Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Gwybodaeth i bobl ifanc 11-18 oed ar ymdopi â'r newyddion

Canllaw i bobl ifanc ar sut y gallai pethau yn y newyddion effeithio ar ein meddyliau a’n teimladau, gyda chyngor ar sut i ymdopi.

Dy les meddyliol a'r newyddion

Os wyt ti'n cael trafferth gyda phethau anodd yn y newyddion, nid wyt ti ar dy ben dy hun. Mae llawer ohonon ni’n ei chael hi’n anodd gofalu am ein lles meddyliol ar hyn o bryd.

Rydyn ni yma i dy helpu i ddeall dy deimladau a rhoi syniadau i ti ar sut i ymdopi.

Bob dydd wrth i mi sgrolio i lawr y newyddion roeddwn i’n teimlo’n unig ac yn gaeth y tu mewn i mi fy hun, gan wybod bod yr holl ddigwyddiadau arswydus hyn yn digwydd yn y byd y tu allan - Jumi, 16

Pam y gallai'r newyddion godi teimladau anodd?

Gall gwybod am bopeth sy'n digwydd yn y byd deimlo'n ormod. Efallai y byddwn yn ei chael hi'n anodd osgoi'r newyddion pan mae o'n cwmpas, drwy'r amser.

Gall straeon a digwyddiadau newyddion godi teimladau anodd am wahanol resymau:

  • Mae rhai straeon newyddion yn effeithio'n uniongyrchol arnon ni neu bobl rydyn ni'n eu hadnabod. Gall fod yn anodd clywed newyddion drwg am bethau yn ein bywydau, neu leoedd neu bobl sy'n agos aton ni.
  • Efallai y byddwn yn ei chael hi’n anodd delio â digwyddiadau sy'n effeithio ar bobl nad ydyn ni'n eu hadnabod, oherwydd mae'r newyddion yn dangos digwyddiadau i ni mewn ffordd drist neu frawychus.
  • Gall rhai straeon newyddion effeithio ar sut rydyn ni'n teimlo amdanon ni'n hunain yn y byd. Efallai y byddan nhw'n gwneud i ni deimlo'n ofnus, neu'n fwy ymwybodol o bethau nad ydyn nhw'n deg.
  • Weithiau gall y newyddion atgoffa ni am bethau anodd rydyn ni wedi mynd drwyddyn nhw.

Yn ogystal â gweld beth sy'n digwydd yn y newyddion, mae llawer ohonon ni'n delio â phethau fel newidiadau mawr mewn bywyd, neu heriau fel straen arholiadau. Gall deimlo'n anodd iawn ymdopi â chymaint ar unwaith.

Mae gweld newyddion gofidus drwy’r amser yn teimlo mor llethol, yn enwedig pan fydd gen ti lawer yn digwydd yn dy fywyd – Viktoria, 18

Pa fathau o deimladau anodd allai godi?

Does dim ffordd gywir nac anghywir o deimlo am yr hyn sy'n digwydd yn y newyddion neu'r byd. Efallai nad ydyn ni bob amser yn gwybod sut rydyn ni'n teimlo, ac mae hynny'n iawn hefyd.

  • Yn orbrydrus neu'n poeni
  • Wedi'n gorlethu neu dan straen
  • Yn drist neu'n ofidus
  • Yn ofnus neu'n anniogel
  • Yn anobeithiol neu'n ddi-rym
  • Yn unig
  • Yn ddig
  • Yn euog
  • Yn ddideimlad neu'n wag
  • Teimlo dan bwysau i gadw i fyny gyda phopeth
  • Methu stopio meddwl na darllen am rai digwyddiadau
  • Eisiau osgoi popeth am y newyddion
  • Methu mwynhau unrhyw beth lle gallai'r newyddion fod, fel ein ffonau neu'r teledu
  • Meddwl am bethau anodd rydyn ni wedi mynd drwyddyn nhw
  • Barnu ein hunain am sut rydyn ni'n teimlo
  • Cael trafferth gyda'n perthnasoedd ag eraill
  • Cael trafferth gyda phethau fel cwsg a iechyd meddwl

