Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Sut helpodd Monitro Gweithredol fi i gael fy hunan barch yn ôl

Dydd Mawrth, 14 Rhagfyr 2021 Anna

Mae Anna, o Abertawe, yn blogio ynghylch sut helpodd Monitro Gweithredol hi i adennill ei hyder ar ôl cyfnod anodd - a sut mae hi nawr yn helpu cleientiaid fel ymarferydd Monitro Gweithredol.

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Gymraeg. This link will take you to a Welsh translation of this page.

Ar ddechrau’r pandemig, roeddwn i newydd symud i Abertawe.  Roeddwn i’n gweithio mewn gofal iechyd, a doedd yna ddim newid o’r llwyth gwaith.  Yn wir, doeddwn i ddim yn teimlo y gallwn i gamu’n ôl o’m gwaith o gwbl yn ystod y cyfnod clo, roedd yn cael blaenoriaeth ar fy mywyd personol ac roeddwn i’n ei chael yn anodd cadw unrhyw fath o gydbwysedd.  Roeddwn i’n gweithio bron bob dydd, ac yn blino'n llwyr yn fuan iawn.  

Fel arfer, rwy’n berson eithaf cymdeithasol, felly roedd cael cysylltiad gyda defnyddwyr gwasanaeth yn unig - oedd yn wael yn gorfforol yn ogystal ag yn feddyliol ac yn cael trafferth eu hunain - yn gwneud fy nyddiau'n dywyll ac yn unig.  Yn wir, fe wnaeth hyn hi'n anoddach i mi unwaith y dechreuodd pethau agor, roeddwn i'n teimlo na allwn i fynd i'r siopau na mynd i weld ffrindiau, doedd gen i ddim hyder.  Doedd gen i ddim cymhelliad i wneud unrhyw beth – yr unig reswm pam roeddwn i’n gadael fy fflat oedd i fynd i’r gwaith, ac roedd hynny am fod pobl yn dibynnu arna i.  

Mae gen i hanes o broblemau iechyd meddwl, gan gynnwys gorbryder ac iselder, oedd wedi codi o anhwylderau bwyta, ond, oherwydd fy mod i’n gweithio mewn iechyd meddwl, doeddwn i ddim yn teimlo’n gyfforddus gofyn am gymorth i mi fy hunan.  Yn wir, roedd hynny’n gwneud i mi deimlo braidd fel fy mod i’n twyllo.  Doeddwn i ddim eisiau cyfaddef y dylwn i fod yn gwybod yn well, a doedd gen i ddim awydd na hyder i fynd at fy meddyg teulu.  Allwn i ddim cael fy hunan i fynd drwy'r broses o gael fy hunan i ddweud wrth rywun, drosodd a throsodd, nad oeddwn i'n dda.  

Yn y diwedd, dyma fi’n gwglo i weld pa help oedd ar gael a daeth Monitro Gweithredol i fyny.  Roedd y ffaith y gallech chi hunan gyfeirio ar lein yn rhan fawr o’r apêl i mi,  A dweud y gwir, pe na byddai'r agwedd hunan gyfeirio yna, fyddwn i ddim wedi dal ati i ganfod cefnogaeth.  

Ond, rwy’n falch i mi wneud.  Mae’r ffordd y mae Monitro Gweithredol yn gweithio’n golygu mai dim ond unwaith roedd yn rhaid i mi egluro fy hun.  Doeddwn i ddim yn disgwyl iddo fod yn effeithiol iawn ac, a dweud y gwir, roeddwn i'n eithaf drwgdybus.  Ond, fe wnaeth yr ymarferydd i mi deimlo’n gyfforddus ar unwaith,  Roedd yn wrandäwr ardderchog a rhoddodd y lle i mi siarad amdanaf i fy hun.

Fe wnaeth hynny wahaniaeth anferth.  Fel rhywun sydd wedi bod yn gofalu am bobl, yn broffesiynol ers pan oeddwn i'n 18 oed, ac yn bersonol ers pan oeddwn i'n blentyn, roedd yn wych cael rhywun oedd yn hapus i wrando arna i fel defnyddiwr gwasanaeth.  Roedden nhw hefyd yn hynod gymwynasgar, mewn ffordd ymarferol.  Doedd gen i ddim gliniadur yr adeg hynny ac roeddwn i’n cymryd rhan ar y ffôn, felly roedd fy ymarferydd yn postio adnoddau’r rhaglen i mi.

Roedd y cyfarfodydd wythnosol yn fy annog i gwblhau’r gweithlenni hunangymorth.  Yr wythnos gyntaf, doeddwn i ddim wedi’u gwneud nhw, ond wrth i mi sylweddoli y byddai fy ymarferydd yn gofyn i mi bob wythnos sut oeddwn i wedi dod ymlaen gyda nhw, roeddwn i'n meddwl, well i mi!

Doedden nhw ddim yn ormod o ymdrech, ac fe roddon nhw sylfaen i mi.  Fe welais i eu pwynt yn fuan iawn wrth i mi ddechrau gosod golïau i mi fy hun.

