Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Paranoia

Yn egluro paranoia, gan gynnwys achosion posibl a sut i gael triniaeth a chymorth. Yn cynnwys awgrymiadau ynglŷn â sut i helpu eich hun, a chanllawiau i ffrindiau a theulu.

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Gymraeg. This link will take you to a Welsh translation of this page.

Sut alla i helpu fy hun?

Os ydych yn cael meddyliau paranoiaidd – neu’n meddwl y gallech fod yn cael rhai – mae pethau y gallwch eu gwneud i’ch helpu i ymdopi. Gallech ddewis eu trio ar eu pen eu hunain neu ar y cyd â thriniaeth.

Efallai y byddai’n werth i chi gadw dyddiadur a chofnodi, er enghraifft:

  • beth yw eich meddyliau paranoiaidd
  • sut rydych yn teimlo amdanyn nhw
  • pa mor aml rydych chi’n meddwl amdanyn nhw
  • eich cwsg
  • digwyddiadau bywyd eraill

Gallech wneud hyn mewn llyfr nodiadau neu gallech ddefnyddio ap neu offeryn ar-lein. Efallai y byddai’n syniad i chi roi rhif o 1-10 i’r meddyliau i ddangos pa mor gryf rydych chi’n credu ynddyn nhw a faint o ofid maen nhw’n ei achosi i chi.

Gallai hyn eich helpu i:

  • nodi beth allai fod yn achosi eich paranoia a phryd rydych yn fwyaf tebygol o gael meddyliau paranoiaidd
  • adnabod meddyliau paranoiaidd pan fyddwch yn eu cael nhw a’ch helpu i’w cwestiynu a’u herio
  • meddwl beth sydd wedi helpu yn y gorffennol

Pan fyddwch yn deall yn well beth sy’n achosi i chi gael meddyliau paranoiaidd, gallwch geisio cymryd camau i’w hosgoi.

Gall herio eich hun ynglŷn â’ch meddyliau amheus eich helpu i benderfynu ydy’r meddyliau hyn yn rhai paranoiaidd ynteu a ellir eu cyfiawnhau.

Dyma rai cwestiynau y gallech eu gofyn i chi eich hun:

  • Fyddai pobl eraill yn meddwl bod fy amheuon i’n realistig?
  • Beth fyddai fy ffrind gorau’n ei ddweud?
  • Ydw i wedi siarad gyda phobl eraill am fy mhryderon?
  • Ydy hi’n bosibl fy mod i wedi gweld y bygythiad fel un mwy nag ydyw mewn gwirionedd?
  • A oes unrhyw dystiolaeth ar gyfer fy amheuon nad yw’n bosibl ei chwestiynu?
  • Ydy fy mhryderon yn seiliedig ar ddigwyddiadau y byddai’n bosibl eu gweld mewn ffyrdd gwahanol?
  • Ydy fy mhryderon i’n seiliedig ar deimladau yn hytrach na thystiolaeth bendant?
  • Ydw i’n debygol o gael fy nhargedu yn fwy na neb arall?
  • Oes yna unrhyw dystiolaeth yn erbyn yr hyn rydw i’n ei gredu?
  • Ydw i’n dal i deimlo’n amheus, er bod pobl eraill wedi dweud wrtha i nad oes rheswm i mi deimlo’n amheus?

Siarad am eich meddyliau gyda rhywun rydych yn ei drystio

Efallai y byddwch yn gweld bod siarad am eich meddyliau gyda ffrind rydych yn ei drystio, neu aelod o’r teulu yn gallu helpu i leihau straen a’ch helpu i gwestiynu a herio meddyliau paranoiaidd. Gallech rannu’r wybodaeth hon gyda nhw, yn enwedig yr wybodaeth i ffrindiau a theulu. Os nad oes gennych chi rywun rydych chi’n teimlo y gallwch ei drystio, mae’r Samariaid ar gael i helpu unrhyw un sy’n poeni am rywbeth 24 awr y diwrnod.

Mae pethau yn dod ychydig yn haws ac rwy’n teimlo llai o straen ar ôl i mi rannu fy meddyliau gyda rhywun arall.

Cadw perthynas

Mae teimlo cysylltiad gyda phobl eraill yn rhan bwysig o gadw’n iach. Gall eich helpu i deimlo eich bod yn cael eich gwerthfawrogi, rhoi hyder i chi a’ch helpu i wynebu adegau anodd.

