Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Deall trawma – ar gyfer pobl ifanc 11-18 oed

Gwybodaeth am drawma i bobl ifanc. Fel gwahanol fathau o drawma a sut gall trawma deimlo.

Mae'n ddrwg gennym, nid oes gennym fersiwn Gymraeg o'r dudalen hon ar hyn o bryd.

Rhybudd: mae’r dudalen hon yn rhoi enghreifftiau o brofiadau trawmatig a’r teimladau anodd y gall y rhain eu hachosi. Cofia ddim ond dal ati i ddarllen os wyt ti’n teimlo’n ddiogel i wneud hynny.

Gwybodaeth am drawma

Mae profiad trawmatig yn rhywbeth sy’n achosi poen neu niwed mawr i ni. Mae trawma yn disgrifio effaith y profiad hwn ar ein bywydau.

Does dim rheol ar gyfer yr hyn sy’n cyfrif fel profiad trawmatig. Yr hyn sy’n bwysig yw’r effaith y mae’n ei chael arnom ni.

P’un ai a wyt ti wedi profi rhywbeth trawmatig o’r blaen neu’n mynd drwy hynny nawr, mae’n bwysig dy fod yn cael dy gefnogi.

Mae’r dudalen hon yn egluro sut mae profiadau trawmatig yn gallu effeithio arnom ni a sut gall hyn effeithio ar ein hiechyd meddwl. Deall trawma yw’r cam cyntaf tuag at ddod o hyd i gymorth a ffyrdd o ymdopi ag ef.

Sut alla i ymdopi os ydw i’n cael trafferth gyda thrawma?

Mae gennym awgrymiadau a syniadau ar sut i ymdopi a ble i gael cymorth.

Dydy trawma ddim yn cael ei fesur yn ôl pa mor ddrwg yw sefyllfa rhywun arall, mae’n cael ei fesur yn ôl yr hyn mae dy gorff wedi bod yn byw drwyddo - Jenna, 18

Beth yw trawma?

Weithiau mae’r termau trawma a phrofiad trawmatig yn cael eu defnyddio i ddisgrifio’r un peth. Ond mae eu hystyron nhw ychydig yn wahanol:

Mae profiad trawmatig yn rhywbeth a allai wneud i ni deimlo fel hyn:

  • Ofnus iawn
  • Methu gwneud dim
  • Wedi dy lethu’n llwyr
  • Cael trafferth ymdopi â bywyd bob dydd
  • Cael trafferth gyda theimladau anodd am amser hir

Trawma yw effaith y profiad hwn ar ein teimladau, ein meddyliau a’n bywydau.

Mae trawma yn bersonol. Efallai y bydd rhai pethau’n teimlo’n drawmatig i ni, ond nid i rywun arall. Mae gwahanol bobl yn ymateb yn wahanol i’r un digwyddiadau am lawer o resymau. Mae hyn yn cynnwys faint o gefnogaeth rydyn ni’n ei chael ac unrhyw straen arall rydyn ni’n ei ddioddef.

Mae’n bwysig bod yn garedig â ni ein hunain a chofio bod ein profiadau’n ddilys. Os wyt ti'n cael trafferth gyda theimladau anodd, mae bob amser yn iawn gofyn am help. Hyd yn oed os nad wyt ti’n siŵr a wyt ti’n mynd drwy drawma ai peidio.

Os nad wyt ti’n ddiogel ar hyn o bryd

Os wyt ti wedi profi digwyddiad trawmatig, neu’n dal i’w brofi, mae’n bwysig cael help:

  • Os oes rhywun yn dy frifo di ar hyn o bryd, neu'n bygwth dy frifo, y ffordd gyflymaf o gael help yw ffonio 999. Neu fe allet ti ofyn i oedolyn rwyt ti’n ymddiried ynddo wneud hyn ar dy ran. Mae rhagor o wybodaeth am ffonio 999 ar gael ar wefan Childline.
  • Os oes angen cymorth meddygol arnat ti ond nad yw'n argyfwng, cysyllta â GIG 111 Cymru ar-lein neu ffonia GIG 111.
  • Os wyt ti eisiau siarad â rhywun am yr hyn rwyt ti’n mynd drwyddo, galli di edrych ar wefan Childline, ei ffonio nhw ar 0800 1111 neu ddefnyddio ei wasanaeth sgwrs un-i-un

