Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Ymdopi â hunan-niweidio – i bobl ifanc

Gwybodaeth i bobl ifanc am hunan-niweidio, gyda chyngor ar sut i helpu dy hun a ble i fynd am gefnogaeth.

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Gymraeg. This link will take you to a Welsh translation of this page.

Ymdopi â hunan-niweidio

Gall hunan-niweidio effeithio arnom mewn llawer o wahanol ffyrdd.

Efallai dy fod wedi hunan-niweidio o'r blaen, yn meddwl am hunan-niweidio, neu eisiau cefnogi rhywun arall sy'n hunan-niweidio. Efallai dy fod hefyd wedi clywed pobl yn siarad am hunan-niweidio ond nad wyt yn siŵr beth mae'n ei olygu.

Gall fod yn anodd siarad am hunan-niweidio oherwydd gellir ei gysylltu ag emosiynau nad ydym yn gwybod sut i’w mynegi. Ond does dim rhaid i bethau fod felly.

Rydyn ni yma i dy helpu di i ddeall hunan-niweidio, ac i egluro pa help a chefnogaeth sydd ar gael i ti.

Mae'r dudalen hon yn cynnwys:

Os wyt ti eisiau gwybod sut i gefnogi ffrind neu bartner, gweler ein tudalen ar gefnogi rhywun sy'n hunan-niweidio.

Rhybudd: gall rhywfaint o wybodaeth ar y dudalen hon fod yn anodd ei darllen neu gall achosi teimladau cryf neu ofidus. Dal ati i ddarllen dim ond os wyt ti'n teimlo'n saff i wneud hynny.

Beth i'w wneud mewn argyfwng

  • Os wyt ti’n teimlo mewn panig neu'n benysgafn ar ôl brifo dy hun, neu ar ôl llyncu neu roi rhywbeth yn dy gorff, mae hyn yn argyfwng. Dylet ti neu oedolyn dibynadwy ffonio 999 a gofyn am ambiwlans.
  • Os wyt ti’n teimlo y galli di geisio lladd dy hun neu na elli di gadw dy hun yn ddiogel, mae hyn yn argyfwng. Dylet ti neu oedolyn dibynadwy ffonio 999 fel y galli di gael cefnogaeth cyn gynted â phosibl.
  • Os wyt ti’n teimlo dy fod wedi dy orlethu, neu fel dy fod eisiau brifo dy hun, galli di ffonio HOPELINEUK neu anfon neges destun at wasanaeth Crisis Messenger YoungMinds a bydd cwnselydd yn trafod pethau gyda thi.
  • Cofia: mae argyfyngau iechyd meddwl yn ddifrifol. Dwyt ti ddim yn gwastraffu amser unrhyw un.

Beth yw hunan-niweidio? 

Mae hunan-niweidio yn golygu brifo dy hun yn emosiynol neu'n gorfforol ar bwrpas. Efallai y byddi hefyd yn ei glywed yn cael ei alw yn:

  • ‘hunan-anafu’
  • ‘torri’
  • ‘hunan-drais’
  • ‘hunan-anafu anhunanladdol’
  • ‘ymddygiad hunan-niweidiol’.

Mae pobl yn hunan-niweidio am lawer o wahanol resymau, ac mewn sawl ffordd wahanol. Gall y rheswm neu'r ffordd y maent yn hunan-niweidio fod yn wahanol bob tro hefyd. Ac weithiau gallant hunan-niweidio ond heb sylweddoli tan wedi hynny.

Mae hunan-niweidio yn aml yn cael ei gamddeall. Gad inni chwalu rhai chwedlau ac ystrydebau rwyt ti efallai wedi'u clywed:

Gall hunan-niweidio fod ar sawl ffurf, gan gynnwys:

  • brifo neu anafu dy hun, fel bwrw wal â dy ben
  • gwenwyno dy hun
  • gwneud rhywbeth a fydd yn dy roi mewn perygl, fel ymladd neu or-yfed mewn pyliau
  • peidio â gofalu amdanat dy hun, fel peidio â bwyta prydau bwyd neu ymolchi
  • anfon negeseuon atgas neu ymosodol at dy hun, neu amdanat dy hun, ar-lein.

Gellir ystyried unrhyw ffordd y mae rhywun yn brifo neu'n anafu ei hun ar bwrpas yn hunan-niweidio.

Os nad wyt ti’n sylweddoli bod yr hyn rwyt ti’n ei wneud yn hunan-niweidio, gall fod yn anoddach cydnabod bod angen help a chefnogaeth arnat ti. Felly mae'n bwysig ceisio deall y rhesymau y tu ôl i'r ymddygiad.

"Gall hunan-niweidio gymryd sawl ffurf. Doeddwn i ddim yn gwybod fy mod i'n hunan-niweidio yn ystod y rhan fwyaf ohono. Fe fydd yna bobl allan yna sy'n gwneud y pethau hyn, heb sylweddoli difrifoldeb yr hyn maen nhw'n ei wneud."

Gall unrhyw un hunan-niweidio, waeth beth yw eu rhyw.

Mae mwy o ferched yn cael eu gweld gan feddygon neu wasanaethau lleol ynglŷn â hunan-niweidio, ond nid yw hynny'n golygu mai nhw yw'r unig rai sy'n brifo'u hunain at bwrpas.

Effeithir ar fechgyn a dynion hefyd. Ac efallai mai chwedlau fel hyn sy'n ei gwneud hi'n anoddach iddyn nhw geisio cymorth.

Os yw bechgyn yn hunan-niweidio, gallant deimlo eu bod yn cael eu barnu neu eu camddeall. Neu os yw eu hunan-niweidio wedi'i guddio gan ddicter, gall gymryd mwy o amser i’w ddarganfod ac iddynt dderbyn help.

Gall pobl o unrhyw oedran hunan-niweidio.

Gall plant o dan 11 oed feddwl am frifo eu hunain, a hyd yn oed am hunanladdiad.

Efallai y bydd yn anoddach adnabod hunan-niweidio plant. Er enghraifft, os ydyn nhw'n rhy ifanc i ddeall eu hymddygiad, neu os nad ydyn nhw'n gallu siarad â rhywun amdano.

Nid yw hunan-niweidio yn heintus. Ni ellir ei ddal fel afiechyd ac nid yw bod yn agos at rywun sy'n hunan-niweidio yn golygu y byddi di’n hunan-niweidio. Nag ychwaith os byddi’n clywed am hanes rhywun sy’n hunan-niweidio.

