Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Hunan-niweidio

Yn egluro hunan-niweidio, gan gynnwys achosion posibl a sut y gallwch gael triniaeth a chefnogaeth. Yn cynnwys awgrymiadau ar gyfer helpu eich hun, a chanllawiau ar gyfer ffrindiau a theulu.

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Gymraeg. This link will take you to a Welsh translation of this page.

Beth yw hunan-niweidio?

Mae hunan-niweidio yn golygu eich bod yn brifo eich hun fel ffordd o ddelio gyda theimladau anodd iawn, atgofion poenus neu sefyllfaoedd a phrofiadau sy’n eich llethu. Mae rhai pobl wedi disgrifio hunan-niweidio fel ffordd o:

  • fynegi rhywbeth sy’n anodd ei roi mewn geiriau
  • troi meddyliau neu deimladau anweledig yn rhywbeth gweladwy
  • newid poen emosiynol yn boen gorfforol
  • lleihau teimladau neu feddyliau emosiynol sy’n eich llethu
  • teimlo eich bod yn cael pethau dan reolaeth
  • dianc rhag atgofion trawmatig
  • cael rhywbeth mewn bywyd y gallwch chi ddibynnu arno
  • cosbi eich hun am eich teimladau a’ch profiadau
  • stopio teimlo nad ydych yn gallu dangos unrhyw emosiynau, eich bod wedi colli cysylltiad â phethau neu wedi eich datgysylltu (gweler datgysylltiad ac anhwylderau datgysylltiol)
  • creu rheswm i ofalu’n gorfforol amdanoch eich hun
  • mynegi meddyliau a theimladau hunanladdol heb ladd eich hun.

Ar ôl hunan-niweidio efallai y byddwch yn teimlo rhywfaint o ryddhad yn y tymor byr, ond nid yw achos eich gofid yn debygol o fod wedi mynd i ffwrdd. Gall hunan-niweidio hefyd arwain at emosiynau anodd iawn a gallai wneud i chi deimlo’n waeth.

Er bod rhesymau bob amser y tu ôl i achosion lle mae pobl yn niweidio eu hunain, mae’n bwysig gwybod bod risgiau yn gysylltiedig â hunan-niweidio. Ar ôl i chi ddechrau dibynnu ar hunan-niweidio, gall gymryd amser maith i stopio.

Close up of Seaneen looking at camera

Mae fy nghorff yn rhoi rhybudd bod pethau ddim yn iawn

Doeddwn i ddim yn gwybod am ffordd arall o ymdopi. Doeddwn i ddim yn hoffi fy hun.

Siarad am hunan-niweidio

Gwyliwch Ben, Lechelle, Debbie a Zainab yn siarad am y rhesymau sydd y tu ôl i’w hunan-niweidio, y gwahanol ffyrdd y maen nhw wedi dysgu ymdopi a sut maen nhw’n meddwl y gallai ffrindiau a theulu fod wedi eu cefnogi.

Sut mae pobl yn hunan-niweidio?

Mae llawer o wahanol fathau o hunan-niweidio. Mae rhai pobl yn defnyddio’r un dull bob tro, tra mae pobl eraill yn brifo eu hunain mewn gwahanol ffyrdd ar adegau gwahanol.

Rhybudd: gall darllen gwybodaeth ynglŷn â sut i hunan-niweidio achosi gofid a gallai fod yn ffactor sy’n gwneud i rywun hunan-niweidio. Os ydych yn teimlo’n agored i niwed ar hyn o bryd, efallai na fyddwch eisiau darllen yr wybodaeth isod.

 

Gall y ffyrdd y mae pobl yn hunan-niweidio gynnwys:

  • torri eich hun
  • gwenwyno eich hun
  • gorfwyta neu danfwyta
  • gwneud gormod o ymarfer corff
  • brathu eich hun
  • pigo neu grafu eich croen
  • llosgi eich croen
  • rhoi gwrthrychau i mewn yn eich corff
  • taro eich hun neu daro waliau
  • camddefnyddio alcohol, cyffuriau ar bresgripsiwn a chyffuriau hamdden
  • tynnu eich gwallt
  • cael rhyw anniogel
  • gwthio eich hun i sgarmesoedd lle rydych yn gwybod y byddwch yn cael eich brifo.

 

 

Os ydych yn hunan-niweidio, mae’n bwysig eich bod yn gwybod sut i ofalu am eich anafiadau a’ch bod yn gallu cael gafael ar y cyfarpar cymorth cyntaf rydych ei angen. Mae gan LifeSIGNS wybodaeth am gymorth cyntaf ar gyfer hunan-anafu a hunan-niwed.

Os ydych yn bryderus ynglŷn ag anaf, neu os nad ydych yn siŵr sut i’w drin, ewch i weld eich meddyg teulu.

Rwy’n credu mai un o’r prif rwystrau oedd yn fy atal rhag cael help oedd cyfaddef wrthyf fi fy hun bod gen i broblem. Ro’n i’n arfer dweud wrthyf fi fy hun, 'Dim ond crafu ydw i, dyw hyn ddim yn hunan-niweidio go iawn.

Diweddarwyd y wybodaeth hon ddiwethaf ym Mai 2020. Byddwn yn ei diwygio yn 2023.

Mae cyfeirnodau ar gael. Os dymunwch atgynhyrchu'r wybodaeth hon, ewch i'n tudalen ar ganiatâd a thrwydded.

arrow_upwardYn ôl i'r brig