Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Anhwylder personoliaeth ffiniol (BPD)

Mae'n esbonio anhwylder personoliaeth ffiniol (BPD), a elwir hefyd yn anhwylder personoliaeth ansefydlog yn emosiynol (EUPD). Mae'n cynnwys sut beth ydyw, achosion, triniaeth, cymorth a hunanofal, yn ogystal ag awgrymiadau ar gyfer ffrindiau a theulu.

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Gymraeg. This link will take you to a Welsh translation of this page.

Therapïau siarad

Therapïau siarad: credir mai dyma'r driniaeth fwyaf defnyddiol ar gyfer BPD, ond mae angen mwy o waith ymchwil i'r mathau o driniaethau sydd fwyaf effeithiol.

Mae'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) – y sefydliad sy'n paratoi canllawiau ar arferion gorau mewn gofal iechyd – yn awgrymu y gallai'r mathau canlynol o driniaethau siarad fod o gymorth:

  • Therapi Ymddygiad Dialectig (DBT)– sy'n defnyddio therapi unigol a therapi grŵp i'ch helpu i ddysgu sgiliau i ymdopi ag emosiynau anodd. Hyd yma, mae NICE wedi argymell y driniaeth hon i fenywod gyda BPD sy'n hunan-niweidio yn aml. Hefyd, mae'r driniaeth yn cael ei hystyried yn ddefnyddiol i grwpiau eraill (edrychwch ar ein tudalennau DBT i gael rhagor o wybodaeth.)
  • Therapi sy'n Seiliedig ar Feddwl (MBT)– sy'n ceisio eich helpu i gydnabod a deall eich cyflwr meddwl eich hun a chyflwr meddwl pobl eraill, ac archwilio eich meddyliau amdanoch chi eich hun ac eraill. Gallwch ddarllen mwy am MBT ar dudalennau BPD ar wefan Dewisiadau'r GIG.

Fy mhrofiadau o DBT

Rydw i'n gweld dyfodol i mi fy hun nawr, a doeddwn i ddim yn gallu dychmygu hynny cyn cael therapi.

Mae NICE yn dweud y gallai mathau eraill o therapïau siarad fod o fudd, gan gynnwys y canlynol:

  • Therapi Gwybyddol Ymddygiadol (CBT)– sy'n ceisio eich helpu chi i ddeall sut gallai eich meddyliau a'ch credoau effeithio ar eich teimladau a'ch ymddygiad. (Edrychwch ar ein tudalennau CBT i gael rhagor o wybodaeth.)
  • Therapi Dadansoddol Gwybyddol (CAT)– sy'n cyfuno dulliau ymarferol CBT â ffocws ar y berthynas rhyngoch chi a'ch therapydd. Gall hyn eich helpu i weld sut berthynas sydd gennych chi â phobl, gan gynnwys gyda chi'ch hun, a pha batrymau sydd wedi datblygu i chi.
  • Therapïau siarad eraill– fel therapi gwybyddol sy'n canolbwyntio ar sgema, therapi seicodynamig, therapi rhyngbersonol neu therapïau celf. (Edrychwch ar ein tudalennau therapïau siarad a therapïau celf i gael rhagor o wybodaeth.)

Therapi sy'n seiliedig ar feddyliaeth

Gwnes i uniaethu â thri dieithryn mewn ffordd nad oeddwn i erioed wedi gallu uniaethu â neb arall. Erioed.

Cymunedau therapiwtig

Mae cymunedau therapiwtig yn rhaglenni sydd wedi'u cynllunio'n arbennig, lle rydych chi'n gweithio gyda grŵp o bobl eraill sydd â phroblemau iechyd meddwl, er mwyn cefnogi eich gilydd i wella. Efallai y byddwch yn cyd-fyw drwy'r amser neu rywfaint, neu'n cwrdd yn rheolaidd.