Mae’r trawma rwyt ti’n ei brofi yn bersonol i ti dy hun, ac felly dwyt ti ddim yn gallu cymharu dy ymatebion na dy ddulliau ymdopi â rhai pobl eraill ... mae’n gallu bod yn beth da meddwl sut roedd y profiad wedi gwneud i ti deimlo. Os yw'n gwneud i ti deimlo'n anghyfforddus, dim ond ychydig bach hyd yn oed, yna nid yw'n iawn, ac rwyt ti'n haeddu help. – Eva, 17

Mathau o drawma

Gall trawma gael ei achosi gan y canlynol:

  • Un digwyddiad, fel damwain
  • Cyfres o ddigwyddiadau, fel cael dy gam-drin neu ddioddef gwahaniaethu
  • Llawer o ddigwyddiadau sy’n digwydd mewn gwahanol rannau o’n bywyd, fel yn y cartref ac yn yr ysgol
  • Rhywbeth sydd wedi digwydd i ni’n uniongyrchol, fel cael ein bwlio, naill ai wyneb yn wyneb neu ar-lein
  • Rhywbeth rydyn ni’n ei ddysgu sy'n digwydd i rywun arall, er enghraifft ar y cyfryngau cymdeithasol neu’r newyddion
  • Rhywbeth a ddigwyddodd pan oeddem yn iau, fel cael ein cam-drin yn ystod ein plentyndod
  • Rhywbeth sydd wedi digwydd i rywun agos atom ni, fel aelod o’r teulu
  • Rhywbeth sy’n effeithio ar gymuned gyfan, sy'n cael ei alw weithiau’n ‘drawma ar y cyd’
  • Mae’n golygu sut mae sefydliad yn ein trin ni, fel os ydyn ni’n cael ein trin yn wael gan weithwyr iechyd proffesiynol, yr heddlu neu yn y system ofal

Os nad wyt ti’n siŵr a wyt ti’n cael dy gam-drin, mae rhagor o wybodaeth ar gael gan Childline neu YoungMinds. Mae gan Childline wybodaeth am wahanol fathau o fwlio hefyd.

I ddechrau, roeddwn i’n meddwl bod yn rhaid i drawma gael ei achosi gan sefyllfa lle mae bywyd neu farwolaeth yn y fantol... mae’n gallu bod yn llawer mwy cynnil na hynny. – CJ, 18

Trawma a gwahaniaethu

Efallai y byddwn yn profi gwahaniaethu oherwydd rhai elfennau o bwy ydyn ni. Fel ein rhyw, ein hethnigrwydd, ein rhywioldeb neu ein crefydd. Mae gwahaniaethu yn gallu achosi trawma.

Er enghraifft, os byddwn yn profi hiliaeth, gall hyn arwain at drawma hiliol. Mae hyn yn golygu bod hiliaeth yn effeithio ar ein hiechyd meddwl. Mae’n bosibl y byddwn ni hefyd yn profi trawma os byddwn ni’n cael ein trin yn wael gan ein bod ni’n rhywun LGBTQIA+. Neu oherwydd ein bod ni’n niwrowahanol, fel os ydyn ni’n awtistig.

Efallai y byddwn yn profi trawma o ganlyniad i wahaniaethu mewn llawer o ffyrdd, sy’n ymwneud â gwahanol rannau o bwy ydyn ni. Er enghraifft, os ydyn ni'n berson traws o liw, efallai y byddwn yn wynebu trawsffobia a hiliaeth. Cofia, nid dy fai di yw hyn.

Os wyt ti wedi profi gwahaniaethu, cam-drin neu fwlio, naill ai wyneb yn wyneb neu ar-lein, fe alli di wneud y canlynol:

Mae cymaint o haenau i’w cario - disgwyliadau diwylliannol, stigma crefyddol am iechyd meddwl, ac yna ar ben hynny, wynebu hiliaeth neu gael fy nghamddeall gan y gymdeithas ehangach. – Kristina

Profiadau trawmatig yn ystod plentyndod

Mae profiadau trawmatig sy’n digwydd pan fyddwn ni’n ifanc yn gallu effeithio ar ein datblygiad a’n hiechyd meddwl. Gall yr effeithiau hyn bara’n hir.

