Sut mae cerdded miloedd o filltiroedd yn fy helpu i ac yn helpu Mind
Mae James, o Ogledd Cymru, yn esbonio pam ei fod yn cerdded arfordir Prydain i Mind.
Rhybudd ynghylch y cynnwys: mae'r blog hwn yn sôn am hunanladdiad.
Helo, James ydw i a dwi'n cerdded arfordir Prydain i Mind! Dechreuais i’r daith ar 3 Hydref, gan gychwyn o fy nghartref yng Ngogledd Cymru i arfordir Caernarfon. Dwi wedi cadw'r môr ar yr ochr dde i mi am dros 1,400 o filltiroedd, gan fynd tua'r de ar hyd glannau Cymru ac i lawr i Lwybr Arfordir y De Orllewin.
Dydy'r tywydd ddim wedi bod yn garedig i mi ar bob adeg, ac mae fy nghoesau i’n dal i fod yn deneuach na rhai Ryan Reynolds, ond mae'r daith gerdded wedi bod yn un o brofiadau gorau fy mywyd. Yn sicr, bu llawer o heriau. Dwi wedi blino, yn llwglyd ac ychydig yn wlyb drwy’r amser. A dweud y gwir, mae’r gwynt yn chwythu’n ddiddiwedd yn fy wyneb yn teimlo’n ergyd bersonol, a pham mae hi’n bwrw glaw yn llythrennol yr eiliad dwi'n tynnu fy nillad glaw?
Ond, dwi wedi gweld arfordir anhygoel o hardd. Rhan o’r rheswm roeddwn i eisiau cerdded perimedr Prydain oedd am mod i ddim i’n gwybod dim amdano, ar ôl treulio fy amser yn yr awyr agored yn y mynyddoedd. Roedd llawer o'r hyn a welais i ddim yr hyn yr oeddwn i’n ei ddisgwyl o gwbl. Gwelais i wrthdroad cwmwl yn llifo i lawr dyffryn Dyfi fel rhewlif, a cherddais i bentiroedd yn llawn coedwigoedd hydrefol â’r cymylau oddi tanaf dros y môr. Y diwrnod o'r blaen gwelais i fy rhith y Brocken cyntaf! A chymaint o drefi ac ardaloedd hardd. Bob dydd dwi’n meddwl na all yr arfordir fod yn well, a bob dydd dwi'n cael fy mhrofi'n anghywir.
"Mae'r cyfan wedi bod yn ysgubol, a dwi mor ddiolchgar am y gefnogaeth."
Dwi wedi cwrdd â chymaint o bobl garedig a hael hefyd. Mae pobl wedi cynnig lle i mi aros gyda nhw, yn eu cartrefi, eu gerddi a'u carafanau. Maen nhw wedi rhoi bwyd i fi, gadael i mi gael cawod a golchi fy nillad. Gwnaeth Clwb Rhwyfo Abermaw fy nghludo dros aber y Fawddach (sut allwn i ddweud na?)! Ac mae ffrindiau, teulu a dilynwyr wedi helpu i gefnogi fy siwrnai i ar-lein. Mae dros 120 o bobl wedi cyfrannu'n hael i Mind drwy fy ymgyrch codi arian i, gan godi dros £4,760 hyd yn hyn. Mae'r cyfan wedi bod yn ysgubol, a dwi mor ddiolchgar am y gefnogaeth.
"Roedd yn rhywbeth a fyddai’n heriol yn gorfforol ac yn feddyliol, ond a fyddai hefyd yn caniatáu i mi fod allan yn yr awyr agored, i ysgrifennu a thynnu lluniau, ac i godi arian at elusen."
