Beth yw fy hawliau yn CAMHS?
Weithiau, nid yw ein profiad yng Ngwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHS, neu SCAMHS yng Nghymru) yn cyd-fynd â’r hyn y byddem yn ei ddisgwyl neu eisiau iddo fod.
Ond mae gennyt ti hawliau cyfreithiol i dy helpu ti pan fyddi di’n cael triniaeth a chymorth gan CAMHS.
Gall y dudalen hon dy helpu i ddeall dy hawliau yn CAMHS, sut dylent dy drin a beth i’w wneud os oes gennyt ti problem.
Beth sydd ar y dudalen hon?
Neidia i wybodaeth ar:
Sut ddylai CAMHS fy nhrin i?
Mae’r cymorth rydyn ni’n ei gael gan CAMHS fel arfer yn dibynnu ar ble rydyn ni’n byw a beth rydyn ni’n ei deimlo ac yn ei brofi.
Ond beth bynnag rydyn ni’n cael help ar ei gyfer, dylem bob amser ddisgwyl i CAMHS ein trin ni’n deg. Ond mae gwahaniaeth rhwng arferion gorau a hawliau cyfreithiol.
Ar sail argymhellion arfer gorau, dylai CAMHS wneud y canlynol:
- Ein trin ni gyda pharch
- Rhoi gwybodaeth i ni am yr hyn y gallant ei gynnig a sut gallant ein helpu
- Gwrando ar ein barn
- Rhoi amser i ni ofyn cwestiynau am ein triniaeth a’n cymorth a cheisio eu hateb
- Ein cynnwys ni mewn penderfyniadau a gadael i ni wneud dewisiadau am ein triniaeth, gan ddefnyddio cynllun gofal
Ar sail ein hawliau cyfreithiol, dylai CAMHS wneud y canlynol:
- Peidio â gwahaniaethu yn ein herbyn
- Cadw ein gwybodaeth bersonol yn gyfrinachol. Fodd bynnag, mae’n bosibl y bydd rhywun yn torri cyfrinachedd i’n cadw ni’n ddiogel. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn ein canllaw ar ddeall cyfrinachedd.
- Dweud wrthym sut gallwn ni gwyno am sut mae CAMHS wedi ein trin ni
- Rhoi gwybodaeth sydd gan y GIG amdanom ni, os byddwn yn gofyn amdani
Fel arfer, mae gennym hawl i gydsynio i unrhyw benderfyniad am ein gofal. Ond weithiau ni allwn wneud dewisiadau am ein gofal, neu mae'n bosibl y bydd gennym hawliau gwahanol. Er enghraifft, os ydyn ni wedi cael ein hanfon i ysbyty meddwl, neu os na allwn ni roi caniatâd am unrhyw reswm arall.
Dylai CAMHS wrando arno ti a cymryd ti o ddifri.
Mae gwahaniaethau yn yr hyn y mae gennyt ti hawl i’w gael yn dibynnu ar ble rwyt ti’n byw:
Os wyt ti’n cael cymorth gan CAMHS yn Lloegr, yr arfer gorau yw cynnig gofal o dan Ddull Rhaglen Ofal. Mae hwn yn fframwaith sy’n cynnwys:
- Cydlynydd gofal dynodedig
- Cynllun gofal
Os nad wyt ti’n gwybod unrhyw beth am dy gynllun gofal, neu os nad wyt ti wedi cael copi ysgrifenedig ohono, siarada â rhywun yn dy dîm CAMHS.
Os wyt ti’n cael cymorth gan SCAMHS yng Nghymru, mae gennyt ti hawl i’r canlynol:
- Cydlynydd gofal
- Cynllun Gofal a Thriniaeth (CTP)
Ni ddylai dy gynllun gofal a thriniaeth ddod i ben oni bai fod dy dîm gofal o’r farn nad oes ei angen arno ti mwyach. Dylent bob amser geisio siarad â ti i weld a wyt ti’n cytuno.
Os nad wyt ti’n gwybod unrhyw beth am dy gynllun gofal a thriniaeth, neu os nad wyt ti wedi cael copi ysgrifenedig ohono, siarada â rhywun yn dy dîm SCAMHS.
