Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Problemau bwyta

Mae'n egluro beth yw problemau bwyta, gan gynnwys achosion posibl a sut y gallwch chi gael gafael ar driniaeth a chymorth. Mae'n cynnwys cyngor ar helpu eich hun, ac arweiniad i ffrindiau a theulu.

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Gymraeg. This link will take you to a Welsh translation of this page.

Ar y dudalen hon:

Beth yw problem bwyta?

Problem bwyta yw unrhyw berthynas â bwyd sy'n anodd i chi.

Mae llawer o bobl o'r farn y bydd rhywun sydd â phroblem bwyta dros bwysau neu dan bwysau. Efallai y bydd pobl hefyd yn meddwl bod pwysau penodol yn gysylltiedig â phroblemau bwyta penodol. Nid yw'r naill na'r llall yn wir.

Gall unrhyw un gael problemau bwyta. Beth bynnag fo'u hoedran, eu rhywedd, eu pwysau neu eu cefndir.

Mae bwyd yn chwarae rhan bwysig yn ein bywydau. Bydd y rhan fwyaf ohonon ni yn treulio amser yn meddwl am yr hyn rydyn ni'n ei fwyta. Weithiau, efallai y byddwch chi'n:

  • cael chwantau
  • bwyta mwy nag arfer
  • colli eich archwaeth bwyd
  • ceisio bwyta'n iachach.

Mae newid eich arferion bwyta fel hyn yn achlysurol yn normal.

Ond os byddwch chi'n teimlo bod bwyd a bwyta yn rheoli eich bywyd, gall fod yn broblem.

Beth yw'r gwahaniaeth rhwng problem bwyta ac anhwylder bwyta?

  • Mae anhwylder bwyta yn ddiagnosis meddygol. Mae'r diagnosis hwn yn seiliedig ar eich patrymau bwyta, ac mae'n cynnwys cael profion meddygol ar eich pwysau, eich gwaed a mynegai màs y corff. Mae rhagor o wybodaeth ar ein tudalen diagnosis o anhwylderau bwyta.
  • Problem bwyta yw unrhyw berthynas â bwyd sy'n anodd i chi. Gall hyn fod yr un mor anodd i fyw ag ef ag anhwylder bwyta y cawsoch ddiagnosis ar ei gyfer.

Sut beth yw cael problem bwyta?

Os oes gennych chi broblem bwyta, mae sawl ffordd y gall effeithio ar sut rydych chi'n teimlo neu'n ymddwyn. Efallai mai'r ffordd rydych chi'n bwyta, a sut rydych chi'n meddwl am fwyd, yw'r effeithiau mwyaf amlwg.

Rhybudd: gall y fideo a'r enghreifftiau isod beri gofid ac effeithio arnoch chi. Os ydych chi'n teimlo'n fregus ar hyn o bryd, efallai y byddwch chi am symud ymlaen i'r adran nesaf.

Gwyliwch Shaista, Dave, Lilith ac Olivia yn siarad am eu problemau bwyta. Maen nhw'n trafod eu profiadau o anhwylderau bwyta fel anorecsia, bwyta cyfyngol, gorfwyta mewn pyliau a gwaredu. Mae'r fideo hwn yn saith munud 16 eiliad o hyd.

Gweld y trawsgrifiad o'r fideo fel PDF (bydd yn agor mewn ffenestr newydd)

Os oes gennych chi broblem bwyta, efallai y byddwch chi'n adnabod rhai o'r ymddygiadau canlynol.

Efallai eich bod chi'n:

  • cyfyngu ar faint o fwyd rydych chi'n ei fwyta
  • bwyta mwy na'r hyn sydd ei angen arnoch chi, neu'n teimlo eich bod chi allan o reolaeth pan fyddwch chi'n bwyta
  • bwyta yn y dirgel yn rheolaidd neu'n ofni bwyta'n gyhoeddus
  • teimlo'n bryderus iawn ynghylch bwyta neu dreulio bwyd
  • bwyta mewn ymateb i emosiynau anodd heb deimlo'n llwglyd yn gorfforol
  • cadw at set gaeth o reolau deiet neu fwydydd penodol
  • teimlo'n bryderus os bydd yn rhaid i chi fwyta rhywbeth arall
  • gwneud pethau i gael gwared ar yr hyn rydych chi'n ei fwyta, a elwir yn gwaredu (purging)
  • ffieiddio at y syniad o fwyta bwydydd penodol
  • bwyta pethau nad ydyn nhw'n fwyd go iawn, fel baw, sebon neu baent
  • teimlo'n ofnus o fathau penodol o fwyd
  • meddwl am fwyd a bwyta yn aml, neu drwy'r amser
  • cymharu eich corff chi â chyrff pobl eraill a meddwl llawer am siâp neu faint eich corff
  • gwirio, profi a phwyso eich corff yn aml iawn
  • seilio eich hunanwerth ar eich pwysau, neu ar b'un a ydych chi'n pasio eich gwiriadau a'ch profion.

Roedd bwyd fel gwenwyn i mi. Roedd yn cyfateb i'r holl bethau negyddol yn fy mywyd. Roedd yn gwneud i mi deimlo fy mod i'n cael fy llethu gan amhuredd, budredd, hyllter a hunanoldeb. Roedd siâp fy nghorff yn fy ngwneud i'n anhapus a byddwn i'n treulio drwy'r dydd bob dydd yn meddwl pa mor wych fyddai bywyd pe bawn i'n denau.

Sut gall problemau bwyta effeithio ar fy mywyd?

Mae problemau bwyta yn ymwneud â mwy na dim ond bwyd. Gallan nhw fod am bethau anodd a theimladau poenus. Efallai y bydd yn anodd i chi fynegi, wynebu neu ddatrys y rhain.

