha i fod angen i mi brosesu’r trawma.”

Mae’n debyg mai pan wnaeth fy ngŵr a minnau benderfynu trio am fabi oedd y tro cyntaf i mi fynd i’r afael â fy mhroblemau. Roeddwn i yn fy 30au, a dysgais am therapi gwybyddol ymddygiadol (CBT) ar wefan Mind. Roeddwn i’n dioddef o byliau o banig difrifol, ac rydw i’n meddwl mai dyna oedd ffordd fy nghorff o ddweud wrtha i fod angen i mi brosesu’r trawma. Fe wnaeth y therapi fy helpu i reoli fy mhyliau o banig, er fy mod yn dal i ddioddef ohonyn nhw hyd heddiw. Yn ogystal â’r therapi, rydw i wedi rhoi cynnig ar dechneg o’r enw ‘tapio’, yn ogystal ag EMDR (Dadsensiteiddio ac Ailbrosesu Symudiad y Llygaid), crefft ymladd, ioga, ac ymarferion anadlu. 

Mae ymwybyddiaeth ofalgar, myfyrdod, hypnosis (i newid fy llwybrau niwral), a bod yng nghanol byd natur hefyd yn rhannau allweddol o fy nghynllun rheoli. Mae’n bosibl mai’r peth pwysicaf i mi oedd therapi perthynol. Roeddwn i’n ffodus iawn o gael cefnogaeth seicolegydd gwych, a wnaeth fy helpu i weld pethau mewn ffordd fwy cadarnhaol.

Roeddwn i’n gwrthod siarad â neb am fy mhroblemau am amser hir, ond rydw i bellach wedi dechrau siarad gyda phobl am fy iechyd meddwl. Rydw i wedi dweud wrth fy nghyflogwyr yn ddiweddar fy mod i’n cael trafferth, ac maen nhw wedi bod yn barod iawn eu cymwynas. Rydw i’n gweithio gartref ym maes gwasanaethau i gwsmeriaid, ond rydw i’n absennol o’r gwaith tra fy mod i’n dygymod â’r gamdriniaeth roeddwn i’n ei hwynebu yn ystod fy mhlentyndod. Mae’n anodd, ond rydw i’n teimlo mai dyma’r rhwystr olaf y mae angen i mi ei wynebu. Rydw i wedi dysgu nad yw hi byth yn rhy hwyr i ddechrau’r broses wella, ac mae’r daith yn un hir.

Mae Mind yno i helpu

Rydw i bob amser yn defnyddio gwefan Mind i wirio fy symptomau, dysgu am wahanol therapïau, a darllen straeon pobl eraill. Mae Mind wedi bod gyda mi am gymaint o amser nes fy mod i’n teimlo ei bod hi’n amser i mi roi rhywbeth yn ôl. Rydw i’n rhoi arian pan fyddai’n gallu, ac rydw i’n siopa yn siopau elusen Mind hefyd. Rydw i wedi creu llyfr comic a’i roi i Mind. Mae’n rhoi hyder i mi adrodd fy stori, a gobeithio y bydd yn ffordd o helpu pobl eraill hefyd. Rydw i’n meddwl ei bod hi’n bwysig estyn allan at bobl ifanc yn eu harddegau sy’n cael trafferth, a rhoi gwybod iddyn nhw bod popeth yn iawn a bod help ar gael iddyn nhw. Fe wnes i geisio delio â'r sefyllfa ar fy mhen fy hun, a methu. Rydw i eisiau iddyn nhw wybod bod Mind yno i’w helpu, ac os ydyn nhw’n gallu wynebu eu problemau’n gynnar, efallai na fyddan nhw’n dioddef am gymaint o amser â fi.

Rydw i’n poeni bod iechyd meddwl yn cael ei etifeddu, gan fy mod i’n ymwybodol bod fy nain wedi dioddef ohono hefyd, yn ogystal â fy mam. Mae fy merch yn 12 oed ac mae hi wedi gorfod bod yn ofalwr ifanc a fy helpu i pan rydw i’n cael pyliau o banig. Rydw i wedi dweud wrthi, unwaith y byddwn ni’n gweld arwydd o broblem iechyd meddwl, y byddwn ni’n gofyn am gymorth ar unwaith. Rydw i’n benderfynol o dorri’r gadwyn, a rydw i’n gwybod y bydd Mind yn fy helpu i wneud hynny.

If the blog has signposts put them here.

 

Related Topics

Information and support

When you’re living with a mental health problem, or supporting someone who is, having access to the right information - about a condition, treatment options, or practical issues - is vital. Visit our information pages to find out more.

 

Share your story with others

Blogs and stories can show that people with mental health problems are cared about, understood and listened to. We can use it to challenge the status quo and change attitudes.

arrow_upwardYn ôl i'r brig