Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Deall fy nheimladau – ar gyfer pobl ifanc 11-18 oed

Canllaw i bobl ifanc ynglŷn â sut i adnabod a deall teimladau anodd.

Mae'n ddrwg gennym, nid oes gennym fersiwn Gymraeg o'r dudalen hon ar hyn o bryd.

Ydy emosiynau a theimladau yn golygu’r un peth?

Efallai y byddi di’n clywed pobl yn defnyddio’r geiriau emosiynau a theimladau. Mae yna ychydig o wahaniaeth rhyngddyn nhw, ac rydyn ni’n ceisio eu dehongli nhw fel hyn:

  • Emosiynau – sut rydyn ni’n teimlo am rywbeth a sut mae ein corff yn ymateb. Er enghraifft, os byddwn yn profi ofn, efallai y byddwn yn teimlo ein calon yn curo’n gyflymach neu’n sylwi ar ein dwylo’n crynu.
  • Teimladau – sut rydyn ni’n profi ein hemosiynau ac yn rhoi ystyr iddyn nhw. Maen nhw’n wahanol i bawb. Er enghraifft, efallai y byddwn yn cysylltu dwylo’n crynu â theimlo’n bryderus.

Ar y dudalen yma, rydyn ni’n defnyddio’r gair teimladau i siarad am dy brofiadau a sut maen nhw’n effeithio arnat ti.

Weithiau mae ein teimladau’n gallu bod yn ofidus, yn frawychus neu’n ddryslyd. Yn enwedig os nad ydyn ni’n siŵr pam rydyn ni’n teimlo fel hyn.

Beth bynnag rwyt ti’n ei deimlo ar hyn o bryd, rydyn ni yma i helpu.

Mae stopio a meddwl sut rwyt ti’n teimlo yn gallu bod yn brofiad brawychus iawn, yn enwedig pan mae’r teimladau hynny’n rhai negyddol. Fe wnes i dreulio llawer o amser yn ceisio argyhoeddi fy hun bod popeth yn iawn, er ei bod hi’n amlwg bod rhywbeth o’i le, ac o edrych yn ôl dw i’n meddwl mod i’n difaru peidio ag archwilio fy nheimladau’n gynharach.

Sut ydw i’n teimlo?

Mae’n anodd gwneud synnwyr o deimladau weithiau. Efallai dy fod yn cael teimladau newydd nad wyt ti’n eu deall, er enghraifft:

  • Ddim yn teimlo fel ti dy hun
  • Teimlo bod rhywbeth ddim yn iawn
  • Methu mwynhau pethau y byddet ti’n eu mwynhau fel arfer, fel gweld ffrindiau neu ddilyn dy ddiddordebau
  • Teimlo’n flin neu’n drist
  • Eisiau bod ar dy ben dy hun
  • Cael meddyliau sy’n teimlo’n od neu’n anodd eu hegluro
  • Teimlo’n egnïol neu’n orfywiog
  • Methu â chanolbwyntio
  • Teimlo dy fod yn colli rheolaeth ar bethau

Siarada â rhywun y gelli di ymddiried ynddo os wyt ti’n poeni am unrhyw rai o’r teimladau neu’r profiadau hyn. Gall rhywun rwyt ti’n ymddiried ynddo wrando arnat, neu dy helpu i ddod o hyd i gymorth.

Beth os nad oes gen i neb i siarad gyda

Mae gennym lawer o wybodaeth am wahanol ffyrdd y gallet ti dod o hyd i gefnogaeth.

Weithiau, cyfaddef bod rhywbeth ddim yn iawn yw’r rhan anoddaf o adnabod dy deimladau.

Sut alla i adnabod beth rydw i’n ei deimlo?

Gall adnabod ein teimladau ein helpu i ddeall a dysgu sut i ymdopi â nhw.

Efallai y bydd yn teimlo’n anodd i ddechrau, ond gydag amser ac ar ôl ymarfer, gall pethau ddod yn haws.

