Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Awgrymiadau ar gyfer bod yn actif yn gorfforol

Mae llawer o wahanol fathau o weithgarwch corfforol. Mae'r dudalen hon yn cynnwys gwybodaeth am weithgareddau y gallech roi cynnig arnynt. Ac mae'n awgrymu beth i'w ystyried os ydych chi newydd ddechrau bod yn actif, neu'n rhoi cynnig ar weithgaredd newydd.

Cofiwch na fydd pawb yn mwynhau'r un gweithgareddau. Efallai y bydd angen i chi roi cynnig ar ychydig o bethau gwahanol i ddod o hyd i rywbeth rydych chi’n ei hoffi. Efallai y bydd yr hyn rydych chi'n ei hoffi yn newid dros amser.

Beth ddylwn i feddwl amdano cyn bod yn actif?

Gall fod yn orlethol ceisio dewis gweithgaredd corfforol. Efallai y byddwch chi'n teimlo pwysau i wneud pethau nad ydych chi'n siŵr y byddwch chi'n eu mwynhau.

Un ffordd o oresgyn hyn yw meddwl am yr hyn rydych chi'n hoffi ei wneud, a’r hyn y mae eich corff yn gallu ei wneud. Gall y rhain fod yn ganllaw da ar gyfer dod o hyd i weithgaredd diogel rydych chi’n ei fwynhau.

Efallai y byddwch hefyd am ystyried y ffactorau hyn:

Ystyriwch lle rydych chi eisiau bod yn actif

Weithiau gall yr un gweithgaredd deimlo'n wahanol yn dibynnu ar ble rydym yn ei wneud. Er enghraifft, efallai y byddai'n well gennych fynd i'r gampfa. Neu efallai y byddwch yn ystyried campfeydd yn anghroesawgar.

Ceisiwch feddwl am ba amgylchedd fydd fwyaf cyfforddus, hygyrch a phleserus i chi. Gallai hyn fod gartref, mewn campfa, mewn parc, neu allan yn y gymuned.

Meddyliwch am bwy i fod yn actif gyda nhw

Ystyriwch a ydych chi'n teimlo'n fwy cyfforddus yn gwneud gweithgarwch corfforol ar eich pen eich hun neu gydag eraill. Gallech hefyd feddwl a yw'r cysylltiad hwn yn well ar-lein neu wyneb yn wyneb.

Ar gyfer gwahanol fathau o weithgarwch corfforol, efallai y byddwch am fod o gwmpas gwahanol bobl. Neu efallai nad ydych am fod o gwmpas unrhyw un.

Gosodwch amcanion a disgwyliadau rhesymol

Efallai y bydd yn cymryd amser i adeiladu eich ffitrwydd. Gallai gwneud gormod ar y dechrau wneud i chi deimlo'n flinedig a gall eich digalonni. Dechreuwch yn araf ac os ydych chi'n teimlo'n gyfforddus, gallwch chi adeiladu at wneud mwy. Mae'n iawn addasu gweithgareddau i'ch anghenion.

Efallai y bydd ein gwybodaeth am ba weithgaredd sy'n iawn i chi yn eich helpu i ddod o hyd i rywbeth addas.

Ceisiwch adnabod a gweithio o amgylch eich sbardunau

Efallai y bydd rhai agweddau ar fod yn actif sy'n anodd neu'n eich sbarduno. Efallai y bydd yn helpu i feddwl am weithgareddau sy'n gweithio o amgylch y materion hyn.

Er enghraifft, efallai y byddwch chi'n ei chael hi'n anodd gadael y tŷ. Neu efallai nad ydych chi'n hoffi gwneud ymarfer corff o flaen pobl eraill. Yn yr achos hwn, gallai fod o gymorth i ddod o hyd i weithgaredd i'w wneud gartref.

Dewch o hyd i ffyrdd eraill o gefnogi eich lles

Efallai y bydd yn helpu i feddwl am ffyrdd eraill o godi eich hwyliau neu gefnogi eich lles. Gallai hyn leihau unrhyw bwysau rydych chi'n teimlo i fod yn actif ar gyfer eich iechyd meddwl. Gweler ein tudalen ar sut i gefnogi eich lles i gael syniadau.

