Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Ymgyrch Sefwch Drosof I

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Gymraeg. This link will take you to a Welsh translation of this page.

Gyda'n gilydd rydyn ni wedi cyflawni cymaint. Roedd Llywodraeth newydd Cymru wedi gwneud addewidion yn ystod yr etholiad i flaenoriaethu iechyd meddwl pobl yng Nghymru. Ers ennill, mae wedi penodi Dirprwy Weinidog dros Iechyd Meddwl.

Dyma’r amser i ddathlu, i longyfarch ac i feddwl am y cam nesaf. Oherwydd dim ond y dechrau yw hyn. Er bod ymrwymiadau mewn maniffesto’n galonogol, mae’n rhaid eu dilyn gyda gweithredu. Dyna lle rydych chi’n dod i mewn! 

#SefwchDrosofI

Mae angen eich cymorth chi arnom ni

Gyda’ch cymorth chi, byddwn yn sicrhau fod ein llywodraeth yn sefyll drosoch chi, yn sefyll drosom ni ac yn sefyll dros iechyd meddwl.

Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru:

  • Wneud iechyd meddwl yn flaenoriaeth traws bynciol drwy gyhoeddi Strategaeth Iechyd Meddwl newydd ac adolygu deddfwriaeth iechyd meddwl.
  • Talu sylw i ba mor anodd yw hi i rai pobl gael cefnogaeth iechyd meddwl, yn enwedig pobl sy'n byw mewn tlodi a phobl sy'n dod o gymunedau du a lleiafrifoedd ethnig.
  • Talu sylw i’r argyfwng cynyddol mewn iechyd meddwl pobl ifanc drwy gyfarfod y galw eang ac amrywiol am gefnogaeth
  • Ymrwymo i sicrhau fod pawb yn cael gofal o ansawdd diogel a chyflym pan maen nhw ei angen, gan gynnwys gofal argyfwng 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos.
  • Canolbwyntio mwy ar gynllunio a buddsoddi mewn iechyd meddwl mewn lleoliadau gofal cychwynnol ac ar gyfer therapïau siarad i sicrhau bod amrywiaeth eang o gefnogaeth ar gael yn brydlon.
  • Taclo’r stigma mewn cymunedau a gweithio i gael ymarferion gwell mewn gweithleoedd i’w gwneud yn fwy addas a chynhwysol ar gyfer y rhai sy'n mynd trwy broblemau iechyd meddwl.

Darllenwch ein maniffesto i gael gwybod mwy.

arrow_upwardYn ôl i'r brig