Dydy hyn ddim yn golygu y byddwn ni i gyd yn ei chael hi’n anodd os byddwn ni’n mynd drwy brofiad trawmatig yn ystod plentyndod. Neu y byddwn ni i gyd yn ei chael hi’n anodd yn yr un ffyrdd. Ond mae’n golygu y dylen ni gael cymorth. Ac i eraill gydnabod sut mae ein profiadau cynnar yn gallu achosi trawma a dal i gael effaith arnom ni nawr.

Rwy'n meddwl bod profiadau trawmatig pan wyt ti'n ifanc yn aml yn cael eu diystyru ychydig, oherwydd y ffaith y gallent gael eu gweld fel rhai dibwys neu'n rhywbeth y bydd pobl yn tyfu allan ohono – Eva, 17

Trawma mewn teuluoedd

Os yw aelod agos o’r teulu wedi profi trawma, gall effeithio arnom ni hefyd. Efallai y byddwn yn clywed hyn yn cael ei alw’n ‘drawma rhwng cenedlaethau’.

Mae ymchwilwyr yn dal i ddysgu am sut mae trawma’n cael ei drosglwyddo mewn teuluoedd. Er enghraifft, efallai mai’r rheswm am hyn yw ein bod ni’n teimlo’n anniogel ar ôl dysgu am brofiadau ein teulu yn y gorffennol. Hyd yn oed os nad yw hyn wedi digwydd i ni’n uniongyrchol.

Trawma a stigma

Rydyn ni i gyd yn deall trawma ac yn ymateb iddo mewn ffyrdd gwahanol. Ac mae ein safbwyntiau ar drawma yn gallu cael eu siapio gan bethau fel ein diwylliant a’n crefydd.

Ond efallai y bydd rhai pobl yn dweud neu’n gwneud pethau sy’n brifo neu’n gwneud i ni deimlo'n drist os byddwn ni’n siarad â nhw am ein trawma. Efallai y byddan nhw'n rhannu safbwyntiau di-fudd neu’n ymateb mewn ffordd anghefnogol. Efallai y byddwn hefyd yn gweld y safbwyntiau di-fudd hyn yn y newyddion neu ar gyfryngau cymdeithasol. ‘Stigma’ yw’r enw ar hyn.

Gall stigma yn erbyn trawma olygu y gallai rhywun wneud un o’r canlynol:

  • Peidio â chymryd ein trawma o ddifrif, fel dweud ei fod yn rhywbeth y dylem dyfu allan ohono
  • Dweud wrthym am beidio â meddwl na siarad am ein profiadau anodd, neu awgrymu nad yw’n iawn sôn am beth ddigwyddodd
  • Ddim yn deall sut rydyn ni’n ymdopi, fel awgrymu ein bod ni’n ‘gwneud lol’ neu’n ‘camymddwyn’
  • Defnyddio’r gair trawma mewn ffordd hamddenol, fel ei ddefnyddio i olygu unrhyw brofiad sydd ychydig yn anodd

Os oes rhywun yn stigmateiddio trawma, rho gynnig ar ddangos yr wybodaeth hon iddyn nhw i’w helpu i ddeall.

Hunan-stigma

Mae stigma yn gallu gwneud i ni deimlo nad yw ein profiadau’n bwysig. Mae’n gallu gwneud i ni deimlo cywilydd o’r hyn sydd wedi digwydd i ni, fel pe bai’n fai arnom ni. ‘Hunan-stigma’ yw enw hyn.

Mae’n golygu bod gennym deimladau negyddol, fel cywilydd, am ein profiad ein hunain. Efallai y byddwn hefyd yn poeni am sut bydd pobl eraill yn ymateb os byddwn yn dweud wrthyn nhw am ein trawma.

Cofia fod dy brofiadau a dy anghenion di’n bwysig. Rwyt ti wedi bod yn ymdopi mewn unrhyw ffordd y gallet ti, ac fe ddylet ti gael cymorth i symud ymlaen.

Roeddwn i’n teimlo’n unig gan mai fi oedd yr unig un a oedd yn trin y sefyllfa mor ddifrifol ag y dylai fod wedi bod. – CJ, 18

Sut mae profiadau trawmatig yn gallu effeithio arna i?

Mae profiadau trawmatig yn gallu effeithio arnom ni mewn sawl ffordd. Mae gwahanol bobl yn gallu profi gwahanol effeithiau ar wahanol adegau.

