Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Datgysylltiad ac anhwylderau datgysylltiol

Mae'n egluro beth yw datgysylltiad ac anhwylderau datgysylltiol, gan gynnwys achosion posibl a sut y gallwch chi gael gafael ar driniaeth a chymorth. Mae'n cynnwys cynghorion i'ch helpu chi eich hun, a chyngor i ffrindiau a theulu.

Beth yw anhwylderau datgysylltiol?

Efallai y byddwch chi'n cael diagnosis o anhwylder datgysylltiol os byddwch chi'n cael profiadau mynych o ddatgysylltiad sy'n peri gofid i chi, ac os bydd y profiadau hyn yn effeithio ar eich bywyd pob dydd.

Gallai datgysylltiad hefyd fod yn un o symptomau problemau iechyd meddwl eraill. Gallwch chi ofyn am help ar gyfer hyn o hyd.

Mae'r dudalen hon yn cynnwys gwybodaeth am y canlynol:

Anhwylder hunaniaeth datgysylltiol (DID)

Os oes gennych chi anhwylder hunaniaeth datgysylltiol, byddwch chi'n profi newidiadau dwys yn eich hunaniaeth. Efallai y byddwch chi'n teimlo fel pe bai agweddau (elfennau) gwahanol ar eich hunaniaeth yn rheoli eich ymddygiad a'ch meddyliau ar adegau gwahanol. Gall hyn ddigwydd mewn ffyrdd gwahanol:

  • Gall pob elfen o'ch hunaniaeth gynnwys patrymau gwahanol o feddwl ac uniaethu a'r byd.
  • Gall yr elfennau gwahanol o'ch hunaniaeth ymddangos ar ffurf oedrannau a rhywiau gwahanol.
  • Efallai y byddwch chi'n teimlo bod gennych chi un prif 'ran' o'ch hunaniaeth sy'n teimlo'n fwyaf fel 'chi'. Bydd rhai pobl yn galw'r rhan hon yn hunaniaeth gynhaliol.
  • Bydd y rhannau gwahanol o'ch hunaniaeth yn cynnwys atgofion neu brofiadau sy'n gwrthdaro â'i gilydd.
  • Bydd rhai pobl yn cyfeirio at y rhannau gwahanol o'ch hunaniaeth fel altradau neu rannau, ac at yr holl rannau gyda'i gilydd fel system.
  • Efallai na fyddwch chi'n teimlo bod gennych chi reolaeth dros ba ran wahanol o'ch hunaniaeth sydd mewn grym ar unrhyw adeg benodol.
  • Efallai y byddwch chi'n profi amnesia, sy'n golygu na fyddwch chi'n cofio'r hyn sy'n digwydd pan fydd rhan arall o'ch hunaniaeth mewn grym.

A oes gennych chi sawl personoliaeth?

Anhwylder aml-bersonoliaeth (MPD) oedd yr enw yr arferid ei ddefnyddio ar gyfer anhwylder hunaniaeth datgysylltiol. Y rheswm dros hyn yw bod llawer o bobl yn profi'r newidiadau mewn rhannau o'u hunaniaeth fel personoliaethau ar wahân mewn un corff. Mewn gwirionedd, mae'r holl rannau gwahanol o'ch hunaniaeth yn rhan o un bersonoliaeth. Ond efallai na fydd yn teimlo fel pe baen nhw'n gydgysylltiedig na'u bod nhw'n cydweithio fel un.

Mae anhwylder hunaniaeth datgysylltiol yn deillio o ffordd naturiol o ymdopi â thrawma yn ystod plentyndod. Mae ein tudalen ar achosion anhwylderau datgysylltiol yn cynnwys rhagor o wybodaeth.

Mae sawl 'rhan' wahanol, unigryw ac ar wahân i fy mhersonoliaeth. Gyda'i gilydd, mae'r 'rhannau' neu'r 'altradau' hynny'n creu'r person cyfan wyf i ... Mae pob un ohonyn nhw yn llythyren, a fi yw'r frawddeg.

Gofalu amdanoch chi'ch hun os oes gennych chi anhwylder hunaniaeth datgysylltiol (DID)

Gall DID ei gwneud hi'n fwy anodd gofalu amdanoch chi'ch hun. Efallai y byddwch chi'n gweld bod gan rannau gwahanol o'ch hunaniaeth anghenion gwahanol. Efallai y bydd angen i chi ddefnyddio technegau ymdopi gwahanol ar gyfer y rhannau gwahanol o'ch hunaniaeth. Os nad yw rhywbeth yn teimlo'n bosibl nawr, gallwch chi roi cynnig ar rywbeth arall, neu ddychwelyd ato rywbryd arall.

Mae ein tudalen ar hunanofal yn cynnwys rhagor o wybodaeth am ymdopi â datgysylltiad.

Anhwylderau datgysylltiol eraill

Mae nifer o anhwylderau datgysylltiol eraill. Bydd y diagnosis y byddwch chi'n ei gael yn dibynnu ar eich symptomau mwyaf mynych, a'r effaith maen nhw'n ei chael ar eich bywyd.