Gall canolbwyntio ar fwyd fod yn ffordd o guddio'r teimladau a'r problemau hyn, hyd yn oed oddi wrthych chi eich hun. Gall problemau bwyta effeithio arnoch chi mewn llawer o ffyrdd.

Efallai y byddwch chi'n teimlo:

  • yn isel ac yn bryderus
  • yn flinedig llawer o'r amser
  • cywilydd neu euogrwydd
  • yn ofni y bydd pobl eraill yn dod i wybod am hyn.

Efallai y byddwch chi'n gweld:

  • ei bod yn anodd i chi ganolbwyntio ar eich gwaith, eich astudiaethau neu eich diddordebau
  • mai rheoli bwyd neu fwyta yw'r peth pwysicaf yn eich bywyd erbyn hyn
  • ei bod hi'n anodd gwneud pethau heb gynllunio, teithio neu fynd i rywle newydd
  • bod eich ymddangosiad yn newid neu wedi newid
  • eich bod chi'n cael eich bwlio neu'n cael eich herian am fwyd a bwyta
  • eich bod chi'n datblygu problemau iechyd corfforol byrdymor neu hirdymor
  • eich bod chi am osgoi cymdeithasu, mynd ar ddêt ac i fwytai neu fwyta yn gyhoeddus
  • eich bod chi'n gorfod rhoi'r gorau i fynd i'r ysgol neu'r coleg, gadael y gwaith neu roi'r gorau i'r pethau rydych chi'n eu mwynhau.

Gyda ffrindiau, teulu neu bobl eraill, efallai y byddwch chi'n teimlo:

  • eich bod chi'n cadw pellter oddi wrth y rheini nad ydyn nhw'n gwybod sut rydych chi'n teimlo, neu sy'n pryderu na allan nhw wneud mwy i helpu
  • eu bod nhw'n canolbwyntio llawer ar yr effaith y gall problemau bwyta ei chael ar eich corff
  • y byddan nhw ond yn meddwl bod gennych chi broblem os bydd eich corff chi'n edrych yn wahanol i'r ffordd y dylai edrych
  • eu bod nhw weithiau'n gwneud sylwadau ar eich ymddangosiad chi mewn ffyrdd sy'n anodd i chi
  • nad ydyn nhw'n deall pa mor gymhleth yw pethau i chi.

Byddai'n braf pe gallai pobl droi cefn ar stereoteipiau a deall bod anhwylderau bwyta yn ymwneud â meddyliau, teimladau ac ymddygiadau yn ogystal â phwysau – beth bynnag fo'r rhif ar y glorian a beth bynnag fo'r ymddangosiad corfforol.

Sut bydda i'n gwybod os bydd yn broblem?

Oherwydd y gall deimlo fel rhan o'ch bywyd pob dydd, efallai na fyddwch chi'n siŵr a oes gennych broblem gyda bwyd a bwyta. Ond os bydd eich perthynas â bwyd a bwyta yn effeithio ar eich bywyd, gallwch chi ofyn am help. Does dim ots faint rydych chi'n ei bwyso na sut mae eich corff yn edrych.

Dyw rhai pobl ddim yn gofyn am help am nad ydyn nhw'n meddwl bod eu problem yn ddigon difrifol. Weithiau, dydyn nhw ddim yn teimlo'n ‘ddigon sâl’ i gael problem bwyta.

Mae'n bosibl cael problem bwyta hefyd a chuddio'r broblem honno. Weithiau gall hyn fod am gyfnod hir iawn.

Doeddwn i byth yn edrych yn ‘sâl’. Pan fyddwn i'n darllen am anhwylderau bwyta, roedd bob amser yn sôn am ferched ag anorecsia acìwt. Gan nad oedd hynny'n wir amdana i, roeddwn i'n teimlo fel petai fy ymddygiad ond yn arfer rhyfedd roeddwn i wedi'i dychmygu.

Lucy smiling with a field in the background

Ydw i'n haeddu gwella?

Sut ydw i'n haeddu gwella os nad oeddwn i'n ‘sâl go iawn'?

Problemau bwyta a phroblemau iechyd meddwl eraill

Mae gan lawer o bobl â phroblemau bwyta broblemau iechyd meddwl eraill hefyd. Dyma rai o'r problemau cyffredin:

Mae bwyd yn un o sawl cyfrwng y gellir mynegi gorbryder, iselder neu ymddygiadau obsesiynol cymhellol drwyddo.

Mae fy anhwylder bwyta bob amser wedi mynd law yn llaw ag iselder a gorbryder i'r graddau nad oedden nhw'n teimlo fel salwch ar wahân, ond fel un broblem.

Teimladau hunanladdol

Efallai eich bod chi'n cael meddyliau am farwolaeth neu deimladau hunanladdol. Efallai y byddwch chi'n teimlo eich bod am farw. Efallai y byddwch chi'n teimlo mai dyna yw'r unig ffordd o ddianc o'ch problem bwyta. Gall hyn fod yn ddychrynllyd iawn a gall wneud i chi deimlo eich bod ar eich pen eich hun.

Gallwch chi gysylltu â'r Samariaid 24/7 i gael cymorth ar gyfer y teimladau hyn. Os ydych chi dan 35 oed, efallai y byddai'n ddefnyddiol i chi gysylltu â Papyrus.

Os byddwch chi'n teimlo na allwch chi gadw eich hun yn ddiogel, mae'n argyfwng iechyd meddwl.

Cael cyngor brys

Cyhoeddwyd y wybodaeth hon ym mis Ionawr 2021. Byddwn yn ei diwygio yn 2024.

References and bibliography available on request.

If you want to reproduce this content, see our permissions and licensing page.

arrow_upwardYn ôl i'r brig