Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Datgysylltiad ac anhwylderau datgysylltiol

Mae'n egluro beth yw datgysylltiad ac anhwylderau datgysylltiol, gan gynnwys achosion posibl a sut y gallwch chi gael gafael ar driniaeth a chymorth. Mae'n cynnwys cynghorion i'ch helpu chi eich hun, a chyngor i ffrindiau a theulu.

Beth yw datgysylltiad?

Bydd llawer o bobl yn cael profiad o ddatgysylltiad (datgysylltu) yn ystod eu hoes.

Os byddwch chi'n datgysylltu, efallai y byddwch chi'n teimlo eich bod chi wedi datgysylltu wrthoch chi'ch hun a'r byd o'ch cwmpas. Er enghraifft, efallai y byddwch chi'n teimlo nad ydych chi'n rhan o'ch corff neu'n teimlo fel petai'r byd o'ch cwmpas yn afreal. Cofiwch, bydd profiad pawb o ddatgysylltiad yn wahanol.

Datgysylltiad yw un o'r ffyrdd y mae'r meddwl yn ymdopi â gormod o straen, er enghraifft yn ystod digwyddiad trawmatig.

Mae enghreifftiau pob dydd cyffredin o ddatgysylltiad y gallech chi eu profi hefyd, er enghraifft pan fyddwch chi'n ymgolli cymaint mewn llyfr neu ffilm nes eich bod chi'n colli ymwybyddiaeth o'r hyn sydd o'ch cwmpas. Neu pan fyddwch chi'n gyrru ar hyd llwybr cyfarwydd ac yn cyrraedd pen eich taith heb wybod sut y gwnaethoch chi gyrraedd yno.

Gall profiadau o ddatgysylltiad bara am gyfnod byr (oriau neu ddiwrnodau) neu am gyfnodau llawer hirach (wythnosau neu fisoedd).

Gall datgysylltiad fod yn rhywbeth y byddwch chi'n ei deimlo am gyfnod byr o amser yn ystod digwyddiad trawmatig. Ond efallai eich bod chi hefyd wedi dysgu sut i ddatgysylltu fel ffordd o ymdopi â phrofiadau sy'n peri straen. Efallai fod hyn yn rhywbeth rydych chi wedi ei wneud ers pan oeddech chi'n ifanc.

Doeddwn i ddim yn teimlo fel fy mod i'n perthyn i fy nghorff fy hun. Roeddwn i fel dieithryn yn gwylio fy stori fy hun.

Pryd y gallwn i ddatgysylltu?

Datgysylltiad

Gwyliwch Paul, Anamoli, Hayley a Paul yn trafod sut beth yw bywyd gyda mathau gwahanol o ddatgysylltiad.

Sut y gallwn i brofi datgysylltiad?

Gall profiadau pawb o ddatgysylltiad fod yn wahanol.

Mae seiciatryddion wedi ceisio grwpio'r profiadau gwahanol hyn a'u henwi. Gall hyn helpu meddygon i roi diagnosis o anhwylder datgysylltiol penodol. Ond efallai y byddwch chi'n wynebu'r profiadau datgysylltiol hyn hyd yn oed oes nad ydych chi wedi cael diagnosis o anhwylder datgysylltiol.

Ei chael hi'n anodd cofio gwybodaeth bersonol.

Er enghraifft:

  • Bylchau yn eich cof lle nad ydych chi'n gallu cofio digwyddiadau penodol
  • Methu â chofio gwybodaeth amdanoch chi'ch hun neu'ch hanes bywyd
  • Anghofio sut i wneud rhywbeth roeddech chi'n gallu ei wneud yn dda yn y gorffennol
  • Sylwi bod gennych chi eitemau nad ydych chi'n cofio bod yn berchen arnyn nhw

Efallai y bydd seiciatrydd yn galw'r profiadau hyn yn amnesia datgysylltiol.

Teithio i leoliad gwahanol neu fynnu hunaniaeth newydd

Efallai y byddwch chi'n teithio i rywle ac yn anghofio sut y gwnaethoch chi gyrraedd yno. Efallai y byddwch chi'n anghofio manylion pwysig amdanoch chi'ch hun neu'n mynnu hunaniaeth newydd yn ystod y cyfnod hwn.