Fideo: 5 ffordd o symud a theimlo'n well

Gwyliwch ein fideo i ddod o hyd i bum syniad i'ch helpu chi i fod yn actif, a gofalu am eich hun wrth fod yn actif:

Beth os oes gen i broblem iechyd corfforol neu feddyliol?

Os oes gennych broblem iechyd corfforol neu feddyliol, gall hyn effeithio ar y math neu faint o weithgarwch y gallwch ei wneud. Mae'n bwysig meddwl am hyn cyn i chi ddechrau unrhyw weithgaredd. Mae hyn er mwyn sicrhau bod yr hyn rydych chi'n ei wneud yn ddiogel.

Gallwch siarad â meddyg teulu neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol arall os oes gennych unrhyw gwestiynau am fathau penodol o weithgarwch corfforol.

Efallai y bydd angen i chi ystyried y canlynol:

Meddyginiaeth

Gall rhai meddyginiaethau achosi sgîl-effeithiau a allai wneud gweithgarwch corfforol yn anodd neu'n anghyfforddus. Gall rhai o'r sgîl-effeithiau hyn fod yn beryglus ar gyfer rhai mathau o feddyginiaeth a rhai mathau o weithgarwch corfforol.

Er enghraifft, os ydych chi'n cymryd meddyginiaeth sy'n effeithio ar eich pwysedd gwaed. Neu os ydych chi'n cymryd meddyginiaeth fel lithium, sy'n golygu bod angen i chi reoli eich lefelau hydradiad a halen.

Dylai'r daflen wybodaeth i gleifion sy'n dod gyda'ch meddyginiaeth roi gwybodaeth am hyn. Gallwch hefyd siarad â'ch meddyg am unrhyw sgîl-effeithiau rydych chi'n poeni amdanynt.

Mae ein tudalennau meddyginiaeth hefyd yn cynnwys gwybodaeth am sgîl-effeithiau gwahanol meddyginiaethau iechyd meddwl.

Problemau iechyd meddwl

Gall rhai problemau iechyd meddwl arwain at brofiadau mwy cymhleth gyda gweithgarwch corfforol. Er enghraifft, os oes gennych broblem bwyta neu anhwylder dysmorffig y corff, efallai y bydd gennych deimladau anodd am fwyd, eich ymddangosiad a'ch gweithgarwch corfforol.

Efallai y bydd eich problem iechyd meddwl hefyd yn arwain at berthynas nad yw’n iach â gweithgarwch corfforol. Er enghraifft, efallai y byddwch yn gwneud ymarfer corff yn ormodol fel math o hunan-niweidio.

Nid yw hyn yn golygu na allwch fod yn actif. Ond efallai y bydd angen i chi feddwl pa fathau o weithgareddau ac amgylcheddau fydd yn addas i'ch anghenion.

Os ydych chi'n profi gorbryder neu byliau o banig, gallai rhai gweithgareddau wneud i'ch symptomau deimlo'n waeth wrth i chi fod yn actif. Mae hyn yn fwy tebygol o ddigwydd os ydych:

  • Wedi cael profiad gwael gyda gweithgarwch corfforol yn y gorffennol a oedd yn gwneud i chi deimlo pryder neu banig
  • Yn anghyfforddus neu'n nerfus yn yr amgylchedd rydych chi'n actif ynddo
  • Yn bryderus neu'n poeni am brofi pyliau o banig, yn enwedig os yw ymarfer corff dwys yn teimlo'n debyg i symptomau pwl o banig

Nid yw hyn yn golygu y bydd pob gweithgaredd yn gwneud i chi deimlo fel hyn. Gall dechrau gyda gweithgaredd ysgafn mewn amgylchedd rydych chi'n teimlo'n gyfforddus ynddo helpu rheoli'r teimladau hyn. Mae gan ein gwybodaeth am byliau o banig awgrymiadau ar sut y gallwch reoli pwl o banig pan fydd yn digwydd.

Bwyd

Po fwyaf o weithgarwch corfforol rydych chi'n ei wneud, y mwyaf o egni sydd ei angen arnoch chi. Gallai hyn olygu eich bod yn teimlo'n fwy llwglyd os ydych yn gwneud mwy o weithgarwch corfforol nag arfer.