Efallai y byddwch yn profi’r effeithiau hyn yn syth ar ôl digwyddiad trawmatig, neu amser hir wedyn. Efallai y byddwch chi'n adnabod rhai o’r effeithiau isod ond nid rhai eraill.

Mae'r wybodaeth hon yn cwmpasu'r ymatebion trawma y gallem eu sylwi arnynt sy'n gysylltiedig â:

Effeithiau ar ein hymennydd a’n corff

Pan fyddwn ni’n synhwyro perygl, mae ein hymennydd yn ymateb i geisio ein hamddiffyn. Gall trawma wneud i’n hymennydd a’n corff barhau i ymateb i’r ‘perygl’ hwn am amser hir. Hyd yn oed pan fyddwn ni'n ddiogel, efallai y byddwn ni'n dal i deimlo’n anniogel ac yn parhau i ymateb i’r hyn sy’n teimlo fel perygl.

Efallai y byddwn yn profi un, rhai neu bob un o’r ymatebion hyn pan fyddwn yn teimlo’n anniogel. Yr enw ar y rhain yw’r ymateb ymladd, ffoi, rhewi, mynd yn llipa neu ufuddhau:

  • Ymladd. Mae ein hymennydd yn dweud wrthym am frwydro yn erbyn y perygl. Efallai y byddwn yn teimlo’n ddig iawn ac eisiau gweiddi neu ffraeo. Efallai y byddwn yn teimlo bod angen i ni reoli’r hyn sy’n digwydd.
  • Ffoi. Mae ein hymennydd yn dweud wrthym am redeg i ffwrdd oddi wrth y perygl. Efallai y byddwn yn teimlo bod angen i ni gadw’n brysur drwy’r amser. Ac efallai y byddwn yn teimlo’n gaeth ac fel bod angen i ni ddianc.
  • Rhewi. Mae ein hymennydd yn dweud wrthym am roi’r gorau i symud neu wneud unrhyw sŵn. Mae hyn er mwyn osgoi rhywbeth peryglus neu rywun yn sylwi arnom.
  • Mynd yn llipa. Mae hyn fel rhewi, ond gydag effeithiau cryfach ar ein corff. Efallai y bydd ein corff yn mynd yn llipa a gallem deimlo wedi fferru.
  • Ufuddhau. Mae hyn yn golygu bod ein hymennydd yn dweud wrthym mai’r ffordd orau o gadw’n ddiogel yw plesio eraill. Yn enwedig pobl sy’n teimlo’n beryglus i ni. Efallai y byddwn yn ymddiheuro drwy’r amser ac yn rhoi anghenion pobl eraill o flaen ein rhai ni.

Nid gwendidau yw’r ymatebion hyn, ond rhan o’r ffordd y mae’r corff yn amddiffyn ei hun.

Sut gallai’r ymatebion hyn deimlo yn fy nghorff?

Yn ystod ymateb ymladd neu ffoi, efallai y byddwn yn sylwi ar rai o’r effeithiau hyn yn ein corff. Mae’r ymatebion hyn yn ffordd o baratoi’r corff i ymateb yn gyflym i berygl:

  • Curiad calon cyflym. Mae hyn yn helpu’r gwaed i gyrraedd ein cyhyrau.
  • Cyhyrau tynn. Mae hyn yn ein helpu i baratoi i ymladd neu redeg. Efallai y byddwn yn cael cur pen neu boenau yn y corff.
  • Ceg sych neu ddim chwant bwyd. Y rheswm am hyn yw bod ein system dreulio’n arafu.
  • Anadlu’n gyflymach neu deimlo’n benysgafn. Dyma ein corff yn ceisio cymryd mwy o ocsigen i mewn.
  • Chwysu mwy. Dyma ein corff yn ceisio ein cadw’n oer.
  • Teimlo’n llawn egni neu’n grynedig. Y rheswm am hyn yw bod ein corff yn rhyddhau hormonau o’r enw ‘adrenalin’ a ‘cortisol’.

Mae'r llun yn dangos restr o sut gall ymateb ymladd neu ffoi teimlo yn dy gorff.

Yn ystod ymateb rhewi, efallai y byddwn yn sylwi bod ein:

  • Corff yn teimlo wedi fferru
  • Cyhyrau’n teimlo’n drwm
  • Meddwl yn teimlo’n niwlog
  • Cyfradd curiad y galon yn arafu

Mae'r llun yn dangos restr o sut gall ymateb rhewi teimlo yn dy gorff.

