Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Ble i chwilio am gymorth iechyd meddwl - ar gyfer pobl ifanc 11-18 oed

Gwybodaeth i bobl ifanc am sut a ble i gael y math iawn o gymorth iechyd meddwl i chi.

Mae'n ddrwg gennym, nid oes gennym fersiwn Gymraeg o'r dudalen hon ar hyn o bryd.

Do you use social media?

We want to understand your experiences with social media and mental health.

Fill in our survey

Sut alla i gael cymorth ar gyfer iechyd meddwl?

Os wyt ti’n profi newidiadau yn dy iechyd meddwl a dy lesiant, mae llawer o ffyrdd y galli di gael cymorth. Mae’n gallu cymryd ychydig o amser i weld beth sy’n gweithio orau i ti, ond efallai bydd trio gwahanol opsiynau yn helpu.

Mae’n iawn os dwyt ti ddim yn siŵr pa fath o gymorth sydd ei angen arnat ti ar hyn o bryd. Does dim rhaid i ti benderfynu’n syth.

Mae’r dudalen yma’n awgrymu opsiynau ar gyfer pobl, gwasanaethau a llefydd sy’n gallu rhoi cymorth iechyd meddwl. Mi alli di ddod yn ôl i’r dudalen yma unrhyw bryd rwyt ti’n teimlo bod angen i ti drio math gwahanol o gymorth.

Dim ots sut rwyt ti’n teimlo na beth rwyt ti’n ei brofi, rwyt ti’n haeddu cael cymorth ar unrhyw adeg.

Cadw'n ddiogel

Os wyt ti'n teimlo fel bod ti wedi dy lethu, neu eisiau brifo dy hun, mae cymorth ar gael i ti trafod pethau. Rwyt ti'n haeddu cymorth cyn gynted ag y sydd ei angen.

I siarad â rhywun yn gyfrinachol am sut rwyt ti'n teimlo, gallet ti:


Os wyt ti'n teimlo y gallet ti ceisio lladd dy hun, neu os wyt ti wedi brifo dy hun yn ddifrifol, mae hwn yn argyfwng
. Gallet ti:

  • Ffonio 999 a gofyn am ambiwlans.
  • Dweud wrth oedolyn rwyt yn ymddiried ynddo a gofyn iddynt ffonio 999 am help.


Mae argyfyngau iechyd meddwl yn ddifrifol. Nid wyt ti’n yn gwastraffu amser neb.

decorative

Mae bob opsiwn cymorth iechyd meddwl ar y dudalen yma am ddim, heblaw am therapi preifat

Roedd gofyn am gymorth yn bendant yn un o’r pethau anoddaf wnes i erioed, ond roedd yn werth chweil.

Cefnogi dy hun

Mae dysgu sut mae gofalu amdanom ni ein hunain yn helpu unrhyw bryd, yn enwedig wrth i ni ddod o hyd i gymorth ar gyfer ein hiechyd meddwl.

Efallai y bydd hunanofal yn ddefnyddiol i ni os ydyn ni wedi cael trafferth cael cymorth yn rhywle arall. Er enghraifft, efallai ein bod ni wedi profi:

Os ydych chi wedi cael y mathau yma o broblemau, mi allwch ystyried hunan-eiriolaeth.

Rydyn ni i gyd yn wahanol, felly meddyliwch am beth rydych yn hoffi ei wneud a beth sy’n helpu i wella eich llesiant. Ond does dim rhaid i chi ddatrys popeth ar eich pen eich hun.

Mae gennym restr o awgrymiadau llesiant a hunanofal y gallwch eu trio yn y tymor byr a’r tymor hir. Mi allai'r awgrymiadau yma helpu wrth i chi edrych ar opsiynau eraill ar gyfer cymorth iechyd meddwl, neu aros amdanyn nhw.