Gall gweithgareddau gynnwys gwahanol fathau o therapi unigol neu therapi grŵp, yn ogystal â gwaith tŷ a gweithgareddau cymdeithasol. Mae gan y Consortiwm Cymunedau Therapiwtig gyfeiriadur o gymunedau therapiwtig yn y DU.

Rydw i wedi addysgu fy hun am emosiynau, ac mae llyfrau, therapi, seicolegwyr a ffrindiau wedi fy nysgu i. Y peth pwysig i'w gofio ydy, dydy hi byth yn rhy hwyr i ddysgu.

Meddyginiaeth

Nid yw NICE yn argymell defnyddio meddyginiaeth i drin symptomau parhaus BPD. Y rheswm dros hyn yw nad oes unrhyw gyffuriau y credir eu bod nhw'n effeithiol.

Ond rydyn ni'n gwybod yn ymarferol fod meddygon yn aml yn rhoi meddyginiaeth ar bresgripsiwn i bobl sy'n cael diagnosis o BPD. Gallai hyn gynnwys gwrth-iselyddion, gwrthseicotigau neu gyffuriau sefydlogi hwyliau.

Efallai y byddwch hi hefyd yn cymryd y feddyginiaeth hon ar gyfer problemau iechyd meddwl eraill rydych chi'n eu hwynebu. Neu efallai y byddwch chi'n cael meddyginiaeth i'ch helpu i reoli symptomau penodol.

Mewn argyfwng, efallai y bydd eich meddyg yn rhoi tabledi cysgu neu dawelyddion ysgafn i chi er mwyn helpu i dawelu eich meddwl. Ond ni ddylai roi'r rhain ar bresgripsiwn i chi am fwy nag wythnos.

Dylai eich meddyg roi gwybodaeth i chi am unrhyw gyffuriau y byddwch chi'n eu cymryd. Dylai'r wybodaeth hon fod mewn fformat sy'n hawdd cael gafael arno a'i ddeall. Dylai hefyd gynnal apwyntiadau dilynol rheolaidd er mwyn adolygu eich meddyginiaeth. Felly, os nad yw hyn yn digwydd a hoffech chi siarad am eich meddyginiaeth, trefnwch apwyntiad i'w thrafod â'ch meddyg.

Dwi wedi dod o hyd i'r feddyginiaeth orau i mi ac rwy'n ceisio cadw strwythur i fy mywyd. Dyw hi ddim yn hawdd, ond mae gwella yn bosibl.

Mae meddyginiaeth yn help mawr i rai pobl, ond nid yw'n iawn i eraill. Cyn i chi benderfynu cymryd unrhyw feddyginiaeth, gwnewch yn siŵr bod gennych chi'r holl ffeithiau sydd eu hangen arnoch chi i wneud penderfyniad gwybodus.

Edrychwch ar ein tudalennau pethau i'w hystyried cyn cymryd meddyginiaeth a'ch hawl i wrthod meddyginiaeth i gael rhagor o wybodaeth. Mae ein tudalennau rhoi'r gorau i gymryd meddyginiaeth yn rhoi arweiniad ar sut i roi'r gorau i gymryd meddyginiaeth yn ddiogel.

Sut alla i gael triniaeth?

Er mwyn cael triniaeth drwy'r GIG, ewch i weld eich meddyg teulu, a all eich hatgyfeirio at eich tîm iechyd meddwl cymunedol am asesiad.

Os ydych yn cael triniaeth gan y GIG, dylai fod yn unol â chanllawiau NICE. Mae'r rhain yn dweud:

  • Dylai unrhyw un y gallai fod ganddo BPD gael asesiad strwythuredig gan
    arbenigwr ar iechyd meddwl cyn cael diagnosis.
  • Dylech chi allu mynegi eich barn am y math o driniaeth y byddwch chi'n cael ei chynnig. Os nad ydych chi'n cael y math o driniaeth a fyddai'n eich helpu fwyaf, yn eich barn chi, gallai fod yn fuddiol siarad ag eiriolwr.