Dyma ein hawgrymiadau ni:

  • Lawrlwytho a llenwi ein hadnodd Olwyn Emosiynau. Gall yr adnodd yma dy helpu i roi enw i deimladau sy’n anodd eu deall neu eu disgrifio. Lawrlwytho ein PDF Olwyn Emosiynau (sydd ar gael yn Saesneg yn unig ar hyn o bryd). Mae’n agor mewn ffenestr newydd.
  • Rhoi amser o’r neilltu i feddwl sut rwyt ti’n teimlo. Gallet ddefnyddio llyfr nodiadau, dyddlyfr neu dy ffôn i ysgrifennu dy deimladau.
  • Ymarfer talu sylw i dy deimladau yn y foment. Er enghraifft, sut rwyt ti’n teimlo pan fyddi di’n gwneud rhywbeth rwyt ti’n mwynhau ei wneud? Neu pan fyddi di’n gwneud rhywbeth sy’n anodd neu’n codi ofn arnat ti?
  • Mynegi dy deimladau yn greadigol. Gallet dynnu llun, peintio, ysgrifennu neu roi cynnig ar gelf a chrefft.
  • Siarad â ti dy hun fel byddet ti’n gwneud gyda ffrind da. Gallet ofyn i ti dy hun: ‘Ydy hwn yn deimlad newydd?’ neu ‘Sut mae hyn yn teimlo?’
  • Gwrando sut mae pobl eraill yn siarad am eu teimladau. Efallai y byddi di’n gallu sylwi ar eiriau neu deimladau rwyt ti’n eu hadnabod.

Mae’n bwysig talu sylw i deimladau a cheisio eu hadnabod. Ond does dim angen i ti wneud hynny drwy’r adeg. Mae gwneud amser i ymlacio a chlirio dy ben yr un mor bwysig ar gyfer dy les meddyliol. Galli gymryd egwyl mor aml ag rwyt ti angen.

Gall gweld pobl eraill yn siarad am eu teimladau nhw dy helpu di i adnabod dy deimladau di. Dw i’n cofio darllen erthyglau gan athletwyr neu bobl enwog eraill dw i’n eu hedmygu, a sylweddoli mod i ddim ar fy mhen fy hun o ran sut dw i’n teimlo. 

decorative

Cofia: mae sut rydyn ni’n profi ein teimladau yn unigryw i bob un ohonon ni.

Gallai dy deimladau a dy ymatebion di fod yn wahanol i rai pobl eraill, hyd yn oed os ydyn nhw’n ymwneud â’r un peth. Galli di hefyd brofi llawer o wahanol deimladau yr un pryd, ac mae hynny’n iawn hefyd.

Pam mod i’n teimlo fel hyn?

Gall llawer o bethau effeithio ar y ffordd rydyn ni’n teimlo, fel:

  • Problemau gartref neu yn yr ysgol
  • Problemau â pherthnasoedd neu gyfeillgarwch
  • Colli rhywun sy’n bwysig i ni
  • Bod yn ddryslyd am ein hunaniaeth neu’n credoau
  • Digwyddiadau mawr neu newidiadau yn ein bywyd
  • Pwysau gennym ni ein hunain neu bobl eraill
  • Teimlo’n unig neu deimlo bod neb yn ein deall ni
  • Teimlo’n sâl
  • Cael ein bwlio
  • Cael ein cam-drin
  • Poeni ynglŷn â beth sy’n digwydd yn y byd neu ar y newyddion
  • Poeni am bethau rydyn ni’n eu gweld ar y cyfryngau cymdeithasol
  • Profi rhywbeth trawmatig neu frawychus

Weithiau, efallai ein bod yn teimlo nad ydy pobl yn ein deall ni’n iawn. Neu ein bod yn cael trafferth i ddeall neu fynegi ein teimladau yn yr un ffordd ag y mae pobl eraill yn gwneud. Gallai hyn fod oherwydd ein bod yn niwrowahanol, er enghraifft ein bod yn awtistig neu bod gennym ADHD. Neu oherwydd ein bod wedi profi trawma. Ond mae’n bosibl bod rhesymau eraill hefyd, ac mae hynny’n iawn. 

Weithiau mae’n bosibl nad oes rheswm dros yr hyn rwyt ti’n ei deimlo, ac mae hynny’n iawn. Dwyt ti ddim ar dy ben dy hun ac rwyt ti’n dal i haeddu cael help. 

Gall fod yn anoddach deall sut rwyt ti’n teimlo os wyt ti’n ansicr ynglŷn â dy rywioldeb neu dy hunaniaeth o ran rhywedd. I gael cymorth LGBTQIA+, galli ymweld â StonewallMermaids a The Proud Trust.

Sut mae teimladau ac iechyd meddwl yn gysylltiedig? 