Cefais i’r syniad i gerdded yr arfordir ychydig o flynyddoedd yn ôl. Roeddwn i wrth fy modd â'r syniad o wneud taith bell barhaus. Roedd yn rhywbeth a fyddai’n heriol yn gorfforol ac yn feddyliol, ond a fyddai hefyd yn caniatáu i mi fod allan yn yr awyr agored, i ysgrifennu a thynnu lluniau, ac i godi arian at elusen. Dywedais i wrth ffrind i mi am y syniad ac edrychodd yn ddryslyd arna i – ddim oherwydd na fyddai'n bopeth yr ysgrifennais i uchod, ond oherwydd nad oedd o’n gweld ei werth. Hefyd, efallai nad oedd o’n credu y byddwn i'n ei wneud. Cafodd y syniad ei roi i’r naill ochr.
Dirywiodd fy iechyd meddwl dros y blynyddoedd canlynol. Ces i fy llorio gan yr ymdeimlad bod rhywbeth sylfaenol o'i le arna i, fy mod i’n berson ni allai neb ei garu. Ro’n i’n teimlo’n glir bod amseroedd gorau yn fy mywyd wedi mynd heibio, ac nad oedd unrhyw reolaeth gen i dros fy mywyd. Doeddwn i ddim yn gallu dod o hyd i'r amser i wneud y pethau roeddwn i'n eu caru neu oedd yn bwysig i mi, a doeddwn i ddim yn adnabod fy hun o gwbl. Er i mi wneud fy ngorau, roedd y person roeddwn i eisiau bod yn ymddangos ymhellach ac ymhellach allan o’m gafael, fel fy mod i wedi cymryd tro anghywir ar y llwybr ac yn mynd i'r cyfeiriad anghywir. Arweiniodd hyn at deimladau o gywilydd, gorbryder ac iselder. Ar Noswyl Nadolig cwpl o flynyddoedd yn ôl, roedd llais clir iawn yn fy mhen yn dweud wrtha i mai hunanladdiad oedd yr unig opsiwn ar ôl.
"Roedd hyn yn ddechrau ar y broses o wella, a thaith i ailddarganfod fy hun, ac roedd Mind yn adnodd hynod werthfawr."
Doeddwn i byth am wneud hyn. Yn ffodus i mi, roedd y digwyddiad hwn yn ddigon brawychus i mi gydnabod o'r diwedd fod gen i broblemau iechyd meddwl. Roeddwn i'n sâl, ac allwn i ddim cario ymlaen fel hyn. Roedd hyn yn ddechrau ar y broses o wella, a thaith i ailddarganfod fy hun, ac roedd Mind yn adnodd hynod werthfawr.
Daeth hyn â'r daith gerdded o amgylch yr arfordir yn ôl i ffocws. Doedd dim ots os oedd pobl eraill yn gweld ei werth. Doedd dim rhaid i mi ei esbonio i neb. Yr unig beth oedd yn rhaid i mi ei wneud oedd gosod dyddiad cychwyn a goresgyn yr holl rwystrau a oedd yn fy atal i rag cychwyn. Doedd hi ddim yn hawdd, ond yn sydyn roeddwn i'n teimlo'n fywiog. Roeddwn i’n teimlo’n gyffrous eto ac roedd penderfyniad yn fy ngyrru. Roeddwn i'n credu yn y daith gerdded hon, fel rhywbeth a fyddai'n fuddiol i mi fy hun ac i Mind. Unwaith ddechreuais i gerdded, roedd y gwir anawsterau y tu ôl i mi. Roeddwn i wedi dod o hyd i'm llwybr, ac roeddwn i'n teimlo'n dda.
Mae James yn byw yng Ngogledd Cymru rhwng y mynyddoedd a'r môr. Ar wahân i'w angerdd am yr awyr agored, mae wrth ei fodd yn ysgrifennu, tynnu lluniau, adeiladu modelau, a miliwn o bethau eraill y mae eto i roi cynnig arnynt! Mae ei dudalen codi arian yma.
Get involved
There are lots of different ways that you can support us. We're a charity and we couldn't continue our work without your help.
Share your story with others
Blogs and stories can show that people with mental health problems are cared about, understood and listened to. We can use it to challenge the status quo and change attitudes.