Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Datgysylltiad ac anhwylderau datgysylltiol

Mae'n egluro beth yw datgysylltiad ac anhwylderau datgysylltiol, gan gynnwys achosion posibl a sut y gallwch chi gael gafael ar driniaeth a chymorth. Mae'n cynnwys cynghorion i'ch helpu chi eich hun, a chyngor i ffrindiau a theulu.

Sut alla i helpu fy hun?

Mae'r dudalen hon yn cynnig rhai awgrymiadau ymarferol i'ch helpu i ymdopi â datgysylltiad, er enghraifft:

Cadw dyddiadur

Gall cadw dyddiadur eich helpu i ddeall a chofio rhannau gwahanol o'ch profiad. Gallai'r dyddiadur:

  • Gynnwys gwaith ysgrifennu a gwaith celf rydych chi'n ei wneud ar adegau gwahanol. Os oes gennych chi DID, efallai y byddwch chi'n ysgrifennu neu'n gwneud mathau gwahanol o gelf wrth i chi brofi elfennau gwahanol o'ch hunaniaeth.
  • Eich helpu i ddod yn fwy ymwybodol o'r rhannau gwahanol o'ch hunaniaeth
  • Eich helpu chi i gofio mwy am yr hyn a ddigwyddodd yn y bylchau yn eich cof

Mae defnyddio dyddiadur i fynegi fy meddyliau cythryblus yn fy helpu i ymdopi â nhw.

Rhoi cynnig ar ddelweddu

Mae delweddu yn ffordd o ddychmygu sefyllfaoedd ac amgylcheddau gwahanol. Gall gwneud hyn helpu i leddfu teimladau a meddyliau anodd. Er enghraifft:

  • Efallai y byddwch chi'n gweld bod dychmygu eich bod chi'n gwisgo dillad amddiffynnol yn eich helpu chi i ymlacio'n fwy mewn sefyllfaoedd sy'n peri straen.
  • Gallai fod yn fuddiol i chi ddychmygu rhywle sy'n teimlo'n ddiogel i chi (ac i'r elfennau gwahanol o'ch hunaniaeth). Pan fyddwch chi'n teimlo'n bryderus neu o dan fygythiad, gallwch chi ddychmygu mynd i'r lle hwn am heddwch a diogelwch.

Os byddwch chi'n profi elfennau gwahanol o'ch hunaniaeth, efallai y gallwch chi ddychmygu rhywle lle y gallwch chi i gyd gwrdd a siarad. Efallai y gall eich therapydd eich helpu i wneud hyn.

Rhoi cynnig ar dechnegau daearu

Gall technegau daearu eich helpu i deimlo bod gennych chi fwy o gysylltiad â'r presennol. Gallent eich helpu i ymdopi â meddyliau ymwthiol neu deimladau, atgofion ac ôl-fflachiadau anodd. Gallech chi roi cynnig ar y canlynol:

  • Arafu'n arall wrth gyfrif
  • Cerdded yn droednoeth a sylwi ar sut deimlad sydd i'r ddaear
  • Dal ciwb iâ neu sblasio dŵr oer dros eich wyneb
  • Eich lapio'ch hun mewn blanced a sylwi ar sut mae'n teimlo o amgylch eich corff
  • Cyffwrdd â rhywbeth â gwead diddorol neu sniffian rhywbeth ag aroglcryf

Canolbwyntiwch ar y synwyriadau rydych chi'n eu teimlo nawr. Gallai fod yn fuddiol i chi gadw blwch o bethau ࣙâ gweadau ac arogleuon gwahanol. Er enghraifft, gallech chi gynnwys blanced ac ychydig o gerrig llyfn.

Mae'n rhyfedd oherwydd cymerodd gryn amser i mi sylweddoli nad oedd angen i mi ddatgysylltu er mwyn fy niogelu fy hun.

Meddwl am strategaethau ymarferol

Gall datgysylltiad wneud bywyd yn anodd o ddydd i ddydd. Gallai strategaethau ymarferol eich helpu chi i ymdopi, er enghraifft:

  • Gwisgo oriawr sy'n dangos yr amser a'r dyddiad
  • Cadw rhestr o ffrindiau a theulu a'u manylion cyswllt
  • Ysgrifennu nodiadau i chi'ch hun yn y tŷ neu ar fwrdd gwyn

Gwneud cynllun argyfwng personol

Cynllun argyfwng personol yw dogfen rydych chi'n ei llunio pan fyddwch chi'n iach. Mae'n esbonio beth yr hoffech chi iddo ddigwydd os na fyddwch chi'n ddigon iach i wneud penderfyniadau ynglŷn â'ch triniaeth, neu agweddau eraill ar eich bywyd. Weithiau mae'n cael ei galw'n 'rhagddatganiad'.