Gallai seiciatrydd alw'r profiadau hyn yn ddihangfa ddatgysylltiol.

Teimlo bod y byd o'ch cwmpas yn afreal

Er enghraifft:

  • Gweld gwrthrychau'n newid o ran siâp, maint neu liw
  • Teimlo eich bod chi wedi'ch datgysylltu neu'ch gwahanu oddi wrth y byd o'ch cwmpas
  • Gweld y byd fel rhywle 'di-fywyd' neu 'niwlog'
  • Teimlo fel pe baech chi'n gweld y byd drwy wydr
  • Teimlo fel pe baech chi'n byw breuddwyd
  • Teimlo fel pe bai pobl eraill yn robotiaid (er eich bod chi'n gwybod nad yw hynny'n wir)

Gallai seiciatrydd alw'r profiadau hyn yn ddadsylweddoli.

Teimlo fel pe baech chi'n edrych arnoch chi'ch hun o'r tu allan

Er enghraifft:

  • Teimlo fel pe baech chi'n gwylio'ch hun mewn ffilm neu'n edrych arnoch chi'ch hun o'r tu allan
  • Teimlo fel pe baech chi'n syllu ar eich emosiynau
  • Teimlo eich bod chi wedi'ch datgysylltu oddi wrth rannau o'ch corff neu'ch emosiynau
  • Teimlo fel pe baech chi'n arnofio i ffwrdd
  • Teimlo'n ansicr am y ffiniau rhyngoch chi'ch hun a phobl eraill

Gallai seiciatrydd alw'r profiadau hyn yn ddadbersonoli.

Teimlo eich hunaniaeth yn newid

Er enghraifft:

  • Newid rhwng rhannau gwahanol o'ch personoliaeth
  • Siarad mewn llais neu leisiau gwahanol
  • Defnyddio enw neu enwau gwahanol
  • Teimlo fel pe baech chi'n colli rheolaeth drosoch chi'ch hun i 'rywun arall'
  • Profi rhannau gwahanol o'ch hunaniaeth ar adegau gwahanol
  • Ymddwyn fel pobl wahanol, gan gynnwys plant

Gallai seiciatrydd alw'r profiadau hyn yn newid hunaniaeth.

Ei chael hi'n anodd diffinio sut fath o berson ydych chi

Er enghraifft:

  • Ei chael hi'n anodd iawn diffinio sut fath o berson ydych chi
  • Teimlo fel baech eich safbwyntiau, eich chwaeth, eich meddyliau a'ch credoau yn newid llawer

Gallai seiciatrydd alw'r profiadau hyn yn ddryswch hunaniaeth.

Beth yw sbardunau ac ôl-fflachiadau?

Sbardun yw rhywbeth sy'n eich atgoffa am brofiad trawmatig o'r gorffennol, a all arwain at ddatgysylltiad neu ymatebion eraill. Gallai fod yn rhywbeth y byddwch chi'n ei glywed, yn ei flasu, yn ei arogleuo neu'n cyffwrdd ag ef. Gallai hefyd fod yn sefyllfa benodol neu'n ffordd o
symud eich corff. Gall nifer o bethau gwahanol fod yn sbardunau.

Ôl-fflach yw pan fyddwch chi'n profi synwyriadau neu deimladau trawmatig o'r gorffennol yn sydyn. Gallai hyn ddigwydd pan fyddwch chi'n profi sbardun. Gallai'r ôl-fflach wneud i chi deimlo fel pe baech chi'n ail-fyw’r digwyddiad trawmatig yn y gorffennol. Gall y profiad achosi i chi newid i ran arall o'ch hunaniaeth.

Efallai y bydd elfennau gwahanol o'ch hunaniaeth yn cynnwys atgofion gwahanol. Gall y rhain ailymddangos ar ffurf ôl-fflachiadau.

Ôl-fflach yw pan fyddwch chi'n ail-fyw digwyddiad trawmatig o'r gorffennol yn sydyn ac yn ddifwriad.

Cyhoeddwyd y wybodaeth hon ym mis Ionawr 2023. Byddwn ni'n ei diwygio yn 2026.

References and bibliography available on request.

If you want to reproduce this content, see our permissions and licensing page.

Rhannu'r wybodaeth hon

arrow_upwardYn ôl i'r brig