Sut mae gweithgarwch corfforol ac iechyd meddwl yn gysylltiedig?
Mae'r dudalen hon yn esbonio'r berthynas rhwng gweithgarwch corfforol, ymarfer corff ac iechyd meddwl.
Beth yw gweithgarwch corfforol ac ymarfer corff?
Gweithgarwch corfforol yw unrhyw symudiad y mae eich corff yn ei wneud sy'n defnyddio egni. Gallai hyn fod yn rhan o weithgareddau bob dydd, fel glanhau neu goginio.
Neu efallai y byddwch yn actif drwy ddewis gwneud ymarfer corff. Mae ymarfer corff yn weithgarwch corfforol yr ydym yn tueddu i'w wneud yn fwriadol, yn hytrach na dim ond fel rhan o fywyd bob dydd.
Gall ymarfer corff gynnwys pethau fel cerdded, rhedeg, beicio neu chwaraeon tîm. Efallai y byddwch yn ei wneud i wella sgil, adeiladu eich cryfder, neu fel rhan o weithgaredd cymdeithasol.
Mae llawer o fy hoff atgofion gyda ffrindiau a theulu yn cynnwys teithiau cerdded hir, rhai ohonynt ym myd natur sy'n therapiwtig iawn. Y peth da am gerdded yw eich bod yn gallu cael sgyrsiau dwfn ac ystyrlon wrth i chi fynd, oherwydd nad ydych mor allan o wynt.
Sut all ymarfer corff helpu fy iechyd meddwl?
Mae gan weithgarwch corfforol lawer o fanteision i'n lles meddyliol a chorfforol. Gall helpu gyda phethau fel:
- Rheoli straen
- Gwella cwsg
- Gwella eich hwyliau
- Gwella hyder
- Cysylltu â byd natur
- Cymdeithasu a chwrdd â phobl newydd
- Rheoli symptomau iselder a gorbryder
- Y cof a gweithrediad yr ymennydd
- Iechyd y galon, y cyhyrau a'r esgyrn
- Lleihau'r risg o ddatblygu rhai cyflyrau iechyd hirdymor, fel clefyd y galon
Ymarfer corff yw'r un peth sy'n fy ngwneud i deimlo’n dda eto, gydag iselder, mae'n amhrisiadwy. Mae'n gwneud i mi deimlo'n wych, yn iach ac yn actif. Dydw i ddim yn teimlo mor flinedig pan fyddaf yn gwneud ymarfer corff ac mae'n fy ngwneud yn hapus ac yn fodlon ynof fi fy hun.
Beth os ydw i'n cael trafferth bod yn actif?
Efallai y bydd adegau pan nad yw gweithgarwch corfforol yn helpu ein hiechyd meddwl, neu'n gwneud i ni deimlo'n waeth. Er enghraifft, os nad ydym yn mwynhau'r gweithgaredd rydym yn ei wneud, neu os ydym yn ymarfer corff yn ormodol. Efallai y byddwn hefyd yn defnyddio ymarfer corff fel rhan o broblem bwyta neu anhwylder dysmorffig y corff (BDD).
Efallai y bydd pethau allan o'n rheolaeth hefyd sy'n ein hatal rhag bod yn actif, fel:
- Byw mewn ardal sydd â mynediad cyfyngedig i fannau diogel i fod yn actif
- Diffyg arian i gymryd rhan yn y gweithgareddau rydym eisiau eu gwneud
- Ein hiechyd corfforol, gan gynnwys sgîl-effeithiau meddyginiaethau
- Profiadau negyddol o weithgarwch corfforol, fel wynebu stigma, gwahaniaethu, neu ddiffyg dealltwriaeth gan bobl o'ch cwmpas
Pan fyddwch chi'n teimlo fel hyn, gall fod yn rhwystredig pan fydd pobl yn dweud wrthych am fanteision bod yn fwy actif. Mae gan ein tudalen am oresgyn rhwystrau i fod yn actif awgrymiadau i helpu pan fyddwch chi'n cael pethau'n anodd.
Gall ymarfer corff ymddangos fel her amhosibl pan fyddwch chi'n cael amser anodd.
Cyhoeddwyd y wybodaeth hon ym mis Hydref 2023. Byddwn yn ei adolygu yn 2026.
References and bibliography available on request.
If you want to reproduce this content, see our permissions and licensing page.