Dod o hyd i ffyrdd o gefnogi dy hun

Os wyt ti eisiau rhoi cynnig ar gefnogi dy hun, edrycha ar ein tudalen o awgrymiadau llesiant.

Dwi’n credu ei bod yn llawer mwy defnyddiol adnabod y ffordd rwyt ti’n teimlo. Oherwydd wedyn, mi rwyt ti’n dechrau adnabod y sbardunau y tu ôl i’r teimladau yna - Grace, 17 oed

Cymorth gan bobl rwyt ti’n eu hadnabod ac yn ymddiried ynddyn nhw

Efallai y bydd rhai ohonom yn teimlo’n gyfforddus yn gofyn am gymorth iechyd meddwl gan bobl rydyn ni’n eu hadnabod ac yn ymddiried ynddyn nhw, fel:

Mae pobl rydyn ni’n eu hadnabod ac yn ymddiried ynddyn nhw yn gallu gwrando arnon ni a’n helpu ni i deimlo’n llai unig. Maen nhw’n gallu ein helpu hefyd gyda phethau ymarferol. Fel ein helpu i ddod o hyd i wasanaeth neu ddod i apwyntiadau gyda ni.

Ond efallai y bydd rhai ohonom ni’n ei chael yn anodd siarad â phobl sy’n agos atan ni. Efallai y byddwn yn poeni eu bod nhw ddim am wneud y canlynol:

  • Deall sut rydym yn teimlo
  • Gwybod sut i gynnig cymorth ar gyfer iechyd meddwl
  • Ein trin yn yr un ffordd ag o’r blaen

Mae’n iawn os dydyn nhw ddim yn deall neu ddim yn sicr sut i’ch helpu. Edrychwch ar ein rhestr o bobl eto a thrïwch siarad efo rhywun arall. Does dim bai arnoch chi os dydyn nhw ddim yn teimlo eu bod yn gallu eich cefnogi ar hyn o bryd.

Sut i siarad â phobl rwyt ti’n eu hadnabod

Os wyt ti eisiau trio siarad â rhywun sy’n agos atat ti, mae gennym wybodaeth ac awgrymiadau i helpu.

Pan wnes i ofyn am help, roedd pawb mor gefnogol a byddai’n dda gen i pe bawn i wedi gwneud hynny’n gynt – roedd y syniad yn llawer mwy brawychus na’r realiti.

Cymorth gan bobl dwyt ti ddim yn eu hadnabod

Weithiau mae’n teimlo’n haws siarad am iechyd meddwl â phobl sydd ddim yn ein hadnabod o gwbl. Mae siarad â phobl sydd ddim yn ein hadnabod yn gallu bod yn ddefnyddiol os:

  • Rydyn ni’n poeni sut mae rhywun sy’n agos atom ni’n gallu ymateb
  • Rydyn ni’n poeni am gael ein beirniadu gan rywun agos
  • Nid yw’r cymorth rydyn ni’n ei gael gan eraill yn teimlo’n iawn neu nid yw’n ddigon

Os hoffech gael cymorth iechyd meddwl gan rywun dydych chi ddim yn ei adnabod, mae llawer o sefydliadau a gwasanaethau gyda:

  • Llinellau cymorth
  • Llinellau neges destun
  • Fforymau a sgyrsiau ar-lein
  • Cymorth dros e-bost
  • Cymorth gan y cyfryngau cymdeithasol

Os wyt ti’n gyfforddus yn siarad dros y ffôn â rhywun dwyt ti ddim yn ei adnabod, ffonia linell gymorth. Does dim rhaid i ti roi unrhyw fanylion am bwy wyt ti.

Os dwyt ti ddim eisiau siarad dros y ffôn, efallai y byddai’n well gennyt ddefnyddio llinellau neges testun, sgyrsiau ar-lein, negeseuon e-bost neu gyfryngau cymdeithasol. Ond mae’n bwysig cadw’n ddiogel wrth siarad ar-lein â phobl dwyt ti ddim yn eu hadnabod.

