Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Sut galla’ i gael help gan CAMHS?

Gwybodaeth i bobl ifanc yn esbonio sut i wneud atgyfeiriad i CAMHS a gwneud y gorau o dy apwyntiadau.

Mae'n ddrwg gennym, nid oes gennym fersiwn Gymraeg o'r dudalen hon ar hyn o bryd.

Bydd y dudalen hon yn eich helpu i ddeall sut i gael help gan Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHS, neu SCAMHS yng Nghymru). Mae’n esbonio sut i wneud atgyfeiriad a sut i wneud y gorau o’ch apwyntiadau.

Mwy o wybodaeth am CAMHS

Mae gennym ragor o wybodaeth am:

  • Beth mae CAMHS yn ei wneud
  • Pa driniaethau a chymorth mae CAMHS yn eu cynnig
  • Beth i’w wneud os wyt ti ar restr aros
  • Dy hawliau yn CAMHS
  • Gadael CAMHS
Young Person Smiling Up At Camera

Roedd yn deimlad mor braf cael lle am awr lle roeddwn i’n gallu siarad am unrhyw beth a theimlo nad oeddwn i’n cael fy marnu na theimlo bod yn rhaid i mi guddio sut roeddwn i’n teimlo – Rebecca, 17

Sut mae atgyfeiriadau i CAMHS yn gweithio?

Un o’r ffyrdd mwyaf cyffredin o gael dy atgyfeirio at CAMHS yw drwy dy feddyg teulu. Mae’n bosibl y bydd gweithwyr proffesiynol eraill hefyd yn gallu dy gyfeirio. Er enghraifft, staff ysgol, timau argyfwng, Timau Cymorth Iechyd Meddwl neu weithwyr cymdeithasol. 

Mae rhai CAMHS yn derbyn hunan-atgyfeiriadau. Gall hyn fod yn atgyfeiriad gennyt ti, neu dy riant, gofalwr neu warcheidwad, yn dibynnu ar dy oedran. 

Mae gan y rhan fwyaf o CAMHS lleol eu gwefan eu hunain lle gallwch gael rhagor o wybodaeth. Os nad wyt ti'n siŵr sut i gael atgyfeiriad, gofynna i oedolyn rwyt ti'n ymddiried ynddo am help.

Ar ôl i CAMHS gael dy atgyfeiriad, byddant yn cysylltu â ti trwy alwad ffôn, neges destun, e-bost neu drwy anfon llythyr ato ti. Gallai hyn fod er mwyn trefnu dy apwyntiad cyntaf neu ofyn mwy o gwestiynau. 

Sut galla’ i ddod o hyd i fy CAMHS lleol?

  • Yng Nghymru, cer i wefan dy Fwrdd Iechyd Lleol.
  • Yn Lloegr, chwilia am ‘gwasanaethau iechyd meddwl plant a’r glasoed’ neu ‘gwasanaethau iechyd meddwl plant a phobl ifanc’. Ychwanega dy sir, tref neu god post hefyd.

 

Mewn rhai ardaloedd, mae’n bosibl y bydd gan dy wasanaeth CAMHS enw arall. Os nad wyt ti’n siŵr, gallet ti gofyn i dy feddyg teulu neu oedolyn rwyt ti’n ymddiried ynddo.

Yng Nghymru, maent hefyd yn cael eu galw’n Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed Arbenigol (SCAMHS).

Yn Lloegr, mae’n bosibl y byddi di’n clywed CAMHS yn cael ei alw’n:

  • Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc (CYPMHS)
  • CAMHS Arbenigol neu CYPMHS Arbenigol

 

Gwylio fideo: Esbonio CAMHS

Gwylia ein hanimeiddiad i ddeall sut i gael help gan CAMHS. 

Byddi di yn dysgu sut mae atgyfeiriadau’n gweithio a beth i’w ddisgwyl o dy apwyntiad cyntaf.

Pwy sydd angen gwybod am fy atgyfeiriad CAMHS?

Mae’n dibynnu ar dy sefyllfa. Mae rhieni, gwarcheidwaid neu ofalwyr fel arfer yn ymwneud â dy ofal yn CAMHS. Ond mae hyn yn dibynnu ar:

  • Dy oedran
  • Dy anghenion iechyd meddwl

Os nad wyt ti eisiau i dy rieni, dy warcheidwaid neu dy ofalwyr fod yn rhan o bethau, siarada â CAMHS yn ystod dy atgyfeiriad.

Ond fe allai CAMHS wahodd dy rieni neu warcheidwaid dy asesiad. Neu mae'n bosibl y bydd angen iddynt siarad â nhw am dy ofal. Y rheswm am hyn yw bod yn rhaid i CAMHS ddilyn rheolau i dy gadw ti’n ddiogel. 