Mae’r effeithiau corfforol hyn yn gallu teimlo’n frawychus. Mae’n gallu bod yn anodd dweud a ydyn nhw’n gysylltiedig â thrawma, neu a ydyn nhw’n arwydd o broblem iechyd corfforol. 

Os wyt ti’n poeni am unrhyw symptomau corfforol rwyt ti’n eu cael, mae bob amser yn iawn gofyn am gymorth meddygol. Fe alli di gysylltu â dy feddyg teulu neu GIG 111. Os oes angen help arnat ti'n gyflymach, ffonia 999 neu ofyn i oedolyn rwyt ti'n ymddiried ynddo wneud hyn ar dy ran.

Ymatebion i drawma a chywilydd

Ar ôl i ni brofi unrhyw un o’r ymatebion hyn, efallai y byddwn yn teimlo cywilydd. Er enghraifft:

  • Os gwnaethom rewi pan oedd rhywun yn ein cam-drin, efallai y byddwn yn meddwl tybed pam ein bod wedi ymateb fel hyn.
  • Os gwnaethom weiddi neu ddadlau pan oedden ni’n teimlo’n anniogel, efallai y byddwn ni’n teimlo’n wael am hyn wedyn.

Ond mae’n bwysig cofio bod ymatebion i drawma yn awtomatig. Rydyn ni’n ymateb fel hyn oherwydd bod ein hymennydd a’n corff yn ceisio ein hamddiffyn.

Ceisia fod yn garedig â thi dy hun. Gyda chefnogaeth ac amser, efallai y byddi di'n gweld dy fod yn gallu arafu neu stopio’r ymatebion hyn.

Effeithiau ar ein teimladau, ein meddyliau a’n hymddygiad 

Gall trawma arwain at lawer o deimladau ac emosiynau anodd. Efallai y byddwn yn teimlo un o’r rhain:

  • Wedi dychryn
  • Pryderus
  • Wedi ein gorlethu
  • Diymadferth
  • Diwerth
  • Trist
  • Dig
  • Dideimlad
  • Euog neu'n llawn cywilydd

Efallai y bydd ein holl emosiynau’n teimlo'n gryf iawn, gan gynnwys rhai cadarnhaol fel hapusrwydd. Neu efallai y byddwn yn teimlo’n ddryslyd am yr hyn rydyn ni’n ei deimlo a sut i’w ddisgrifio.

I gael rhagor o wybodaeth, edrycha ar ein tudalen am ddeall dy deimladau.

Gall trawma hefyd arwain at brofiadau neu ymddygiadau sy’n teimlo’n newydd i ni. A gall fod yn anodd ymdopi â hynny. Weithiau mae’r rhain yn gysylltiedig â phroblem iechyd meddwl, ond efallai y byddwn yn eu profi ar eu pen eu hunain hefyd. Fel:

  • Gor-wyliadwrus. Mae hyn yn golygu ein bod ni bob amser yn effro i’r perygl nesaf.
  • Wedi'n datgysylltu. Efallai y byddwn yn teimlo ein bod wedi’n datgysylltu oddi wrthym ni ein hunain neu’r byd o’n cwmpas.
  • Ôl-fflachiau. Dyma pryd rydyn ni’n ail-fyw rhannau o ddigwyddiad trawmatig, fel pe bai’n digwydd eto. Efallai y byddwn yn gweld lluniau yn ein meddwl neu’n teimlo’r un boen neu ofn. Gallai rhai mannau, pobl neu sefyllfaoedd ddod â’r teimladau hyn yn ôl.
  • Meddyliau ymwthiol. Efallai y byddwn yn meddwl am brofiad trawmatig neu’n ei gofio, hyd yn oed os nad ydyn ni eisiau gwneud hynny.
  • Problemau cysgu. Efallai y byddwn yn cael trafferth gyda chwsg a blinder, fel cael hunllefau.
  • Problemau gyda’n hatgofion. Efallai y byddwn yn ei chael hi’n anodd cofio ein profiadau neu’r drefn y gwnaethant ddigwydd.
  • Problemau gyda’n hyder. Efallai y byddwn yn teimlo bod angen llawer o sicrwydd arnom gan bobl rydyn ni’n ymddiried ynddyn nhw. Neu ein bod yn teimlo’n anghyfforddus i roi cynnig ar bethau newydd.
  • Trafferth canolbwyntio. Gan mai dim ond ar fygythiadau y mae ein hymennydd yn canolbwyntio, efallai y byddwn yn ei chael hi’n anodd meddwl yn glir.
  • Pyliau o banig. Efallai y bydd ein corff yn ymateb fel petai mewn perygl ac efallai y bydd ein calon yn curo’n gyflym iawn. Efallai y byddwn yn ei chael hi’n anodd anadlu, neu’n teimlo’n benysgafn neu’n sâl.
  • Defnyddio alcohol neu gyffuriau. Efallai y byddwn yn dibynnu ar alcohol neu gyffuriau i geisio ymdopi â theimladau anodd iawn. I gael rhagor o wybodaeth am gyffuriau ac alcohol, cer i wefan YoungMinds.
  • Hunan-niweidio. Dyma pryd rydyn ni’n brifo ein hunain i ymdopi â theimladau anodd. I gael gwybod mwy, edrycha ar ein gwybodaeth am hunan-niweidio.
  • Teimlo fel lladd dy hun. Efallai y byddwn yn ystyried lladd ein hunain, neu'n creu cynlluniau i wneud hynny. I gael rhagor o wybodaeth, cer i wefan YoungMinds.