Gall hyn fod yn rhywbeth i'w ystyried os oes gennych berthynas anodd â bwyd, fel problem bwyta. Neu os ydych chi ar ddeiet penodol oherwydd problem iechyd corfforol. Efallai y bydd angen i chi addasu rhai gweithgareddau er eich diogelwch, neu osgoi rhai gweithgareddau. Gallwch siarad â'ch meddyg teulu os oes angen mwy o gyngor arnoch.

Gweithgarwch corfforol, problemau iechyd a diogelwch

Efallai bod gennych broblem iechyd corfforol neu feddyliol sy'n eich gwneud yn ansicr ynghylch a yw gweithgarwch corfforol yn ddiogel i chi. Ond mae ymchwil yn dangos y gall gweithgarwch corfforol fod yn ddiogel os ydych yn:

  • Dechrau’n araf
  • Gwneud yr hyn y mae eich iechyd corfforol a meddyliol yn ei ganiatáu yn unig
  • Osgoi ymarfer corff yn ormodol

Efallai y bydd rhai mathau o weithgarwch corfforol na allwch eu gwneud. Ac mae rhai arwyddion rhybudd i gadw llygad amdanynt, wrth wneud unrhyw weithgaredd. Os ydych chi'n profi unrhyw un o'r rhain tra byddwch chi'n gwneud ymarfer corff, dylech roi'r gorau i'r gweithgaredd a siarad â'ch meddyg:

  • Diffyg anadl sydyn neu drafferth anadlu
  • Poen newydd yn y frest neu sy’n gwaethygu
  • Curiad calon afreolaidd
  • Teimlo’n benysgafn neu newid sydyn mewn golwg

 

Pa weithgaredd sy'n iawn i mi?

Gall bod yn actif deimlo'n haws os ydych yn dewis gweithgaredd rydych chi'n ei fwynhau, ac sy’n briodol ar gyfer eich bywyd bob dydd. Mae gan yr adran hon wybodaeth i'ch helpu i ddewis gweithgaredd sy'n gweithio i chi.

Bydd y gweithgaredd sy'n iawn i chi yn dibynnu ar ychydig o ffactorau gwahanol. Er enghraifft, beth sydd ei angen arnoch a sut rydych chi am ymgysylltu â gweithgarwch corfforol. Mae'n iawn os nad ydych chi'n hoffi'r awgrymiadau yn yr adran hon, neu os na allwch chi wneud pob un ohonyn nhw.

Pa weithgareddau sydd orau ar gyfer iechyd meddwl?

Nid oes un math o weithgaredd sydd orau ar gyfer iechyd meddwl. Mae gweithgarwch corfforol yn gweithio orau pan allwch chi ei wneud yn aml, ac yn gyson. Rydych yn fwy tebygol o allu gwneud hyn os byddwch yn dewis gweithgaredd sy'n teimlo'n gyfforddus ac yn bleserus.

Bydd gweithgareddau gwahanol yn addas i wahanol bobl. Ceisiwch ganolbwyntio ar yr hyn sy'n gwneud i chi deimlo'n dda, yn hytrach na'r hyn y mae pobl eraill yn dweud y dylech ei wneud.

Gweithgarwch corfforol mewn bywyd bob dydd

Os ydych chi am gynnwys mwy o weithgarwch corfforol yn eich bywyd o ddydd i ddydd, efallai y bydd rhai o'r syniadau hyn yn helpu:

Symud fel rhan o'ch trefn ddyddiol

Mae symud ein corff mewn unrhyw ffordd y gallwn yn ffordd dda o fod yn fwy actif.

Gallai hyn fod trwy ymestyn eich breichiau pan fyddwch chi'n eistedd i lawr. Neu gerdded o gwmpas tra'n brwsio'ch dannedd.

Gallech hefyd wneud tasgau yn y cartref yn fwy actif. Er enghraifft, gallech geisio cario bagiau o siopa mewn un ar y tro. Neu wneud tasgau sy'n cynnwys mwy o symud, fel hwfro, glanhau neu DIY.

Mae gan We Are Undefeatable syniadau ar gyfer symud o gwmpas y cartref os oes gennych anabledd.