Darllena ein gwybodaeth am ddiogelwch ar-lein ym maes cymorth iechyd meddwl.

Ar ein tudalen cysylltiadau defnyddiol, bydd sefydliadau a gwasanaethau sy’n cynnig cymorth iechyd meddwl. Mae hyn yn cynnwys cymorth ar gyfer gwahanol hunaniaethau a chymunedau, fel os ydych chi’n LHDTCRhA+ neu os wyt ti’n Fwslim.

Mae rhai gwasanaethau’n rhoi cymorth 24/7 os oes angen help a chyngor arnat ti’n syth, neu os wyt ti’n aros am fath arall o gymorth.

Cael cymorth gan bobl dwyt ti ddim yn eu hadnabod

Os wyt ti eisiau trio cael cymorth gan rywun dwyt ti ddim yn ei adnabod, edrycha ar ein tudalen o gysylltiadau defnyddiol ar gyfer iechyd meddwl.

Cymorth gan dy feddyg

Mae meddyg neu feddyg teulu yn gallu ein helpu gydag iechyd meddwl gymaint ag iechyd corfforol. Mae’r dudalen yma’n defnyddio'r gair ‘meddyg’, ond mae’n golygu’r un peth â ‘meddyg teulu’.

Mi allwn ni ofyn i’n meddyg am gymorth iechyd meddwl ar unrhyw adeg. Hyd yn oed os dydyn ni ddim yn siŵr beth rydyn ni’n ei deimlo neu’n ei brofi.

Er bod mynd i weld meddyg yn gallu gwneud i chi deimlo’n ofnus, maen nhw’n gallu rhoi lle diogel i ni siarad ac ateb unrhyw gwestiynau sydd gennym. Ond mae’n gallu bod yn anodd os oes rhaid i ni aros am ychydig am apwyntiad.

Ar ôl i ti siarad â meddyg, efallai y byddan nhw’n:

Mi alli di fynd i weld meddyg ar ben dy hun dim ots faint oed wyt ti, ond efallai y byddan nhw’n dy annog i siarad â rhiant, gofalwr neu warcheidwad am beth sy’n digwydd. Rhaid i feddygon ddilyn rheolau llym ynghylch cyfrinachedd.

Sut mae cael cymorth gan dy feddyg

Os wyt ti eisiau ceisio cael cymorth gan dy feddyg, mae gennym wybodaeth ac awgrymiadau ar sut i wneud hyn.

Yn ystod fy apwyntiad wyneb yn wyneb, roeddwn i’n teimlo’n ddigon cyfforddus gyda fy meddyg i ddweud beth oedd yn digwydd. Mi ges i fy atgyfeirio at wasanaethau CAMHS a chael gwasanaeth cwnsela yn yr ysgol.

Cymorth gan CAMHS

Mae’r GIG yn rhoi gwasanaethau iechyd meddwl am ddim i bobl ifanc. Sef Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHS).

Bydd angen atgyfeiriad neu hunan-atgyfeiriad arnat ti i gael defnyddio CAMHS. Mae gwahanol bobl yn gallu atgyfeirio ar dy ran, fel:

Mae sut rwyt ti’n cael cymorth gan CAMHS yn dibynnu ar dy anghenion a ble rwyt ti’n byw. Ond mae’n bosibl bydd rhestrau aros hir ar gyfer apwyntiad cyntaf. Mae’n bosibl y bydd amseroedd aros hefyd ar gyfer unrhyw driniaeth a chymorth mae CAMHS yn gallu eu cynnig.

Wrth i ti aros, mi alli di edrych ar yr opsiynau cymorth eraill ar y dudalen yma. Mi alli di hefyd drio hunanofal drwy ddefnyddio ein hawgrymiadau llesiant.

Sut mae cael gafael ar gymorth CAMHS

Os wyt ti eisiau dysgu mwy am gael cymorth gan CAMHS, mae gennym lawer o wybodaeth ac awgrymiadau.