Cadw'n ddiogel

Os wyt ti'n teimlo fel bod ti wedi dy lethu, neu eisiau brifo dy hun, mae cymorth ar gael i ti trafod pethau. Rwyt ti'n haeddu cymorth cyn gynted ag y sydd ei angen.

I siarad â rhywun yn gyfrinachol am sut rwyt ti'n teimlo, gallet ti:


Os wyt ti'n teimlo y gallet ti ceisio lladd dy hun, neu os wyt ti wedi brifo dy hun yn ddifrifol, mae hwn yn argyfwng
. Gallet ti:

  • Ffonio 999 a gofyn am ambiwlans.
  • Dweud wrth oedolyn rwyt yn ymddiried ynddo a gofyn iddynt ffonio 999 am help.


Mae argyfyngau iechyd meddwl yn ddifrifol. Nid wyt ti’n yn gwastraffu amser neb.

Mae’n gallu bod yn arbennig o anodd ymdopi â’r teimladau a’r profiadau anodd hyn yn yr ysgol. Ar wefan YoungMinds, mae gwybodaeth i ti am ymdopi â phroblemau yn yr ysgol.

Roedd yn dod i’r amlwg mewn ffyrdd bach, bob dydd, fel cael trafferth cysgu, methu canolbwyntio mewn gwersi, teimlo’n nerfus am ddim rheswm amlwg, neu deimlo fy mod i’n bod yn rhy sensitif pan oedd rhywbeth yn fy sbarduno. – Yanisha, 18

Effeithiau ar ein perthnasoedd

Ar ôl profi trawma, efallai y byddwn yn ei chael hi’n anodd teimlo cysylltiad ag eraill neu ymddiried ynddyn nhw. Er enghraifft, mae’n gallu bod yn anodd ymddiried mewn pobl os yw rhywun wedi ein trin yn wael yn y gorffennol. Mae’n gallu bod yn anodd hefyd os nad yw pobl eraill yn deall ein trawma neu’r ffyrdd rydyn ni’n ymdopi.

Dydy hyn ddim yn golygu nad oes modd i ti gael perthnasoedd cadarnhaol. Rwyt ti’n haeddu cefnogaeth gan bobl na fydd yn dy farnu di ac sydd eisiau deall beth rwyt ti’n mynd drwyddo.

decorative

Mae effeithiau profiadau trawmatig yn gallu para’n hir. Ond does dim rhaid iddyn nhw bara am byth.

Mae dy ymennydd a dy gorff wedi dy ddysgu sut i ymdopi â sefyllfaoedd anodd iawn. Fe wnaeth hyn dy helpu i oroesi. Pan fyddi di'n fwy diogel, efallai y byddi di'n gallu dysgu ffyrdd newydd o ymdopi.

Trawma a phroblemau iechyd meddwl

Mae profiadau trawmatig yn gallu cyfrannu at sawl math o broblemau iechyd meddwl, fel iselder a gorbryder.