Awgrymodd fy ymarferydd fynd ar Facetime gyda rhywun gan nad oeddwn i’n teimlo’n gyfforddus yn mynd allan.  Ar y dechrau, roeddwn i’n dweud, ‘dim gobaith’ ond roedd y ffaith ei fod yn cysylltu â mi ac yn fy holi am fy ngolïau bob wythnos yn fy annog i gysylltu gyda rhywun.  Yn y diwedd, roedden ni’n sgwrsio am awr a hanner! Fe wnaeth gymaint o wahaniaeth ac roeddwn i’n gweld hynny fel cam ymlaen i ddod i arfer cymdeithasu.  Yn y diwedd, roeddwn i’n cysylltu â’r holl gwisiau zoom ac yn paratoi cynlluniau, ac roedd gen i hyd yn oed yr hyder i ddweud wrth ffrindiau “Rwy wedi’ch colli chi i gyd, beth am wneud rhywbeth”.  Roedd yn ffordd hyfryd o gysylltu.  

Mae Monitro Gweithredol wedi fy helpu i weld nad rhywun yn helpu yn unig ydw i, rydw i hefyd angen help.  

Mae’n iawn i mi beidio â bod yn iawn, ac roedd hynny’n rhywbeth enfawr i mi sylweddoli.  Dyma’r tro cyntaf i mi wneud rhywbeth da er mwyn fy iechyd meddwl i fy hun.  

Erbyn hyn, rwy’n defnyddio technegau a theclynnau dygymod yn rheolaidd.  Pan fydda i o dan stres, y peth cyntaf fydda i'n ei wneud yw ysgrifennu pethau i geisio cael trefn ar fy nheimladau.  Dyma fy arfer ers mis Mai y llynedd.

Un o’r pethau rwyf wedi’i ddefnyddio'n gyson yw'r dyddiadur diolchgarwch, sy’n herio pethau'n uniongyrchol cyn i mi gyrraedd y fan o deimlo wedi fy llethu a bob pob peth yn glawstroffig. Rwy’n canfod rhywbeth pob dydd i fod yn ddiolchgar amdano, ac yn nodi’n fewnol y pethau positif yn hytrach na phentyrru’r pethau negyddol yn fy meddwl.

Ers cwblhau’r cwrs Monitro Gweithredol, rwyf wedi dod yn ymarferydd Monitro Gweithredol fy hun. Rwy’n ceisio rhoi ym mhen fy nghleientiaid fod cymryd amser allan i chi’ch hunain yn hunan ofal - hyd yn oed os yw hynny ond yn ugain munud i hanner awr pob wythnos, chi piau!

Oherwydd fy mod wedi bod yn ddefnyddiwr gwasanaeth fy hunan, mae hynny wedi bod yn wirioneddol ddefnyddiol i mi er mwyn deall safbwyntiau’r cleientiaid. Mae wedi rhoi i mi synnwyr gwbl wahanol o empathi - rwy’n deall yr anawsterau cyffredin, yr ofn mawr cyn y galwadau ffôn, y brwydrau. Ond, rwyf hefyd yn gwybod o’m profiad fy hunan pa mor llesol mae’r cwrs yn gallu bod, a’r teclynnau y mae’n gallu eu darparu i wneud bywyd yn haws. Mae wedi rhoi i mi hyder gwirioneddol fel ymarferydd.

Rwyf yn gofyn pob tro i’m cleientiaid ysgrifennu llythyr tosturiol iddyn nhw eu hunain ar ôl cwblhau’r rhaglen, er mwyn iddyn nhw allu edrych yn ôl ar eu teimladau trwyddi draw.

Mae’n wych weld pobl yn sylweddoli sut mae’u ffyrdd o ymdopi wedi gwella.

Alla i ddim argymell Monitro Gweithredol ddigon. Y peth am hunan gymorth yw bod yn rhaid i chi wybod yn union beth mae hynny’n ei olygu i chi. Mae’n haws pan mae gennych chi rywun yno i’ch cefnogi, felly pan fyddwch yn teimlo yn y dyfnderoedd ac yn methu â gweithio pethau allan eich hunain, mae yna rywun yno i’ch arwain ar hyd y ffordd.

Mae cael y dewis hwnnw yn eich nerthu. Erbyn hyn rwy’n llawer mwy hyderus, yn llawer hapusach ac yn llawer mwy mewn rheolaeth o’m mywyd ac rwy’n hoffi’r ffaith mai trwy fy ngwaith fy mod i’n gallu darparu hynny ar gyfer pobl eraill sydd yn yr un sefyllfa ag yr oeddwn i.

 

Mae Anna’n ymarferydd iechyd meddwl yn Abertawe. Mae’n mwynhau unrhyw beth llawn adrenalin sy’n profi fod ei phryder yn anghywir, o gyfarfod â phobl newydd i neidiau byngi ac abseilio – gorau po fwyaf yw’r her!

Information and support

When you’re living with a mental health problem, or supporting someone who is, having access to the right information - about a condition, treatment options, or practical issues - is vital. Visit our information pages to find out more.

 

Share your story with others

Blogs and stories can show that people with mental health problems are cared about, understood and listened to. We can use it to challenge the status quo and change attitudes.

arrow_upwardYn ôl i'r brig