Gall gwybod y gwahaniaeth rhwng ein meddyliau, teimladau ac ymddygiadau ein helpu i ddeall sut mae hyn yn gysylltiedig â’n hiechyd meddwl:

  • Meddyliau – beth rydyn ni’n ei feddwl amdanom ni ein hunain a phethau sy’n digwydd.
  • Teimladau – sut rydyn ni’n profi ein hemosiynau.
  • Ymddygiadau – y ffordd rydyn ni’n gweithredu ac yn ymateb.

Er enghraifft, os ydym yn hwyr ar gyfer rhywbeth, efallai y byddwn:

  • Yn meddwl yn wael amdanom ein hunain. Efallai y byddwn yn dweud wrthym ein hunain mai arnom ni mae’r bai ac yn meddwl beth ddylen ni fod wedi ei wneud yn wahanol.
  • Yn teimlo yn bryderus, dan straen, yn euog ac yn bigog.
  • Yn ymddwyn mewn ffyrdd nad ydyn nhw’n ein helpu. Efallai y byddwn yn brysio, yn anghofio pethau neu’n osgoi mynd.

Efallai yn y diwedd y byddwn yn hwyrach neu ddim yn mynd o gwbl, sy’n dechrau’r cylch eto.

Pan fydd sefyllfa'n codi, mae ein meddyliau, ein teimladau a'n hymddygiadau'n cysylltu i greu ein profiad o beth sydd wedi digwydd. Gall bod yn ymwybodol o hyn ein helpu i fyfyrio ar sut rydym yn ymdopi â'n hiechyd meddwl.

Gall ein meddyliau, teimladau ac ymddygiadau ein helpu i edrych a oes angen i rywbeth newid. Er enghraifft, os ydym wedi bod yn teimlo’n drist neu’n isel am amser hir. Neu gallent ein hannog i ddal i wneud pethau sy’n gwneud i ni deimlo’n dda.

Os wyt ti’n cael trafferth i adnabod a deall dy deimladau, efallai y bydd yn anos i ti ymdopi pan fydd teimladau anodd yn codi. Efallai na fyddi di’n gwybod sut i ymateb. Neu efallai y byddi di’n ymateb mewn ffordd sy’n niweidiol i ti dy hun neu i rywun arall.

Edrycha ar ein hawgrymiadau ynglŷn â sut i adnabod ac ymateb i’r hyn rwyt ti’n ei deimlo i gael mwy o wybodaeth.

Ydy fy nheimladau i’n troi’n broblem iechyd meddwl?

Wrth i ni fynd yn hŷn, rydyn ni’n mynd drwy lawer o newidiadau emosiynol a chorfforol. Efallai y byddwn yn profi teimladau amrywiol o ddydd i ddydd. A gall rhai deimlo’n fwy anodd i’w rheoli.

Efallai y bydd arnom angen mwy o help a chefnogaeth os ydy’r ffordd rydyn ni’n teimlo, yn meddwl neu’n ymddwyn:

  • Yn para am amser hir
  • Yn mynd yn anodd i ymdopi â hi
  • Yn ein stopio rhag gwneud y pethau rydyn ni’n eu mwynhau

Cofia: p'un a yw dy seimladau'n rhan o broblem iechyd meddwl ai peidio, rwyt ti dal i haeddu cymorth os wyt ti'n ei chael hi'n anodd ymdopi.                                              

Beth yw iechyd meddwl?

Mae gennym wybodaeth i dy helpu i ddeall mwy am iechyd meddwl.

Does dim rhaid i hwyliau isel gael eu hachosi gan rywbeth. Mae’n gallu digwydd, ac mae hynny’n iawn!

decorative

Cofia: p’un a ydy dy deimladau di’n rhan o broblem iechyd meddwl ai peidio, rwyt ti’n dal i haeddu cael help os wyt ti’n cael trafferth i ymdopi.

Gofyn am help gyda dy deimladau

Pan fyddi di’n cael trafferth gyda dy deimladau, efallai y byddi di eisiau rheoli pethau ar dy ben dy hun i ddechrau. Neu efallai y byddi di’n teimlo nad wyt ti’n gwybod ble i ddechrau. Beth bynnag rwyt ti’n ei deimlo, does dim angen i ti ymdopi ar dy ben dy hun.

Galli siarad â rhywun cyn gynted ag y byddi di’n teimlo dy fod yn barod. Efallai y byddai’n help i ti siarad â rhywun rwyt ti’n ymddiried ynddo.