Deall dy hawliau iechyd meddwl a’r gyfraith
Efallai y bydd hefyd o gymorth i ti deall beth yw dy hawliau cyfreithiol yn fwy cyffredinol.
Mae gennym wybodaeth am dy hawliau iechyd meddwl, gan gynnwys hawliau yn yr ysbyty. Gallet ti hefyd ddarllen am wneud cwynion, cyfrinachedd ac eiriolaeth.
A fydd CAHMS yn siarad â fy rhieni, gofalwyr neu warcheidwaid?
Mae rhai ohonom yn dewis cynnwys ein rhieni, gofalwyr neu warcheidwaid yn ein triniaeth CAMHS. Ond mae’n bosibl na fydd rhai ohonom ni eisiau gwneud hynny, ac mae hynny’n iawn hefyd.
Mae’n bosibl y byddi di’n gallu penderfynu i ba raddau maent yn ymwneud â dy driniaeth CAMHS. Cydsyniad ydi’r term am hyn. Ond mae dy hawl i gydsynio yn dibynnu ar lawer o bethau, fel dy oedran a dy sefyllfa.
Mae’n bosibl y bydd dy dîm CAMHS eisiau siarad â nhw i ddeall mwy amdano ti a dy fywyd gartref. Mae hyn er mwyn iddynt allu dy helpu yn y ffordd orau bosibl. Mae’n bosibl y bydd dy dîm CAMHS hefyd yn gofyn iddynt ddod i rai apwyntiadau, ond nid i rai eraill.
Ond dylai fod gennyt ti hawl i gyfrinachedd. Mae hyn yn golygu cadw dy wybodaeth yn breifat. Rhagor o wybodaeth am gyfrinachedd.
- Mae bod yng nghwmni rhywun rwyt ti’n ei adnabod yn gallu dy helpu i deimlo dy fod ti’n cael mwy o help
- Fyddi di ddim yn gorfod delio â phopeth ar dy ben eich hun
- Gallant helpu gyda phethau ymarferol, megis mynd â ti i apwyntiadau neu siarad â dy ysgol
- Mae CAMHS wedi cynnig therapi teulu i ti
Yn realistig, bydd angen i ti colli gwersi yn yr ysgol ar gyfer apwyntiadau, a doeddwn i ddim wedi meddwl am hynny o ddifri. Roedd yr ysgol yn gwybod fy mod i’n mynd i apwyntiadau oherwydd bod fy mam wedi siarad â nhw.
- Dwyt ti ddim eisiau iddynt ddod i apwyntiadau gyda ti
- Dwyt ti ddim yn meddwl y byddant yn deall
- Dwyt ti ddim yn teimlo’n ddiogel yn trafod rhai pynciau yn eu cwmni
- Rwyt ti’n poeni y byddant yn cael gwybod beth rwyt ti wedi ei ddweud, neu’n dweud wrth bobl eraill
- Nid wyt ti’n cyd-dynnu’n dda â nhw, neu mae pethau’n anodd gartref
Ceisia egluro i dy dîm CAMHS pam nad wyt ti eisiau iddynt gymryd rhan. Gallet ti hefyd gofyn iddynt pa rannau o’r apwyntiad sy’n aros yn breifat, a beth fyddant yn ei rannu o bosibl.
Hyd yn oed os nad wyt ti eisiau iddynt gymryd rhan, gall fod yn dda cael rhywun i fod yno i ti. Gallai fod yn ffrind, partner neu oedolyn arall rwyt ti’n ymddiried ynddo.
Dim ond pan oedd mam y tu allan i’r ystafell roeddwn i’n cael siarad, gan fy mod i wedi gofyn am hynny drwy e-bost – Jane, 16
Weithiau rydw i’n cael fy ngorfodi i siarad â fy rhieni ar ddiwedd sesiwn – weithiau dydw i ddim eisiau gwneud hynny o gwbl. Oni bai fy mod i wedi dweud rhywbeth sy’n peri pryder mawr iddyn nhw, does dim angen iddyn nhw wybod amdano – Mollie, 18
Pa broblemau allwn i eu hwynebu a beth allaf ei wneud am y peth?
