Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Fy mhrofiad i o’r ysbyty yn ystod argyfwng iechyd meddwl

Dydd Llun, 01 Tachwedd 2021 Faith Clarke

 

Newyddiadurwr llawrydd yw Faith. Mae hi'n ysgrifennu'n bennaf am faterion cymdeithasol, anghydraddoldeb ac anghyfiawnder. Yma mae'n disgrifio ei phrofiadau o fod yn yr ysbyty yn ystod argyfwng iechyd meddwl, a pham ei bod yn cefnogi ein hymgyrch Sefwch Drosof I i wella gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru.

Rhybudd cynnwys: Sôn am hunan-niweidio ac ymgais hunanladdiad.

 

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Gymraeg. This link will take you to a Welsh translation of this page.

Pan gymerais i or-ddôs ym mis Awst y llynedd, alla i ddim dweud a oeddwn i wirioneddol eisiau marw neu a oedd yn gri am gymorth. Mae’n debyg ei fod yn gyfuniad dryslyd o'r ddau.

Yn anffodus, roeddwn i’n teimlo mai’r unig amser roedd y system iechyd meddwl yn fy nghymryd i o ddifrif oedd pan oeddwn i’n dioddef o boen corfforol. Pan oeddwn i’n dweud wrth y meddygon a’r cwnselwyr fy mod yn teimlo fel lladd fy hun, doedd y geiriau ddim yn ddigon. Mewn system sy’n bron â thorri, ble mae pobl broffesiynol iechyd meddwl yn cymryd penderfyniadau byw neu farw bob dydd, anaml iawn y mae geiriau’n ddigon.

Oherwydd prinder adnoddau a gallu, dim ond trwch blewyn sydd yna rhwng pwy sy'n cael help a phwy sydd ddim. Mae'r staff yn gweithio’n barhaus ar sail asesu risg. Fel rhywun a oedd yn edrych yn iawn, yn mynegi ei hun yn dda ac wedi llwyddo i lusgo ei hunan allan o’r gwely i fynd i'r gwaith, doeddwn i, o'r blaen, ddim yn edrych fel rhywun oedd angen ymyrraeth fwy difrifol.
Roedd yna fisoedd wedi mynd wrth adeiladu at y gor-ddôs: apwyntiadau meddyg parhaus, sesiynau cwnsela, hunan niweidio, cynyddu fy nhabledi gwrth-iselder yn rheolaidd. Roeddwn i’n dweud drosodd a throsodd nad oeddwn i eisiau byw, ond roeddwn i’n teimlo fel nad oedd neb byth yn gwrando.

Roeddwn i hyd yn oed wedi cael sgyrsiau gyda ffrindiau am hyn, eto, mae’n ymddangos nad oedd neb yn meddwl y byddwn yn ei wneud e go iawn. Rwy’n meddwl fod hyd yn oed rhan o fi fy hunan yn amau a allwn i byth ei wneud e.

Gêm o aros

Doeddwn i ddim eisiau mynd i’r ysbyty – yn enwedig ddim yng nghanol pandemig pan oedd y newyddion yn cael ei foddi gyda storïau am y Gwasanaeth Iechyd ar fin torri. Oherwydd y pandemig, doedd neb yn gallu dod gyda mi i’r Adran Frys a doedd neb yn gallu ymweld â mi.
Bydd unrhyw un sydd wedi bod mewn ysbyty erioed yn gwybod ei fod yn lle llwm. Ond mae bod yna pan nad ydych yn gallu cael rhywun i aros gyda chi neu hyd yn oed i ddod i ymweld â chi – yn enwedig mewn argyfwng iechyd meddwl – mae’n llethol ac yn unig ar raddfa cwbl newydd.

Doeddwn i ddim yn disgwyl bod yn yr ysbyty am yn hir. Doedd dim dillad sbâr gyda fi a ddim hyd yn oed gwefrwr, felly erbyn y bore roedd fy ffôn wedi marw a doeddwn i ddim yn gallu siarad gydag unrhyw deulu na ffrindiau. Doeddwn i erioed wedi bod dros nos mewn ysbyty o’r blaen.

Dywedodd y nyrsys yn yr Adran Frys fy mod yn gorfod disgwyl am seiciatrydd ond na fyddai’r un ar gael tan y bore. Ni ddaeth y seiciatrydd am 9am fel roedden nhw’n dweud i ddechrau, ond daeth meddyg ychydig oriau’n ddiweddarach i ddweud na chawn i fynd adre nes bod y feddyginiaeth allan o'm system.

