Datgysylltiad ac anhwylderau datgysylltiol
Mae'n egluro beth yw datgysylltiad ac anhwylderau datgysylltiol, gan gynnwys achosion posibl a sut y gallwch chi gael gafael ar driniaeth a chymorth. Mae'n cynnwys cynghorion i'ch helpu chi eich hun, a chyngor i ffrindiau a theulu.
Pa driniaethau all helpu i leddfu
datgysylltiad ac anhwylderau
datgysylltiol?
Mae'r dudalen hon yn cynnwys gwybodaeth a thriniaethau a all eich helpu os oes gennych chi anhwylder datgysylltiol, gan gynnwys:
Therapi siarad
Therapïau siarad yw'r driniaeth a argymhellir ar gyfer anhwylderau datgysylltiol. Gall cwnsela neu seicotherapi eich helpu i deimlo'n fwy diogel ynoch chi'ch hun. Gall therapydd eich helpu i archwilio a phrosesu digwyddiadau trawmatig o'r gorffennol, a all eich helpu i ddeall pam rydych chi'n datgysylltu. Gallan nhw hefyd eich helpu i ddatblygu ffyrdd newydd o reoli eich emosiynau a'ch cydberthnasau.
Yn araf, mae'r rhannau eraill ohona i'n dweud wrtha i am eu hatgofion nhw o fy nghamdriniaeth ac rwy'n dweud wrthyn nhw am fy mywyd i nawr ac, yn raddol, rydyn ni'n rhoi'r darnau at ei gilydd ac yn gweithio drwy'r cyfan gyda chymorth cwnsela.
Cael gafael ar therapi
Mae'r rhan fwyaf o'r triniaethau siarad ar gyfer anhwylderau datgysylltiol yn cymryd nifer o flynyddoedd. Yn anffodus, therapi byrdymor neu dymor canolig a gynigir gan y GIG yn bennaf. Nid yw hyn fel arfer yn effeithiol wrth drin anhwylderau datgysylltiol.
Efallai y bydd angen i chi ddyfalbarhau er mwyn cael yr help cywir gan y GIG neu ystyried ffyrdd eraill o gael gafael ar driniaeth. Mae'n bosibl y gall eiriolwr helpu. Mae ein tudalennau ar eiriolaeth a lleisio eich barn yn cynnwys rhagor o wybodaeth.
Efallai y byddwch chi hefyd am chwilio am therapi y tu allan i'r GIG. Gallwch chi chwilio am therapyddion sy'n arbenigo mewn anhwylderau datgysylltiol ar wefannau Cyngor Seicotherapi y DU (UKCP) neu Gymdeithas Cwnsela a Seicotherapi Prydain (BACP).
Mae rhai therapyddion preifat yn codi taliadau ar 'raddfa symudol' i'r rheini ar incwm isel. Os ydych chi ar incwm isel, mae'n werth gofyn i therapydd a oes ganddo leoedd cost isel ar
gael.
Dewis therapydd
Ni fydd pob therapydd yn gyfarwydd â datgysylltiad. Efallai na fydd gan rai therapyddion brofiad o weithio gyda thrawma Felly, gall gymryd amser i ddod o hyd i therapydd sy'n teimlo'n iawn i chi.
Mae'n berffaith iawn i chi gwrdd â chynifer o therapyddion ag sydd ei angen er mwyn dod o hyd i'r un rydych am weithio gydag ef. Dylai'r therapydd y byddwch chi'n ei ddewis:
- Dderbyn eich profiad
- Bod yn barod i weithio gyda datgysylltiad a thrawma
- Bod yn barod i weithio gyda chi yn yr hirdymor
- Bod yn rhywun sy'n gwneud i chi deimlo'n ddiogel
Mae ein tudalennau ar ddod o hyd i therapydd a chael y gorau o'ch therapi yn cynnwys
rhagor o wybodaeth.
Rwyf wedi dysgu ffyrdd i'w reoli ac wedi dechrau archwilio fy nheimladau am fy ngorffennol heb ddefnyddio datgysylltiad i ymdopi â hynny.
EMDR ar gyfer anhwylderau datgysylltiol
Crëwyd therapi dadsensiteiddio ac ailbrosesu symudiadau'r llygaid (EMDR) i helpu pobl i brosesu atgofion trawmatig. Nid yw'r rhan fwyaf o bobl ag anhwylderau datgysylltiol yn cael budd o EMDR safonol. Dylid addasu'r driniaeth i'w gwneud yn ddiogel ac yn effeithiol. Mae EMDR ar gyfer anhwylderau datgysylltiol yn canolbwyntio ar atgofion penodol am gyfnodau byrrach o amser.
Mae gweithio yn y ffordd hon yn helpu i atal gormod o atgofion trawmatig rhag dod i'r wyneb yn rhy gyflym, sef rhywbeth a elwir yn 'boddi emosiynol'. Gall hyn wneud i'r profiad deimlo'n llai dwys. Dim ond gweithwyr proffesiynol sy'n gwybod sut i drin anhwylderau datgysylltiol ddylai gynnig EMDR, a hynny dim ond pan fyddwch chi'n teimlo'n weddol sefydlog.
Meddyginiaeth
Nid oes unrhyw gyffuriau wedi'u trwyddedu i drin datgysylltiad yn benodol. Efallai y bydd eich meddyg yn cynnig meddyginiaeth seiciatrig i chi er mwyn trin problemau eraill a all fod gennych ochr yn ochr â datgysylltiad. Gall y problemau hyn gynnwys iselder, gorbryder a phyliau o banig, meddyliau hunanladdol, clywed lleisiau ac OCD.
Gallai'r meddyginiaethau hyn gynnwys:
Dim ond meddyginiaeth ar gyfer anhwylder hunaniaeth datgysylltiol (DID) a gynigir i chi os mai'r rhannau dominyddol o'ch hunaniaeth sy'n wynebu'r broblem rydych chi am ei thrin.
Cyhoeddwyd y wybodaeth hon ym mis Ionawr 2023. Byddwn ni'n ei diwygio yn 2026.
References and bibliography available on request.
If you want to reproduce this content, see our permissions and licensing page.