Ond mae mwy o siawns o hunan-niweidio os yw rhywun sy'n agos atat ti wedi hunan-niweidio. Gallent fod yn gorfforol agos, fel yn yr un dosbarth, neu'n emosiynol agos, fel ffrind neu aelod o'r teulu.

Dyma rai rhesymau pam:

  • gellir ei ystyried yn ymateb ‘normal’ o fewn grŵp i ddelio â theimladau neu brofiadau anodd
  • gall rhywun ddysgu sut i niweidio ei hun gan rywun arall
  • gall fod o ganlyniad i bwysau cyfoedion, fel copïo eraill er mwyn ffitio i mewn.

Dyma pam y dylem fod yn ofalus ynglŷn â sut rydyn ni'n siarad am hunan-niweidio wrth eraill, a'r hyn rydyn ni'n ei weld neu'n ei ddarllen ar-lein.

Efallai y bydd rhywun yn brifo'i hun dros gyfnod hir, cyfnod byr, neu hyd yn oed unwaith neu ddwy yn unig. Pa mor hir bynnag y mae eu hunan-niweidio yn para, nid yw'n gyfnod dros dro ac ni ddylid ei anwybyddu.

Nid yw clywed mai ‘dim ond cyfnod dros dro’ ydi o, ‘emo ydi o’, neu ‘rho’r gorau iddi’ yn helpu’r person hwnnw i stopio hunan-niweidio. Fe allai wneud iddyn nhw deimlo'n waeth ac achosi iddyn nhw frifo'u hunain yn fwy.

Mae angen i bobl sy'n hunan-niweidio deimlo eu bod yn cael eu deall. Mae angen eu cefnogi hefyd i ddysgu ffyrdd newydd o ymdopi â'u teimladau.

"Yn yr ysgol, pe bai rhywun â chreithiau ar eu breichiau, byddai pobl yn chwerthin, yn eu galw'n emo ac yn syml yn anwybodus ynglŷn ag o.

Nid yw pawb sy'n hunan-niweidio yn ystyried dod â'u bywyd i ben.

Mae rhai pobl sy'n hunan-niweidio hefyd yn profi teimladau hunanladdol, ond nid yw bob amser yn golygu eu bod eisiau marw.

Os yw rhywun yn hunan-niweidio a hefyd yn teimlo'n hunanladdol, mae hyn yn argyfwng. Gallent anfon neges destun ‘YM’ i 85258 i siarad ag ymgynghorydd o wasanaeth Crisis Messenger YoungMinds, neu dylai oedolyn ffonio 999 i sicrhau eu bod yn cael yr help sydd ei angen arnynt.

Gall pobl sy'n hunan-niweidio ei gadw'n dawel am fisoedd neu flynyddoedd cyn dweud wrth rywun neu ofyn am help.

Efallai eu bod yn cuddio eu hunan-niweidio oherwydd bod ganddyn nhw gywilydd neu’n poeni am sut y bydd eraill yn ymateb, neu oherwydd nad ydyn nhw eisiau teimlo fel eu bod yn ‘faich’ ar bobl.

Efallai na fydd y ffordd y mae rhywun yn hunan-niweidio yn gadael marciau neu arwyddion amlwg chwaith.

Mae'n bwysig cofio nad oes unrhyw beth i fod â chywilydd ohono. A gallai cadw dy hunan-niweidio'n gyfrinach dy atal rhag cael yr help sydd ei angen arnat.

Mae rhai pobl yn defnyddio hunan-niweidio fel ffordd i ymdopi â phrofiad, meddwl neu deimlad negyddol. Efallai eu bod yn teimlo mai dyma'r unig ffordd iddynt ymdopi â'r sefyllfa, neu eu teimladau, ar y pryd.

Fodd bynnag, mae hunan-niweidio yn strategaeth ymdopi negyddol. Efallai y bydd yn cael gwared â rhywfaint o'r straen neu'r emosiwn ar y dechrau, ond nid yw'n helpu i ddelio â'r rheswm rwyt ti’n teimlo'n ofidus.

Ac os byddi di’n dechrau dibynnu ar hunan-niweidio fel strategaeth ymdopi, dros amser mae'n stopio rhoi ymdeimlad o gysur neu ryddhad, ac yn helpu llai a llai.

Nid yw hunan-niweidio yn ddiagnosis o broblem iechyd meddwl. Mae'n ymddygiad a ddefnyddir yn aml i ddelio â meddyliau neu brofiadau anodd.

Pan fydd rhywun yn brifo'i hun, gallai fod yn gysylltiedig â phroblemau iechyd meddwl. Ond ar ei ben ei hun, nid yw'n golygu bod gan rywun broblem iechyd meddwl.

Gall triniaeth a chefnogaeth ar gyfer hunan-niweidio fod trwy wasanaethau iechyd meddwl, fel Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMHS). Gallwch ddysgu rhagor ar ein tudalen am ddeall CAMHS.

Mae'n dda cofio bod iechyd meddwl yn ymwneud â sut rydyn ni'n meddwl, yn teimlo ac yn gweithredu, ac mae gan bob un ohonom iechyd meddwl. Mae cael cefnogaeth i dy iechyd meddwl yn beth da, p'un a oes gen ti broblem iechyd meddwl ai peidio.

"Daw salwch meddwl ar ffurf pob lliw a llun. Mae'n dda i bobl wybod nad oes yn rhaid i ti fod eisiau niweidio dy hun i fod angen help."

Gyda'r help a'r gefnogaeth gywir, galli di leihau dy hunan-niweidio ac yna ei atal.

Ond efallai na fydd yn hawdd. Po hiraf y byddi wedi bod yn hunan-niweidio, yr hiraf y gall ei gymryd i chwalu dy ddibyniaeth arno a rhoi rhywbeth mwy diogel yn ei le.

Proses yw adferiad o hunan-niweidio, nid nod terfynol. Gall adferiad ymwneud â rheoli'r ysfa i hunan-niweidio, yn hytrach na stopio'n llwyr.

Weithiau gall fod rhwystrau, ac mae hynny'n iawn. Nid yw'n golygu nad wyt ti eisiau gwella, ac mae'n rhan o ddysgu beth sy'n dy helpu di a beth sydd ddim.

