Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Sut i wneud apwyntiad meddyg teulu ar gyfer iechyd meddwl – i bobl ifanc 11-18 oed

Canllaw i bobl ifanc yn egluro sut i ddod o hyd i dy feddyg teulu lleol a gwneud apwyntiad i siarad am dy iechyd meddwl.

Mynd i weld meddyg teulu i siarad am dy iechyd meddwl

Efallai y bydd gwneud apwyntiad i weld meddyg teulu am y tro cyntaf yn dy frawychu, yn dy ddrysu, neu’n dy lethu. A hynny’n enwedig pan fyddi di eisiau siarad gyda’r meddyg am dy iechyd meddwl. Efallai na fyddi di’n gwybod sut i ddod o hyd i feddyg teulu, beth i’w ddisgwyl, na sut mae’r cyfan yn gweithio. Mae gan lawer ohonon ni’r pryderon hyn – dwyt ti ddim ar dy ben dy hun. 

Mae’r canllaw hwn yn egluro sut i weld meddyg teulu i siarad am dy iechyd meddwl. Mae’n esbonio’r broses o wneud apwyntiad a beth ydy dy opsiynau di, fel dy fod yn teimlo’n fwy parod at y profiad, ac mewn rheolaeth.

Dim ots sut rwyt ti’n teimlo neu beth rwyt ti’n ei wynebu, mae’n bosibl mai siarad gyda dy feddyg teulu fydd y cam cyntaf i gael y cymorth sydd ei angen arnat ti.

Wyt ti eisoes wedi gwneud apwyntiad?

Os wyt ti eisoes wedi trefnu i weld meddyg teulu, cer i’n canllaw am baratoi ar gyfer dy apwyntiad a beth allai ddigwydd nesaf.

Does dim rhaid i ti aros i fod ar dy waethaf i ofyn am help. Fyddet ti ddim yn gwneud hynny a thithau’n sâl yn gorfforol, ac mae cael cymorth yn gynharach yn gallu bod yn help enfawr i wella.

Beth ydy meddyg teulu?

Enw arall ar feddygon teulu ydy ‘ymarferwyr cyffredinol’. Mae llawer ohonon ni’n defnyddio’r gair ‘doctor’ i olygu’r un peth â meddyg teulu.

Mae cael siarad gyda meddyg teulu yn wasanaeth rhad ac am ddim i bawb. Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (y GIG) sy’n gyfrifol am y gwasanaeth hwn. Fe allwn ni fynd i weld ein meddyg teulu os nad ydy rhywbeth yn teimlo’n iawn gyda’r canlynol:

  • Iechyd corfforol, fel poen, salwch, anafiadau neu newidiadau yn ein cyrff
  • Iechyd meddwl, fel gorbryder, teimlo’n isel ein hysbryd, teimlo dan straen neu deimlo wedi ein llethu

Mae’r problemau iechyd hyn yr un mor bwysig â’i gilydd, ac mae’r ddau yn haeddu help.

Fe allwn ni feddwl am ein meddyg teulu fel y cam cyntaf i gael cymorth proffesiynol. Bydd y meddyg yn ceisio deall beth sy’n digwydd i ti, ac efallai y bydd wedyn yn cynnig cyngor, yn awgrymu triniaethau, neu’n ein hatgyfeirio ni i weld rhywun arall.

Roedd fy meddyg teulu yn ofalgar ac yn llawn empathi, ac yn bwysicach na dim, roedd yn parchu fy mhenderfyniadau’n llwyr. Rwy’n falch fy mod i wedi gofyn am help.

Sut bydd meddyg teulu yn gallu fy helpu gyda fy iechyd meddwl?

Mae llawer ohonon ni’n ei chael hi’n frawychus siarad am ein meddyliau a’n teimladau gyda rhywun nad ydyn ni’n ei adnabod. Ond mae’r meddyg teulu yno i wrando ac i’n helpu ni i gael y cymorth sydd ei angen arnon ni.

Os byddwn ni’n gwneud apwyntiad i siarad am iechyd meddwl, gall ein meddyg teulu wneud y canlynol:

  • Gwrando arnon ni a’n helpu ni i ddeall ein teimladau neu ein profiadau
  • Esbonio mwy am iechyd meddwl neu fathau o broblemau iechyd meddwl
  • Esbonio triniaethau a allai helpu, fel cwnsela, therapïau siarad neu feddyginiaeth
  • Ein hatgyfeirio at wasanaeth i gael asesiad, diagnosis neu driniaeth, fel Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHS)
  • Ein helpu ni i ddod o hyd i gymorth ar-lein neu gymorth gan sefydliadau yn ein hardal leol
  • Awgrymu rhai syniadau a allai ein helpu gartref, yn yr ysgol, yn y coleg neu yn y gwaith

Ti sydd i ddewis pryd fyddi di’n gwneud apwyntiad i weld meddyg teulu am dy iechyd meddwl. Ond does dim rhaid i ti aros nes bod pethau’n gwaethygu i ofyn am help.

