Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Anhwylder personoliaeth ffiniol (BPD)

Mae'n esbonio anhwylder personoliaeth ffiniol (BPD), a elwir hefyd yn anhwylder personoliaeth ansefydlog yn emosiynol (EUPD). Mae'n cynnwys sut beth ydyw, achosion, triniaeth, cymorth a hunanofal, yn ogystal ag awgrymiadau ar gyfer ffrindiau a theulu.

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Gymraeg. This link will take you to a Welsh translation of this page.

Beth yw anhwylder personoliaeth
ffiniol (BPD)?

Math o anhwylder personoliaeth yw anhwylder personoliaeth ffiniol (BPD). Efallai y byddwch chi'n cael diagnosis o anhwylder personoliaeth os yw'ch teimladau a'ch meddyliau amdanoch chi eich hun a phobl eraill yn peri anhawster i chi. Ac os bydd yr anawsterau hyn yn ei gwneud hi'n anodd ymdopi o ddydd i ddydd.

Bydd profiadau o BPD yn wahanol i bobl wahanol. Efallai y byddwch chi'n teimlo emosiynau sy'n ddwys iawn, sy'n eich llethu ac sy'n newid drwy'r amser. Efallai y bydd cydberthnasau neu'ch ymdeimlad o hunaniaeth yn peri anhawster i chi hefyd. Mae ein hadran ar brofiadau o anhwylder personoliaeth ffinio hyn cynnwys rhagor o wybodaeth am sut beth yw byw gyda'r anhwylder.

Gellid dweud bod anhwylder personoliaeth yn debyg i ddioddef llosg. Mae popeth yn brifo'n fwy nag y mae i bawb arall yn ôl pob golwg, a does gennych chi ddim y 'croen caled' a ddylai fod gennych chi.

Efallai y byddwch chi'n clywed enwau eraill am anhwylder personoliaeth ffiniol, fel:

  • Anhwylder personoliaeth ansefydlog yn emosiynol (EUPD)
  • Anhwylder dwysedd emosiynol (EID)
  • Anhwylder personoliaeth patrymau ffiniol (PD patrymau ffiniol)

Eich dewis chi yw pa derm, os o gwbl, y byddwch chi'n ei ddefnyddio. Mae gan bobl safbwyntiau gwahanol iawn am anhwylder personoliaeth ffiniol, ac mae dadleuon parhaus am y broses o roi diagnosis o anhwylderau personoliaeth. Mae rhai pobl yn teimlo bod cael diagnosis o BPD yn fuddiol neu ei fod yn dilysu eu teimladau. Mae rhai yn teimlo nad yw'n fuddiol, neu ei fod yn creu stigma.

Nid oes un ffordd gywir nac anghywir o ddeall neu ddisgrifio eich profiadau. Y peth pwysig i'w gofio yw eich bod chi'n haeddu cefnogaeth a dealltwriaeth.

Pryd bydd diagnosis o BPD yn cael ei wneud?

Efallai y cewch ddiagnosis o BPD os ydych chi'n profi o leiaf bump o'r pethau canlynol, a'u bod nhw wedi para am amser hir neu'n cael effaith fawr ar eich bywyd bob dydd:

  • Rydych chi'n teimlo'n bryderus iawn am bobl yn mynd a'ch gadael chi, a byddech chi'n gwneud unrhyw beth i atal hynny rhag digwydd.
  • Mae gennych emosiynau dwys iawn sy'n para o ychydig oriau i rai dyddiau ac maen nhw'n gallu newid yn gyflym (er enghraifft, o deimlo'n hapus iawn ac yn hyderus i deimlo'n isel ac yn drist mwyaf sydyn).
  • Does gennych chi ddim synnwyr cryf o bwy ydych chi, a gall newid yn sylweddol gan ddibynnu ar gyda phwy ydych chi.
  • Rydych chi'n ei chael hi'n anodd iawn sefydlu a chadw perthnasoedd sefydlog.
  • Rydych chi'n teimlo'n wag yn aml iawn.
  • Rydych chi'n ymddwyn yn fyrbwyllac yn gwneud pethau a allai beri niwed i chi (fel gorfwyta mewn pyliau, defnyddio cyffuriau neu yrru'n beryglus).
  • Rydych chi'n hunan-niweidio neu'n meddwl am ladd eich hun yn aml.
  • Rydych chi'n cael teimladau dwys iawn o ddicter, sy'n anodd iawn eu rheoli.
  • Pan fyddwch chi o dan straen mawr, efallai y byddwch chi'n profi paranoia neu ymdeimlad o ddatgysylltiad