Mae eisiau newid sut wyt ti’n ymdopi yn gam cyntaf gwych i atal hunan-niweidio.

Pam mae pobl yn hunan-niweidio?

Mae pobl yn hunan-niweidio am wahanol resymau.

Efallai y byddan nhw'n hunan-niweidio fel ffordd o ddelio â rhywbeth anodd sy'n digwydd neu sydd wedi digwydd iddyn nhw yn y gorffennol. Neu efallai nad ydyn nhw'n gwybod pam eu bod nhw'n brifo eu hunain. Hyd yn oed os nad wyt ti’n deall pam dy fod yn hunan-niweidio, dwyt ti ddim ar dy ben dy hun a galli di gael help o hyd.

Mae rhai rhesymau mae pobl ifanc yn hunan-niweidio yn cynnwys:

  • byw gyda phroblemau iechyd – fel problem iechyd corfforol neu salwch
  • byw gyda phroblem iechyd meddwlneu brofiadau sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl gwael, fel dicter neu glywed lleisiau
  • byw gyda chyflyrau fel ADHD neu awtistiaeth
  • profiadau dirdynnol neu ofidus fel problemau perthynas, colli rhywun annwyl, bwlio, cam-drin neu bryderon ariannol
  • meddyliau ymwthiol meddyliau nad ydych chi eu heisiau ond sy’n dal i ddod
  • problemau ynglŷn â sut rydych chi'n teimlo amdanoch chi'ch hun – fel profi hiliaeth neu homoffobia, cwestiynu eich rhywioldeb neu hunaniaeth, bod â hunan-barch isel neu bryderon delwedd corff
  • hunan-niweidio yn teimlo’n ‘normal’ ymhlith dy gyfoedion
  • gweld delweddau o hunan-niweidio ar-lein
  • yfed alcohol neu gymryd cyffuriau.

Dywedodd pobl ifanc wrthym hefyd eu bod yn hunan-niweidio oherwydd eu bod eisiau:

  • dangos sut maen nhw'n teimlo heb siarad
  • tynnu eu meddwl o'r ffordd y maent yn teimlo
  • ymdopi â, neu ddianc rhag, teimladau, meddyliau neu atgofion poenus
  • cosbi eu hunain am rywbeth
  • stopio teimlo'n ddatgysylltiedig oddi wrthynt eu hunain neu'r byd
  • creu rheswm i edrych ar ôl eu hunain, fel gofalu am glwyfau
  • rheoli meddyliau am hunanladdiad

Mae'n iawn os nad wyt ti'n gwybod pam dy fod yn hunan-niweidio.

Hunan-niweidio yn ystod coronafeirws

Yn ystod y pandemig coronafeirws, dywedodd pobl ifanc wrthym eu bod yn colli strategaethau ymdopi cadarnhaol, fel gweld ffrindiau neu fod y tu allan.

Fe wnaethant ddweud wrthym hefyd eu bod yn defnyddio strategaethau ymdopi mwy negyddol, fel yfed alcohol, defnyddio cyffuriau anghyfreithlon a hunan-niweidio.

Os wyt ti wedi dechrau hunan-niweidio, mae dy hunan-niweidio wedi gwaethygu, neu os wyt ti’n poeni y gallet frifo dy hun, galli anfon neges destun ‘YM’ i 85258 i siarad â gwirfoddolwr hyfforddedig o wasanaeth Crisis Messenger YoungMinds. Byddan nhw'n anfon neges destun yn ôl atat ti, yn gwrando ar sut rwyt ti’n teimlo ac yn dy helpu i weithio pethau drwodd.

Efallai y bydd rhai pobl yn ceisio hunan-niweidio unwaith, ac yna'n symud ymlaen i strategaeth ymdopi wahanol. Efallai y bydd eraill yn rhoi cynnig arno sawl gwaith oherwydd ei fod i’w weld yn gweithio, ac yna'n dechrau dibynnu arno.

Gall hunan-niweidio hefyd fagu emosiynau anodd fel euogrwydd neu gywilydd, a allai ei gwneud hi'n anoddach i stopio neu i chwilio am help.

Cofia: dim ond rhyddhad dros dro y gall hunan-niweidio ei gynnig. Nid yw'n helpu nac yn atal y broblem wreiddiol a gall hefyd roi dy fywyd mewn perygl. Ond galli di gael help a chefnogaeth i ddod o hyd i ffyrdd newydd o ymdopi.

Mae hunan-niweidio yn rhywbeth rydyn ni'n meddwl sy'n gwneud i ni deimlo'n well, ond dydi o ddim. Yn y foment honno, ydy, mae'n gwneud. Ond rhyddhad dros dro mae'n ei gynnig.

Hunan-niweidio a bod yn LGBTQIA+

Efallai y bydd pobl ifanc sy'n rhan o'r gymuned LGBTQIA+, neu'n dal i weithio allan beth yw eu rhyw neu rywioldeb, yn cael profiad o:

  • rhywun yn ymateb yn wael pan ddônt allan, fel cael eu gwrthod
  • cael eu bwlio, neu brofi stigma neu wahaniaethu
  • teimlo'n ddryslyd, yn anghyfforddus neu'n negyddol ynglŷn â phwy ydyn nhw
  • delio ag ystrydebau rhywioldeb neu ryw, i weithredu neu i fodoli mewn ffordd benodol
  • diffyg cefnogaeth gan bobl o'u cwmpas
  • teimlo eu bod yn methu â siarad yn agored am sut maen nhw'n teimlo
  • cefnogi ffrindiau eraill sydd hefyd yn LGBTQIA+.

Os nad ydyn nhw'n gwybod sut arall i ymdopi, gallent fod yn fwy tebygol o hunan-niweidio.

Dyma pam mae angen cefnogaeth ar bobl ifanc sy'n nodi eu bod yn LGBTQIA+. I gael cefnogaeth LGBTQIA+, galli di ymweld â Stonewall a Mermaids.

Ymdopi â'r ysfa i hunan-niweidio

Pan fyddi di eisiau hunan-niweidio, gall fod yn anodd canolbwyntio ar unrhyw beth arall neu feddwl am ffyrdd eraill o ymdopi. Yn enwedig os wyt ti wedi hunan-niweidio dros amser hir.

Gydag amser ac ymarfer, galli di ddod o hyd i ffyrdd eraill o ymdopi â dy deimladau.