Ni fydd pob un ohonom yn cael problemau gyda’n triniaeth a’n cymorth yn CAMHS. Ond mae’n bosibl na fydd rhai pethau’n mynd fel y dylent.
Os nad wyt ti’n hapus â dy brofiad yn CAMHS, ceisia siarad â dy dîm gofal yn gyntaf i ddweud wrthynt beth sydd ei angen arno ti.
Os nad wyt ti’n teimlo’n gyfforddus yn siarad â dy dîm gofal, gallet ti gofyn i oedolyn rwyt ti’n ymddiried ynddo dy helpu. Gallet ti hefyd gael cymorth gan eiriolwr.
I helpu i ofyn am yr hyn sydd ei angen arno ti, ceisia meddwl am y canlynol:
- Y broblem rwyt ti’n ei hwynebu
- Sut mae’n effeithio arno ti
- Pam yr hoffet ti i bethau fod yn wahanol
- Sut yr hoffet ti i bethau newid
- Sut gall CAMHS helpu i newid pethau
- Beth yw dy hawliau
Ar ôl i ti paratoi'r hyn yr hoffet ti ei ddweud, siarada â'r un sy'n gyfrifol am dy ofal. Dy gydlynydd gofal, er enghraifft. Gallet ti gwneud hyn wyneb yn wyneb, dros y ffôn, drwy lythyr neu e-bost. Os na allet ti cysylltu â nhw, gallet ti gofyn i staff y dderbynfa drosglwyddo dy neges.
Cofia: mae’n iawn gofyn am yr hyn sydd ei angen arno ti. Rwyt ti’n haeddu cael help mewn ffordd sy’n gweithio i ti. Drwy weithio gyda dy dîm CAMHS i ddatrys unrhyw broblem, gallet ti manteisio i’r eithaf ar dy ofal.
Beth sy'n digwydd os ydw i yn yr ysbyty?
Os wyt ti yn yr ysbyty oherwydd dy iechyd meddwl, mae’n bosibl y byddi di'n cael problemau gwahanol.
Mae gennyt ti hawliau penodol dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983.
Dalia ati i ddarllen am enghreifftiau o broblemau mae pobl ifanc eraill wedi eu hwynebu. A beth allet ti ei wneud yn eu cylch.
Nid wyt ti’n cyd-dynnu â gweithwyr proffesiynol CAMHS
Gallet ti gofyn am gael newid therapydd neu weithio gyda phobl wahanol yn lle hynny. Gallet ti hefyd wneud cwyn os wyt ti’n teimlo bod CAMHS wedi dy drin yn annheg.
Os nad wyt ti’n hoffi’r gweithiwr, dyweda wrth rywun. Paid â’i gadw i ti dy hun, a cheisia newid y sefyllfa. Os bydd CAMHS yn dweud rhywbeth, gwna’n siŵr eu bod nhw’n mynd ar drywydd hynny. Dim ond oherwydd fy mod i wedi dal i swnian arnyn nhw y gwnaethon nhw fwrw ymlaen â phethau – Mollie, 18
Dwyt ti ddim yn hoffi neu ddim yn cytuno â dy gynllun gofal
Dros amser, mae’n bosibl y byddi di yn rhoi cynnig ar wahanol fathau o driniaeth a chymorth. Mae’n debyg y byddi di’n hoffi rhai ohonynt yn fwy nag eraill, ac mae hynny’n iawn. Nid yw pob triniaeth yn gweithio i bawb.
Mae gennyt ti hawl i ofyn am rywbeth gwahanol. Gallet ti gofyn i CAMHS siarad â ti am fathau eraill o driniaeth a chymorth sydd ar gael. Os wyt ti’n gallu gwneud penderfyniadau am dy ofal, dylent ofyn i ti gydsynio cyn gwneud unrhyw newid i dy gynllun gofal.