Bod yn actif yn yr awyr agored

Mae garddio yn ffordd wych o fod yn actif a chysylltu â byd natur. Dyma rai syniadau ar gyfer mynd allan i fyd natur a mannau gwyrdd:

Yr hyn rydw i wedi'i ddysgu yw pwysigrwydd dod o hyd i'r peth sy'n fy ngalluogi i ddrifftio, gadael pryderon bywyd ar ôl a gwneud rhywbeth drosof fi fy hun.

Cymryd rhan mewn diddordebau actif

Mae llawer o ddiddordebau actif y gallech eu cyflwyno i'ch bywyd bob dydd. Er enghraifft, gallech roi cynnig ar geogelcio neu dynnu lluniau o fyd natur.

Neu gallech gymryd rhan mewn gwirfoddoli yn yr awyr agored. Mae’r Gwirfoddolwyr Cadwraeth a’r Ymddiriedolaethau Natur yn cynnal prosiectau gwirfoddoli awyr agored ledled y DU.

Rhaglenni gweithgarwch corfforol

Gall rhaglenni hunan-dywysedig neu dan arweiniad hyfforddwyr roi strwythur i'ch gweithgarwch. Cofiwch, mae'n iawn os na allwch chi wneud yr holl weithgareddau yn y rhaglenni.

Dyma rai mathau o raglenni y gallech roi cynnig arnynt:

  • Fideos a chanllawiau ar-lein. Mae llawer o fideos ar gael ar-lein, ar gyfer gweithgareddau fel ioga, codi pwysau a Pilates. Mae gan sefydliadau fel y GIG a We Are Undefeatable ganllawiau byr a rhaglenni y gellir eu haddasu hefyd.
  • Apiau a rhaglenni, fel Couch to 5K a Couch to Fitness. Mae'r rhain yn rhoi rhaglenni cam wrth gam i chi eu dilyn. Ac maen nhw'n cynnwys gwybodaeth am sut i wneud ymarfer corff yn ddiogel a helpu i'ch cymell.
  • Chwarae gemau actif. Mae yna lawer o gemau ar wahanol gonsolau sy'n gofyn i chi symud wrth chwarae. Mae rhai gemau ar gael fel apiau ar eich ffôn hefyd.
  • Rhaglenni cynhwysol. Mae gan sefydliadau fel Every Body MovesWe Are Undefeatable a Love Activity, Hate Exercise? raglenni ar gyfer pobl â phroblemau iechyd corfforol a meddyliol.

Os ydych chi'n chwilio am raglenni gweithgarwch ar-lein, efallai y bydd ein tudalen ar ddod o hyd i wybodaeth ddibynadwy ar-lein yn ddefnyddiol.

Mae ymarfer corff - a rhedeg yn arbennig - wastad wedi rhoi hwb i fy iechyd meddwl. Felly, pan benderfynais godi arian ar gyfer Mind, roedd rhedeg yn ymddangos fel y ffordd amlwg o'i wneud.

Chwaraeon, clybiau a champfeydd

Os ydych chi am gymryd rhan mewn chwaraeon, clwb neu gampfa benodol, gallai'r awgrymiadau hyn helpu:

Campfeydd awyr agored a chynhwysol

Efallai y byddwch am fynd i gampfa i roi cynnig ar weithgareddau ond na allwch gael mynediad i un. Er enghraifft, os yw'n rhy ddrud, nid oes un yn agos atoch, neu os nad ydych yn teimlo'n gyfforddus yn yr amgylchedd hwnnw. Gallai'r syniadau hyn helpu i gael mynediad i gampfa sy'n addas i chi:

  • Mae gan rai parciau lleol offer campfa awyr agored am ddim y gallwch ei ddefnyddio. Gallwch chwilio ar wefan eich cyngor lleol i ddod o hyd i leoliad unrhyw gampfa awyr agored yn eich ardal chi.
  • Mae gan Activity Alliance wybodaeth am gampfeydd a chanolfannau hamdden cynhwysol, gan gynnwys chwilotwr i ddod o hyd i gampfa gynhwysol yn eich ardal chi. Mae'r campfeydd hyn yn cynnig amgylcheddau croesawgar a hygyrch i bobl anabl.