Efallai na fydd rhai o'r strategaethau hyn yn gweithio i ti. Neu efallai y gweli fod gwahanol bethau'n gweithio i ti ar wahanol adegau. Mae hynny'n iawn. Rho gynnig ar yr hyn rwyt ti’n teimlo'n gyffyrddus ag ef yn unig.

Cofia: dylid dathlu unrhyw ffordd o oedi neu dynnu dy sylw oddi wrth yr ysfa i hunan-niweidio.

Symud dy feddwl a ffyrdd o ddisodli'r hunan-niweidio

Mae yna bethau y galli di eu gwneud i symud dy feddwl oddi wrth yr ysfa i hunan-niweidio, neu i ddisodli'r hunan-niweidio â rhywbeth arall.

Bydd yr hyn sy'n gweithio i ti yn dibynnu ar sut wyt ti’n teimlo a pham wyt ti am hunan-niweidio. Felly mae gennym ni awgrymiadau ar gyfer delio â gwahanol emosiynau. Mae gennym hefyd rai awgrymiadau gan bobl ifanc ynglŷn â'r hyn sy'n gweithio iddyn nhw.

Fe allet ti geisio:

  • taro clustogau
  • gweiddi
  • rhedeg neu ymarfer corff arall
  • gwasgu pêl gledr
  • rhwygo papur.

Fe allet ti geisio:

  • gwrando ar gerddoriaeth ymlaciol
  • crio 
  • cysgu 
  • defnyddio blanced drwm neu wedi'i phwysoli
  • treulio amser y tu allan
  • dod o hyd i gryfder neu gefnogaeth mewn system ffydd neu gred
  • ymarfer anadlu - fe allet ti geisio anadlu i mewn trwy dy drwyn am bedwar cyfrif, ei ddal am ddau gyfrif, ac anadlu allan trwy dy geg am saith cyfrif.

Fe allet ti geisio: 

  • tacluso dy ystafell neu dy fag 
  • ysgrifennu rhestrau
  • ysgrifennu llythyr yn dweud popeth rwyt ti’n ei deimlo, yna ei rwygo.

Fe allet ti geisio: 

  • dal neu rwbio ciwbiau rhew ar dy groen
  • arogli rhywbeth cryf, fel olewau dwys neu fwydydd
  • gwylio fideos doniol ar YouTube neu TikTok 
  • ymarfer gwaelodi - ceisia ganolbwyntio ar yr hyn sy'n digwydd o dy gwmpas, yna ceisia enwi pum peth y galli di eu gweld, pedwar peth y galli di eu teimlo, tri pheth y galli di eu clywed, dau beth y galli di eu harogli ac un peth y galli di ei flasu.

Fe allet ti geisio: 

  • galw ffrind
  • galw llinell gymorth
  • gofyn am dreulio amser gyda'r bobl rwyt ti’n byw gyda nhw
  • helpu rhywun arall
  • mynd i rywle cyhoeddus a diogel, fel parc.

Fe allet ti geisio: 

  • atgoffa dy hun bod methiant yn iawn, a bod pawb yn gwneud camgymeriadau
  • treulio llai o amser gyda phobl sy'n angharedig, a mwy o amser gyda'r rhai sy'n malio amdanat ti mewn gwirionedd.
  • Fe allet ti geisio: 

    • bod yn greadigol i fynegi sut rwyt ti’n teimlo amdanat dy hun, fel trwy ganu, dawnsio neu arlunio
    • ysgrifennu llythyr atat dy hun - yn gyntaf bod yn onest ynglŷn â sut rwyt ti’n teimlo amdanat dy hun, yna ysgrifennu ateb wedi'i lenwi â charedigrwydd a derbyniad, fel petaet ti’n ysgrifennu at ffrind
    • darganfod ystum yn y drych sy'n gwneud i ti deimlo'n gryf. 
  • Cael gwared ar bethau y galli eu defnyddio i hunan-niweidio – "Mae rhoi pethau o’m hystafell i'm rhieni yn ddefnyddiol."
  • Cadw dy ddwylo'n brysur – "Defnyddiais fand elastig i’w daflu o’m garddwrn yn lle hunan-niweidio; Roeddwn hefyd yn arfer marcio’r mannau ble roeddwn i eisiau niweidio fy hun."
  • Bydd gyda phobl eraill – "Yn lle bod ar fy mhen fy hun, rydw i'n mynd i’r lle bydda i gyda phobl, gan na fyddwn i'n hunan-niweidio pe bawn i gydag eraill."
  • Treulia amser gyda phobl rwyt ti’n ymddiried ynddynt – "Fe wnes i ymdopi trwy orfodi fy hun i fynd am dro gyda fy ffrindiau neu gefndryd, neu ffonio fy nghariad."
  • Newid y gofod corfforol rwyt ti ynddo – "Dwi'n ceisio mynd allan o'r gofod rydw i ynddo."
  • Hunan-dawelu – "Mae gen i focs bach yn llawn o drugareddau tawelu, fel teganau ffidget ac olewau dwys.”
  • Ysgrifenna sut wyt ti’n teimlo – "Pob meddwl oedd gen i, waeth pa mor anghyffyrddus oedd yn teimlo, a byddwn i'n ei rwygo."
  • Monitro dy deimladau – "Cadwa ddyddlyfr i helpu i olrhain dy hwyliau a phryd rwyt ti’n teimlo ar dy isaf.”
  • Gwna rywbeth i edrych ar ôl dy hun - "Un o'r pethau mwyaf yw gorfodi dy hun i wneud pethau rwyt ti’n gwybod y bydd o fudd i ti, fel cael cawod.”
  • Gwna rywbeth rwyt ti’n ei fwynhau – "Fel arfer, pan fyddaf yn mynd trwy amser garw ac yn teimlo'r ysfa, rwy'n gwneud rhywbeth rwy'n ei fwynhau, fel gwrando ar gerddoriaeth sy’n ysbrydoli."
  • Osgoi siarad os bydd yn gwneud i ti deimlo'n waeth – "Po fwyaf oeddwn i’n siarad amdano, yr amlaf y byddai'r ysfa yn dod ac fe'm llusgodd yn ôl i mewn. Ceisiais siarad â ffrindiau am bethau mwy iach fel y gallwn deimlo fel fy hen hunan eto."
  • Sylwa ar yr hyn sy'n dy helpu a’r hyn sydd ddim - "Ni fydd yr holl bethau hyn yn gweithio i bawb. Os mai dy fath o hunan-niweidio yw peidio bwyta digon neu orymarfer, ni fydd rhedeg yn syniad da."

