Mae trawsnewid wedi helpu fy iechyd meddwl
Mae Aitan yn blogio i ddangos sut mae stigma a stereoteipiau ynghylch bod yn drawsryweddol wedi effeithio ar ei iechyd meddwl.
Rhybudd: mae’r erthygl hon yn sôn am hunan laddiad a hunan niweidio.
Ers pan oeddwn i’n blentyn roeddwn i’n brwydro gyda'm rhywedd a'm hiechyd meddwl. Cefais fy ngeni yn yr wythdegau yn yr Eidal i deulu traddodiadol iawn.
Roeddwn yn blentyn gorfywiog, wastad yn symud, yn eithriadol o hoff o chwaraeon ac yn gystadleuol iawn.
Yn hytrach na derbyn clod am fy ngallu mewn chwaraeon, byddai plant ac oedolion yn pwyntio ataf a dweud “Wyt ti’n ferch ta beth??”
Roeddwn i’n casáu’r pethau merchetaidd roedd mam a’m nain yn ceisio fy ngorfodi i’w gwisgo nes fy mod yn 20 oed.
Roeddwn i’n cael fy ngwrthod gan fechgyn a merched ac roeddwn i’n teimlo ar y tu allan bob amser. Y cyfan oedd unrhyw sboner ei eisiau oed rhyw. Roedd fy nghyd-fyfyrwyr yn fy ngalw’n enwau ofnadwy yn yr ysgol a rhieni a phlant eraill yn dweud fy mod yn ddylanwad drwg arnyn nhw. Dyw’n ddim yn syndod fy mod i’n casáu fy hunan.
Roedd gan Mam gywilydd
Fe fyddwn i’n chwarae tywysogion a thywysogesau gyda’r genethod oedd yn ffrindiau i mi ac yn cusanu'r merched. Roedd rhieni’n casáu hynny. Fi hefyd oedd y chwaraewr pêl-droed gorau yn fy nghymdogaeth a doedd y bechgyn ddim yn hoffi cael eu curo gan ferch.
Roedd gan fy mam gywilydd ohonof. Roedd hi’n dweud wrthyf drosodd a throsodd: “Rwyf wedi creu merch, nid bachgen, rwyt ti’n codi cyfog arna i!” Dyna, meddai hi oedd y rheswm pam oedd ganddi afiechyd ar y galon ac nad oedd yn gadael ei gwely am ddyddiau.
Pan oeddwn yn 20 oed cefais therapi trosi. Roeddwn wedi ceisio mynegi fy rhywioldeb yn agored pan oeddwn i’n byw dramor a chefais berthynas am flwyddyn gyda fy nghariad gyntaf, ac sy’n dal fy unig un swyddogol. Ond, roeddwn i’n ymddiried mwy ym marn fy rhieni na fy marn i fy hun ac felly roeddwn i’n mynd i therapi trosi am dair blynedd. Roedd fy hyder ar y llawr, roeddwn i’n teimlo’n euog am fod yn boen i bawb o’m cwmpas ac roeddwn i’n credu nad oedd yn bosibl i unrhyw un fy ngharu i.
Roedd coleg yn uffern i mi, newidiais bedwar dosbarth a thri sefydliad. Torrais fy mhen-glin dair gwaith mewn anafiadau chwaraeon ac ar ôl y llawdriniaeth, roeddwn i’n isel iawn oherwydd ennill pwysau a datblygais bulimia.
Parhaodd yr anhwylderau bwyta am dros 10 mlynedd. Dilynodd cyffuriau, problemau alcohol a hunan niweidio. Roeddwn yn gaeth mewn cylch o boen heb allu teimlo na deall beth oedd yn digwydd. Doedd seicolegwyr na seiciatryddion ddim yn gwybod beth i'w wneud gyda mi ac roeddwn i’n cael trafferth i egluro sut yr oeddwn yn teimlo.
Eisiau lladd fy hun
Roeddwn yn teimlo’n fel lladd fy hun, yn teimlo na fyddai pethau byth yn newid ac na fyddwn i'n gallu ymdopi â'r holl boen hyn i gyd. Yn y diwedd cefais fy hun mewn ysbyty seiciatryddol oherwydd, yn ystod argyfwng, roeddwn yn sgrechian: “Rwyf eisiau lladd fy hun” a galwodd y cymdogion yr heddlu.
Dyna fy adeg isaf. Brwydrais gydag ymosodiadau o banig, hunan-niweidio a theimlad o fod ar fy mhen fy hun am flynyddoedd. Yn y diwedd deuais i’r DU gyda fy nghynbartner a oedd wedi cael swydd yng Nghaergrawnt. Ac yma o’r diwedd dechreuodd pethau wella.
I ddechrau, roeddwn i’n mynychu gweithdai a grwpiau cefnogi ar gyfer ymosodiadau o banig, gorbryder ac iselder ac, yn araf deg ac yn raddol, cefais hyd i’r gwasanaethau cyfeillgar a chefnogol LGBTIQ+ cywir.
“Newidiais fy enw. Ac yn y pendraw sylweddolais pa mor ddiarth oedd i mi gael fy adnabod fel gwraig.”
Yna, newidiais fy enw. Dechreuais deimlo’n obeithiol o’r diwedd.
Trafaeliais i’r India a’r Ariannin ac o’r diwedd sylweddolais pa mor ddiarth i mi oedd cael fy adnabod fel gwraig. Yn yr India, roeddwn mewn Ashram ble roedd yn rhaid i mi wisgo saree draddodiadol a chysgu yn ystafell y merched. Doeddwn i ddim yn gallu bwyta am dri diwrnod.
Mae trawsnewid wedi cael effaith anferth ar fy iechyd meddwl – er gwell. Ar ôl pum mlynedd o therapïau sgwrsio, meddyginiaethau a grwpiau cefnogi a chael T gel yn ddyddiol, rwy’n dysgu bod yn addfwyn gyda fi fy hun a bod yn amyneddgar gyda phan fyddaf yn uchel a hefyd yn isel. Rwyf hefyd wedi dysgu parchu fy hun tra’n parchu ffiniau pobl eraill hefyd!
“Rwy’n dal ar ddechrau fy nhaith ac rwy’n gwybod bod rhaid i mi ddal ati i symud ymlaen.”
O’r blaen, roeddwn yn cael fy sugno i lawr i drobwll o hunan ddinistrio. Byddwn yn twyllo fy mhartner gwrywaidd gyda merched ac yn ei wylltio trwy wisgo ei ddillad a’i ddillad isaf. Nawr, rwy’n hapusach yn gwisgo beth rwyf eisiau a bod yn driw i fi fy hun.
Rwy’n dal ar ddechrau fy nhaith ac mi wn fod raid i mi ddal ati i symud ymlaen i weld y fi newydd ac i ddechrau byw fy mywyd.
Rwy’n lwcus o fod yn Llundain.
Rwy’n lwcus o fod gyda TransPlus, y gwasanaethau Rhywedd, Iechyd Rhywiol ac HIV cyfun cyntaf a gomisiynwyd gan NHS England.
Rwy’n lwcus o fod yn berson traws anneuaidd oherwydd rwy’n gallu gwerthfawrogi hyd yn oed y cyraeddiadau lleiaf, rwy’n gwybod pa mor anodd mae wedi bod i gyrraedd y fan ble rwyf i nawr!
Information and support
When you’re living with a mental health problem, or supporting someone who is, having access to the right information - about a condition, treatment options, or practical issues - is vital. Visit our information pages to find out more.
Share your story with others
Blogs and stories can show that people with mental health problems are cared about, understood and listened to. We can use it to challenge the status quo and change attitudes.