Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Sut rwy'n ymdopi gydag iselder a phryder

Dydd Mercher, 11 Mai 2022 Gethin

Mae Gethin yn rhannu ei brofiadau o broblemau iechyd meddwl a'i fecanweithiau ymdopi.

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Gymraeg. This link will take you to a Welsh translation of this page.

Byddwn yn taeru bod Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl yn cyrraedd yn llawer cynt bob blwyddyn! Ar ôl cael llawer o gysur a chefnogaeth dros y blynyddoedd wrth ddarllen 'Eich Straeon' ar wefan Mind, eleni rydw i wedi penderfynu ysgrifennu am fy mhrofiadau i a’r dulliau rydw i’n eu defnyddio i ymdopi.

 

Fy nghefndir

Mae iechyd meddwl wedi bod yn agos at fy nghalon ers rhai blynyddoedd. Yn anffodus, collasom fy Nhad o ganlyniad i iselder yn 2007 – dyn hoffus, oedd â’i draed yn gadarn ar y ddaear, ac a oedd yn meddwl y byd o’i deulu.  Effeithiodd y golled ar bob un ohonom mewn ffordd na fyddem byth wedi gallu ei dychmygu. Rydw i am fod yn hollol onest hefyd (fel sydd orau yn aml â materion iechyd meddwl) a dweud fy mod innau’n dioddef o iselder a gorbryder, a hynny ers rhai blynyddoedd erbyn hyn.

Mae’n siŵr bod llawer ohonoch sy’n darllen hyn mewn sefyllfa debyg, neu wedi bod mewn sefyllfa debyg – yn enwedig o ganlyniad i’r cyfnod digynsail o dros 2 flynedd y mae pob un ohonom wedi’i wynebu (ac ydy, mae’r gair ‘digynsail’ yn mynd dan fy nghroen i hefyd..). Amcangyfrifir y bydd 1 o bob 4 ohonom yn wynebu problem iechyd meddwl bob blwyddyn, ac mae hynny’n bryderus iawn. Ffaith sydd hyd yn oed yn fwy pryderus yw bod hunanladdiad yn gyfrifol am farwolaeth mwy o ddynion dan 45 oed yn y DU nag unrhyw achos arall – meddyliwch am y peth: mwy na chanser, clefydau’r galon a’r ysgyfaint, a phob clefyd arall.

O ystyried hyn i gyd, rwy’n ceisio bod yn eiriolwr brwd dros iechyd meddwl a llesiant (er fy mod yn mynd ar nerfau hanner poblogaeth LinkedIn mae’n debyg!), ac rydw i wedi ceisio gwneud cymaint ag y gallaf i hyrwyddo a chodi arian at yr achosion da sy’n mynd i’r afael â’r diffyg cefnogaeth (er bod digon o stigma). Rwy’n credu’n gryf bod salwch meddwl, fel creulondeb canser, yn gallu effeithio ar unrhyw un – nid yw’n dewis ei bobl.

 

Awgrymiadau er mwyn i chi allu helpu eich hun

Felly sut ydw i’n rheoli fy iselder a’m gorbryder? Ymwadiad: Dydw i ddim yn honni fy mod i’n gwneud y pethau iawn, ac yn aml iawn dydw i ddim yn dilyn fy nghyngor fy hun – ond mae’r awgrymiadau hyn (rhai rydw i wedi’u gweld ar-lein a rhai sy’n seiliedig ar brofiad) wedi bod yn ddefnyddiol iawn, yn ychwanegol at fy meddyginiaeth reolaidd:

 

Dysgu datgysylltu ein hunain am ychydig

Rydym yn byw mewn oes pan mae cymaint o wybodaeth ar gael a chymaint o bwysau i gysylltu â rhwydweithiau. Pan oedd y pandemig yn ei anterth, er enghraifft, ro’n i’n gwylio’r newyddion bob awr o’r diwrnod – ac roedd Huw Edwards a Fiona Bruce bron iawn fel aelodau o’r teulu! Rydw i wedi darganfod ei bod yn hanfodol, yn enwedig y dyddiau hyn, ein bod yn dysgu sut i ddatgysylltu ein hunain oddi wrth brysurdeb gwyllt y byd.