Gallet ti cael rhagor o wybodaeth am gyfrinachedd a phryd y gallai fod angen i CAMHS ei dorri.

Dyma bobl eraill a allai fod angen gwybod neu fod yn rhan o bethau:

  • Dy feddyg teulu
  • Gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill o fewn CAMHS
  • Staff ysgol neu weithwyr gofal cymdeithasol

Fel arfer, bydd CAMHS yn gofyn am dy ganiatâd i rannu dy wybodaeth ag unrhyw un arall. 

Sut mae asesiadau’n gweithio yn CAMHS?

Fel arfer, gelwir dy apwyntiad cyntaf yn CAMHS yn asesiad. Cyn dy asesiad, bydd rhywun o dy dîm CAMHS yn gofyn y canlynol i ti:

  • Llenwi ffurflenni am yr hyn rwyt ti’n ei brofi. Bydd y rhain yn helpu dy dîm i ddeall sut wyt ti, ac i gadw golwg ar dy gynnydd os byddi di’n dechrau triniaeth. Weithiau byddant yn defnyddio’r ffurflenni ar gyfer ymchwil neu i wella gwasanaethau. Gallet ti gofyn i dy dîm CAMHS sut maent yn bwriadu defnyddio dy atebion. 
  • Os wyt ti’n fodlon i dy riant, gofalwr neu warcheidwad ymuno â’r apwyntiad, neu i wybodaeth gael ei rhannu â nhw.

Yn ystod dy asesiad, mae dy dîm hefyd yn debygol o ofyn i ti am y canlynol:

  • Unrhyw hanes o broblemau iechyd meddwl neu brofiadau anodd sydd wedi effeithio arno ti
  • Unrhyw newid yn dy batrwm cysgu, bwyta neu weithgareddau
  • Unrhyw broblem yn yr ysgol neu gartref yn ddiweddar
  • Pwy sydd yn dy fywyd a dy berthynas â nhw
  • Pethau yr hoffet ti cael help gyda nhw
  • Sut wyt ti’n meddwl y gallai CAMHS helpu
  • Dy hanes meddygol, neu a oes gan bobl sy’n perthyn i ti unrhyw broblemau iechyd

Ar ôl dy asesiad, bydd dy dîm yn siarad ac yn penderfynu a allant gynnig cymorth i ti. Os gallant, mae’n bosibl y bydd yn rhaid i ti aros ychydig cyn i ti ddechrau cael cymorth. 

Dylai dy dîm roi gwybod i ti pa mor hir y gallai fod yn rhaid i ti aros. Neu gallet ti gofyn iddynt. 

Yn fy asesiad cychwynnol, fe wnaethon nhw gymryd amser i ddod i fy adnabod a deall sut roeddwn i’n teimlo - doeddwn i ddim yn cael fy rhuthro, ac fe wnaethon ni dreulio dros awr yn trafod fy mywyd a sut roedd fy ngorbryder yn effeithio arna i. Fe wnaethon nhw gymryd amser i ddeall fy anghenion o ddifri er mwyn iddyn nhw allu argymell y cwrs gofal gorau ar fy nghyfer i – Evan, 18

Beth allwn i ei ofyn yn fy asesiad?

Gallwch hefyd ofyn i CAMHS am unrhyw beth nad ydych chi’n siŵr ohono, fel:

  • Beth ddylwn i ei ddisgwyl gan CAMHS?
  • Sawl apwyntiad fydda i’n debygol o’u cael?
  • Pa mor hir fydda i ar y rhestr aros cyn cael triniaeth?
  • Pryd fydda i’n debygol o adael CAMHS?
  • Beth os byddaf yn troi’n 18 oed yn ystod fy nghyfnod gyda CAMHS?
  • Pa driniaeth neu gymorth all CAMHS ei gynnig i mi?
  • Sut gallai triniaethau penodol fy helpu i?
  • Beth ddylwn i ei wneud os oes angen cymorth brys arna i?
  • Sut alla i ofalu am fy lles fy hunan?
  • Gyda phwy alla i siarad os oes gen i ragor o gwestiynau?

Paid â phoeni os wyt ti’n anghofio sôn am rywbeth. Gallet ti gofyn cwestiynau ar unrhyw adeg yn ystod dy gyfnod gyda CAMHS.

decorative

Gall yr apwyntiad cyntaf deimlo’n frawychus a llethol. Cofiwch fod CAMHS eisiau gweld beth yw’r cymorth gorau i chi.

