Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Sut y daeth Monitro Gweithredol â mi'n ôl o ymyl y dibyn

Dydd Gwener, 09 Gorffennaf 2021 Sarah

Mae Sarah, o Drefforest, yn egluro sut y rhoddodd Monitro Gweithredol y gallu iddi allu dygymod â’i hiselder.  

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Gymraeg. This link will take you to a Welsh translation of this page.

Rwy wedi dioddef o orbryder ac iselder ers i mi gael iselder ôl-enedigol, ond mae’r cyfnod clo eleni wedi fy ngwthio ymhellach nag erioed o’r blaen.  Ar ben methu â gweld fy nheulu a'm ffrindiau, mae fy nghwrs prifysgol wedi'i ohirio, gan fy ngadael yn gyfan gwbl ar fy mhen fy hun.  Roeddwn i’n teimlo mor isel, roeddwn i'n meddwl am ladd fy hun.  Roeddwn i’m meddwl, pe byddwn i’n gallu disgwyl nes y byddai fy mab i ffwrdd yn y brifysgol fis Medi, y gallwn i wneud hynny.  

Ond roeddwn i ddigon o gwmpas fy mhethau i fynd at fy meddyg teulu oherwydd fy ymosodiadau panig aml a dyna lle clywais i am grŵp cymorth y gallwn i ymuno.  Ond, roedd y grŵp yn dweud na allwn i ymuno, oedd yn ergyd eithriadol o drom.  Ar ôl cael fy ngwrthod, dyma fynd yn ôl at fy meddyg teulu a chael fy nghyfeirio ar Fonitro Gweithredol.  Doeddwn i ddim yn siŵr a oedd gen i ddigon o hyder i gysylltu â nhw fy hunan, felly roedd yn braf fod fy ymarferydd wedi cysylltu â mi.

Rhaglen hunan gymorth chwe wythnos o hyd o dan arweiniad yw Monitro Gweithredol. Mae ymarferwr yn rhoi’r awgrymiadau a’r offer y byddwch chi eu hangen i ddeall eich hun yn well ac yn eich cefnogi gydol y cwrs gyda galwadau ffôn rheolaidd.

Roeddwn i'n hynod o ofnus cyn fy asesiad cyntaf, yn poeni y byddwn i'n cael fy nhroi i ffwrdd unwaith eto, neu y bydden nhw'n dweud nad oedd yn addas i mi.  Ond, yn groes i’r disgwyl, roedd yn brofiad pleserus iawn.  Doedd fy ymarferydd ddim yn feirniadol o gwbl ac roeddwn i’n teimlo mewn rheolaeth.  Mae bod mewn rheolaeth yn bwysig i mi – dydw i ddim yn hoffi pobl yn dweud beth ddylwn i ei wneud.  Mewn sesiynau cwnsela eraill, roedd pethau i’w gweld wedi trefnu ar gyfer y cwnselydd ac nid ar gyfer y cleient.  

“Roedd hyn yn hollol wahanol; doeddwn i byth yn teimlo fy mod yn cael fy rhuthro, o dan bwysau nac yn anghyfforddus ac roeddwn i’n edrych ymlaen at y sesiynau.”

Roedd cysylltu’n rheolaidd yn gwneud gwahaniaeth mawr ac yn fy rhoi ar y llwybr iawn – roeddwn i’n teimlo ei bod yn ddefnyddiol cael ychydig o ffiniau, yn enwedig gan fy mod i wedi teimlo cymaint ar goll yn ystod y pandemig.  Rhoddodd fy ymarferydd rai llyfrynnau a gweithlyfrau i mi eu llenwi, ac roeddwn i'n darllen y nodiadau roeddwn i'n eu hysgrifennu'n eithaf rheolaidd.  

Peth arall oedd o help i mi oedd y dyddiadur diolchgarwch oedd wedi'i roi i mi.  Roedd yn bwysig i mi gael ychydig o bethau positif yn ôl i’m bywyd, ac rwy wedi canfod fod cydnabod hyd yn oed y pethau lleiaf yn codi fy hwyliau, does dim rhaid iddo fod yn unrhyw beth mawr i wneud gwahaniaeth.  Rwy’n ei ddarllen yn rheolaidd ac mae’n fy helpu i weld beth sydd wedi gwneud y mi deimlo’n fwy positif yn y gorffennol.  

Mae Monitro Gweithredol wedi gwella cymaint ar fy mywyd.  

“Nid yw’n rhywbeth ffwrdd â hi sy’n gwneud i chi deimlo’n well am ychydig bach, mae wedi newid fy agwedd yn rhyfeddol ac wedi fy helpu fwy nag y galla i ei ddweud.”

Roeddwn i ar y goriwaered ac yn teimlo fel dieithryn yn fy mywyd fy hun.  Ond, erbyn hyn, rwy’n teimlo fod gennyf y gallu i ddygymod.  Dydw i ddim yn pendroni cymaint ar bethau negyddol erbyn hyn ac rwy’n gwybod fod yna rywbeth alla i ei wneud, bob amser, i'm helpu fi fy hunan.  Rwy’n dal i ddefnyddio’r dyddiadur diolchgarwch ac mae’n gwneud i mi wenu wrth weld hen nodiadau fel ‘cael hufen iâ’ neu ‘mwytho’r gath’, gan gofio fod y pethau bychain hynny wedi codi cymaint ar fy hwyliau pan oeddwn i’n isel.  

Rwy eisoes wedi argymell y cwrs i bobl eraill ac rwy’n siŵr y byddai o help i bawb geisio gweld y positif yn amlach.  Fyddwn i byth yn credu y byddai’r cwrs wedi helpu cymaint arnaf i, ond y mae.  

Mae Sarah yn byw gyda’i mab sy’n codi’n 18 oed a thair cath wedi’u difetha’n llwyr sy’n mynnu cael Dreamies trwy'r dydd.  Mae wrth ei bodd yn tynnu lluniau, paentio, gwnïo a darllen ac yn edrych ymlaen am fynd yn ôl i’r coleg fis Medi.

Information and support

When you’re living with a mental health problem, or supporting someone who is, having access to the right information - about a condition, treatment options, or practical issues - is vital. Visit our information pages to find out more.

 

Share your story with others

Blogs and stories can show that people with mental health problems are cared about, understood and listened to. We can use it to challenge the status quo and change attitudes.

arrow_upwardYn ôl i'r brig