Rwyf wedi bod yn teimlo wedi fy ngorlethu gan yr hyn yr wyf yn ei weld yn y newyddion. Weithiau gall hyn effeithio ar fy hwyliau ac rwy’n teimlo’n ofidus, yn anobeithiol ac yn euog – Afeefa, 18

Dydw i ddim yn gwybod beth rydw i'n ei deimlo

Os wyt ti'n cael trafferth esbonio sut rwyt ti'n teimlo am y newyddion, mae gennym fwy o wybodaeth i helpu.

decorative

Hyd yn oed pan fydd ein meddwl yn gwybod ein bod yn ddiogel, gall gweld newyddion dirdynnol ei gwneud hi'n anoddach i ni ymlacio, cysgu a theimlo'n dda.

Sut alla i ymdopi â'r newyddion?

Os wyt ti'n ei chael hi'n anodd delio â phethau sy'n peri gofid yn y newyddion, rho gynnig ar rai o'n hawgrymiadau i dy helpu i ymdopi.

Dysga sut i ddod o hyd i newyddion y galli di ymddiried ynddo

Nid yw bob amser yn hawdd gwybod a yw'r newyddion yn wir ai peidio. Gall dysgu sut i adnabod yr arwyddion dy helpu i deimlo bod gen ti fwy o reolaeth dros yr hyn yr wyt ti’n dewis ei gredu.

Gofynna’r cwestiynau hyn i dy hun cyn ymddiried mewn unrhyw ffynhonnell newyddion:

Ceisia ddarganfod pwy wnaeth yr eitem newyddion. Wyt ti wedi clywed amdanyn nhw o'r blaen? Pa fathau eraill o bethau maen nhw wedi'u cyhoeddi?

Mae gwefannau newyddion mawr a newyddiadurwyr yn gwirio eu ffeithiau cyn eu postio. Mae pobl sy'n gwirio ffeithiau yn aml yn cadarnhau hyn trwy bostio dolen neu eicon 'wedi'i wirio' ar yr erthygl i roi gwybod i ti. Nid yw ffeithiau ffynonellau eraill, fel cyfrifon cyfryngau cymdeithasol, bob amser yn cael eu gwirio.

Mewn rhai achosion, os yw ychydig o ffynonellau dibynadwy wedi rhannu'r un stori, gallai fod yn fwy tebygol o fod yn wir. Os na, nid yw bob amser yn golygu ei fod yn ffug, ond efallai y bydd angen i ti ymchwilio iddi'n fwy.

Pan fydd stori'n amlwg ar y newyddion, mae'n aml yn golygu ei bod yn wir. Ond hyd yn oed pan fydd stori wedi 'mynd yn firaol', efallai y bydd angen i ti edrych heibio niferoedd mawr. Ni alli di bob amser ymddiried mewn postiadau cyfryngau cymdeithasol dim ond oherwydd bod y ffynhonnell wedi'i hoffi sawl gwaith a bod ganddi lawer a dilynwyr.

A oes gan y stori wybodaeth ddiweddar y gellir ymddiried ynddi i'w hategu? Alli di ddarganfod o ble mae'r wybodaeth hon yn dod? Os galli di ateb yn gadarnhaol i'r ddau, mae'n debyg y galli di  ymddiried ynddi.

 A yw'n ymddangos eu bod yn rhannu'r ffeithiau neu'n rhoi eu barn eu hunain? Cofia nad barn yw'r gwir am y stori.

Sut alla i ymarfer y sgiliau hyn?

I ddeall mwy am newyddion ffug ar-lein ac yn y cyfryngau cymdeithasol, ceisia chwarae'r gêm Bad News. Argymhellir ar gyfer pobl 14 oed a hŷn.