Paid â rhoi’r gorau iddi os nad yw un therapydd neu fath o therapi yn addas i ti. Cymerodd amser hir i mi ddod o hyd i’r cyfuniad o feddyginiaeth a therapi sy’n gweithio i mi. Ceisia peidio â cholli gobaith, mae rhywbeth yn siŵr o weithio i ti – Chloe, 17
Rwyt ti’n cael trafferth gyda sut mae apwyntiadau’n gweithio
Gallet ti gofyn am:
- Newid dy fath o apwyntiad - er enghraifft, cyfarfod wyneb yn wyneb neu ar-lein
- Newid amser neu ddyddiad yr apwyntiad
- Cael dy apwyntiadau yn yr un lle pan fo hynny’n bosibl
- Cael addasiadau rhesymol, os oes gennt ti anabledd neu os wyt ti’n niwrowahanol
Rwyt ti’n profi gwahaniaethu neu nid yw CAMHS yn diwallu dy anghenion
Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn ddeddf sy’n ein diogelu rhag gwahaniaethu ac yn rhoi’r hawl i ni ei herio. Mae gennyt ti hawl i gael cymorth sy’n diwallu eich anghenion, fel:
- Cael cyfieithydd ar y pryd os nad Saesneg yw dy iaith gyntaf
- Gweithio gyda rhywun o’r un rhyw â ti neu ryw gwahanol
- Gweithio gyda rhywun sydd o’r un ethnigrwydd, hil neu grefydd â ti
Weithiau gall rhai gwasanaethau ein trin yn annheg oherwydd pwy ydym ni. Gwahaniaethu yw’r enw ar hyn. Os wyt ti’n profi gwahaniaethu, nid yw hynny’n iawn, ac rwyt ti’n haeddu cymorth.
Gallet ti gwneud cwyn. Ond os wyt ti wedi rhoi cynnig ar hyn ac nad yw unrhyw beth wedi helpu, gallet ti siarad â chyfreithiwr. Gallant drafod dy opsiynau gyda ti ac o bosibl dy helpu i gymryd camau cyfreithiol yn erbyn CAMHS.
Gall cyfreithwyr fod yn ddrud, ond mae rhai’n cynnig ymgynghoriad cyntaf am ddim, neu gostau sefydlog i gael gwybod am dy sefyllfa. I gael rhagor o wybodaeth am ddod o hyd i gyfreithiwr, cer i wefan Cymdeithas y Gyfraith.
Gall profi gwahaniaethu fod yn anodd iawn. Mae’n gallu gwneud i ni deimlo’n ynysig ac yn bryderus. Yn ogystal â rhoi gwybod amdano, siarada am sut rwyt ti’n teimlo gyda phobl rwyt ti’n ymddiried ynddynt a dod o hyd i ffyrdd o ofalu amdano ti dy hun.
Roedd fy seicolegydd yn cydymdeimlo’n fawr â fy mam ac yn credu bod y ffaith mod i’n gwiar yn annheg â fy rhieni. Pe bawn i’n gwybod sut i ddelio â phroblemau yn CAMHS ar y pryd, byddwn wedi teimlo bod gen i fwy o rym i siarad am hyn a gofyn am seicolegydd gwahanol.
Pan wnes i adael yr ysgol, aeth fy mhroblemau gyda CAMHS yn waeth. Ond roeddwn i’n gwybod fy ngwerth ac yn gwybod beth roeddwn i'n ei haeddu. Fe wnes i gwyno a chael therapydd newydd heb unrhyw wrthdaro o ran diwylliant. Roedd y gweithwyr proffesiynol yn sylweddoli bod angen iddyn nhw wrando arna i.
Dwyt ti ddim yn teimlo bod pobl yn gwrando arno ti
Mae’n bwysig siarad â dy dîm gofal. Ond os yw hyn yn teimlo’n llethol, gallet ti ysgrifennu e-bost neu lythyr atynt yn lle hynny. Gall hyn dy helpu i ddweud popeth rwyt ti eisiau ei ddweud.
Gallet ti hefyd ofyn am gymorth gan eiriolwr neu oedolyn rwyt ti’n ymddiried ynddo. Gall dy helpu i godi dy lais a gwneud yn siŵr bod CAMHS yn dy gymryd o ddifri.