Gallwch ddarllen y canllawiau llawn ac argymhellion ychwanegol ar gyfer BPD yn Gymraeg neu yn Saesneg ar wefan NICE

A fydda i'n cael yr help sydd ei angen arna i mewn argyfwng?

Yn anffodus, efallai y byddwch chi'n gweld nad yw'r gwasanaethau yn eich ardal chi bob amser yn gallu rhoi'r gofal gorau posibl i chi.

Rydyn ni'n gwybod pa mor rhwystredig ac anodd y gall fod i ymdopi â gwasanaethau nad ydyn nhw'n darparu'r union help sydd ei angen arnoch chi, yn union pan fydd ei angen arnoch chi. Dyna pam rydyn ni'n ymgyrchu i wella gofal mewn argyfwng ym mhob rhan o'r sir.

Gallwch chi ddysgu mwy am ein hymgyrch gofal mewn argyfwng yma, a darllen am y ffyrdd gwahanol y gallwch chi weithredu gyda Mind.

A alla i fynd yn breifat?

Gall amseroedd aros am driniaethau siarad drwy'r GIG fod yn hir, ac nid oes gwasanaethau arbenigol ar gael drwy'r GIG bob amser. Oherwydd hyn, efallai y byddwch chi'n ystyried mynd yn breifat. Yn anffodus, gall hyn fod yn ddrud, felly efallai na fydd yn bosibl.

Fodd bynnag, mae rhai therapyddion preifat yn codi taliadau ar raddfa symudol, yn dibynnu ar eich amgylchiadau, felly mae'n werth edrych ar eu gwefan neu gysylltu â nhw i weld a yw hyn yn rhywbeth y gallan nhw ei gynnig. Mae ein hadnoddau ar ofal sector preifat yn cynnwys rhagor o wybodaeth.

Roeddwn i'n ddiymadferth ac yn ddiobaith am amser hir. Ond pan ddes i ddeall o'r diwedd mai dim ond fi allai wneud gwahaniaeth ac nad oedd unrhyw ffon hud, newidiodd pethau.

Ble arall alla i gael help?

Gall triniaeth ar gyfer BPD fod yn gyfyngedig iawn a gall amrywio yn dibynnu ar eich amgylchiadau. Os ydych chi'n ei chael hi'n anodd cael y cymorth sydd ei angen arnoch chi drwy'r GIG, gallai fod yn werth ymchwilio i elusennau neu sefydliadau eraill yn y trydydd sector. Efallai y bydd eich elusen Mind leol yn gallu helpu neu awgrymu gwasanaethau lleol eraill. Mae ein hadnoddau ar wasanaethau yn y trydydd sector yn cynnwys rhagor o wybodaeth.

Neu gallech chi ystyried rhoi cynnig ar gymorth gan gymheiriaid. Gallai hyn fod drwy gymuned ar-lein, fel Ochr-yn-Ochr Mind. Neu drwy grwpiau cymorth lleol. Mae ein hadnoddau ar wynebu rhwystrau i geisio help yn cynnwys cyngor ar beth i'w wneud pan fyddwch chi'n ei chael hi'n anodd cael gafael ar y cymorth sydd ei angen arnoch chi.

Dechreuodd pethau newid pan ddywedodd un ysbyty fod ffordd ymlaen, nad oedd yn rhaid i mi deimlo mor dorcalonnus am byth. Doedd hi ddim yn broses hawdd, ond roedd sylweddoli bod gobaith a bod pobl eraill wedi mynd ymlaen i gyflawni pethau gwych, yn ysbrydoliaeth.

Cyhoeddwyd y wybodaeth hon ym mis Medi 2022. Byddwn yn ei diwygio yn 2025.

References and bibliography available on request.

If you want to reproduce this content, see our permissions and licensing page.

arrow_upwardYn ôl i'r brig