Gosod ffiniau gyda'r newyddion

Mae llawer ohonon ni’n teimlo bod cael y wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn sy'n digwydd yn y byd yn bwysig iawn. Efallai y byddwn hyd yn oed yn gweld pethau'n fwy brawychus pan nad ydyn ni'n gwybod beth sy'n digwydd yn y byd.

Ond nid oes yn rhaid i ni gadw i fyny â'r newyddion drwy'r amser.

Efallai y byddi di eisiau gosod ffiniau i dy hun:

  • Gosod terfynau amser ar gyfer dal i fyny â newyddion
  • Diffodd hysbysiadau am newyddion
  • Dileu apiau newyddion o dy ffôn neu osod terfynau amser ar gyfer eu defnyddio
  • Osgoi dy ffôn am ychydig, fel ei adael mewn ystafell arall
  • Addasu dy lif trwy ddefnyddio'r swyddogaeth 'dim diddordeb' ar grewyr, postiadau neu bynciau
  • Edrych ar gynnwys rwyt ti’n ei fwynhau ac sy'n gwneud i ti deimlo'n dda, neu edrych am newyddion cadarnhaol

Mae hefyd yn iawn gofyn i osod ffiniau gyda phobl o dy gwmpas:

    • Gofyn i dy ffrindiau i beidio ag anfon fideos neu erthyglau atat am rai straeon newyddion
    • Gofyn i bobl o dy gwmpas i beidio â siarad am newyddion o dy flaen
    • Gofyn i'r bobl rwyt ti'n byw gyda nhw i aros nes dy fod allan o'r ystafell i wylio sianeli newyddion ar y teledu

Rwyf wedi nodi pynciau sbarduno penodol fel y gallaf ddiffodd y newyddion neu osgoi erthyglau penodol gyda’r themâu hynny sy’n codi dro ar ôl tro – Safa, 16

Rho ras i dy hun a bwyda dy hun gyda newyddion cadarnhaol o bryd i'w gilydd. Mae rheoleiddio dy lif a dy ddefnydd o'r cyfryngau cymdeithasol yn bwysig – Paris, 17

Ble alla i ddod o hyd i newyddion cadarnhaol?

Galli di roi cynnig ar y ffynonellau hyn am newyddion cadarnhaol:

Deall pryd i gymryd seibiant

Efallai y byddwn ni'n teimlo'n ofidus ac o dan straen wrth edrych ar y newyddion yn aml. Straen yw ffordd ein corff o ddweud wrthon ni fod angen i ni:

  • Osgoi'r peth sy'n gwneud i ni deimlo dan straen
  • Cymryd ychydig o amser i ofalu am ein lles meddyliol

Os sylwi di ar rai o'r arwyddion hyn, efallai ei bod hi'n amser i osod ffin, neu gymryd seibiant o'r newyddion:

  • Teimladau drwg yn dy gorff, fel cyhyrau tynn, neu bol neu ben tost
  • Haws dy gynhyrfu
  • Crio neu deimlo fel crio mwy nag arfer
  • Teimlo'n bryderus neu'n ofnus iawn
  • Ddim eisiau gwneud pethau rwyt ti'n eu hoffi fel arfer
  • Eisiau bod yn agos iawn at ffrindiau, partneriaid neu deulu
  • Cysgu'n fwy nag arfer neu ddim digon
  • Bwyta gormod neu rhy ychydig

Roedd yn rhaid i mi gofio cymryd seibiant. Es i am dro bob dydd ac roedd hynny'n help mawr, dim ond i beidio ag edrych arno am ychydig, ailosod fy hun - Benj, 15

decorative

Gall gymryd amser i ddysgu beth sy'n gweithio i ti, ond gallai rhoi cynnig ar rai o'r syniadau hyn fod o gymorth.

Mae'n iawn os wyt ti'n cael trafferth gyda'r hyn sy'n digwydd o dy gwmpas. Rwyt ti eisoes yn gwneud dy orau ac mae hynny'n ddigon.

Sut alla i ofalu am fy lles?

