Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd 2020 yw'r pwysicaf hyd yma.
Mae eleni wedi bod yn flwyddyn anodd i ni i gyd. Mae'r misoedd o gyfnod clo a cholled wedi effeithio'n ddifrifol ar ein iechyd meddwl.
Yn ôl ein hymchwil gyda mwy na 16,000 o bobl, rydyn ni'n gwybod fod mwy na hanner yr oedolion (60%) a mwy na dau allan dri o bobl ifanc (68%) yn dweud fod eu hiechyd meddwl wedi dirywio yn ystod y cyfnod clo. Fe wyddom ni fod llawer wedi datblygu problemau iechyd meddwl newydd o ganlyniad i'r pandemig ac, i rai ohonom, fod problemau iechyd meddwl oedd yn bodoli o'r blaen wedi gwaethygu.
Felly, eleni, rydyn ni eisiau dod â phawb at ei gilydd i nodi Diwrnod Iechyd Meddwl y byd ar 10 Hydref.
Gall gwneud newidiadau positif ymddangos mor anodd, yn enwedig ar gyfnod ansicr. Ac weithiau, mae'n gallu bod yn anodd gwybod ble i gychwyn. A ydych chi eisiau cymryd y cam cyntaf at gael ychydig o help, neu ddysgu mwy am helpu'r rhai o'ch cwmpas.
Ai mynd am dro, dysgu sgil newydd neu wneud rhywbeth creadigol, cymryd y cam cyntaf i gael cefnogaeth i chi'ch hunan neu ymestyn allan at rywun arall, cymerwch y cyfle i wneud un peth ar Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd eleni a llawrlwytho ein hadnoddau i'ch helpu chi i roi cychwyn arni.
Mae yna lawer iawn o wahanol ffyrdd o gael cymorth a chefnogaeth ar gyfer eich iechyd meddwl. Pam na wnewch chi un peth heddiw a dechrau gydag un o'r dewisiadau hyn.
Cymuned gefnogol ar lein yw Side by Side, lle gallwch chi fod yn chi'ch hun. Rydyn ni i gyd yn gwybod beth yw gorfod ymdrechu weithiau. Mae hwn yn lle diogel i wrando, rhannu a chael eich clywed.
A ydych chi'n byw gyda phroblem iechyd meddwl, neu'n cefnogi rhywun sydd, mae'n rhaid gallu cael yr wybodaeth iawn.
Darllenwch ein gwybodaeth ynghylch y gwahanol fathau o driniaethau sydd ar gael ac awgrymiadau ar gyfer iechyd meddwl ac ar sut i ddygymod â bywyd bob dydd.
Os ydych chi'n chwilio am wybodaeth iechyd meddwl ynghylch coronafeirws, darllenwch ein tudalen ynghylch corofnafeirws a'ch llesiant.
Gwasanaeth gwybodaeth a chyfeirio yw Linell Wybodaeth Mind lle gallwch gael help i ganfod rhagor ynghylch problemau iechyd meddwl, y dewis o driniaethau a lle gallwch chi gael help.
Ffoniwch ni ar 0300 123 3393
Ebost: [email protected]
Testun: 86463
Mae'r Llinell Wybodaeth ar agor Llun - Gwener, 9am - 6pm
Mewn dim ond chwe wythnos, gallwn ni helpu gyda Phryder, Iselder, Hunan Werth, Stres, Unigrwydd, Rheoli Tymer a Galar a cholled.
O'r cyfnod clo, trwy'r cyfnod seibiant, i golli swyddi. Rydyn ni i gyd wedi bod o dan bwysau. Mae'r cyfnod clo wedi effeithio arnom ni i gyd mewn gwahanol ffyrdd, a dyw hi ond yn normal ein bod yn teimlo'n ansicr ynghylch beth sydd o'n blaenau. Gallai stres yr ansicrwydd hwn fod yn effeithio ar eich iechyd meddwl hefyd.
Beth bynnag ydych chi wedi bod trwyddo eleni, mae Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd yn gyfle i wneud newidiadau positif ar gyfer iechyd meddwl eich gweithle. Ond mae'n gallu bod yn anodd gwybod ble i ddechrau weithiau.
Dechreuwch drwy lawrlwytho ein cefndir Zoom i ddangos eich cefnogaeth i Mind wrth ddechrau sgwrsio gyda'ch cydweithwyr ynghylch beth ydych chi'n ei wneud i wella iechyd meddwl.
Gwnewch un peth heddiw i gael gwell iechyd meddwl ac ymunwch â ni i gael gwell cyfle i bobl gyda phroblemau iechyd meddwl.
Gwnewch un peth heddiw drwy rannu eich stori er mwyn i bobl eraill weld nad ydyn nhw'n wynebu eu heriau ar eu pen eu hunain.
Gallwch ddefnyddio ein templedi ar gyfer storïau ar Instagram a Facebook i rannu eich awgrymiadau ynghylch gofalu am eich llesiant, ysgrifennwch flog i ni, neu ymestyn allan at rywun i gychwyn sgwrs ynghylch iechyd meddwl.
Helpwch ein Llinell Wybodaeth i fod yna i bawb ar y cyfnod tyngedfennol hwn, gan gynnwys gweithwyr rheng flaen, fel bod gan bawb ohonom rywun i siarad pan fydd pethau'n mynd yn ormod. Helpwch ni i ymestyn allan at bobl sy'n teimlo eu bod wedi'u caethiwo, yn unig ac ar eu pen eu hunain, drwy ein rhwydweithiau cefnogaeth cymheiriaid a chyngor ar gadw'n iach. A helpwch ni i ddal i ymgyrchu i amddiffyn eich hawliau ac i gefnogi eich anghenion yng Nghymru a Lloegr.