Os ydyn nhw’n meddwl y gallan nhw helpu, byddan nhw’n gweithio gyda chi i benderfynu beth fydd ei angen arnoch chi. Neu byddan nhw’n gallu awgrymu gwasanaethau eraill a allai eich helpu chi’n well.

Beth sy’n digwydd os caf i ddiagnosis?

Yn dibynnu ar dy brofiadau a dy symptomau, mae’n bosibl y cei di diagnosis ar ôl asesiad yn CAMHS. 

Os cei di diagnosis, dylai dy dîm CAMHS siarad gyda ti am y driniaeth a’r cymorth sydd ar gael. Dylent roi'r cyfle i ti gofyn cwestiynau ac awgrymu pethau a allai helpu. Gallai hyn gynnwys therapïau gwahanol, llinellau cymorth neu grwpiau cymorth i’w trio.

Cofia: nid oes angen cael diagnosis cyn cael help. Mae pobl y gallet ti siarad â nhw a llefydd lle gallet ti chwilio am gymorth.

Mwy o wybodaeth am ddiagnosis

Mae gennym ragor o wybodaeth am ddeall diagnosis, gan gynnwys beth ydyw a beth i'w wneud os nad wyt ti’n cytuno â dy ddiagnosis.

Roeddwn i’n nerfus am ddechrau CAMHS gan fy mod i’n ofni nad oeddwn i’n ddigon sâl. Pan gyrhaeddais yno, dyna’r tro cyntaf i mi gael fy nghymryd o ddifri. Roeddwn i’n teimlo fy mod i ar fy mhen fy hun yn llwyr nes i mi siarad â’r seicolegydd cyntaf, a wrandawodd arna i ac a gymerodd fi o ddifri – Molly, 18

Sut bethau yw apwyntiadau CAMHS?

Mae apwyntiadau gyda CAMHS fel arfer yn para tua awr. Maent yn cael eu cynnal o ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 9am a 5pm.

Mae’n bosibl y bydd dy apwyntiadau yn rhai wyneb yn wyneb, dros y ffôn neu drwy alwad fideo.

Gall apwyntiadau wyneb yn wyneb fod mewn adeilad yn perthyn i CAMHS, yn yr ysgol neu yn rhywle arall. Fe allai fod yn ddefnyddiol cynllunio dy daith, os oes angen i ti defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus neu ddod o hyd i rywle i barcio. 

Mae pryd, ble a pha mor aml rwyt ti’n cael apwyntiadau yn dibynnu ar dy anghenion a beth mae dy CAMHS lleol yn ei gynnig.

Os nad wyt ti’n gyfforddus â’r math o apwyntiad rwyt ti’n ei gael, gallet ti gofyn am un sy’n gweithio’n well i ti.

Gallet ti gofyn am:

  • Newid dy fath o apwyntiad, fel cyfarfod wyneb yn wyneb neu ar-lein
  • Newid yr amser neu’r dyddiad
  • Cael dy apwyntiadau yn yr un lle pan fo hynny’n bosibl
  • Cael addasiadau rhesymol, os oes gennyt ti anabledd

Gallet ti cysylltu â’r derbynnydd neu’r un rwyt ti’n ei weld yn dy apwyntiad. Rho gwybod iddyn nhw beth fyddi di’n ei hoffi a pham. Gallet ti hefyd ofyn i oedolyn dibynadwy neu eiriolwr dy helpu i wneud hyn.

Roedd y derbynyddion yn fy lleoliad yn anhygoel. Mae gen i lawer o orbryder wrth siarad ar y ffôn ond roedden nhw bob amser yn amyneddgar wrth i mi faglu dros fy ngeiriau, ac fe wnaethon nhw ddatrys pethau’n gyflym i mi, yn ogystal â fy nghroesawu’n galonnog i’m holl apwyntiadau a gwneud i mi deimlo’n gyfforddus – Evan, 18

Sut i wneud y mwyaf o’ch apwyntiadau gyda CAMHS 

Fe allai fod yn ddefnyddiol i ti paratoi cyn dy apwyntiadau yn CAMHS. Does dim angen i ti gwneud llawer o waith paratoi. Yn enwedig os nad wyt ti’n teimlo’n ddigon da, neu os yw’r syniad o wneud hynny’n gwneud i ti teimlo dan straen.