Er ei bod bob amser yn bwysig gofalu am dy iechyd meddwl  a dy les meddyliol, efallai y bydd angen i ti wneud hyn yn amlach os wyt ti'n cael trafferth gyda'r newyddion.

Efallai y bydd ein hawgrymiadau lles yn gweithio i wahanol bobl, ar adegau gwahanol. Ceisia fod yn garedig â dy hun os nad yw'r syniadau hyn yn gweithio i ti ar unwaith.

Rho gynnig ar weithgareddau hunanofal

Mae hunanofal yn golygu cymryd amser i dy hun. Gallet ti ei wneud pryd bynnag yr wyt ti eisiau, ond gall fod o gymorth mawr pan fydd pethau'n teimlo'n anodd.

Mae rhai ohonon ni’n defnyddio technegau hunan-leddfu ar ôl teimlo'n ofidus neu wedi'n gorlethu gan y newyddion. Defnyddia nhw i dynnu dy sylw a dy helpu i ganolbwyntio ar rywbeth arall.

Gallet ti geisio:

  • Cymryd ychydig o anadliadau dwfn araf
  • Gorwedd i ymlacio dy holl gyhyrau tra bod dy ffôn mewn ystafell arall
  • Gwneud rywbeth all-lein, fel mynd am dro neu gael ychydig o awyr iach
  • Gwrando ar gerddoriaeth, ond tro’r hysbysiadau i ffwrdd neu defnyddia 'peidiwch ag aflonyddu' os wyt ti'n gwrando ar dy ffôn
  • Gwneud rhywbeth hwyliog, fel hobi neu weithgaredd
  • Treulio amser gyda phobl all-lein
  • Gwneud ychydig o fyfyrdod neu ioga, neu dreulio amser tawel ar dy ben dy hun

Am ragor o syniadau, gweler ein hawgrymiadau ar ofalu am dy les.

Mae myfyrdod yn helpu i'n tawelu ac mae'n fy helpu i ddod o hyd i heddwch a thawelwch ymhlith yr anhrefn yn y newyddion – J, 17

Teen Girl Stands In Front Of House Looking At Camera

Siarada â rhywun rwyt ti'n ymddiried ynddo

Er mwyn ymdopi'n well â straeon newyddion anodd, ceisia fod yn agored ag eraill am sut rwyt ti'n teimlo a beth sy'n digwydd. Efallai y byddan nhw’n gallu deall a dy gefnogi di – efallai byddan nhw’n teimlo’r un peth hefyd.

Os nad wyt ti’n siŵr sut i gychwyn y sgwrs, gallet ti geisio dweud:

  • “Dw i wedi gweld ____ yn mynd ymlaen yn y newyddion. Allwn ni siarad amdano?”
  • “Rwy’n poeni am ____ ac yn meddwl tybed a allwn ni siarad amdano?”
  • “Dw i’n cael trafferth gyda phopeth sy’n digwydd yn y newyddion, a dw i eisiau dweud wrthyt ti sut dwi’n teimlo.”

Gallech chi hefyd ddarllen, gwrando neu edrych ar y newyddion gyda'ch gilydd, os wyt ti’n meddwl y byddai hynny'n helpu.

Gall siarad â phobl am y newyddion fod yn frawychus a chodi embaras ar y dechrau, ond mae’r teimlad yn pylu’n fuan ac yn sydyn rwyt ti’n teimlo bod rhywun yn gwrando arnat ti ac nid wyt ti ar dy ben dy hun – J, 17

Dod o hyd i ffyrdd o wneud gwahaniaeth

Gallai ceisio gwneud gwahaniaeth cadarnhaol yn y byd ein helpu i deimlo'n well.

Os oes digon o bobl yn llofnodi deisebau ar gyfer pethau y maen nhw am wneud gwahaniaeth yn eu cylch, bydd angen i'r llywodraeth ymateb iddyn nhw. Galli di ddarganfod mwy a llofnodi deisebau ar Wefan Senedd y DU.

