Goresgyn rhwystrau i weithgarwch corfforol
Efallai y byddwch yn wynebu rhwystrau i wneud gweithgarwch corfforol. Gall hyn gynnwys peidio â chael digon o amser neu arian. Neu brofiad o wahaniaethu neu stigma wrth wneud gweithgarwch corfforol. Efallai eich bod eisiau bod yn actif, ond nid oes gennych unrhyw le i wneud hynny'n ddiogel. Neu efallai nad ydych chi'n ei fwynhau.
Nid yw hyn bob amser yn golygu nad yw bod yn actif yn iawn i chi. Ond efallai nad dyma'r peth iawn ar hyn o bryd. Neu efallai y bydd angen i chi roi cynnig ar rywbeth gwahanol. Mae yna bethau y gallwch roi cynnig arnynt i oresgyn rhai o'r rhwystrau hyn.
Adeiladu eich hyder
Gall unrhyw fath o weithgarwch corfforol fod yn anodd, yn enwedig ar y dechrau. Os nad ydych wedi gwneud gweithgaredd o'r blaen, efallai y byddwch yn teimlo'n hunan-ymwybodol. Efallai y byddwch hefyd yn teimlo'n rhwystredig os nad yw pethau'n teimlo'n iawn y tro cyntaf i chi roi cynnig arni.
Cofiwch ei bod yn iawn rhoi'r gorau i wneud gweithgaredd nad yw'n gweithio i chi. Ond os ydych chi am barhau i roi cynnig arni, gallai'r syniadau hyn helpu:
Byddwch yn garedig â’ch hun
Weithiau ni allwn fod mor actif ag y dymunwn. Bydd ein lefelau egni yn amrywio ar wahanol ddiwrnodau. Mae'n iawn arafu neu gymryd saib.
Daliwch ati
Efallai y bydd yn cymryd amser i ddod o hyd i weithgaredd rydych chi'n ei hoffi. Gall helpu i roi cynnig ar wahanol weithgareddau. Ond efallai y byddwch hefyd yn gweld bod yn well gennych ddosbarth, hyfforddwr neu le penodol i wneud gweithgaredd.
Gwnewch y gweithgaredd am amser sy’n addas i chi
Mae llawer o resymau pam y gallech ei chael hi'n anodd bod yn actif ar adegau penodol o'r dydd.
Er enghraifft, os ydych chi'n cymryd meddyginiaeth sy'n eich gadael chi'n teimlo'n flinedig yn y boreau. Efallai y bydd yn helpu i adael i'ch hun orffwys a gwneud rhywfaint o ymarfer corff yn nes ymlaen.
Neu efallai y gwelwch fod ymarfer corff gyda'r nos yn effeithio ar eich cwsg. Gallech roi cynnig ar wneud gweithgaredd yn gynharach yn y dydd.
Efallai y byddwch hefyd yn cael cyfnodau pan na allwch wneud ymarfer corff oherwydd eich iechyd meddwl. Gadewch i'ch hun gael saib os oes ei angen arnoch, a dechreuwch eto unwaith y byddwch chi'n teimlo'n well.
Ceisiwch beidio â chymharu eich hun ag eraill
Gosodwch eich nodau eich hun yn seiliedig ar eich galluoedd a'r hyn rydych chi am ei gyflawni. Ceisiwch roi sylw i sut rydych chi'n teimlo yn hytrach na'r hyn y mae pobl eraill yn ei wneud.
Newidiwch gyda phwy rydych chi'n gwneud gweithgaredd
Efallai eich bod wedi bod yn gwneud gweithgarwch corfforol ar eich pen eich hun ac eisiau ei rannu ag eraill. Neu efallai eich bod wedi bod yn gwneud gweithgarwch corfforol mewn grŵp ac yn teimlo bod hynny'n anghyfforddus.
Mae'n iawn newid pwy rydych chi'n actif gyda nhw, os yw hynny'n ei gwneud hi'n fwy pleserus i chi.