Mae sicrhau cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith yn ffactor arall yn yr her i ddatgysylltu. Ni ddylai gweithio gartref fod yn wahanol i weithio ar safle – yn union fel y dylech wneud wrth adael y swyddfa go iawn, dylech ddatgysylltu eich ffôn a’ch gliniadur ar ddiwedd y diwrnod gwaith, a chychwyn o’r newydd yn y bore. Peidiwch â gadael i reolau amser gwahanol gweithio gartref amharu ar eich patrwm gwaith arferol.

 

Ymlaciwch

Haws dweud na gwneud, rwy’n gwybod! Ond mae cymryd seibiant neu amser i ymlacio yn ystod y dydd yn gallu gwneud gwyrthiau – boed yn newid lleoliad, cael ychydig o Fitamin D, neu rywbeth mwy egnïol fel ioga neu hobi newydd.

Mae llawer o bobl yn teimlo bod ymarferion anadlu yn eu helpu, yn enwedig pan maen nhw dan bwysau ac yn teimlo gorbryder – mae rhai technegau i’w gweld yma yng nghanllawiau’r GIG.

Mae cyfryngu ac ymwybyddiaeth ofalgar (e.e. drwy ap Headspace) hefyd yn gweithio’n dda i lawer o bobl ac yn helpu i dynnu eu sylw oddi bethau sydd ar eu meddwl am ychydig – rhowch gynnig arni, hyd yn oed os ydych yn sgeptig neu’n newydd i hyn.

Fel arfer rydw i’n ymlacio drwy fynd allan am dro hir (a gwrando ar Fleetwood Mac), drwy ddarllen llyfr ar ddiwedd y dydd neu drwy fynd allan i’r ardd (ac o safbwynt iechyd meddwl/llesiant rwy’n hoff iawn o lyfrau Matt Haig).

 

Edrychwch ar ôl eich corff

Nid yw’n gyfrinach bod unrhyw fath o ymarfer corff yn gallu bod yn fuddiol iawn o safbwynt llesiant a hunan-dyb, ac mae’n eich helpu i gael noson dda o gwsg – hyd yn oed mynd allan am awyr iach a gwneud ychydig o gamau yn ystod amser cinio neu ar ôl gwaith. Yr hyn sy’n donic i mi (nid y math rydych yn ei yfed gyda jin) yw rhedeg, a does dim byd i guro’r hwb y mae endorffinau’n ei roi i chi ar ôl bod yn loncian.

Yn yr un modd, mae angen i chi edrych ar ôl eich corff drwy’r pethau rydych yn eu bwyta. Mae gwyddoniaeth yn dangos bod cysylltiad rhwng y perfedd a’r ymennydd – felly gwnewch yn siŵr eich bod yn bwyta deiet gytbwys sy’n llawn maethynnau, i gadw eich meddwl yn iach hefyd.

Ac wrth gwrs, mae cwsg yn bwysig iawn. Mae cael patrwm amser gwely, osgoi sgriniau, a chael 8 awr o gwsg i gyd yn gallu cyfrannu tuag at feddwl hapusach.  

 

Siaradwch

Yr awgrym olaf, a’r un mwyaf hanfodol mae’n debyg, yw siaradwch am eich teimladau, os ydych yn teimlo’n ddigon cyfforddus i wneud hynny. Rydym wedi clywed ganwaith pa mor bwysig yw siarad, ond mae rheswm da dros ailadrodd y neges – yn aml iawn, drwy rannu eich teimladau mae’n haws i chi ymdopi â nhw.

 

Angen cefnogaeth?

Os bydd arnoch angen ychydig o arweiniad neu ofal, mae digon o adnoddau a sefydliadau da o gwmpas, gan gynnwys y rhain ar wefan Mind.

Yn fwy na dim, cofiwch fod gofalu am eich iechyd meddwl yr un mor bwysig â gofalu am eich iechyd corfforol – a dyw gofyn am help, neu gyfaddef eich bod yn cael pethau’n anodd, byth yn rhywbeth i fod â chywilydd ohono.

Yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl eleni, rydyn ni’n defnyddio iaith lafar i ddangos y gwahanol ffyrdd mae pobl yn siarad am eu profiadau. Ewch i'r tudalen yma am fwy o wybodaeth.

Get involved

There are lots of different ways that you can support us. We're a charity and we couldn't continue our work without your help.

Share your story with others

Blogs and stories can show that people with mental health problems are cared about, understood and listened to. We can use it to challenge the status quo and change attitudes.

arrow_upwardYn ôl i'r brig