Roedd gwahanol aelodau o staff yn dweud pethau gwahanol wrthyf ar hyd yr adeg. Byddai un yn dweud wrthyf y gallwn i fynd adre yn y bore, yna un arall yn dweud na chawn i ddim. Dim ond am ddau ddiwrnod oeddwn i yno, ond roedd ansicrwydd – ynghyd â’r ffaith nad oedd gwefrwr ffôn gen i – yn gwneud i mi deimlo fy mod yno am bythefnos.

Stigma iechyd meddwl

Roeddwn yn ymwybodol ar hyd yr adeg fy mod i mewn ysbyty oherwydd salwch meddwl, nid salwch corfforol. Pan ofynnodd hen ŵr i mi beth oedd yn bod, fe ddywedais gelwydd, dywedais rywbeth arall. Rwy’n credu fod hynny ei hunan yn dangos y stigma sy’n dal i fodoli ynghylch iselder. Sut allwn i ddweud wrth hen ŵr, a oedd yn yr ysbyty, fy mod wedi cymryd gor-ddôs i ladd fy hun. Doeddwn i ddim yn gallu canfod y geiriau.

Roeddwn i’n teimlo’r stigma gydol fy arhosiad. Efallai nad oedd yn fwriadol pob tro, ond yn fwy o achos nad oedd staff yn gwybod beth i’w ddweud wrthyf na sut i ymddwyn o’m cwmpas i. Wedi’r cyfan, roeddwn i’n gallu codi, ymolchi fy hunan, bwydo fy hunan a doedd gen i ddim unrhyw boen corfforol. Roeddwn i’n teimlo allan o le ar y ward ac yn hunanol fy mod yn cymryd gwely.

Ond roedd yna adegau pan oeddwn i’n teimlo fy mod yn cael fy ngwthio i un ochr am y rheswm hynny. Doedd gen i ddim gobennydd gydol yr amser yr oeddwn yn yr ysbyty, ac, yn y pendraw, pan oeddwn i’n teimlo’n ddigon dewr i ofyn am un, dywedodd y nyrs nad oedd un ar gael a daeth â gorchudd gobennydd i mi wedi'i lenwi â sgrybs.

Un tro hefyd, roedd y ‘drip’ yn fy mraich wedi’i adael i yn ei le’n llawer hirach nag oedd angen – roedd wedi torri fy nghroen ac wedi dechrau gwaedu. Soniais wrth nyrs a dywedodd y byddai’n ôl i’m helpu, ond ni ddaeth hi ddim.

Rwy’n ceisio meddwl fod y profiadau yn dangos o dan faint o bwysau oedd y staff, ond rwy’n credu, oherwydd sut oeddwn i’n teimlo ar y pryd, fod y pethau bach yma yn codi cywilydd arna i am fod yno, er nad oedd y meddygon yn fodlon i mi fynd adre.

Ar yr ail fore yn yr ysbyty, clywais y byddwn, o’r diwedd, yn gweld y seiciatrydd. Erbyn hynny, doedd dim ots gen i, dim ond eisiau mynd adre oeddwn i. Ond, apwyntiad oedd gen i gyda nyrs iechyd meddwl ac, fel mae’n digwydd, hi oedd y nyrs oedd wedi fy ngweld lai na blwyddyn yn gynharach pan oeddwn wedi cael fy hun yn yr Adran Frys yn teimlo fel lladd fy hunan ac yn teimlo’n hynod o isel.

Roedd yn rhaid i ni gynnal y cyfarfod mewn cwpwrdd storfa gan nad oedd unrhyw ystafelloedd ymgynghori’n rhydd. Doedd hynny ddim yn ddelfrydol, byddai aelodau o staff yn dod i mewn i nôl rhywbeth ac roedd rhaid i’r nyrs baricedio’r drws i atal pobl rhag torri ar draws y cyfarfod. Erbyn gweld, roedd y nyrs iechyd meddwl yn fy nghofio ac wedi gofyn yn benodol i’m gweld pan welodd fy enw yn y system.

Roeddwn yn gallu synhwyro ei bod yn edifarhau rhywfaint nad oedd wedi fy nghyfeirio at y gwasanaethau iechyd meddwl eilaidd y flwyddyn gynt - dim ond ychydig o sesiynau cwnsela ar y Gwasanaeth Iechyd gefais i. Y tro hwn, addawodd y byddwn yn cael yr help yr oeddwn ei angen - byddai’n fy nghyfeirio at seiciatrydd a fyddai’n rhoi diagnosis iawn ac efallai gyfuniad o feddyginiaethau i mi.

