Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Pam dewisais i fod yn Ymddiriedolwr

Dydd Gwener, 11 Tachwedd 2022 Joanna

 

Mae Joanna, Ymddiriedolwr ac Is-gadeirydd Ymddiriedolwyr Mind Cwm Taf Morgannwg, yn esbonio pam y daeth yn ymddiriedolwr a sut mae ei rôl yn helpu pobl â phroblemau iechyd meddwl.

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Gymraeg. This link will take you to a Welsh translation of this page.

Roeddwn i’n bedair-ar-bymtheg oed pan gychwynnodd fy nhaith gyda Mind, ar ôl i ffrind agos i mi rhoi diwedd ar ei bywyd. Roeddwn i’n ffodus iawn pan oeddwn i yn y brifysgol oherwydd y cwnsela, yr asiantaethau cymorth, y ffrindiau da, a’r mentor anhygoel a chefnogol a fu’n goruchwylio fy nhraethawd hir a gefais yno.

Rwy’n gwerthfawrogi pa mor ffodus oeddwn i o gael y cymorth yma, ac rwy’n ymwybodol nad ydy’r gefnogaeth honno ar gael i eraill bob amser - dyma’r rheswm i mi fod yn ymddiriedolwr ac yn Is-gadeirydd Mind Cwm Taf Morgannwg; sef grymuso unrhyw un sydd â phroblem iechyd meddwl i roi’r cyngor a’r gefnogaeth maent wir eu hangen.

Drwy fy rôl fel Ymddiriedolwr, rwy’n arwain yr elusen i wneud penderfyniadau allweddol sy’n effeithio ar yr elusen a’r bobl sy’n defnyddio’r gwasanaeth. Roeddwn yn gwneud hyn i gyd ochr yn ochr a chydweithio â’r ymddiriedolwyr eraill, y Prif Swyddog Gweithredol a’r Uwch Dîm Rheoli.

Fy ffocws yw cyflawni nodau’r elusen i newid bywydau pobl er gwell, i gefnogi’r system iechyd a gofal cymdeithasol ehangach, tra’n aros yn annibynnol.

 

 

Mae grwpiau Mind lleol yn darparu gwasanaethau iechyd meddwl mewn cymunedau lleol ledled Cymru a Lloegr. Mae pob Mind lleol yn unigryw. Maent yn deall anghenion eu cymuned ac yn teilwra eu gwasanaethau i gyfateb. Mae gwasanaethau’n cynnwys therapïau siarad, cymorth gan gymheiriaid, eiriolaeth, gofal argyfwng, cyflogaeth a chymorth tai.

Maen nhw hefyd yn:

  • cymryd rhan mewn cynllunio gwasanaethau iechyd meddwl lleol
  • ymgyrchu ar faterion iechyd meddwl lleol ac ymuno yn ein hymgyrchoedd cenedlaethol
  • helpu i newid agweddau tuag at iechyd meddwl yn eu hardal.

 


Gallwch ddod o hyd i Mind lle rydych chi'n byw yma:

https://www.mind.org.uk/information-support/local-minds/

 

Information and support

When you’re living with a mental health problem, or supporting someone who is, having access to the right information - about a condition, treatment options, or practical issues - is vital. Visit our information pages to find out more.

 

Share your story with others

Blogs and stories can show that people with mental health problems are cared about, understood and listened to. We can use it to challenge the status quo and change attitudes.

arrow_upwardYn ôl i'r brig