Roeddwn i’n teimlo bod yna ddim byd arall a fyddai’n helpu ar wahân i CAMHS. Mewn gwirionedd, elusennau lleol a chymorth gan yr ysgol sy’n gallu gwneud y gwahaniaeth mwyaf.

Cymorth gan yr ysgol neu’r coleg

Efallai y byddwn am gysylltu ag oedolyn y gallwch ymddiried ynddo yn yr ysgol neu’r coleg i ofyn am gymorth iechyd meddwl. Mi allem siarad ag:

  • Athro neu diwtor
  • Nyrs ysgol
  • Arweinydd iechyd meddwl
  • Aelod o’r tîm bugeiliol

Mae rhai ysgolion yn rhoi:

Fe wnes i siarad â chwnselydd a oedd yn mynd i’r ysgol bob wythnos ac a wnaeth fy helpu i deimlo’n ddigon cyfforddus i siarad am beth roeddwn i’n cael trafferth gydag ef, a sut i ddelio â’r peth yn well.

Os dwyt ti ddim yn siŵr pa gymorth sydd ar gael, mi alli di ofyn i aelod o staff rwyt ti’n ymddiried ynddo. Mi all dy helpu i ystyried dy opsiynau. Efallai y bydd yn gallu dy atgyfeirio at gwnselydd ysgol neu CAMHS.

Fe wnes i ffrindiau rydw i wir yn ymddiried ynddyn nhw ac sy’n fy neall i. Mae gan yr athrawon well dealltwriaeth o beth yw PTSD a sut i ddelio ag ef - Scarlett, 15 oed

Cymorth gan dy weithle

Os oes gennym swydd, mae gan ein cyflogwr gyfrifoldeb i gefnogi ein llesiant. Os yw ein cyflogwr yn gwybod bod gennym broblem iechyd meddwl, mae hefyd yn erbyn y gyfraith iddyn nhw wahaniaethu yn ein herbyn.

Mae eiriolwyr yn gallu ein helpu i sefyll dros ein hawliau. Yn enwedig os ydyn ni’n profi gwahaniaethu oherwydd ein hiechyd meddwl.

I gael mwy o wybodaeth, edrychwch ar ein tudalennau am eiriolaeth a deall eich hawliau.

I gael gwybod am gymorth iechyd meddwl yn y gwaith, gofynnwch i rywun rydych chi’n ymddiried ynddo, fel eich:

  • Goruchwyliwr
  • Rheolwr
  • Mentor
  • Cydweithwyr

Mae gan rai gweithleoedd ‘rwydweithiau’ cymorth gan gymheiriaid i gysylltu cydweithwyr sy’n rhannu profiadau tebyg. Er enghraifft, rhwydweithiau LHDTRhC+, rhwydweithiau aml-ethnig neu rwydweithiau staff ifanc.

Bydd y cymorth iechyd meddwl sydd ei angen arnom ni yn y gwaith yn edrych yn wahanol i bob un ohonom. Ond efallai y bydd rhai gweithleoedd yn gwneud y canlynol:

  • Gwneud newidiadau yn y gwaith i helpu i reoli beth sy’n anodd i chi.
  • Dod o hyd i gyrsiau hyfforddi i’ch helpu yn eich rôl neu i wella eich llesiant.
  • Rhoi Rhaglen Cymorth i Weithwyr, sy’n gallu rhoi mynediad i chi at gwnsela am ddim neu atgyfeiriad at wasanaeth preifat.
  • Gadael i chi gael ‘addasiadau rhesymol’ os yw eich problem iechyd meddwl yn cyfrif fel anabledd.
  • Creu cynllun gweithredu llesiant gyda chi er mwyn deall eich llesiant yn y gwaith yn well.

Cael cynllun gweithredu llesiant

Os wyt ti eisiau rhoi cynnig ar ddefnyddio cynllun gweithredu llesiant neu ei rannu efo dy reolwr, llwytha ein templed i lawr.