Cyn dy apwyntiad, gallai fod o gymorth gwneud y canlynol:

  • Cofnodi pethau. Ceisia ysgrifennu beth rwyt ti wedi bod yn ei deimlo neu ei brofi, unrhyw newid rwyt ti wedi sylwi arno rhwng apwyntiadau, a chwestiynau rwyt ti eisiau eu gofyn.
  • Meddwl am y ffyrdd rwyt ti eisiau rhannu pethau. Mae’n bosibl y byddai’n well gennyt ti darllen rhywbeth rwyt ti wedi ei ysgrifennu, siarad yn rhydd, neu rywfaint o’r ddau, efallai.
  • Siarad â phobl rwyt ti’n ymddiried ynddynt. Dyweda wrthynt sut rwyt ti’n teimlo am dy apwyntiadau a sut gallant dy helpu ti yn y cyfnod cyn hynny.
  • Cynllunio ymlaen. Meddylia am yr hyn y mae angen i ti ei wneud i fod yn barod. Gallai hyn gynnwys gwybod pwy rwyt ti’n cwrdd â nhw, ble rwyt ti’n cwrdd a gwneud yn siŵr bod gennyt ti’r hyn rwyt ti ei angen. 
  • Dod â rhywbeth gyda ti sy’n rhoi cysur i ti. Fel tegan ffidlan neu wrthrych arbennig, sy’n gallu dy helpu i ymlacio. 
  • Bod mor onest ag y gallet yn ystod dy apwyntiad. Gallet ti siarad am ba gymorth sy’n teimlo’n iawn i ti. Neu os byddai’n well gennyt ti cael rhywfaint o amser heb rieni neu warcheidwaid yn yr ystafell, rho gwybod iddynt. 
  • Ceisio gwneud amser ar gyfer pethau rwyt ti’n eu mwynhau. Meddylia sut byddi di’n gofalu amdano dy hun cyn ac ar ôl hynny. Er enghraifft, gallet ti cwrdd â ffrind neu chwarae gemau fideo wedyn.

Cofia: Y sesiynau hyn yw’r lle i ti bod yn agored. Mae CAMHS yno i roi cymorth i ti. Gallet ti ddod o hyd i ffyrdd sy’n gweithio i ti.

Mae’n iawn bod yn onest ac yn fregus; dyma’r peth cryfaf y gallwch chi ei wneud. Nid dy waith ti yw plesio dy therapydd, nid ydynt yno i gael eu profi’n iawn, maent yno i dy helpu ti – Chloe, 17

Ti yw’r arbenigwr ar dy ymennydd dy hun, felly gwna’n siŵr dy fod ti’n eiriol droso dy hun, ac os na allet ti gwneud hynny, dere o hyd i rywun sy’n gwneud hynny – Ella, 17

Beth os nad CAMHS yw’r gwasanaeth iawn i mi?

Ar ôl dy atgyfeiriad neu dy asesiad, mae’n bosibl y daw’n amlwg nad CAMHS yw’r gwasanaeth iawn i ti ar hyn o bryd. Mae’n bosibl mai’r rheswm am hyn yw nad yw CAMHS yn rhoi’r driniaeth a’r cymorth sydd eu hangen arno ti.

Mae’n bosibl y byddi di wedi digalonni neu’n teimlo’n rhwystredig, yn enwedig os wyt ti wedi aros am amser hir yn barod. Dylai’r tîm awgrymu lleoedd eraill a allai dy helpu’n well neu bethau y gallet ti rhoi cynnig arnynt a allai helpu. 

Neu mae’n bosibl yr hoffet ti ystyried therapi preifat. Mae therapi preifat yn fath o gymorth y gallet ti, neu oedolyn rwyt ti’n ymddiried ynddo, ddewis talu amdano. 

Gallet ti dod o hyd i lefydd eraill a all helpu ar ein tudalen ynghylch ble i chwilio am gymorth iechyd meddwl.

decorative

Os wyt ti’n cael trafferth cael help gan dy CAMHS lleol am unrhyw reswm, siarada â’r un wnaeth dy atgyfeirio ti. Gallant dy helpu i ddod o hyd i ffyrdd eraill o gael cymorth. Os wyt ti wedi atgyfeirio dy hun, cysyllta â’r gwasanaeth i ofyn.

Cyhoeddwyd: Mawrth 2026

Adolygiad nesaf: Mawrth 2029

 

Gwnaethom siarad â phobl ifanc a gytunodd i roi dyfyniadau ar gyfer y dudalen hon. Nid yw eu profiadau yn gysylltiedig â'r bobl a ddangosir yn y lluniau.

Mae cyfeiriadau ar gael ar gais. Os ydych chi am atgynhyrchu'r cynnwys hwn, gweler ein tudalennau caniatâd a thrwyddedu.

PIF Tick quality mark logo for trusted information creators

Am ragor o wybodaeth

Back To Top arrow_upward