Fe wnaeth fy meddyg teulu fy helpu i ddeall beth ydy anhwylder gorbryder... Yn y pen draw, fe wnaeth fy anfon at therapydd lle dechreuais i ddeall fy mhrofiad personol fy hun o iechyd meddwl yn fwy manwl.

Cadw'n ddiogel

Os wyt ti'n teimlo fel bod ti wedi dy lethu, neu eisiau brifo dy hun, mae cymorth ar gael i ti trafod pethau. Rwyt ti'n haeddu cymorth cyn gynted ag y sydd ei angen.

I siarad â rhywun yn gyfrinachol am sut rwyt ti'n teimlo, gallet ti:


Os wyt ti'n teimlo y gallet ti ceisio lladd dy hun, neu os wyt ti wedi brifo dy hun yn ddifrifol, mae hwn yn argyfwng
. Gallet ti:

  • Ffonio 999 a gofyn am ambiwlans.
  • Dweud wrth oedolyn rwyt yn ymddiried ynddo a gofyn iddynt ffonio 999 am help.


Mae argyfyngau iechyd meddwl yn ddifrifol. Nid wyt ti’n yn gwastraffu amser neb.

Sut ydw i’n dod o hyd i feddyg teulu yn agos ata i?

I weld meddyg teulu, yn gyntaf mae angen i ti ddod o hyd i bractis meddyg teulu yn dy ardal leol a chofrestru yno. Yn dibynnu ar ble rwyt ti’n byw, efallai y bydd pobl yn galw’r practis yn un o’r rhain:

  • Practis cyffredinol
  • Practis meddygol
  • Canolfan iechyd
  • Lle doctor
  • Meddygfa neu syrjeri – does gan ‘syrjeri’ ddim byd i’w wneud â chael llawdriniaeth, fel byddet ti’n ei chael yn yr ysbyty

Os nad wyt ti wedi cofrestru eto, fe alli di ddod o hyd i dy bractis meddyg teulu agosaf gan ddefnyddio gwefan chwilio GIG Cymru. Os wyt ti’n byw yn Lloegr, fe alli di ddefnyddio gwefan chwilio GIG Lloegr.

Mae’r rhan fwyaf o bractisau meddygon teulu yn gwasanaethu ardal leol benodol, felly gan amlaf bydd angen i ti fyw gerllaw. Ond efallai hefyd y galli di gofrestru fel claf dros dro mewn rhai sefyllfaoedd.

Os nad oes gen ti gyfeiriad parhaol, fe alli di gofrestru gyda phractis meddyg teulu gan ddefnyddio cyfeiriad y practis ei hun, neu gyfeiriad dros dro.

Efallai y bydd gan bob practis ffyrdd gwahanol o gofrestru – er enghraifft, ar-lein, wyneb yn wyneb, neu drwy lenwi ffurflen. Fyddi di byth yn gorfod talu i gofrestru.

Weithiau, efallai y bydd dy bractis agosaf yn dweud nad ydyn nhw’n derbyn neb newydd ar hyn o bryd. Os bydd hyn yn digwydd, efallai y bydd angen i ti gofrestru gyda phractis ymhellach i ffwrdd – ceisia ddefnyddio gwefan chwilio’r GIG eto.

Does dim byd o’i le yn cyfaddef bod angen help arnat ti. Mae’n beth dewr i’w wneud – Lao, 18

Sut ydw i’n gwneud apwyntiad i weld meddyg teulu?

Gall gwneud apwyntiad i weld meddyg teulu deimlo fel cam mawr. A hynny’n enwedig os mai dyma’r tro cyntaf i ti siarad am dy iechyd meddwl.

Bydd gan bob practis ffyrdd gwahanol o wneud pethau. Ond ar ôl i ti gofrestru, gan amlaf fe alli di wneud apwyntiad drwy un o’r ffyrdd hyn:

  • Ffonio’r practis a siarad gyda staff y dderbynfa
  • Mynd i mewn i siarad gyda staff y dderbynfa wyneb yn wyneb
  • Trefnu apwyntiad ar-lein drwy wefan neu ap y practis

Dylai fod gan wefan dy bractis lleol system neu dudalen ar-lein i drefnu apwyntiad. Dilyna’r cyfarwyddiadau ac ateba bob cwestiwn cystal ag y galli di.

Beth ydw i angen ei ddweud i wneud apwyntiad?

I wneud apwyntiad dros y ffôn neu wyneb yn wyneb i weld meddyg teulu, fe alli di ddechrau drwy ddweud: “Dwi eisiau gwneud apwyntiad i weld meddyg, os gwelwch yn dda.”

