Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Wythnos Elusennau Cymru: sut mae Mind Aberhonddu a'r Ardal yn helpu eu cymuned

Dydd Gwener, 25 Tachwedd 2022 Marie

Mae Marie, Prif Swyddog Gweithredol Mind Aberhonddu a'r Ardal, yn blogio am y gwahaniaeth a wneir gan yr elusen yn ei chymuned leol.

#WythnosElusennauCymru

Helô, Marie ydw i, ac ym mis Gorffennaf ymunais â thîm Mind Aberhonddu a’r Cylch.

Rwyf wedi bod yn gweithio yn y trydydd sector / sector gwirfoddol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol ym Mhowys, sir fwyaf gwledig Cymru a Lloegr, ers 19 mlynedd bellach. Cyn ymuno â Mind, roeddwn yn gweithio gyda Credu, sefydliad sy’n cynorthwyo gofalwyr a gofalwyr ifanc.

Mae Mind Aberhonddu a’r Cylch yn cynorthwyo pobl leol yn yr ardal gyda phob agwedd ar les ac iechyd meddwl. 

Ar hyn o bryd, rydym yn gwneud hyn mewn amryw o ffyrdd, drwy’r gwasanaethau:

a thrwy sesiynau galw heibio, grwpiau a gweithgareddau, a llawer mwy!

Rydym bob amser yn dechrau trwy wrando ar bobl am eu sefyllfa unigryw a gweithio ochr yn ochr â hwy, gan adeiladu ar eu cryfderau tuag at eu syniad o sut beth fyddai bywyd da. Felly, gall ein cefnogaeth edrych yn dra gwahanol gan ei bod yn cael ei theilwra i chi neu’ch teulu.

Mae bod yn rhan o elusennau Cymru ers cyhyd wedi bod yn arbennig iawn: mae mwyafrif yr eiliadau cofiadwy wedi bod yn rhan o ddod â phobl ynghyd i dynnu sylw at faterion pwysig ac i ddathlu’r hyn sydd wedi mynd yn dda, ac mae’r mwyaf pwerus bob amser wedi dod o’r bobl eu hunain.

Nid yw’n syndod bod gan Bowys y nifer uchaf o sefydliadau elusennol yng Nghymru (3,696) gan fod cymaint yn cynorthwyo ardaloedd lleol. Gan fod Powys yn sir mor fawr, mae ardal helaeth i’w gwasanaethu.

"Rwy’n llawn edmygedd o’r bobl sydd am gymryd rhan a chefnogi’r achosion sy’n bwysig iddynt."

Fel arfer y pethau lleiaf sydd wedi gwneud y gwahaniaeth mwyaf, gan roi amser a lle i bobl gael eu clywed a’u gwerthfawrogi (yn enwedig lle nad ydyn nhw wedi bod ers cryn amser) a deall beth y maen nhw’n meddwl fyddai’n gwneud gwahaniaeth a dod o hyd i ffyrdd o wneud iddo ddigwydd. Mae’n teimlo mewn elusen y gallwn addasu ac ymateb cymaint ynghynt.

Gallwn hefyd weld y gwahaniaeth a wnawn gan ein bod yn agosach at y bobl a’r cymunedau yr ydym yn eu cynorthwyo. Rwy’n llawn edmygedd o’r bobl sydd am gymryd rhan a chefnogi’r achosion sy’n bwysig iddynt, a bod eu syniadau fel arfer yn syml iawn ac yn hynod effeithiol ac nad ydynt bob amser yn costio llawer. Felly mae’r gwerth yn enfawr.

Rwy’n credu bod llawer o frwdfrydedd ac egni heb eu cyffwrdd ac, yn ddiweddar, rwyf wedi bod yn gweithio gyda Credu, gyda chefnogaeth Cronfa Gwerth Cymdeithasol Powys, i archwilio’r potensial hwn fel rhan o’r prosiect ‘Gwrandawyr Cymunedol’. Hyd yn hyn, mae dros 30 o bobl wedi estyn allan i ddatblygu eu sgiliau gwrando a chwrdd â phobl eraill sydd wir eisiau gwneud gwahaniaeth i eraill trwy allu gwrando mewn ffordd wahanol. Rwy’n edrych ymlaen at ddarganfod beth fyddai’n helpu’r bobl anhygoel hyn i wneud y gwahaniaeth y maen nhw mor angerddol yn ei gylch.

Mae’n amhosib diflasu! Rwy’n dysgu’n barhaus gan y cydweithwyr, y partneriaid a’r bobl rwy’n gweithio gyda nhw. Mae gweithio yn y sector elusennol ychydig yn debyg i hwylfyrddio: mae’r dŵr islaw yn newid yn gyson ond mae gallu gweld y gwahaniaeth rydym yn ei wneud a gweithio ochr yn ochr â chymaint o bobl wych yn helpu i gadw’r gwynt yn yr hwyl er mwyn gallu parhau i hwylio’r tonnau.

Mae’n teimlo’n gyson bod cymaint mwy i’w wneud ac nad yw’r rhestr ‘I’w wneud’ byth yn dod i ben. Fy nghyngor i yw gwneud rhestr ‘I’w werthfawrogi’ hefyd, gan edrych yn ôl ar y pethau sydd wedi’u gwneud a chymryd sylw o’r gwahaniaeth yr ydych wedi gallu ei wneud. Mae’n helpu i gadw’n gryf yn barod ar gyfer y don nesaf.

 

Mae eich Mind lleol yma i helpu. 

Ffeindiwch eich Mind lleol heddiw.

Get involved

There are lots of different ways that you can support us. We're a charity and we couldn't continue our work without your help.

Share your story with others

Blogs and stories can show that people with mental health problems are cared about, understood and listened to. We can use it to challenge the status quo and change attitudes.

Related stories

arrow_upwardYn ôl i'r brig