Roedd meddwl am fynd i gampfa ar fy mhen fy hun yn fy nychryn ond dechreuais fynd i ddosbarthiadau ymarfer corff amrywiol gyda ffrind. Roedd y gwahaniaeth a wnaeth i fy iechyd meddwl yn anhygoel.
Newidiwch eich trefn ddyddiol neu rhowch gynnig ar rywbeth newydd
Gall newid pryd neu pa mor aml rydych chi'n gwneud gweithgaredd corfforol os nad yw'n cyd-fynd â'ch amserlen bellach.
Neu efallai yr hoffech roi cynnig ar rywbeth newydd hefyd. Efallai y byddwch yn mwynhau gweithgareddau gwahanol yn fwy ar wahanol adegau. Mae llawer o weithgareddau y gallwch roi cynnig arnynt.
Gwnewch yr hyn y gallwch yn unig
Efallai y byddwch chi’n cael dyddiau pan fyddwch chi eisiau bod yn actif. Ond efallai y byddwch hefyd yn cael diwrnodau pan fydd yn teimlo’n ormod.
Ceisiwch addasu i’r ffordd rydych chi'n teimlo. Mae'n iawn peidio â mynd i weithgaredd rydych wedi'i gynllunio os nad ydych chi'n teimlo'n ddigon da.
Gall hefyd helpu i feddwl am y canlynol:
- Cofiwch fod unrhyw symudiad yn dda. Nid oes rhaid iddo fod yn fathau penodol o weithgarwch, fel chwarae chwaraeon, i gyfrif fel bod yn actif.
- Byddwch yn garedig â’ch hun. Os na fyddwch yn llwyddo i wneud yr hyn yr oeddech yn ei gynllunio, mae hynny'n iawn. Cymerwch saib a cheisiwch eto pan fyddwch chi'n teimlo'n well.
- Weithiau, gall gweithgarwch corfforol gael effaith negyddol ar ein hiechyd meddwl neu gorfforol. Os ydych chi'n teimlo fel hyn, efallai y bydd angen i chi gymryd saib hirach nes eich bod chi'n teimlo'n well. Mae gan ein tudalen ar ymarfer corff yn ormodol a dibyniaeth ar ymarfer corff ragor o wybodaeth am berthynas negyddol â gweithgarwch corfforol.
Dewch o hyd i ffyrdd i gefnogi eich iechyd meddwl
Os nad yw bod yn actif yn gorfforol yn helpu sut rydych chi'n teimlo, ceisiwch beidio â beio'ch hun. Gall gofalu am eich iechyd meddwl fod yn anodd, yn enwedig pan nad ydych yn teimlo'n dda.
Os ydych chi'n cael trafferth rheoli eich iechyd meddwl ar eich pen eich hun, gallwch ofyn am help. Mae’n gam cyntaf da i siarad â'ch meddyg teulu. Gallant drafod sut rydych chi'n teimlo, a thrafod triniaethau fel meddyginiaeth neu therapi siarad.
Gallech hefyd chwilio am ffyrdd eraill o ofalu am eich hun. Er enghraifft, mae gennym awgrymiadau ar ymlacio, meddwlgarwch a mynd i fyd natur.
Gall gymryd amser i deimlo'n well. Ond mae llawer o bobl yn gweld bod gwahanol gyfuniadau o driniaeth, hunan-ofal a chefnogaeth yn gallu helpu. Weithiau gallai gweithgarwch corfforol fod yn rhan o hyn - ond mae'n iawn os nad yw'n gweithio i chi.
Yn ystod yr wythnosau nad oeddwn yn gallu ei wneud, ceisiais beidio â theimlo'n euog ond cydnabod bod bywyd weithiau'n mynd yn y ffordd. Mae wedi bod yn bwysig i mi ganolbwyntio ar yr adegau dwi wedi gallu mynd nofio, yn hytrach na’r wythnosau dwi ddim wedi gallu mynd.
Chwiliwch am gynlluniau lleol a gostyngiadau
Efallai y bydd gan eich cyngor lleol neu ganolfan hamdden wybodaeth am ostyngiadau sydd ar gael ar gyfer dosbarthiadau, campfeydd neu raglenni penodol.