Y peth gwaethaf yw'r cydberthnasau ansicr. Pan fydda i mewn perthynas, fy mhartner yw fy myd - mae'n niweidiol. Rwy'n poeni gymaint am ba mor hir mae'n ei gymryd i ymateb i neges neu ei dôn, am fod arna i gymaint o ofn y bydda i'n ei golli.

Sut beth ydy cael BPD?

Mae Lechelle a Debbie yn siarad am gael anhwylder personoliaeth ffiniol a sut mae cyfuniad o feddyginiaeth a therapi ymddygiad dialectig (DBT) wedi eu helpu i ddatblygu'r sgiliau i'w reoli.

Safbwyntiau gwahanol ar ddiagnosis

Gan mai dim ond pump o'r anawsterau hyn y mae angen i chi fod wedi eu hwynebu er mwyn cael diagnosis o BPD, gall fod yn ddiagnosis eang iawn sy'n cynnwys llawer o bobl wahanol â phrofiadau gwahanol iawn.

Mae gan y rheini ohonon ni sydd wedi cael diagnosis o BPD safbwyntiau gwahanol am ba un yw'r label yn ddefnyddiol. Mae rhai ohonon ni'n teimlo bod cael diagnosis yn fuddiol a'i fod yn esbonio ein hanawsterau ac yn ein helpu i'w deall, neu'n rhoi ymdeimlad o ryddhad a dilysrwydd i ni. Gall hefyd ein helpu i gael gafael ar driniaeth neu gymorth, neu ein helpu i roi enw ar ein profiadau a chysylltu ag eraill.

Er nad ydw i wedi cael cynnig llawer o gymorth, mae cael diagnosis yn fy helpu i deimlo bod fy anawsterau’n ddilys.

Ar y llaw arall, nid yw rhai ohonon ni'n teimlo bod ein diagnosis yn fuddiol. Efallai ein bod ni'n teimlo ei fod yn stigmateiddio ac yn awgrymu bod rhywbeth yn bod arnon ni. Weithiau, gall hefyd fod yn rhwystr i gael y cymorth sydd ei angen arnon ni.

Ac mae rhai ohonon ni'n anghytuno'n llwyr â'r system bresennol o roi diagnosis o anhwylderau personoliaeth ac mae'n well gennym ni alw ein profiadau'n broblemau meddygol. Efallai ein bod ni'n eu hystyried yn debycach i ymateb i drawma, digwyddiadau anodd mewn bywyd neu broblemau yn ein cymdeithas.

Mae ein hadnoddau ar y rhesymau pam mae anhwylder personoliaeth yn ddiagnosis dadleuol yn cynnwys rhagor o wybodaeth.

Fydda i ddim yn dweud wrth bobl fod gen i BPD am nad ydw i'n hoffi labelu fy hun. Bydda i'n dweud bod gen i iselder/gorbryder. Ond rwy'n gwybod mai BPD sydd gen i. Rwy'n teimlo pethau mor ddwys weithiau nes fy mod yn colli rheolaeth dros fy synhwyrau. Mae'n un o'r teimladau gwaethaf, ond dwi wedi dysgu sut i ymdopi.

Cyhoeddwyd y wybodaeth hon ym mis Medi 2022. Byddwn yn ei diwygio yn 2025.

References and bibliography available on request.

If you want to reproduce this content, see our permissions and licensing page.

arrow_upwardYn ôl i'r brig