Does dim gwahaniaeth ers faint o amser rwyt ti wedi bod yn cael trafferth gyda dy deimladau, mae bob amser yn iawn i ofyn am help.

Roedd cyfrinach fy nhrafferthion yn pwyso arna i fel tunnell o frics, a phenderfynais fod yn rhaid i mi ddweud wrth rywun.

Pam ddylwn i ofyn am help?

Gall gofyn am help deimlo fel cam anodd iawn, ond gall estyn allan am gymorth ein helpu i:

  • Ddod o hyd i gefnogaeth i’n helpu â’r ffordd rydyn ni’n teimlo
  • Teimlo nad ydyn ni ar ein pen ein hunain
  • Deall ein teimladau yn well
  • Siarad â gweithiwr proffesiynol, fel meddyg, cwnselydd neu arbenigwr iechyd meddwl
  • Stopio pethau rhag teimlo’n waeth
  • Dechrau teimlo’n well

Mae’n bwysig ceisio dysgu adnabod y teimladau hyn, mynd i’r afael â nhw, a chael y gefnogaeth iawn ar yr adeg yna i ymdopi â nhw.

Beth alla i ei wneud y munud yma i gael help?

I gael help gyda dy deimladau y munud yma, dyma rai pethau y byddet ti’n gallu eu gwneud:

  • Meddwl sut y galli di rannu dy deimladau â rhywun rwyt ti’n ymddiried ynddo. Gallet siarad â ffrind, partner neu oedolyn rwyt ti’n ymddiried ynddo. Os nad wyt ti eisiau siarad neu os nad wyt ti’n siŵr beth rwyt ti’n ei deimlo, gallet geisio ysgrifennu llythyr neu dynnu llun. I gael mwy o syniadau, edrycha ar ein tudalen ar siarad â rhywun rwyt ti’n ymddiried ynddo.
  • Ffonio llinell gymorth i gael sgwrs gyfrinachol â chynghorydd. Weithiau mae’n haws siarad â rhywun dwyt ti ddim yn ei adnabod. Galli gysylltu â gwasanaeth cefnogi fel The Mix neu Childline, neu edrych ar ein tudalen cysylltiadau defnyddiol.
  • Mynd i weld y meddyg. Edrycha ar ein tudalen am siarad gyda meddyg i gael mwy o awgrymiadau.
  • Ystyried gwahanol ddewisiadau ar gyfer cefnogaeth. Mae ein tudalen ar ddod o hyd i gefnogaeth yn cynnwys dewisiadau fel man cychwyn.
  • Cymryd ychydig o amser i wneud rhywbeth rwyt ti’n mwynhau ei wneud neu sy’n dy helpu i ymlacio. Edrycha ar ein tudalen ar ofalu am dy les meddyliol i gael awgrymiadau ar gyfer pethau y byddet ti’n gallu rhoi cynnig arnyn nhw.



Apiau ar gyfer iechyd meddwl

Gall rhai apiau ein helpu gyda phethau fel teimlo'n dawelach neu reoli symptomau anodd. Ond gyda chymaint o apiau, gall deimlo'n anodd gwybod ble i ddechrau.

I ddod o hyd i apiau diogel a dibynadwy i bobl ifanc, cer i lyfrgell apiau Mind.

Rwy’n cael anhawster i ddeall fy nheimladau a dyna sy’n gwneud i mi deimlo bod pethau allan o reolaeth. Ond drwy ymarfer dw i wedi dod o hyd i dechnegau i helpu i ddeall sut dw i’n teimlo, a dw i’n defnyddio dulliau ymdopi cadarnhaol i helpu.

Cafodd y wybodaeth hon ei chyhoeddi ym mis Ebrill 2025. Byddwn yn ei diwygio ym mis Ebrill 2028. 

Mae’r bobl ifanc wedi cytuno i’w geiriau ymddangos ar y dudalen hon. Dydy eu profiadau ddim yn gysylltiedig â’r bobl sy’n ymddangos yn y lluniau.

Mae cyfeiriadau ar gael ar gais. Os ydych am atgynhyrchu'r cynnwys hwn, gweler ein tudalen caniatâd a thrwyddedu.

PIF Tick quality mark logo for trusted information creators

Am ragor o wybodaeth

arrow_upwardYn ôl i'r brig