Efallai y bydd rhai meddygon teulu yn cynnig presgripsiynau ymarfer corff i bobl ag iselder, a all gynnwys rhaglenni gostyngedig neu am ddim. Gallwch ofyn i'ch meddyg teulu am ragor o wybodaeth.
Mae gan raglen Iechyd Gwell y GIG wybodaeth hefyd am ostyngiadau a chynigion rhagarweiniol ar gyfer bod yn actif.
Dewch o hyd i weithgareddau rhad ac am ddim neu gost isel
Nid oes angen i chi gael llawer o offer nac aelodaeth i gampfa i fod yn actif. Mae ein gwybodaeth am ddewis gweithgaredd sy'n iawn i chi yn cynnwys syniadau ar gyfer gweithgareddau rhad ac am ddim a chost isel. Mae gan We Are Undefeatable wybodaeth am weithgarwch corfforol am ddim hefyd.
Fideo: Stori Bob am gerdded-a-siarad Mind
Gwyliwch stori Bob am gymryd rhan mewn taith gerdded a siarad leol, i helpu gydag unigrwydd a chefnogi ei iechyd meddwl.
Mannau diogel a chynhwysol
Gall gwneud ymarfer corff fod yn brofiad sy’n gwneud i chi deimlo’n fregus. Mewn rhai achosion, gall deimlo'n anniogel.
Efallai na fyddwch yn teimlo'n gyfforddus yn eich corff wrth wneud gweithgareddau penodol neu mewn amgylcheddau penodol. Neu efallai y byddwch yn teimlo'n anniogel os ydych wedi profi stigma neu wahaniaethu am eich corff neu hunaniaeth. Yn enwedig pe bai hynny'n digwydd mewn lle y mae pobl yn mynd iddo i fod yn actif.
Mae yna rai sefydliadau cenedlaethol sy'n darparu cefnogaeth i bobl o wahanol grwpiau:
- Mae gan We are Undefeatable ac Every Body Moves wybodaeth, dosbarthiadau a chwilotwyr ar gyfer pobl anabl sydd eisiau bod yn fwy egnïol yn gorfforol. Gallech hefyd chwilio ar Hub of Hope am wybodaeth am raglenni gweithgarwch corfforol lleol i gefnogi pobl â phroblemau iechyd meddwl.
- Mae Pride Sports yn herio homoffobia, deuffobia a thrawsffobia mewn chwaraeon yn y DU. Mae ganddyn nhw chwilotwr clwb chwaraeon LHDT+ i ddod o hyd i glybiau cynhwysol.
- Mae llawer o ganolfannau Age UK yn cynnal dosbarthiadau ar gyfer pobl dros 50 oed. Mae'r dosbarthiadau hyn yn canolbwyntio ar ymarfer corff ysgafn, ac yn croesawu pobl ag anghenion symudedd ac iechyd gwahanol.
- Mae This Girl Can yn cynnig gwybodaeth a chefnogaeth i unrhyw un sy'n hunan-adnabod fel menyw, sydd eisiau cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol.
Os nad yw'r sefydliadau hyn yn cynnig y cymorth sydd ei angen arnoch, efallai y bydd cymorth lleol ar gael. Er enghraifft, mae llawer o grwpiau lleol ar gael ar gyfer gwahanol gymunedau, megis ar gyfer pobl o gefndiroedd Du neu Asiaidd.
Gallwch chwilio am grwpiau lleol ar-lein. Neu efallai y byddant yn cael eu hysbysebu mewn mannau fel campfeydd, canolfannau hamdden neu ganolfannau cymunedol.
Yn fy nosbarthiadau dŵr mae yna bobl o bob lliw a llun - ac i fod yn onest does neb yn poeni.
Cyhoeddwyd y wybodaeth hon ym mis Hydref 2023. Byddwn yn ei adolygu yn 2026.
References and bibliography available on request.
If you want to reproduce this content, see our permissions and licensing page.