Efallai y bydd y sawl sy’n gweithio yn y dderbynfa yn gofyn pam fod angen apwyntiad arnat ti. Does dim rhaid i ti roi manylion dy iechyd meddwl iddyn nhw, na rhoi unrhyw reswm iddyn nhw o gwbl ar y pwynt hwn.

Os ydyn nhw’n gofyn pam fod angen apwyntiad arnat ti, fe gei di benderfynu faint rwyt ti am ei rannu:

  • “Dwi eisiau siarad gyda meddyg am fy iechyd meddwl.”
  • “Dwi wedi bod yn teimlo’n bryderus / isel fy ysbryd ers tro, a dwi eisiau trafod hyn gyda meddyg.”
  • “Mi fyddai’n well gen i siarad gyda’r meddyg am hynny.”

Byddan nhw gan amlaf yn gofyn am dy enw llawn a dy ddyddiad geni. Byddan nhw wedyn yn cynnig dyddiadau ac amseroedd i ti.

decorative

Bydd apwyntiadau gan amlaf yn para tua 10 munud. Os wyt ti’n meddwl bod angen apwyntiad hirach arnat ti, a bod gen ti lawer o bethau i siarad amdanyn nhw, fe ddylet ti ddweud hynny wrth drefnu’r apwyntiad.

Fydda i wastad yn gweld yr un meddyg teulu?

Pan fyddi di wedi cofrestru mewn practis, efallai y byddan nhw’n enwi meddyg teulu i fod yn gyfrifol am dy ofal. Ond does dim rhaid i ti gofio enw’r meddyg yma, na gweld yr un meddyg teulu bob tro. A hynny’n enwedig os byddi di’n teimlo eu bod nhw wedi dy drin di’n annheg.

Bydd y practis gan amlaf yn cynnig apwyntiad gyda phwy bynnag sydd ar gael nesaf. Yn y dyfodol, fe alli di ofyn am weld meddyg teulu penodol eto wrth wneud apwyntiad. Ond efallai na fydd hyn bob amser yn bosibl, neu efallai y bydd yn rhaid i ti aros yn hirach.

Y tro cyntaf i mi sôn wrth rywun am fy iechyd meddwl, rydw i’n difaru peidio ag egluro beth roeddwn i ei eisiau ganddyn nhw. Byddai hi wedi bod yn haws i mi ddweud, ‘Ga’ i weld meddyg am hyn?’ yn hytrach nag aros iddyn nhw awgrymu hynny.

Pa fathau o apwyntiadau meddygon teulu sydd ar gael?

Mae yna wahanol ffyrdd o siarad gyda meddyg teulu am iechyd meddwl. Fe alli di gael apwyntiad:

  • Wyneb yn wyneb ym mhractis y meddyg, mewn ystafell breifat
  • Dros y ffôn, sy’n golygu y byddai angen i ti ddod o hyd i le preifat i siarad
  • Dros alwad fideo, ond mae hyn yn llai cyffredin

Bydd y practis gan amlaf yn penderfynu pa fath o apwyntiad sydd orau. Ond fe alli di ofyn am fath gwahanol o apwyntiad os byddai’n well gen ti. Er enghraifft, os byddai’n well gen ti siarad wyneb yn wyneb na dros y ffôn, rho wybod iddyn nhw.

Bydd y practis yn cadarnhau dyddiad yr apwyntiad, yr amser a’r math drwy anfon neges destun, e-bost, neges ar-lein, neu neges mewn ap.

Os ydy dy apwyntiad pan fyddi di gan amlaf yn yr ysgol, y coleg neu’r gwaith, rho wybod i athro neu reolwr. Dylen nhw allu rhoi amser i ffwrdd i ti neu drefnu lle tawel i ti wneud dy alwad.

Os yw’r practis yn cynnig apwyntiad dros y ffôn neu dros fideo i ti, ond nad oes gen ti dy ffôn dy hun neu’r gallu i ddefnyddio’r rhyngrwyd, rho wybod iddyn nhw.

Fe alli di ddefnyddio cyfrifiadur yn dy lyfrgell leol i e-bostio’r practis neu i wneud apwyntiadau ar wefan y practis. Ond bydd angen lle mwy preifat arnat ti i gael dy alwad gyda’r meddyg teulu.

Yn fy apwyntiad wyneb yn wyneb, roeddwn i’n teimlo’n ddigon cyfforddus yng nghwmni fy meddyg i ddweud beth oedd yn digwydd. Fe gefais i fy anfon at CAMHS ac fe gefais i gwnsela yn yr ysgol.

Fydd yn rhaid i mi aros i gael apwyntiad meddyg teulu?

