Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Cael cymorth

Gall siarad am broblemau ariannol fod yn anodd. Ac os ydych chi wedi cael profiad gwael yn y gorffennol, efallai y byddwch chi'n teimlo nad oes pwynt rhoi cynnig arall arni. Ond mae llawer o leoedd y gallech chi droi atyn nhw. Os bydd angen cymorth ariannol neu gymorth iechyd meddwl arnoch chi, neu'r ddau, efallai y bydd yr awgrymiadau hyn yn ddefnyddiol i chi.

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Gymraeg. This link will take you to a Welsh translation of this page.

Os ydych chi’n teimlo eich bod yn methu â chadw eich hun yn ddiogel, mae’n argyfwng iechyd meddwl.

Gofynnwch am gyngor brys

Gwasanaethau Mind

  • Mae llinellau cymorth Mind yn rhoi gwybodaeth a chymorth dros y ffôn a thrwy e-bost.
  • Mae canghennau Mind lleol yn cynnig gwasanaethau wyneb yn wyneb ledled Cymru a Lloegr. Ymysg y gwasanaethau hyn mae therapïau siarad, cymorth gan gymheiriaid ac eiriolaeth.
  • Ochr yn Ochr yw ein cymuned ar-lein gefnogol i unrhyw un sydd â phroblem iechyd meddwl.

Cymorth ar gyfer eich iechyd meddwl

Dw i wedi stopio gosod ffiniau afrealistig o ran fy ngwariant a bod mor feirniadol o'm hun pan fyddaf yn gwario arian.

Cymorth gyda dyled

Mae'n drueni nad oeddwn i'n gwybod yn gynt bod mynd i ddyled yn gallu bod yn rhan o gael problem iechyd meddwl. Ac mae'n drueni bod cymaint o ofn arna i ofyn am help.

Cymorth i reoli eich arian

  • Os ydych chi'n fyfyriwr, siaradwch â'r gwasanaethau myfyrwyr neu eich tiwtor. Efallai y byddan nhw'n gallu eich helpu i wneud cais am grantiau neu fwrsariaethau ychwanegol. Darllenwch ein gwybodaeth am reoli eich arian fel myfyriwr.
  • Dewch o hyd i fanc bwyd lleol.
  • Gan wefan Cyngor Iechyd Meddwl ac Arian ganllawiau ar hawlio budd-daliadau pan fydd gennych broblem iechyd meddwl.
  • Ceisiwch help i gael gafael ar fudd-daliadau a grantiau gan Turn2Us.
  • Siaradwch â rhywun o Cyngor ar Bopeth. Gallech chi gael cyngor am ddim ar eich hawliau o ran problemau cyfreithiol, ariannol a thai.
  • Defnyddiwch yr adnoddau ar wefan Helpwr Arian. Mae cyfrifianellau ar gyfer gweithio allan gostau eich arbedion, eich dyledion a'ch benthyciadau, a llythyrau enghreifftiol ar gyfer cysylltu â gwasanaethau.
  • Darllenwch awgrymiadau am reoli arian gan Money Saving Expert.

Yn ogystal â lleihau fy maich ariannol, gwnaeth ceisio help fy helpu yn feddyliol hefyd. Unwaith roeddwn i wedi penderfynu gwneud newid, rhoddodd hynny agwedd fwy cadarnhaol am fywyd i mi.

Cyhoeddwyd y wybodaeth hon fis Awst 2021. Byddwn yn ei diwygio yn 2024.

References and bibliography available on request.

If you want to reproduce this content, see our permissions and licensing page.

arrow_upwardYn ôl i'r brig