Rwyt ti eisiau rhoi’r gorau i gael cymorth gan CAMHS
Mae’n bosibl dy fod ti’n gweld y driniaeth fel rhywbeth anodd. Neu mae’n bosibl y bydd y cymorth rwyt ti’n ei gael yn teimlo’n annefnyddiol neu’n niweidiol.
Gallet ti gofyn am gael rhoi’r gorau i weld CAMHS. Ond mae’n well os yw hwn yn benderfyniad ar y cyd rhwng ti, dy riant, dy warcheidwad neu dy ofalwr, a gweithwyr iechyd proffesiynol.
Mae’n bosibl y bydd dy dîm yn edrych ar y cynnydd rwyt ti wedi ei wneud a beth sy’n gweithio, a’r problemau rwyt ti wedi eu cael. Mae’n bosibl na fyddi di’n gallu gadael CAMHS os yw dy dîm yn teimlo nad wyt ti’n ddigon iach. Mae gennym ragor o wybodaeth os wyt ti yn yr ysbyty oherwydd dy iechyd meddwl.
Mae’n bwysig siarad am yr hyn sydd ei angen arno ti. Mae’n bosibl y bydd angen i ti cynnwys oedolyn dibynadwy neu eiriolwr hefyd, os wyt ti’n anghyfforddus yn siarad â dy dîm gofal.
Sut i wneud cwyn ynghylch CAMHS
Os wyt ti’n cael problemau yn CAMHS, gallet ti ceisio siarad â rhywun yn dy dîm gofal a gofyn am atebion. Gelwir hyn weithiau yn gŵyn anffurfiol.
Os wyt ti wedi siarad â CAMHS ac nad yw’n dy helpu o hyd, gallet ti gwneud cwyn ffurfiol.
Gallai eiriolwr neu oedolyn rwyt ti’n ymddiried ynddo dy helpu gyda chwynion ffurfiol ac anffurfiol.
Gall derbynnydd CAMHS ddweud wrthyt ti sut i gwyno. Mae'n bosibl y byddant yn gofyn i ti ysgrifennu llythyr, neu lenwi ffurflen.
Mae’n bosibl y byddi di’n teimlo’n anghyfforddus ynghylch gwneud cwyn, ac yn poeni am yr hyn a allai ddigwydd. Ond ni fydd gwneud cwyn yn dy atal rhag cael help. Dylai wella’r driniaeth a gei di.
Gall gwneud cwyn fod yn broses hir. Yn enwedig os nad ydym yn teimlo’n dda, neu os ydym yn gofidio am sut mae CAMHS wedi ein trin ni. Mae'n bosibl y byddwn ni’n teimlo’n rhy flinedig neu wedi ymlâdd yn llwyr i feddwl am y peth ar hyn o bryd. Gall oedolyn dibynadwy neu eiriolwr dy helpu drwy’r broses fel nad oes yn rhaid i ti wneud hynny ar dy ben dy hun.
Rhoi dy adborth i wella CAMHS
Mae gan rai CAMHS grwpiau cyfranogi neu grwpiau cynghori ieuenctid lle galet ti rhannu dy syniadau a helpu i wella pethau. Fe allet ti gwneud rhai o’r rhain:
- Cyfweld staff CAMHS
- Rhoi hyfforddiant neu gyflwyniadau
- Rhannu dy brofiadau o CAMHS er mwyn helpu i wella gwasanaethau
Os wyt ti yng Nghymru, gallet ti gwneud hyn hefyd drwy Llais.
Gofynna i dy dîm CAMHS sut gallet ti cymryd rhan neu roi adborth. Mae dy lais di yn bwysig.
Rydw i wedi gwneud llawer o waith eiriol a phrofiad bywyd. Mae’n bwysig bod pobl ifanc yn gwybod os nad yw rhywbeth yn iawn, a’u bod nhw’n dweud eu dweud. Mae hyn yn rhywbeth a oedd yn llethu fy mywyd, a fi sy’n rheoli pethau erbyn hyn – Katie, 18
Care plan
This is a plan that explains:
- Your mental health problem
- What treatment and support you need
- Who will provide that support
They might also cover what should happen if you're in a mental health crisis.