Os hoffet ti roi cynnig ar wirfoddoli, galli di gael golwg ar-lein:

Cofia: nid yw gwneud newidiadau mawr bob amser yn bosibl, ac nid dy gyfrifoldeb di yw mynd i'r afael â'r problemau hyn ar dy ben dy hun. Ond mae yna ffyrdd bach y gallwn ni geisio gwneud gwahaniaeth.

Mewn llawer o achosion, rhaid i ti fod yn 18 oed neu'n hŷn i wirfoddoli. Os wyt ti dan 18 oed, mae'n debyg y bydd angen caniatâd dy riant neu warcheidwad. Gallet ti hefyd ofyn i oedolyn y galli di ymddiried ynddo fel athro/athrawes helpu i ddod o hyd i gyfleoedd lleol i ti.

Dod o hyd i leoedd i gysylltu â phobl eraill

Gall cysylltu ag eraill sy'n ein deall ein helpu i deimlo'n well.

Ceisia chwilio am bethau sydd o ddiddordeb i ti, neu grwpiau yr hoffet ti ymuno â nhw, ar-lein ac yn bersonol. Efallai y galli di ymuno â chymdeithas fel grŵp hinsawdd neu glwb dadlau yn yr ysgol, coleg neu’r gwaith.

Gallet ti gysylltu trwy lefydd fel:

  • BME Youth – sefydliad cenedlaethol o blant a phobl ifanc o gymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig (BAME) yn y DU.
  • Force of Nature – rhwydwaith cymunedol yn annog pobl ifanc i droi pryder am yr hinsawdd yn weithredu (ar gyfer 16 oed a hŷn).
  • Gendered Intelligence – sefydliad dan arweiniad pobl draws  sy’n cynnig amrywiaeth o grwpiau ieuenctid i bobl ifanc.
  • The Proud Trust: Grwpiau Ieuenctid – yn cynnig teclyn chwilio ar gyfer dod o hyd i grwpiau ieuenctid LHDTCRhA+ ledled y wlad, ar-lein ac yn bersonol.
  • Stonewall: Young Futures Hub – cynnal digwyddiadau ac ymgyrchoedd dros gydraddoldeb LHDTCRhA+.

Penderfynais leisio fy mhryderon trwy lwyfannau cyfryngau cymdeithasol a siarad â ffrindiau a oedd hefyd yn rhannu’r un meddyliau. Roedden ni'n teimlo ein bod yn cael ein cefnogi ac yn teimlo ein bod yn chwarae ein rhan yn gywir, i wella materion y byd – Jumi, 17

Dw i angen mwy o ffyrdd i ofalu am fy lles

Am ragor o syniadau i dy helpu i ymdopi â theimladau anodd, edrycha ar ein tudalen awgrymiadau.

Ble alla i chwilio am help a chefnogaeth?

Os wyt ti'n poeni am sut mae'r newyddion yn gwneud i ti deimlo, mae'n iawn gofyn am help.

Rwyt ti'n haeddu cael cymorth a chefnogaeth pryd bynnag y byddi di ei angen. Nid oes ots pa mor hir rwyt ti wedi bod yn cael trafferth, neu os nad yw'n ymwneud â'r newyddion yn unig. Does dim rhaid i ti aros i bethau waethygu.

Efallai y bydd y tudalennau hyn yn ddefnyddiol i ti:

Cyhoeddwyd: Tachwedd 2024
Digwylir yr adolygiad nesaf: Tachwedd 2027

Gwnaethom siarad â phobl ifanc a gytunodd i roi dyfyniadau ar gyfer y dudalen hon. Nid yw eu profiadau yn gysylltiedig â'r bobl a ddangosir yn y lluniau. Mae cyfeiriadau ar gael ar gais. Os ydych chi am atgynhyrchu'r cynnwys hwn, gweler ein tudalen ar ganiatâd a thrwyddedu.

PIF Tick quality mark logo for trusted information creators

Am ragor o wybodaeth

arrow_upwardYn ôl i'r brig