Dyma brif symptomau neu nodweddion pob anhwylder:

Anhwylder dadbersonoli neu ddadsylweddoli

Efallai y byddwch chi'n cael profiadau dadbersonoli neu ddadsylweddoli yn rheolaidd

Amnesia datgysylltiol

Efallai na fyddwch chi'n gallu cofio gwybodaeth bwysig am bwy ydych chi, eich hanes bywyd neu ddigwyddiadau penodol.

Amnesia datgysylltiol â dihangfeydd

Efallai y byddwch chi'n mynd i elfen o'ch meddwl lle byddwch chi'n anghofio popeth am bwy ydych chi (dihangfa) Fel rhan o'r ddihangfa hon, efallai y byddwch chi'n teithio i leoliad newydd ac yn ymddwyn fel personol gwahanol mewn bywyd gwahanol.

Anhwylder datgysylltiol penodol arall (OSDD)

Efallai y bydd gennych chi symptomau datgysylltiol nad ydyn nhw'n cyd-fynd ag unrhyw ddiagnosis arall. Bydd y person sy'n gwneud eich diagnosis yn esbonio pam nad yw eich symptomau'n cyd-fynd ag unrhyw ddiagnosis arall.

Anhwylder datgysylltiol amhenodol (UDD)

Efallai y bydd gennych chi symptomau datgysylltiol nad ydyn nhw'n cyd-fynd ag unrhyw ddiagnosis arall. Ond efallai na fydd gan y person sy'n gwneud eich diagnosis ddigon o wybodaeth i wneud diagnosis llawn (er enghraifft mewn argyfwng).

Empty park bench

Dadbersonoli: fy mhedwar mis o arswyd.

 Rwy'n deall nawr mai dim ond gwaethygu panig y mae rhywun wrth frwydro yn ei erbyn.

Pam y gallai fod yn anodd cael diagnosis?

  • Efallai y bydd gennych chi symptomau problemau iechyd meddwl eraill yn ogystal â datgysylltiad. Os bydd eich meddyg yn fwy cyfarwydd â'r problemau iechyd meddwl hyn, efallai mai dim ond rhoi diagnosis ar gyfer y problemau hyn y bydd yn ei wneud, heb sylweddoli bod gennych chi anhwylder datgysylltiol hefyd.
  • Yn aml, nid yw gweithwyr iechyd meddwl proffesiynol yn cael digon o hyfforddiant ar anhwylderau datgysylltiol. Efallai na fyddan nhw hyd yn oed yn ystyried y posibilrwydd o anhwylder datgysylltiol wrth asesu eich iechyd meddwl. Mae hyn yn golygu efallai na fyddan nhw'n gofyn y cwestiynau cywir i chi am eich symptomau.
  • Gall deall mwy am eich hanes bywyd helpu gweithwyr iechyd meddwl proffesiynol i wneud diagnosis. Ond nid ydyn nhw bob amser yn gofyn am brofiadau o drawma neu gam-drin yn ystod plentyndod wrth gynnal asesiad. Hyd yn oed os byddan nhw'n gofyn am brofiadau o'r fath, efallai na fyddwch chi'n eu cofio (os oes gennych chi amnesia). Neu efallai y bydd hi'n rhy anodd i chi siarad amdanyn nhw.
  • Bydd rhai pobl sy'n ymdopi â symptomau datgysylltiad yn ceisio eu cuddio rhag eraill. Efallai y byddwch chi'n ei chael hi'n anodd siarad yn agored am eich profiadau.

Beth alla i ei wneud os bydda i'n anghytuno â fy niagnosis?

Os na fydd eich diagnosis yn teimlo'n iawn i chi, mae'n bwysig eich bod chi'n trafod hyn â gweithiwr iechyd meddwl proffesiynol er mwyn i chi allu cael y driniaeth gywir.

Efallai y bydd yn fuddiol i chi ofyn i'ch meddyg eich atgyfeirio at weithiwr iechyd meddwl proffesiynol sy'n gwybod mwy am ddatgysylltiad er mwyn cael asesiad llawn. Os na fyddwch chi'n fodlon ar yr asesiad a'r cymorth y byddwch chi wedi'u cael gan wasanaethau iechyd meddwl lleol, efallai y bydd y Clinig ar gyfer Astudiaethau Datgysylltiol yn gallu eich helpu.

Mae ein tudalennau ar ofyn am help ar gyfer problem iechyd meddwl yn cynnwys
gwybodaeth am sut i wneud yn siŵr bod eich cais yn cael ei glywed, a beth i'w wneud os na fyddwch chi'n fodlon ar eich meddyg.

A all anhwylderau datgysylltiol wneud i bobl ymddwyn yn dreisgar?

Mae'r cyfryngau yn aml yn portreadu pobl ag anhwylderau datgysylltiol, yn enwedig DID, fel rhai peryglus neu dreisgar. Mae'r stereoteip hwn yn niweidiol ac yn anghywir. Darllenwch ein gwybodaeth am stigma a chamsyniadau i gael gwybod mwy am y mythau sy'n gysylltiedig â thrais ac iechyd meddwl.

Cyhoeddwyd y wybodaeth hon ym mis Ionawr 2023. Byddwn ni'n ei diwygio yn 2026.

References and bibliography available on request.

If you want to reproduce this content, see our permissions and licensing page.

Rhannu'r wybodaeth hon

arrow_upwardYn ôl i'r brig