Mae gwahanol dechnegau yn gweithio ar wahanol adegau - os nad yw rhywbeth wedi gweithio unwaith, dydy hynny ddim yn golygu o reidrwydd na fydd yn gweithio eto.​

Gohirio hunan-niweidio

Yn lle ceisio disodli hunan-niweidio â rhywbeth arall, fe allet ti geisio gohirio hunan-niweidio. Gall hyn deimlo'n anodd iawn, felly ceisia ddechrau gyda chyfnodau byr cyn adeiladu at oedi hirach.

Er enghraifft, fe allet ti ddechrau trwy geisio oedi 30 eiliad cyn i ti hunan-niweidio. Os galli di wneud hyn, ceisia nesaf oedi am gwpl o funudau, ac yna cynydda’r amser rwyt ti’n oedi yn raddol.

Mae rhai pobl yn galw hyn yn ‘nofio’r don’, oherwydd gall yr ysfa i hunan-niweidio godi a chwympo fel ton.

Gofalu am anafiadau

Mae'n bwysig gofalu am dy anafiadau fel nad wyt ti’n mynd yn wael o’u herwydd. Galli gadw anafiadau'n lân trwy gael eu gwirio'n rheolaidd gan feddyg neu nyrs. Paid â cheisio dod o hyd i gyngor neu awgrymiadau meddygol ar-lein.

Os wyt ti’n poeni am anaf neu am rywbeth rwyt ti wedi'i roi yn dy gorff, siarada â dy feddyg. Os na alli weld meddyg neu nyrs ar unwaith, ffonia NHS Choices ar 111 neu 999 os yw'n argyfwng.

Hyd yn oed os nad yw dy anafiadau mor ddifrifol fel bod angen cymorth meddygol brys arnat ti, nid yw hynny'n golygu nad oes angen help arnat ti.

Sut alla i helpu fy hun yn y dyfodol?

Mae helpu dy hun yn y tymor hir yn cynnwys archwilio'r rhesymau pam dy fod yn hunan-niweidio, yn ogystal â cheisio dod o hyd i ffyrdd mwy diogel o fynegi dy deimladau.

Cofia: mae adferiad yn broses. Efallai y bydd yn cymryd amser ac yn teimlo'n anodd, ond mae'n bosibl.

Pan fyddi di’n teimlo y galli di, fe allet ti geisio:

  • Derbyn y teimladau sy’n sail i'r hunan-niweidio. Gallai hyn fod mewn man diogel gyda chwnselydd neu gydag oedolyn dibynadwy arall.
  • Deall dy hunan-niweidio. Ysgrifenna am yr hyn sy'n dy sbarduno neu'n dy achosi i hunan-niweidio dros gyfnod penodol o amser, fel mis neu ddau. Fe allet ti feddwl am yr hyn roeddet ti’n ei wneud, ble oeddet ti a beth oeddet ti'n ei deimlo cyn i ti hunan-niweidio. Yna fe allet ti feddwl am ffyrdd i osgoi neu newid y sefyllfaoedd hynny yn y dyfodol.
  • Estyn am gefnogaeth. Gall hyn deimlo'n ddychrynllyd iawn, yn enwedig os wyt ti’n poeni nad yw pobl yn dy ddeall neu y gallent dy farnu. Ond yn aml agor i fyny yw'r cam cyntaf i gael yr help a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnat ti. Gweler yr adran 'Sut mae dweud wrth rywun fy mod i'n hunan-niweidio' i gael ein cynghorion.
  • Creu cynllun diogelwch. Gallai hwn restru arwyddion sy'n golygu y gallet fod yn agos at hunan-niweidio, rhai strategaethau ymdopi sy'n ddefnyddiol i ti, sut y gall teulu neu ffrindiau dy gefnogi a chael help ychwanegol i ti i gadw'n ddiogel, a manylion cyswllt dy feddyg neu dîm argyfwng. Ar ôl i ti wneud y cynllun, galli di ei gadw yn rhywle hawdd ei gyrraedd, fel dy fag, pwrs neu waled.

Sut mae dweud wrth rywun fy mod i'n hunan-niweidio?

Ceisia ddweud wrth rywun rwyt ti’n ymddiried ynddynt cyn gynted ag y byddi di’n teimlo'n barod i estyn allan.

Efallai na fydd rhai pobl yn deall ar unwaith. Gallai hyn fod oherwydd nad ydyn nhw'n deall hunan-niweidio, neu eu bod nhw wedi cynhyrfu ac mewn sioc.

Cofia: nid dy fai di yw hyn, ac mae rhywun yno i dy gefnogi bob amser. Gallai hyn fod yn rhiant neu'n ofalwr, ffrind, partner neu weithiwr proffesiynol fel athro, meddyg neu gwnselydd.

Cyn i ti siarad â rhywun, efallai yr hoffet ti ystyried:

  • Ysgrifennu sut wyt ti’n teimlo – fe allet ti wneud hyn pan fyddi di’n teimlo'n ddigynnwrf, neu ychydig cyn neu ar ôl i ti hunan-niweidio.
  • Ymarfer yr hyn wyt ti am ei ddweud, neu siarad yn gyfrinachol â Childline neu The Mix yn gyntaf.
  • Gyda phwy rwyt ti am siarad – fe allet ti feddwl pwy fydd yn garedig ac yn gefnogol.
  • Sut fyddet ti’n teimlo'n fwyaf cyfforddus yn dweud wrthyn nhw – gallai hyn fod yn eistedd i lawr wyneb yn wyneb, yn gwneud rhywbeth gyda'ch gilydd, yn siarad dros y ffôn neu'n rhoi llythyr iddynt.
  • Os oes gennyt hunan-barch isel – gall hyn weithiau wneud i ti deimlo fel dy fod yn ‘faich’ i eraill. Nid yw hyn yn wir ond gall wneud iddi deimlo'n anoddach estyn allan. Os wyt ti’n teimlo fel hyn, fe allet ti geisio cael sgwrs gyda chynghorydd o Childline or The Mix. Gallent roi rhywfaint o anogaeth neu bethau cadarnhaol i ti eu cofio.
  • Edrych ar ein gwybodaeth ar fod yn agored am fwy o awgrymiadau.