Mae hwn yn PDF Saesneg, sy’n mynd i agor mewn ffenestr newydd.

Cymorth ac apiau ar-lein

Mae cysylltu â phobl fel ni ein hunain yn gallu ein helpu i deimlo ein bod yn cael cefnogaeth ac yn llai unig. Mi allwn rannu sut rydyn ni’n teimlo a chwilio am gyngor gan bobl eraill ar sut i ymdopi â phrofiadau anodd.

Efallai y byddwn yn gweld ei bod yn ddefnyddiol siarad â phobl ifanc eraill sy’n mynd drwy rywbeth tebyg i ni.

Gallwch siarad â phobl eraill ar fyrddau negeseuon ar-lein, fel:

Cadw’n ddiogel ar-lein wrth chwilio am gymorth

Mae rhannu dy deimladau yn gallu helpu yn ystod cyfnod anodd. Ond mae’n bwysig cadw’n ddiogel ar-lein wrth siarad â phobl dwyt ti ddim yn eu hadnabod.

Ar fyrddau negeseuon, apiau cyfryngau cymdeithasol a gwefannau cymorth iechyd meddwl, efallai y gweli di negeseuon, delweddau neu sylwadau sy’n dy ypsetio.

Ceisia wneud yn siŵr dy fod yn defnyddio safleoedd ac apiau sy’n gwneud y canlynol yn unig:

  • Gyda chanllawiau ar beth rwyt ti’n gallu postio a beth sy’n annerbyniol
  • Gyda chymedrolwyr sy’n gwneud yn siŵr bod defnyddwyr yn dilyn y canllawiau
  • Yn addas ar gyfer dy grŵp oedran
  • Ddim yn dy annog i wneud unrhyw beth peryglus neu niweidiol i dy hun
  • Ddim yn gofyn am wybodaeth sy’n gallu dangos pwy wyt ti, fel dolenni cyfryngau cymdeithasol neu’r ardal lle rwyt ti’n byw
  • Ddim yn gofyn i ti rannu dy gyfeiriad na dy rif ffôn

Mi alli di gael arweiniad ar gadw’n ddiogel ar-lein gan Childline, NSPCC ac Young Minds.

Apiau ar gyfer iechyd meddwl

Gall rhai apiau ein helpu gyda phethau fel teimlo'n dawelach neu reoli symptomau anodd. Ond gyda chymaint o apiau, gall deimlo'n anodd gwybod ble i ddechrau.

I ddod o hyd i apiau diogel a dibynadwy i bobl ifanc, cer i lyfrgell apiau Mind.

O’r gefnogaeth rydw i wedi’i chael drwy wefannau a chleifion allanol, mae fel fy mod i’n gweld pethau o safbwynt llawer mwy.

Cymorth yn dy ardal leol

Mae llawer o gymunedau lleol yn cynnig gwahanol fathau o gymorth iechyd meddwl am ddim. I ddod o hyd i dy wasanaeth Mind lleol agosaf ar gyfer pobl ifanc, defnyddia ein map ar-lein.

Yn dibynnu ar ble rwyt ti’n byw, efallai y bydd dy gyngor lleol hefyd yn rhoi cymorth, fel:

  • Hybiau cymorth cynnar i bobl ifanc
  • Clybiau ieuenctid
  • Cymorth mewn ysgolion
  • Lle diogel i aros
  • Help gydag arian

Sut i ddod o hyd i gymorth lleol

Ar wefan llywodraeth y DU, mi alli di chwilio am dy gyngor lleol i weld beth maen nhw’n ei gynnig yn dy ardal.

Mi alli di hefyd anfon e-bost atyn nhw neu eu ffonio i gael mwy o wybodaeth. Mae oedolyn dibynadwy yn gallu dy helpu gyda hyn.

