Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Rydyn ni’n cael mwy a mwy o alwadau am yr argyfwng costau byw

Dydd Gwener, 14 Ebrill 2023 Sarah

Mae Sarah yn blogio am ei gwaith yn ateb y ffôn i bobl sydd angen cymorth iechyd meddwl, a pham mae ein Llinell Wybodaeth yn brysurach nag erioed.

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Gymraeg. This link will take you to a Welsh translation of this page.

Pan fydd y ffôn yn canu, fydda i byth yn gwybod pwy fydd ar ben arall y llinell. Rydw i yno i ateb eu galwad, gwrando a helpu cymaint ag y gallaf. Yn aml, pan fyddan nhw’n siarad â mi, dyma’r tro cyntaf iddyn nhw esbonio sefyllfa yn ei chyfanrwydd. Rydym ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9am a 6pm ac rydyn ni’n cynnig gwybodaeth gyfrinachol am iechyd meddwl a lle gall pobl fynd i gael help.

“Er nad yw Mind yn gallu rhoi arian i bobl na datrys problemau tai, gallwn wrando arnynt a’u pwyntio i’r cyfeiriad iawn.”

Yn ddiweddar, rydym wedi cael mwy o alwadau am yr argyfwng costau byw gyda phobl yn poeni am sefyllfaoedd tai a chostau cynyddol. Er nad yw Mind yn gallu rhoi arian i bobl na datrys problemau tai, gallwn wrando arnynt a’u pwyntio i’r cyfeiriad iawn i gael cymorth.

Rydym yn gwybod bod pryderon ariannol yn effeithio ar iechyd meddwl pawb, felly rydw i’n ceisio gwneud yn siŵr eu bod yn meddwl am eu hiechyd meddwl eu hunain ac yn gwybod lle gallan nhw gael cymorth pan fydd ei angen arnyn nhw.

Llinell Hawliau Lles Newydd

Rydym newydd agor Llinell Hawliau Lles newydd sy’n darparu gwybodaeth gyffredinol am fudd-daliadau a lles er mwyn helpu pobl i gael gafael ar yr arian y mae ganddyn nhw hawl i’w gael. Allwch chi ddim cysylltu â’r gwasanaeth hwn yn uniongyrchol, ond pan fyddaf yn siarad â rhywun sydd angen y cymorth ychwanegol hwnnw, gallaf eu helpu. Mae’n wych i mi wybod bod arbenigwr wrth law sy’n deall iechyd meddwl ac sy’n gallu eu helpu i gael budd-daliadau.

Rydw i’n ceisio helpu cymaint ag y gallaf. Yn aml, byddaf yn cyfeirio galwyr at wefan Mind neu eu Mind Lleol sy’n gallu cynnig gwasanaethau fel cyrsiau gorbryder neu therapïau siarad. Roedd un o’m galwyr yn dioddef gorbryder ac yn teimlo’n ofidus yn dilyn anghytundeb yn y gwaith. Fe wnes i wrando arni a dweud wrthi am y wybodaeth a’r cyngor ar wefan Mind. Rhoddais gyngor iddi hefyd am ei gwasanaeth Mind lleol lle gallai gael cwnsela, therapïau siarad a chwrs ar reoli ei gorbryder.

“Roedd hi’n dweud ei bod hi nawr yn teimlo bod ganddi hi rywbeth yn ei le ac roedd hi’n ddiolchgar fy mod i wedi ateb y ffôn.”

Roedd hi mor ddiolchgar ar ôl i mi ei helpu. Roedd hi’n dweud ei bod hi nawr yn teimlo bod ganddi hi rywbeth yn ei le ac roedd hi’n ddiolchgar fy mod i wedi ateb y ffôn a dim ond wedi gwrando arni.

Mae llawer o’n galwyr yn teimlo felly. Pan fyddan nhw’n siarad â mi, dyma’r tro cyntaf iddyn nhw esbonio sefyllfa yn ei chyfanrwydd. Gall hyd yn oed siarad am rywbeth wneud iddyn nhw deimlo’n well.

Rydw i mor falch pan fydda i’n teimlo fy mod i wedi gwneud gwahaniaeth i fywyd rhywun. Roedd un galwr eisiau gwybod sut y gallai roi’r gorau i ddatgysylltu o’i phroblemau ac i reoli pethau. Roedd hi wedi rhoi cynnig ar CBT ac nid oedd hynny wedi gweithio.

Wrth gwrs, fe wnes i ddweud wrthi am wefan Mind a sôn wrthi am rai o’r sgiliau a allai helpu, gan gynnwys myfyrio. Siaradais â hi hefyd am dechnegau daearu ac egluro y dylai roi ei thraed ar y llawr a meddwl am bopeth y gallai ei weld, ei glywed a’i arogli. Petai unrhyw feddyliau yn dod i’w phen, dylai eu derbyn a chanolbwyntio ar arafu ei hanadl. Dim ond 20 munud a dreuliais dros y ffôn gyda hi, ond roedd hi’n ddiolchgar iawn ac yn amlwg yn dawelach ei meddwl.

Wrth i’r argyfwng costau byw waethygu, mae mwy a mwy o bobl yn dioddef gyda’u hiechyd meddwl. Fis Rhagfyr diwethaf, dywedodd sefydliad polisi ‘Arian ac Iechyd Meddwl’, elusen a sefydlwyd gan Martin Lewis, yr hyrwyddwr defnyddwyr a’r ymgyrchydd gwrth-dlodi, fod 17% o’r rhai a ymatebodd i arolwg wedi dweud eu bod wedi meddwl am ladd eu hunain yn ystod y naw mis diwethaf oherwydd y cynnydd mewn costau byw.

Yn y cyfamser, fis Medi diwethaf, dywedodd Cymdeithas Cwnsela a Seicotherapi Prydain fod dwy ran o dair o therapyddion yn dweud bod pryderon ynghylch costau byw yn achosi dirywiad yn iechyd meddwl eu cleientiaid. Mae’r canfyddiadau hyn yn fy ngwneud yn fwy ymwybodol fyth o bwysigrwydd ein Llinell Wybodaeth o ran helpu pobl sydd mewn sefyllfaoedd enbyd.

Rwy’n caru fy swydd

Roeddwn i’n arfer gweithio ym maes iechyd meddwl cyn i mi ddechrau ar y Llinell Wybodaeth ac rwy’n teimlo bod hynny wedi rhoi sylfaen wych i mi helpu pobl. Rydw i’n wirioneddol yn caru yr hyn rydw i’n ei wneud ac rydw i’n teimlo fy mod i wedi cael fy nghreu ar gyfer y swydd hon. Mae’n teimlo fel bod fy holl brofiad blaenorol o weithio ym maes iechyd meddwl wedi fy arwain i wneud y swydd hon. Rydw i’n cael cefnogaeth wych gan fy arweinydd tîm a fy nhîm. Gallwn siarad â phob un ohonynt pe bai gennyf broblem. Dydw i erioed wedi gweithio gyda grŵp mor gefnogol o bobl.

If the blog has signposts put them here.

 

Related Topics

Information and support

When you’re living with a mental health problem, or supporting someone who is, having access to the right information - about a condition, treatment options, or practical issues - is vital. Visit our information pages to find out more.

 

Share your story with others

Blogs and stories can show that people with mental health problems are cared about, understood and listened to. We can use it to challenge the status quo and change attitudes.

arrow_upwardYn ôl i'r brig