Mae pa mor hir y bydd yn rhaid i ti aros am apwyntiad yn dibynnu ar ble rwyt ti’n byw ac ar dy bractis lleol. Weithiau fe alli di gael apwyntiad ar yr un diwrnod os byddi di’n ffonio cyn gynted ag y bydd y practis yn agor. Ar adegau eraill, gallai gymryd ychydig ddyddiau neu weithiau wythnosau.

Mae aros yn gallu teimlo’n rhwystredig neu’n gallu bod yn bryderus, ond dydy hynny ddim yn arwydd nad ydy dy les meddyliol yn bwysig. Mae practisau meddygon teulu yn brysur iawn, a bydd doctor yn dy weld di cyn gynted ag sy’n bosibl.

Sut alla i ymdopi wrth aros?

Fe all aros am gymorth iechyd meddwl proffesiynol deimlo’n anodd, yn enwedig os nad wyt ti’n teimlo’n dda. Ond does dim rhaid i ti ymdopi â hyn ar dy ben dy hun. Fe alli di roi cynnig ar wneud un o’r rhain:

Am fathau eraill o gymorth, cer i’n tudalen wybodaeth am opsiynau cymorth iechyd meddwl.

Awgrymiadau i ymdopi â rhestrau aros

Efallai y byddai’n fuddiol i ti ddarllen ein gwybodaeth a’n cyngor am restrau aros ar gyfer CAMHS.

Mae meddygon teulu a CAMHS yn cynnig gwasanaethau gwahanol iawn, ond gallai rhai o’r syniadau hyn helpu wrth aros am unrhyw fath o gymorth proffesiynol.

Mae’n helpu garw cael pobl o’th gwmpas y galli di ymddiried ynddyn nhw, er mwyn rhoi cymorth i ti. A dysga sut i fod yn gefn i ti dy hun pan na fydd dy iechyd meddwl yn dda.

Beth ddylwn i ei ddisgwyl yn fy apwyntiad?

Mewn apwyntiad i siarad am iechyd meddwl, bydd dy feddyg teulu yn gwrando arnat ti ac efallai’n gofyn cwestiynau am y pethau hyn:

  • Dy hwyliau, a allai olygu llenwi holiaduron yn gofyn sut rwyt ti wedi bod yn teimlo’n ddiweddar
  • Dy fywyd yn yr ysgol neu gartref ac unrhyw ddigwyddiadau diweddar a allai effeithio ar sut rwyt ti’n teimlo
  • Unrhyw newidiadau rwyt ti wedi’u hwynebu’n ddiweddar, fel newidiadau yn dy gwsg, arferion bwyta neu iechyd cyffredinol
  • Dy hanes meddygol, ac a wyt ti neu dy deulu wedi cael problemau iechyd yn y gorffennol

Os gwnest ti ddefnyddio ffurflen ar-lein i drefnu dy apwyntiad, efallai y byddi di wedi ateb rhai o’r cwestiynau hyn eisoes. Efallai y bydd dy feddyg teulu yn trafod dy atebion gyda ti, neu efallai y bydd yn gofyn i ti lenwi holiadur arall i’w helpu i benderfynu pa gymorth y bydd yn gallu’i roi.

Efallai y bydd dy feddyg teulu hefyd yn archwilio dy iechyd corfforol. Bydd gwneud hyn yn ei helpu i ddarganfod a allai rhywbeth arall fod yn effeithio ar dy iechyd meddwl. Er enghraifft, hormonau neu sgil-effeithiau o feddyginiaethau eraill.

Efallai y bydd y meddyg yn gwneud archwiliadau fel:

  • Cymryd dy bwysedd gwaed
  • Dy bwyso
  • Gwneud rhai profion gwaed

Os byddi di’n siarad dros y ffôn, efallai y bydd dy feddyg teulu yn gofyn i ti wneud apwyntiad ar wahân, wyneb yn wyneb, i archwilio dy iechyd corfforol.

Beth fydd yn digwydd yn ystod ac ar ôl fy apwyntiad?

Darllena ein canllaw manwl am sut i siarad gyda dy feddyg teulu am iechyd meddwl. Mae’r canllaw hefyd yn esbonio beth i’w wneud os oes gen ti broblem gyda dy feddyg teulu.

Cyhoeddwyd: Ebrill 2026
Adolygiad nesaf: Ebrill 2029

Siaradwyd â phobl ifanc a gytunodd i roi dyfyniadau ar gyfer y dudalen hon. Nid yw eu profiadau yn gysylltiedig â'r bobl a ddangosir yn y lluniau.

Mae cyfeiriadau ar gael ar gais. Os ydych am atgynhyrchu'r cynnwys hwn, gweler ein tudalen caniatâd a thrwyddedu.

PIF Tick quality mark logo for trusted information creators

For more information

Back To Top arrow_upward