Canolfannau hamdden

Mae gan lawer o ganolfannau hamdden gyfleusterau chwaraeon, ac maent yn cynnal dosbarthiadau a grwpiau ymarfer corff y gallech roi cynnig arnynt. Efallai y byddant yn teimlo'n fwy cynhwysol na champfeydd preifat. Efallai y bydd ganddynt gynlluniau disgownt a chyfleusterau gofal plant hefyd.

Gallwch wirio gwefan eich cyngor lleol i ddod o hyd i'ch canolfan hamdden agosaf.

Rhowch gynnig ar chwaraeon penodol

Mae llawer o chwaraeon a gweithgareddau ar gael, ar gyfer gwahanol lefelau gallu. Dyma rai y gallech roi cynnig arnynt:

  • Grŵp cerdded neu redeg – Mae RamblersparkrunRunTalkRun a Run Together i gyd yn trefnu grwpiau cerdded neu redeg lleol am ddim gyda gwirfoddolwyr hyfforddedig. Gallwch hefyd wneud teithiau cerdded Ramblers a llwybrau parkrun ar eich pen eich hun, os byddai'n well gennych beidio â chymryd rhan yn y digwyddiadau grŵp.
  • Nofio – mae gan swimming.org chwilotwr i ddod o hyd i'ch pwll lleol. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am ddosbarthiadau nofio i oedolion a chwaraeon dŵr. Ac mae ganddo ymarferion pwll y gallwch chi roi cynnig arnyn nhw eich hun. Mae gan Mental Health Swims wybodaeth am sesiynau nofio sy'n seiliedig ar gymheiriaid dros y wlad.
  • Chwaraeon dwysedd isel a meddylgar, er enghraifft ioga, pilates neu Tai Chi. Gallwch wneud y rhain gartref neu fel rhan o ddosbarth.
  • Chwaraeon cerdded – mae llawer o chwaraeon ar gael mewn fersiwn cerdded, fel pêl-droed cerdded, hoci cerdded neu bêl-fasged cerdded.
  • Chwaraeon anabledd  – Mae ScopeEvery Body Moves a Disability Sports Wales yn  rhestru sefydliadau lleol sy'n cynnig chwaraeon anabledd yn eich ardal, beth bynnag fo'ch anabledd neu lefel ffitrwydd.  

Mae gan BBC Get Inspired restr o chwaraeon y gallwch roi cynnig arnynt yn y DU. Mae hyn yn cynnwys manylion am sut i ddod o hyd i glwb sy'n agos atoch chi. 

Ar ôl cael trafferth mewn sefyllfaoedd cymdeithasol erioed, mae rygbi wedi rhoi lle i mi deimlo'n arwyddocaol ac y gallwn gysylltu â phobl.

Faint o weithgarwch corfforol ddylwn i ei wneud?

Gall fod yn ddryslyd darganfod faint o weithgarwch corfforol y dylem ei wneud. Mae yna lawer o negeseuon gwahanol am y maint o weithgarwch 'cywir'. Er enghraifft, ar y cyfryngau cymdeithasol, apiau ffitrwydd, yn y newyddion neu gan sefydliadau iechyd.

Ond rydyn ni i gyd yn wahanol. Nid yw'r negeseuon hyn yn dweud wrthym beth sydd orau i'n corff a'n hanghenion. I rai ohonom, gall yr argymhellion hyn hyd yn oed ein hatal rhag bod yn actif. Neu gallant wneud i ni deimlo'n wael am yr hyn y gallwn ei wneud.

Yr hyn sy'n bwysig yw gweithio o fewn eich anghenion, eich gallu a'ch dewisiadau. Cofiwch: mae unrhyw weithgarwch corfforol yn well na dim gweithgarwch corfforol. Ac mae unrhyw weithgaredd y gallwch ei wneud yn ddiogel yn iawn.

Cyhoeddwyd y wybodaeth hon ym mis Hydref 2023. Byddwn yn ei adolygu yn 2026. 

References and bibliography available on request.

If you want to reproduce this content, see our permissions and licensing page.

Trusted Information Creator Kitemark (PIF TICK)
arrow_upwardYn ôl i'r brig