Ôl ofal

Ddaeth y cyfeiriad at y seiciatrydd ddim ar unwaith. Ffoniais fy meddyg teulu ar ôl disgwyl am fisoedd. Cyrhaeddodd llythyr 3 – 4 mis yn niweddarach. Roedd yr apwyntiad o gymorth mewn rhai ffyrdd, ond yn rhyfedd, yn hytrach na derbyn rhagor o feddyginiaeth, dechreuais fynd y ffordd arall.

Dechreuais amau’n gryf a oedd y feddyginiaeth yn fy helpu. Roeddwn i hyd yn oed ychydig yn bryderus ei fod yn fy ngwneud yn waeth. Penderfynais leihau fy nos, sy’n broses raddol iawn a rhywbeth rwy’n dal i weithio arno oherwydd y sgil effeithiau.

Dechreuais gwnsela gyda Mind a oedd yn fy helpu i sylweddoli rhai o’r pethau oedd yn fy helpu – fel rhedeg – a rhai o’r pethau nad oedden nhw. Wnaeth y cwnsela mo fy ngwella, ond mi roedd yn fy ngalluogi i reoli fy emosiynau’n well. Roeddwn i’n gallu anadlu’n haws a theimlo ychydig yn ysgafnach.

Yn y diwedd, dechreuais golli ffydd yn llwyr fod unrhyw un arall yn gallu fy helpu ac mewn rhai ffyrdd, roedd hynny’n beth positif oherwydd mi wnaeth, bron iawn, fy ngorfodi i gymryd rheolaeth dros fy iselder. Ond rwyf hefyd yn boenus o ymwybodol y gallai fy sefyllfa fod wedi chwyrlio allan o reolaeth yn hawdd iawn - fel ag y mae i gymaint o bobl eraill sy'n cael eu hesgeuluso gan y system.

Angen angerddol am newid

Ar hyn o bryd mae llawer o fylchau yn y gwasanaethau iechyd meddwl yn y DU ac yn anffodus, mae miliynau’n dioddef. Rydyn ni’n colli pobl pob dydd oherwydd maen nhw naill ai ormod o ofn gofyn am helpu neu maen nhw wedi gofyn am help a does neb wedi talu sylw iddyn nhw.

Os yw pobl broffesiynol iechyd meddwl yn gorfod dewis pwy sy’n deilwng o help a phwy sydd ddim, mae yna rywbeth difrifol o’i le. Ni ddylai rhywun fod mewn poen neu berygl corfforol cyn cael gwrandawiad.

Mae salwch meddwl yn gallu amrywio ac ymddangos mewn ffyrdd gwahanol iawn. I rai pobl, mae’n gallu bod yn amlwg iawn ond, i rai unigolion prysur, mae’n llai amlwg, dyma’r bobl, yn aml iawn, sy’n llithro trwy’r craciau.

Rydym hefyd angen dull llawer mwy holistig o ystyried iechyd meddwl yn ein Gwasanaeth Iechyd. Ni ddylai aelodau o staff fod ar bigau drain yn cropian o gwmpas cleifion oherwydd nad ydyn nhw wedi cael eu hyfforddi ynghylch sut i siarad gyda rhywun sy’n isel neu’n hunan ddinistriol.

Mae’n amlwg hefyd fod yna fan llwyd ble mae pobl gyda salwch meddwl cymedrol - sy’n amlwg yn effeithio ar eu bywyd o ddydd i ddydd ond nid yn eu gwthio at y dibyn - yn cael eu hesgeuluso. Os nad ydyn nhw’n cael help, mae’n debyg mai gwaethygu fydd eu hiechyd meddwl - gyda chanlyniadau a allai fod yn angheuol.

Mae’n dweud llawer fod y nyrs iechyd meddwl a welais i wedi dweud, pe byddai’n fy nerbyn i ward iechyd meddwl, "mae'n debyg y byddai'n wneud i mi deimlo'n waeth". Os felly, beth sydd i fod i ngwneud i deimlo’n well?

 

 

See what we're campaigning on

Mae Faith yn cefnogi ein hymgyrch Sefwch Drosof i ddal Llywodraeth Cymru i gyfrif ynglŷn â'u haddewidion etholiad.

Ymunwch â'n hymgyrch neu darllenwch mwy.

Mind

Our campaigns

We'll fight your corner. We believe everyone with a mental health problem should be able to access excellent care and services. We also believe you should be treated fairly, positively and with respect.

Share your story with others

Blogs and stories can show that people with mental health problems are cared about, understood and listened to. We can use it to challenge the status quo and change attitudes.

arrow_upwardYn ôl i'r brig