Roedd grŵp cefnogaeth gan gymheiriaid lleol yn hanfodol oherwydd, yn wahanol i’r rhan fwyaf o wasanaethau, does dim angen i chi gael diagnosis i fynd.

Sut mae cael cymorth gan weithiwr cymdeithasol

Mae gweithwyr cymdeithasol yn dy helpu di a dy deulu i weithio drwy wahanol broblemau gyda’ch gilydd. Efallai y galli di gael cymorth gan weithiwr cymdeithasol os wyt ti’n:

  • Profi problem iechyd meddwl neu iechyd corfforol
  • Cael dy gam-drin neu mewn perygl o gael dy gam-drin
  • Gofalu am rywun fel gofalwr ifanc
  • I gael cymorth gwaith cymdeithasol gan dy gyngor lleol, mae angen i ti wneud cais am asesiad. Efallai y byddi am ofyn i oedolyn dibynadwy dy helpu gyda hyn.

Mi alli di ddod o hyd i’r cais ar wefan llywodraeth y DU.

 

Talu am therapi preifat

Mae therapi preifat yn fath o gymorth iechyd meddwl sy’n costio arian i'w ddefnyddio.

Efallai y byddi di’n penderfynu talu am therapi preifat os wyt ti’n:

  • Cael trafferth cael cymorth drwy CAMHS oherwydd rhestrau aros hir
  • Angen cymorth ychwanegol os wyt ti newydd adael CAMHS
  • Ddim yn gallu parhau i weithio gyda dy therapydd presennol am unrhyw reswm

Os wyt ti’n gallu ei fforddio, mae talu am therapi preifat yn gallu bod yn ddefnyddiol oherwydd:

  • Mi alli di gael apwyntiad cyntaf yn llawer cynt na CAMHS
  • Mae’r therapydd yn gallu dy helpu i gael ail farn am dy ddiagnosis
  • Fel arfer, bydd gennyt lawer mwy o lais o ran pryd a pha mor aml galli di wneud apwyntiadau

Os wyt ti’n gallu, efallai byddi di’n hoffi gofyn i dy riant, gofalwr neu warcheidwad a allan nhw dy helpu i ddod o hyd i therapydd neu gwnselydd.

Cofia: mae therapi preifat yn gallu bod yn ddrud. Mae costau’n gallu bod yn wahanol iawn yn dibynnu ar ble rwyt ti’n byw, ac mae’r gost yn debygol o fod yn barhaus.

Ond os wyt ti ar incwm isel, yn ddi-waith neu’n fyfyriwr, mae rhai therapyddion yn cynnig ‘cyfradd consesiwn’ rhatach. Weithiau mae’r apwyntiad cyntaf am ddim. Mae hyn yn rhoi cyfle i’r ddau ohonoch ddarganfod beth yw dy anghenion ac archwilio’r berthynas.

Sut i ddod o hyd i therapi preifat

I ddod o hyd i therapydd preifat, chwilia yng Nghyfeiriadur Cymdeithas Cwnsela a Seicotherapi Prydain (BACP).

decorative

Cofia: mae gwahanol bethau’n gweithio ar wahanol adegau, ac mae hynny’n iawn. Mi alli di edrych ar yr opsiynau ar y dudalen yma eto os wyt ti am drio math gwahanol o gymorth.

Cyhoeddwyd: Ionawr 2026

Adolygiad nesaf: Ionawr 2029

Mae’r bobl ifanc wedi cytuno i’w geiriau ymddangos ar y dudalen hon. Dydy eu profiadau ddim yn gysylltiedig â’r bobl sy’n ymddangos yn y lluniau.

Mae cyfeiriadau ar gael ar gais. Os ydych chi am atgynhyrchu’r cynnwys hwn, ewch i’n tudalen caniatâd a thrwydded.

PIF Tick quality mark logo for trusted information creators

Am ragor o wybodaeth

arrow_upwardYn ôl i'r brig