Mae ein tudalen ar gynllunio ar gyfer argyfwng yn cynnwys rhagor o wybodaeth am wneud cynlluniau argyfwng.

Siarad â phobl â phrofiadau tebyg

  • Rhowch gynnig ar gymorth gan gymheiriaid. Yn anffodus, nid oes llawer o grwpiau cymorth gan gymheiriaid i bobl ag anhwylderau datgysylltiol yn benodol. Ond gallwch chi gysylltu â First Person Plural am ragor o wybodaeth, a chyfeirio at ein tudalennau ar gymorth gan gymheiriaid. Neu gallech chi ymuno â chymuned cymorth gan gymheiriaid ar-lein Mind, Ochr yn Ochr.
  • Darllenwch am brofiadau pobl eraill. Os na fyddwch chi am siarad, efallai y bydd yn fuddiol i chi ddarllen am brofiadau pobl eraill o hyd. Gall hyn roi safbwyntiau newydd i chi neu'ch helpu i ddod o hyd i syniadau i'ch helpu i ymdopi â datgysylltiad. Gallwch chi ddarllen am brofiadau pobl eraill ar fforymau ar-lein, fel cymuned Ochr yn Ochr Mind. Mae ein tudalennu ar iechyd meddwl ar-lein yn cynnwys gwybodaeth am sut i ddod o hyd i ffyrdd o gysylltu â phobl eraill ar-lein.

Gofalu am eich lles

  • Ceisiwch gael digon o gwsg. Gall cwsg roi'r egni i chi ymdopi â theimladau a phrofiadau anodd. Gallai fod yn ddefnyddiol i chi ddysgu technegau ymlacio. Mae ein tudalennau ar ymdopi â phroblemau cysgu ac ymlacio yn cynnwys rhagor o wybodaeth.
  • Meddyliwch am eich deiet. Gall bwyta’n rheolaidd a chadw lefelau'r siwgr yn eich gwaed yn sefydlog wneud gwahaniaeth i'ch hwyliau a'ch lefelau egni. Mae ein tudalennau ar fwyd a hwyliau yn cynnwys rhagor o wybodaeth.
  • Ceisiwch wneud ymarfer corff. Gall ymarfer corff fod yn fuddiol iawn i'ch llesiant meddyliol. Mae ein tudalennau ar weithgarwch corfforol yn cynnwys rhagor o wybodaeth.

Dim ond o bryd i'w gilydd y mae dadbersonoli, dadsylweddoli a datgysylltiad yn effeithio ar fy mywyd erbyn hyn. Ond pan fydda i o dan lawer o straen neu'n cael trafferth cysgu, rwy'n dueddol o ddatgysylltu'n fwy.”

Delio â stigma

Yn anffodus, ni fydd rhai pobl yn deall llawer am ddatgysylltiad ac anhwylderau datgysylltiol. Ac mae'n bosibl y bydd ganddyn nhw gamsyniadau amdanoch chi. Gall hyn beri gofid, yn enwedig os yw'r bobl sy'n teimlo fel hyn yn deulu, ffrindiau neu gydweithwyr.

Mae'n bwysig cofio nad ydych chi ar eich pen eich hun. Nid oes rhaid i chi oddef cael eich trin yn wael gan bobl. Dyma rai opsiynau i chi eu hystyried:

  • Dangoswch y wybodaeth hon i bobl er mwyn eu helpu i ddeall mwy am ddatgysylltiad ac anhwylderau datgysylltiol.
  • Siaradwch â phobl eraill sydd ag anhwylderau datgysylltiol drwy fynd i grŵp cymorth – neu sefydlu eich grŵp eich hun. Mae ein tudalennau ar gymorth gan gymheiriaid yn cynnwys rhagor o wybodaeth.
  • Rhannwch eich profiadau chi ag eraill. Mae Mind yn cyhoeddi blogiau a blogiau fideo (hunluniau iechyd meddwl).
  • Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n gwybod eich hawliau. Mae ein tudalennau ar hawliau cyfreithiol yn cynnwys rhagor o wybodaeth.

Mae ein tudalennau ar stigma a chamsyniadau yn cynnwys rhagor o wybodaeth.

Cyhoeddwyd y wybodaeth hon ym mis Ionawr 2023. Byddwn ni'n ei diwygio yn 2026.

References and bibliography available on request.

If you want to reproduce this content, see our permissions and licensing page.

Rhannu'r wybodaeth hon

arrow_upwardYn ôl i'r brig