Efallai y bydd pobl yn sylweddoli beth maen nhw'n ei wneud, ond efallai nad ydyn nhw'n teimlo'n barod i siarad. Mae'n rhaid i ti fod yn barod yn emosiynol i agor.

Unwaith y byddi di'n teimlo'n barod i siarad, fe allet ti:

  • Meddwl sut i ddechrau'r sgwrs – does dim ffordd gywir nac anghywir o wneud hyn, ond os oes angen rhai syniadau arnat ti, fe allet ti geisio:
    ‘Mae hyn yn anodd imi siarad amdano, ond mae angen imi ddweud rhywbeth wrthyt ti.’
    ‘Dwi angen dy gefnogaeth gyda rhywbeth, allwn ni siarad?’
    ‘Rydw i wedi bod yn brifo fy hun oherwydd fy mod i'n teimlo …’
  • Gofynna i rywun rwyt ti’n ymddiried ynddynt i dy helpu i egluro – neu i ddweud wrth rywun drosot ti, os ydyn nhw'n teimlo eu bod nhw'n gallu.
  • Ceisia beidio â dweud gormod o fanylion wrthynt ynglŷn â sut rwyt ti’n hunan-niweidio. Efallai y bydd yn peri gofid iddynt glywed neu’n llawer iddynt ei gymryd i mewn ar y dechrau.
  • Esbonia beth hoffet ti ganddyn nhw – wyt ti’n chwilio am rywun i wrando neu i dy helpu i ddod o hyd i gefnogaeth?
  • Gofynna iddyn nhw roi gwybod i ti os oes angen iddyn nhw ddweud wrth rywun arall – fel dy fod yn gwybod beth i'w ddisgwyl.
  • Gwna gynllun i wneud rhywbeth caredig i dy hun wedyn – efallai na fydd dweud wrth rywun yn hawdd, ond mae'n rhywbeth y dylet ti deimlo'n falch ohono.

Mae rhai pobl ifanc yn gweld nad yw eu rhieni'n deall yn iawn yr hyn a ddywedwyd wrthynt, neu nad ydynt am ei gredu. Os wyt ti’n profi hyn, ceisia beidio â rhoi'r gorau iddi. Maen nhw'n dal i dy garu ond efallai bydd angen mwy o amser arnyn nhw.

Dyma rai awgrymiadau ar gyfer delio â hyn:

  • Bydd yn onest ynglŷn â pham rwyt ti’n dweud wrthyn nhw – gad iddyn nhw wybod dy fod ti’n ymddiried ynddyn nhw i dy gefnogi.
  • Cydnabydda y gallai fod yn sioc iddyn nhw ac efallai y bydd angen i ti geisio siarad â nhw eto dro arall.
  • Gofala am dy hun – dyweda wrthynt gymaint ag yr wyt ti’n teimlo'n gyffyrddus ag ef ar y pryd. Os bydd y sgwrs yn mynd yn rhy ofidus, gofynna a alli ddychwelyd ati ar adeg arall.
  • Rhanna wybodaeth gyda nhw – gall helpu i ddangos gwybodaeth ddibynadwy am hunan-niweidio, fel y dudalen hon, i’r person rwyt ti’n siarad â nhw. Gall dy riant neu ofalwr hefyd gysylltu â Llinell Gymorth Rhieni YoungMinds i gael cyngor.
  • Rho gynnig ar ffordd wahanol o ddweud wrthyn nhw, fel ysgrifennu llythyr, os ydyn nhw'n cael trafferth ei drafod gyda thi.
  • Mynna help gan eraill – a alli di feddwl am unrhyw oedolion dibynadwy a all dy helpu i siarad â nhw? Er enghraifft, athro, nyrs ysgol, cwnselydd neu ffrind teulu. 
  • Teimla'n falch o'r ffaith iti estyn allan atynt am gefnogaeth.

"Mae yna fwlch mawr rhwng sut mae pobl ifanc a phobl hŷn yn yn gweld hunan-niweidio. Oherwydd bod rhieni mor ofidus, gall rhai o'u hymatebion fod yn ddi-fudd."

Efallai y byddi di’n teimlo na alli di siarad â dy rieni neu dy ofalwyr oherwydd nad ydyn nhw'n deall, neu oherwydd eu credoau diwylliannol neu grefyddol am hunan-niweidio. Neu gallant fod yn rhan o'r rheswm dy fod yn brifo dy hun.

Mae hynny'n iawn, ac mae yna bobl o hyd y galli di siarad â nhw ac a allant gynnig cefnogaeth i ti.

Fe allet ti geisio:

  • siarad ag oedolyn dibynadwy arall, fel athro, nyrs ysgol neu gwnselydd
  • siarad â ffrind
  • siarad â llinell gymorth, fel Childline neu The Mix.

Efallai na fydd rhai pobl yn deall – eu barn nhw ydi o, nid y gwir. Os yw hynny'n digwydd, nid dy fai di ydi o, nid ydyn nhw'n iawn.

Hunan-niweidio a chyfryngau cymdeithasol

Efallai y gweli fod cyfryngau cymdeithasol a fforymau ar-lein yn lleoedd defnyddiol i gael cefnogaeth ar gyfer atal hunan-niweidio.

Gall y gefnogaeth yma gynnwys:

  • rhannu dulliau symud meddwl
  • rhannu straeon llwyddiant o oedi neu atal hunan-niweidio
  • siarad â phobl sy'n deall yr hyn rwyt ti’n mynd drwyddo.

Ond gall darllen am hunan-niweidio ar-lein fod yn ofidus ac yn beryglus. Er enghraifft, os yw pobl yn rhannu delweddau o’u hunan-niweidio, yn ei gynnwys mewn straeon Snapchat, neu’n annog eraill i frifo eu hunain trwy gymharu neu ‘gystadlaethau’.

Hefyd, os wyt ti’n ceisio cefnogi rhywun arall ar-lein, gall hyn fod yn anodd iawn, yn enwedig os wyt ti bob amser yn teimlo’r angen i helpu ‘mwy’.

Weithiau mae'n lle gwenwynig iawn i fod - mae llawer o bobl yn rhannu eu straeon personol, ac weithiau gall fod u fudd i mi, ond gall hefyd daflu rhywun oddi ar ei echel yn llwyr.