Gallai teimlo’n unig neu ar eich pen eich hun wneud eich symptomau yn waeth. Os nad ydych yn teimlo bod gennych gysylltiadau cryf gyda phobl, neu y byddech yn hoffi gwneud mwy o gysylltiadau, efallai y byddai’n werth i chi archwilio gwasanaethau cefnogi a chefnogaeth gan gymheiriaid.

Trio cefnogaeth gan gymheiriaid

Mae cefnogaeth gan gymheiriaid yn dod â phobl sydd wedi cael profiadau tebyg at ei gilydd. Gall hyn fod yn ddefnyddiol iawn i rai pobl.

Gallwch ddod o hyd i gefnogaeth gan gymheiriaid mewn llawer o ffyrdd. Gallech:

Gallwch hefyd ddod o hyd i grwpiau cefnogaeth gan gymheiriaid ar gyfer paranoia drwy The National Paranoia Network neu Rethink.

Ymwybyddiaeth ofalgar (mindfulness)

Mae rhywfaint o dystiolaeth y gall ymwybyddiaeth ofalgar helpu i leihau paranoia ysgafn. Mae mwy o wybodaeth ar ein tudalennau am ymwybyddiaeth ofalgar.

Rheoli straen

Mae ein tudalennau ar reoli straen yn cynnwys gwybodaeth ac awgrymiadau i’ch helpu i ddygymod â sefyllfaoedd neu ddigwyddiadau sy’n achosi straen.

Trio technegau ymlacio

Gall ymlacio eich helpu i ofalu am eich lles pan fyddwch yn teimlo dan straen, yn bryderus neu’n brysur. Edrychwch ar ein tudalennau am ymlacio i weld awgrymiadau ac ymarferion i’ch helpu i ymlacio.

Trio cael digon o gwsg

Mae cwsg yn gallu rhoi egni i chi i’ch helpu i ymdopi â theimladau a phrofiadau anodd. Mae mwy o wybodaeth ar ein tudalennau problemau cysgu, gan gynnwys awgrymiadau i’ch helpu i gysgu’n well.

Meddwl am eich deiet

Gall bwyta’n rheolaidd a chadw lefel y siwgr yn eich gwaed yn sefydlog wneud gwahaniaeth i’ch hwyliau a’ch lefelau egni. Mae mwy o wybodaeth ar ein tudalennau am fwyd a hwyliau.

Os oes gennych berthynas anodd gyda bwyd a bwyta, mae ein tudalennau am broblemau bwyta yn cynnwys gwybodaeth ac awgrymiadau a allai helpu.

Bod yn egnïol

Gall ymarfer corff fod yn dda iawn i’ch lles meddyliol. Gall hyd yn oed ychydig o ymarfer corff wneud gwahaniaeth mawr. Mae ein tudalennau am weithgarwch corfforol a’ch iechyd meddwl yn cynnwys syniadau ar gyfer pobl o bob oed a gallu, gan gynnwys pethau y gallwch eu gwneud gartref.

Treulio amser yn mwynhau natur

Gall treulio amser yn yr awyr agored helpu i wella eich hwyliau a gwneud i chi deimlo mwy o gysylltiad â’r hyn sydd o’ch cwmpas. Gallech fynd am dro i barc neu goedwig leol, garddio neu ddod â natur i’ch cartref. Mae ein gwybodaeth am natur ac iechyd meddwl yn cynnwys mwy o wybodaeth am y manteision, a llawer o syniadau y gallech eu trio.

Trio gwneud rhywbeth creadigol

Gall gwneud rhywbeth creadigol, fel dwdlo, chwarae offeryn cerdd neu bobi, helpu i dynnu eich sylw oddi wrth feddyliau neu deimladau anodd, neu eich helpu i’w prosesu. Gall roi teimlad o foddhad i chi hefyd. Ceisiwch beidio â phoeni am y cynnyrch terfynol. Canolbwyntiwch ar fwynhau eich hun.

Diweddarwyd y wybodaeth hon ddiwethaf yng Ngorffennaf 2020. Byddwn yn ei diwygio yn 2023.

Mae cyfeirnodau ar gael. Os dymunwch atgynhyrchu'r wybodaeth hon, ewch i'n tudalen ar ganiatâd a thrwydded.

arrow_upwardYn ôl i'r brig