Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Datgysylltiad ac anhwylderau datgysylltiol

Mae'n egluro beth yw datgysylltiad ac anhwylderau datgysylltiol, gan gynnwys achosion posibl a sut y gallwch chi gael gafael ar driniaeth a chymorth. Mae'n cynnwys cynghorion i'ch helpu chi eich hun, a chyngor i ffrindiau a theulu.

Beth sy'n achosi datgysylltiad ac anhwylderau datgysylltiol?

Mae nifer o brofiadau sy'n gallu achosi datgysylltiad. Gallai profiadau gwahanol beri i ni ddatgysylltu am gyfnod byr, neu am gyfnod hirach o amser.

Datgysylltiad byrdymor

Mae profiadau byr o ddatgysylltiad yn eithaf cyffredin. Gallan nhw ddigwydd i bob un ohonon ni weithiau. Er enghraifft, yn ystod cyfnodau o straen dwys neu pan fyddwn ni'n flinedig iawn. Bydd rhai pobl hefyd yn gweld y gall defnyddio cyffuriau fel canabis achosi teimladau o ddadsylweddoli a dadbersonoli.

Mae datgysylltu yn ffordd normal o ymdopi yn ystod digwyddiadau trawmatig. Er enghraifft, efallai y bydd rhai pobl yn datgysylltu pan fyddan nhw'n wynebu rhyfel, herwgipio neu yn ystod argyfwng meddygol. Mewn sefyllfaoedd na allwn ni ddianc rhagddyn nhw yn gorfforol, gall datgysylltiad ein hamddiffyn rhag gofid.

 

Datgysylltiad hirdymor

Mae datgysylltiad yn ymateb naturiol yn ystod trawma. Ond efallai y bydd rhai ohonon ni'n dal i brofi datgysylltiad ymhell ar ôl i'r digwyddiad trawmatig ddod i ben. Gall profiadau blaenorol o ddatgysylltiad yn ystod digwyddiadau trawmatig olygu nad ydych chi wedi
prosesu'r profiadau hyn yn llawn.

Os byddwch chi'n profi trawma yn ystod plentyndod, gall datgysylltiad ddod yn un o'r ffyrdd rydych chi'n ymdopi â'r trawma hwn dros gyfnod hir. Mae eich ymennydd a'ch personoliaeth yn dal i ddatblygu yn ystod plentyndod, felly efallai na fyddwch chi'n dysgu ffyrdd eraill o ddelio â mathau eraill o straen. Gall hyn olygu y byddwch chi'n datblygu anhwylder datgysylltiol fel oedolyn. Ymhlith yr enghreifftiau o drawma mae:

  • Cam-drin corfforol
  • Cam-drin rhywiol
  • Esgeulustod difrifol
  • Cam-drin emosiynol

Sut y gall trawma arwain at ddatgysylltiad?

Yn ôl arbenigwyr, gall trawma achosi datgysylltiad oherwydd y ffordd rydyn ni'n ymateb i fygythiad. Mae damcaniaethau gwahanol yn bodoli ynglŷn â sut mae hyn yn digwydd.

Mae ychydig o ffyrdd y gallem ymateb yn reddfol mewn sefyllfa fygythiol.

Efallai y byddwch chi wedi clywed am ymatebion ymladd neu ddianc. Mae'r rhain yn ymatebion greddfol i fygythiad sy'n ymwneud ag ymladd yn ôl yn erbyn y perygl neu ddianc rhagddo.

Weithiau, ni fydd y pethau hyn yn bosibl, a byddwch chi'n ymateb yn wahanol. Os ydych chi'n ifanc iawn, neu mewn sefyllfa na allwch chi ddianc rhagddi, mae'n bosibl y bydd eich ymateb i'r bygythiad yn fwy goddefol, er enghraifft:

  • Yr ymateb rhewi, sy'n golygu na all y corff symud. Efallai y byddwch chi'n teimlo fel pe baech chi wedi'ch parlysu neu na allwch chi symud. Mae'r ymateb hwn yn aml yn gysylltiedig â datgysylltiad. Mae datgysylltiad ymhlith pobl yn debyg i'r ffordd y mae anifeiliaid yn rhewi
    pan fyddan nhw mewn perygl.
  • Yr ymateb seboni, lle byddwch chi'n ceisio plesio neu ddwyn perswâd ar ffynhonnell y bygythiad er mwyn ei atal rhag eich niweidio.

Gwahanu profiadau

Os byddwch chi'n profi datgysylltiad yn ystod digwyddiad trawmatig, efallai y byddwch chi'n gwahanu rhannau gwahanol o'r profiad, fel na fydd yn rhaid i chi ddelio â nhw i gyd gyda'i gilydd. Efallai na fyddwch chi'n teimlo bod agweddau gwahanol ar y profiad yn 'gydgysylltiedig'. Mae'n bosibl y bydd eich gweithredoedd, eich atgofion, eich teimladau, eich meddyliau, eich synwyriadau a'ch canfyddiadau yn teimlo ar wahân.

Er enghraifft, efallai y byddwch chi'n storio eich atgofion o brofiad mewn ffordd na allwch gael gafael arni o ddydd i ddydd. Yr enw cyffredin ar hyn yw amnesia. Efallai y byddwch chi hefyd yn cofio'r hyn a ddigwyddodd ond na fyddwch chi'n teimlo'r emosiynau a'r synwyriadau a oedd yn rhan o'r profiad hwnnw.

Os byddwch chi'n profi anhwylder hunaniaeth datgysylltiol (DID), efallai y byddwch chi'n teimlo fel pe bai atgofion neu synwyriadau gwahanol yn perthyn i bobl wahanol. Mewn achosion o'r fath, fel arfer dywedir bod gennych chi elfennau gwahanol o'ch hunaniaeth. Gall hyn eich helpu i ymdopi pe bai'r pethau a ddigwyddodd yn ormod i chi ymdopi â nhw gyda'i gilydd fel plentyn. Ond gall ei gwneud hi'n anodd i chi feithrin un hunaniaeth glir wrth i chi dyfu i fyny.

Byddwn i'n datgysylltu fy hun oddi wrth yr ystafell lle roedd y cam-drin yn digwydd. Roeddwn i bron yn teimlo fel petawn i'n ei wylio'n digwydd i mi, ond doeddwn i ddim yn ei deimlo nac yn rhan ohono. Daeth yn rhywbeth a oedd yn digwydd yn awtomatig.

Am ragor o gymorth, gallwch chi gysylltu â'r sefydliadau hyn:

House plant closeup

Anhwylder datgysylltiol: colli fy hun a darganfod fy hun

Roedd fy synhwyrau'n ddideimlad, roedd popeth ar goll, a doedd dim byd yn teimlo'n gyfarwydd.

Cyhoeddwyd y wybodaeth hon ym mis Ionawr 2023. Byddwn ni'n ei diwygio yn 2026.

References and bibliography available on request.

If you want to reproduce this content, see our permissions and licensing page.

Rhannu'r wybodaeth hon

arrow_upwardYn ôl i'r brig