Mae gwefannau cyfryngau cymdeithasol fel Instagram yn gweithio ar ffyrdd gwell o adnabod cynnwys hunan-niweidio ar-lein, ac i ddefnyddwyr gael cefnogaeth i’w meddyliau a'u teimladau mewn ffordd ddiogel.

Pan wyt ti ar-lein, ceisia:

  • Osgoi rhannu delweddau neu ddisgrifiadau trallodus o hunan-niweidio.
  • Riportio unrhyw un rwyt ti’n poeni amdanyn nhw, neu sy'n ymddangos fel pe baen nhw'n ceisio gwneud i eraill deimlo'n waeth. Galli di ddod o hyd i ganllawiau adrodd hunan-niweidio wedi'u crynhoi yn Internet Matters.
  • Darllen gwybodaeth am hunan-niweidio ar wefannau diogel y gellir ymddiried ynddynt a sefydlwyd i dy helpu, fel Mind, Alumina neu Childline.

Galli di hefyd ddarllen cyngor Canolfan Rhyngrwyd Mwy Diogel y DU ar gadw'n ddiogel ar-lein.

Paid â syrthio i dwll cwningen o chwilio am hunan-niweidio ar gyfryngau cymdeithasol, mae'n gwneud mwy o ddrwg nag o les.

Pa driniaeth a chefnogaeth sydd ar gael ar gyfer hunan-niweidio?

Mae rheoli dy hunan-niweidio yn llawer haws pan fo pobl sydd wedi'u hyfforddi i dy helpu yn dy gefnogi.

Dyma rai o'r ffyrdd y galli di gael cefnogaeth broffesiynol:

Yn aml, siarad â dy feddyg yw'r cam cyntaf tuag at gael triniaeth a chefnogaeth ar gyfer hunan-niweidio. Bydd dy feddyg yn gwrando arnat ti ac yn siarad â thi am sut y galli di gadw'n ddiogel. Gan y gall hunan-niweidio fod yn arwydd o broblem iechyd meddwl, gallant hefyd ofyn cwestiynau i ti ynglŷn â sut rwyt ti wedi bod yn teimlo a beth sydd wedi bod yn digwydd i ti yn ddiweddar.

Efallai y bydd dy feddyg yn dy gyfeirio at wasanaethau cymorth, fel CAMHS, fel y galli gael help ar gyfer dy hunan-niweidio neu broblem iechyd meddwl.

Os ydyn nhw'n poeni bod dy hunan-niweidio yn fygythiad i dy fywyd, neu os oes angen triniaeth feddygol arnat ti ar gyfer anafiadau, gallant ffonio ambiwlans.

Os nad yw dy feddyg o gymorth, galli ofyn am weld meddyg arall i gael barn wahanol - er efallai y bydd yn rhaid i ti aros am apwyntiad arall.

Galli ymweld â'n tudalen ar siarad â dy feddyg i gael mwy o wybodaeth ac awgrymiadau.

 

Hunan-niweidio a chyfrinachedd

Fel rheol, bydd popeth a ddywedi mewn apwyntiad yn cael ei gadw rhyngddot ti a dy feddyg. Dim ond os ydyn nhw'n poeni y gallet ti neu rywun arall fod mewn perygl y byddan nhw'n rhannu'r hyn rwyt ti wedi'i ddweud wrthyn nhw gyda rhywun arall.

Am ragor o wybodaeth, gweler ein tudalen ar gyfrinachedd.

Mae athrawon, nyrsys ysgol a thimau cymorth disgyblion i gyd yno i ofalu am dy les.

Trwy siarad â rhywun rwyt ti'n ymddiried ynddynt yn yr ysgol neu'r coleg, efallai y byddan nhw'n gallu cynnig rhywfaint o gefnogaeth i ti, fel cwnsela. Gallent hefyd dy helpu i siarad â dy rieni neu ofalwyr, neu feddyg, am dy hunan-niweidio.

 

Hunan-niweidio a chyfrinachedd

Bydd staff yn dilyn polisi eu hysgol neu goleg eu hunain ar rannu datgeliadau hunan-niweidio. Mae'n bwysig gwybod y bydd y polisïau hyn ychydig yn wahanol ym mhobman.

Os wyt ti’n teimlo'n bryderus, gofynna i'r person rwyt ti’n siarad â nhw. Gallant ddweud wrthyt am y rheolau y mae'n rhaid iddynt eu dilyn, a beth fydd yn digwydd gyda'r wybodaeth rwyt ti’n ei roi iddyn nhw.

Am ragor o wybodaeth, gweler ein tudalen ar gyfrinachedd.

Mae therapïau siarad ar gyfer hunan-niweidio yn cynnwys:

Maen nhw'n cynnwys siarad â gweithiwr proffesiynol am sut rwyt ti’n teimlo, a dysgu sgiliau newydd, fel deall dy emosiynau neu ymdopi â theimladau neu sefyllfaoedd penodol.

Galli ofyn i dy feddyg dy gyfeirio at therapïau siarad. Efallai y galli hefyd atgyfeirio dy hun trwy wasanaethau Mind neu Gwella Mynediad at Therapïau Seicolegol (IAPT) lleol. Galli ddefnyddio ein map i ddod o hyd i dy wasanaethau Mind lleol.

Efallai y bydd angen i ti gael asesiad cyn i ti gychwyn ar therapi. Os hoffet ddarllen am yr hyn y gallai asesiad ei gynnwys, mae'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) wedi ysgrifennu rhai canllawiau ar gyfer pobl ifanc.

Gall cyfarfod â phobl ifanc eraill sydd â phrofiadau tebyg eich helpu chi i gefnogi'ch gilydd a dysgu ffyrdd newydd o ymdopi. Gall grŵp cymorth gynnwys rhyw fath o therapi grŵp.

Gall gwasanaethau Mind lleol neu wasanaethau'r GIG gynnig cefnogaeth cymheiriaid i bobl ifanc sy'n hunan-niweidio. Galli ddefnyddio ein map i ddod o hyd i dy wasanaethau Mind lleol.

Efallai y byddai'n well gennyt gael cefnogaeth dros e-bost, ffôn, neges destun neu fforymau.