Maen nhw hefyd yn gallu arwain at ddiagnosis o’r canlynol:

Dydy mynd drwy brofiad trawmatig ddim bob amser yn golygu y bydd gen ti broblem iechyd meddwl. Ond mae’n gallu gwneud hyn yn fwy tebygol.

Beth yw symptomau PTSD?

Efallai y bydd meddygon yn rhoi diagnosis PTSD i ti os wyt ti’n profi symptomau trawma am fwy nag 1 mis. Dyma rai ohonyn nhw:

  • Hunllefau neu drafferth cysgu
  • Meddyliau ymwthiol neu ôl-fflachiau
  • Osgoi pethau sy’n gysylltiedig â’r digwyddiad trawmatig
  • Trafferth canolbwyntio
  • Bod yn wyliadwrus bob amser, sy'n cael ei alw'n ‘or-wyliadwrus’
  • Teimlo wedi ein datgysylltu oddi wrthym ni ein hunain neu’r byd o’n cwmpas, sy'n cael ei alw'n ‘ddatgysylltiad’ hefyd weithiau.

Beth yw symptomau PTSD cymhleth?

PTSD cymhleth yw pan fyddwch chi'n profi PTSD yn ogystal â symptomau eraill. Gallai’r symptomau ychwanegol hyn gynnwys:

  • Ei chael hi’n anodd iawn rheoli dy emosiynau
  • Teimlo’n ddiwerth
  • Ei chael hi’n anodd iawn creu perthnasoedd a theimlo’n agos at bobl

Mae gweithwyr iechyd proffesiynol yn fwy tebygol o roi diagnosis o PTSD cymhleth i ti:

  • Os wnes ti brofi rhywbeth trawmatig pan oeddet ti'n ifanc iawn
  • Os yw effeithiau profiadau trawmatig wedi para’n hir

Mae PTSD cymhleth yn derm eithaf newydd. Felly efallai na fydd rhai gweithwyr proffesiynol yn gwybod cymaint amdano â phroblemau iechyd meddwl eraill.

Beth os na allaf gael diagnosis o PTSD neu PTSD cymhleth?

Efallai y byddwn yn teimlo y byddai cael diagnosis yn dilysu ein profiadau ac yn ein helpu i gael cymorth. Ond weithiau gall fod yn anodd cael diagnosis ar gyfer problem iechyd meddwl, hyd yn oed os ydyn ni’n teimlo bod ei angen arnom.

Efallai y bydd gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn teimlo:

  • Does gennym ni ddim ‘digon’ o’r symptomau i gael diagnosis
  • Mae gennym symptomau eraill sydd ddim yn ‘cyfrif’ ar gyfer y math hwn o ddiagnosis

Gallai hyn ei gwneud yn anodd cael diagnosis o gwbl. Neu efallai y cawn ddiagnosis nad oeddem yn ei ddisgwyl, neu nad ydym yn cytuno ag ef.

Er enghraifft, mae gan PTSD cymhleth symptomau sy’n gyffredin ag anhwylder personoliaeth ffiniol (BPD). Mae rhai pobl sydd wedi cael diagnosis o BPD yn teimlo y dylent gael diagnosis o PTSD cymhleth yn lle hynny.

Gall hyn achosi llawer o ofid. Ond mae dy deimladau a dy brofiadau’n dal yn bwysig, p’un ai a oes gen ti ddiagnosis ai peidio.

Angen help i ymdopi â thrawma?

Mae gennym awgrymiadau a syniadau ar sut i ymdopi a ble i gael cymorth.

Mae trawma yn unigryw i bawb, ac ni fydd unrhyw un yn ei brosesu yn union yr un ffordd â rhywun arall - bydd pawb wedi cael profiadau gwahanol ac wedi elwa o bethau gwahanol - Evan, 18

Cyhoeddwyd: Mawrth 2026

Adolygiad nesaf: Mawrth 2029

Mae’r bobl ifanc wedi cytuno i’w geiriau ymddangos ar y dudalen hon. Dydy eu profiadau ddim yn gysylltiedig â’r bobl sy’n ymddangos yn y lluniau.

Mae cyfeiriadau ar gael ar gais. Os ydych chi am atgynhyrchu’r cynnwys hwn, ewch i’n tudalen caniatâd a thrwydded.

PIF Tick quality mark logo for trusted information creators

Am ragor o wybodaeth 

Back To Top arrow_upward