There are different types of plans, such as a Care Programme Approach (CPA) or Care and Treatment Plan (CTP). Whatever type of plan you have, you should always be given a copy of it.
Visit our full treatment and support glossaryDiscrimination
Discrimination is when someone treats you differently or unfairly because of:
- Your age
- Your disability
- Your gender
- Your gender identity
- Your sexuality
- Your relationship status
- Your religion or beliefs
- Your race, skin colour or where you were born
- Being pregnant or having a child
In the UK, a law called the Equality Act protects you from discrimination.
Visit our full treatment and support glossary
Personal information
This is any information that can be used to identify you. For example, your name, address or your IP address.
Visit our full treatment and support glossaryConfidentiality
Confidentiality is about keeping your information private.
It means that when you talk to professionals they shouldn’t tell anyone else what you’ve said.
They will only share what you tell them in certain situations. For example, if you ask them to or if they’re worried that you or someone else could be in danger.
See our page on confidentiality for more information.
Visit our full treatment and support glossaryConsent
This is when you agree to something, like going into hospital or having treatment.
You can’t consent to something unless you are competent to (if you’re 15 or below), or you have capacity (if you’re 16 or above).
Being competent or having capacity means that you understand what you’re consenting to and what might happen if you say yes or no to it.
Visit our full treatment and support glossary
Care co-ordinator
This is your main point of contact if you’re having ongoing treatment and support for your mental health. They should keep in close contact with you and answer any questions you have.
Visit our full treatment and support glossaryCare and Treatment Plan (CTP)
This a support package provided by the NHS if you live in Wales and have a mental health problem.
Visit our full treatment and support glossaryTrusted adult
A trusted adult is someone older than you who:
- Makes you feel safe
- Listens to you
- Treats you with respect, understanding and care
They will have clear boundaries but will support you when they can. They should know when to look for more help if you need it.
You can decide who you feel is a trusted adult to you. You might know them from somewhere like school, your family, places of worship or clubs for young people.
Trusted adults don't have to be the same people as nearest relatives.
Visit our full treatment and support glossaryAdvocate
Advocates can help you speak up about things that are important to you. And help make sure your voice is heard.
In some situations, you will have a legal right to have an advocate. This is called statutory advocacy.
Even if you don’t have a right to an advocate, there are other types of advocacy that can help you get your voice heard.
See our page on advocacy for more information.
Equality Act 2010
This is the law that protects you from discrimination and gives you the right to challenge it.
The Equality Act says you have a disability if you have a physical or mental health problem that has a substantial, negative and long-term effect on your life.
Visit our full treatment and support glossaryChild and Adolescent Mental Health Services (CAMHS)
These are services that can support you with your mental health.
You might see them called different names sometimes, but they offer the same thing:
- In Wales, they're called Specialist Child and Adolescent Mental Health Services (SCAMHS).
- In England and Wales, you might also hear them called Children and Young People’s Mental Health Services (CYPMHS).
Find out more in our CAMHS information hub.
Care team
These people look after you when you're getting treatment and support for a mental health problem. Your care team might include nurses, doctors and therapists.
They may look after you in hospital, at home or support you through Child and Adolescent Mental Health Services (CAMHS).
Visit our full treatment and support glossary
Mental Health Act 1983
This is a law in England and Wales. It means that you can be sectioned if you have a mental health problem and need treatment in hospital to keep you safe.
Visit our full treatment and support glossaryCyhoeddwyd: Mawrth 2026
Adolygiad nesaf: Mawrth 2029
Mae’r bobl ifanc wedi cytuno i’w geiriau ymddangos ar y dudalen hon. Dydy eu profiadau ddim yn gysylltiedig â’r bobl sy’n ymddangos yn y lluniau.
Mae cyfeiriadau ar gael ar gais. Os ydych chi am atgynhyrchu’r cynnwys hwn, ewch i’n tudalen caniatâd a thrwydded.