Mae yna lawer o fudiadau sy'n cefnogi pobl ifanc fel hyn:

  • Aluminayn darparu cefnogaeth hunan-niweidio ar-lein am ddim i bobl ifanc 14-19 oed.
  • Childline – galli siarad â chwnselydd neu sgwrsio â phobl ifanc eraill ar eu byrddau neges.
  • The Mixyn cynnig gwasanaethau cwnsela, llinell gymorth, gwe-sgwrs a byrddau neges cymunedol.
  • Self Injury Supportyn darparu gwybodaeth a chefnogaeth i ferched a menywod ifanc sydd mewn trallod, gan gynnwys gwasanaeth testun a gwe-sgwrs.
  • YoungMindsgalli anfon neges destun at eu gwasanaeth Crisis Messenger ar unrhyw adeg i gael cefnogaeth.

Cofia fod yn ofalus wrth ddefnyddio'r gwefannau hyn, oherwydd gallai peth o'r cynnwys a rennir gan eraill beri gofid.

Rhestrau aros gwasanaethau

Efallai y bydd yn rhaid i ti aros am driniaeth a chefnogaeth, o bosib am fisoedd neu hyd yn oed flwyddyn. Neu efallai y cei wybod nad wyt yn cwrdd â gofynion y gwasanaeth i gael mynediad at gymorth. Gall hyn fod yn rhwystredig a pheri pryder mawr.

Tra dy fod yn aros i gael dy weld, fe allet ti geisio: 

  • gofyn i dy feddyg a oes unrhyw beth arall y galli di roi cynnig arno wrth aros
  • defnyddio ein cynghorion ar 'Ymdopi â'r ysfa i hunan-niweidio'
  • creu cynllun diogelwch y galli di ei ddefnyddio, a meddwl am ei rannu gyda phobl sy'n agos atat ti
  • defnyddio llinellau cymorth a byrddau neges fel un Childline i gael cefnogaeth.

Dwyt ti ddim yn rhy frau nac wedi mynd y tu hwnt i gael help. Mae help ar gael bob amser. Ac mae pethau'n gwella. Gall deimlo mor unig a brawychus. Ond dwyt ti ddim ar dy ben dy hun.

Ymdopi â chreithiau

Gall creithiau hunan-niweidio ddiflannu. Ond gan fod gan bob un ohonom groen gwahanol, efallai y bydd rhai yn aros yn weladwy dros amser.

Mae rhai pobl yn teimlo bod eu creithiau yn rhan bwysig o’u taith, ac yn eu hatgoffa eu bod nhw wedi dod trwy brofiad anodd. I eraill, gallant fod yn ofidus, yn enwedig os ydynt yn poeni am yr hyn y bydd pobl eraill yn ei feddwl. 

Dy benderfyniad di yw p'un a wyt ti am ddangos neu guddio dy greithiau. Am ragor o wybodaeth, gweler tudalennau ‘LifeSIGNS’ ar leihau creithiau a dangos creithiau. 

Ymdopi ag ailwaelu

Efallai dy fod wedi mynd beth amser heb hunan-niweidio, ond yna wedi dechrau eto. Gelwir hyn yn 'ailwaelu'.

Nid yw hunan-niweidio eto yn ddim byd i gywilyddio yn ei gylch, ac nid yw’n rheswm i deimlo'n wan. Mae adferiad yn siwrnai a bydd yn cynnwys adegau da ac adegau drwg.

Efallai dy fod wedi ailwaelu oherwydd:

  • roeddet ti’n teimlo emosiwn arbennig o gryf, fel tristwch, straen neu ddicter
  • rwyt ti’n mynd trwy sefyllfa anodd, fel arholiadau neu chwalu perthynas
  • rwyt ti’n mynd trwy drawma - yn cofio pethau sy'n peri gofid neu'n anodd delio â nhw
  • rwyt ti wedi brifo neu'n sâl

...neu gall fod yn rheswm nad yw wedi'i restru yma.

Pan wyt ti’n teimlo ychydig yn well, galli di geisio darganfod pam dy fod ti wedi hunan-niweidio eto. Bydd hyn yn dy helpu i wneud newidiadau a pharatoi ar gyfer sefyllfaoedd tebyg yn y dyfodol.

Galli di hefyd feddwl yn ôl i’r adeg y gwnest ti roi'r gorau i hunan-niweidio o'r blaen, a beth oedd yn help ac nad oedd yn help y tro diwethaf. A oes unrhyw beth y galli di ei wneud eto nawr?

Gall rhoi gwybod i rywun dy fod wedi dechrau hunan-niweidio eto helpu i sicrhau dy fod yn cael y gefnogaeth gywir. Efallai y gall dy feddyg dy atgyfeirio am ychydig o gefnogaeth bellach, neu gall dy athrawon roi rhywfaint o help ychwanegol i ti yn yr ysgol neu'r coleg.

Mae cychwyn y broses o beidio â hunan-niweidio eto yn dangos dy gryfder. Ac rwyt ti'n gwybod dy fod ti eisoes wedi llwyddo i stopio unwaith. Felly y tro hwn, efallai y bydd hi'n haws i ti aros yn rhydd o hunan-niweidio am gyfnod hirach.

Dwi'n ceisio cofio fy mod wedi dod allan o hunan-niweidio o'r blaen, felly dwi'n gallu gwneud yr un peth eto. Dwi'n gwybod llawer mwy amdanaf fi fy hun a dwi ddim yn mynd nôl i'r dechrau.

Ble arall alla i gael cefnogaeth?

Efallai y bydd ein canllawiau ar ddeall problemau iechyd meddwl, agor allan i ffrindiau a theulu neu siarad â'ch meddyg yn ddefnyddiol. 

Am restr o sefydliadau eraill a all helpu, darllena ein tudalen cysylltiadau defnyddiol. Mae llawer o fudiadau'n cynnig gwasanaethau testun neu negeseua gwib ar gyfer preifatrwydd ychwanegol. 

Mae pethau yn gwella. Rydw i wedi bod yn lân ers blwyddyn. Weithiau daw'r ysfa yn ôl, ond rydw i wedi dysgu ymdopi'n well. Paid â chymryd yn ganiataol na alli di gael help, oherwydd mi alli di.

Cafodd yr wybodaeth hon ei chyhoeddi ym mis Mehefin 2021. Byddwn yn ei hadolygu yn 2023.

Mae tystlythyrau ar gael ar gais. Os hoffech atgynhyrchu unrhyw ran o'r wybodaeth hon, gweler ein tudalen ar ganiatadau a thrwyddedu.

Am ragor o wybodaeth

arrow_upwardYn ôl i'r brig