Mynnwch help nawr Gwnewch rodd

Sut mae Monitro Gweithredol wedi fy helpu i ddod i dermau â fy iechyd meddwl

Dydd Gwener, 16 Hydref 2020 Gemma

Mae Gemma, o Gaerdydd, yn esbonio sut mae ein rhaglen Monitro Gweithredol wedi ei helpu hi i ddysgu rheoli straen a gorbryder.

Mae'r dudalen hon hefyd ar gael yn Gymraeg. This link will take you to a Welsh translation of this page.

Gorffennodd 2019 fel unrhyw flwyddyn arall; gyda thân gwyllt, canu Auld Lang Syne, a chroesawu 2020 yn llawen. Roeddwn i’n eistedd yn fy ystafell gan wylio’n tân gwyllt ac yn pendroni pa fath o flwyddyn fyddai 2020 i fi a fy nheulu bach. Pe bai fi ond yn gwybod beth oedd yn dod a sut fyddai’n newid ein bywydau mewn cymaint o ffyrdd.

Roedd mis Ionawr wedi rhygnu ‘mlaen, rhywsut. Roedd fy ngŵr wedi cael dyrchafiad yn y gwaith, ac roeddwn i’n hapus iawn droso.  Roeddwn i’n dechrau mwynhau fy ngwaith cwrs Lefel 3 mewn Gofal Plant – rwy’ wrth fy modd yn cael ei astudio. Roedd fy merch yn tyfu’n gyflym ac mewn hyder, er nad yw hi’n siarad ar hyn o bryd, felly mae bywyd dyddiol yn anodd gan ein bod ni heb fod yn rhy siŵr o’r hyn mae hi eisiau bob amser.

Rwy’ wedi dechrau cael ‘ambell i foment’, lle roeddwn i’n teimlo fel petai fi’n ei chael yn anodd dal fy mhen uwchben y dŵr.

Roedd adegau lle roeddwn i’n dechrau crïo am ddim rheswm, neu le nad oeddwn i´n gallu anadlu, ond yn ceisio anghofio am y peth a cheisio cario ‘mlaen gystal â phosib.

Dechreuodd pethau waethygu ym mis Mawrth. Doedd e erioed wedi croesi fy meddwl y byddai pandemig byd eang yn digwydd. Dyw e ddim yn rhywbeth rydych chi´n ei ddisgwyl. Roedd e’n rhyfedd, un diwrnod roeddwn i yn y gwaith a’r funud nesaf, doeddwn i ddim – croeso i ffyrlo. Roedd fy ngŵr yn weithiwr allweddol ac roedd yn rhaid iddo barhau i weithio yn y sector manwerthu tra bod pobl yn prynu´n wyllt, gan wacáu’r silffoedd mor aml ag yr oedd e’n cael cyfle i’w llenwi.

Un diwrnod, dychwelodd e o’r gwaith wedi blino’n lân, felly gofynnais iddo a oedd e’n teimlo’n iawn. Dywedodd e fod ei galon wedi bod yn curo’n wyllt ers y noson cynt. Erfyniais arno i weld meddyg, a dywedon nhw ei fod yn cael pyliau o banig o ganlyniad i straen y pandemig a diffyg cwsg oherwydd shifftiau nos.

Yn fuan wedi hyn, roeddwn i’n teimlo fel petai fy ‘ambell foment’ yn dod yn fwy rheolaidd, ond roeddwn i’n parhau i’w claddu nhw nes i ffrind ddweud wrthyf i y dylwn i ystyried rhaglen Monitro Gweithredol Mind. I ddechrau, roeddwn i’n amheus a fyddai o help i fi, ond un noson tra bo fy merch fach yn cysgu a fy ngŵr yn y gwaith, torrais i lawr yn crïo. Dyna beth fy ysgogodd i gysylltu â Mind.

Roedd fy nghynghorwr, Mark o Mind Caerdydd, yn gallu tawelu fy meddwl. Roedd yn braf cael siarad â rhywun nad oedd yn fy adnabod i ac na fyddai’n dweud beth oeddwn i eisiau ei glywed. Dechreuon ni gan edrych ar y llwybr straen a gorbryder, gan ystyried cwsg hefyd, gan fy mod i’n dioddef yn enbyd o ddiffyg cwsg. O edrych ar y llwybr gorbryder, roeddwn i’n gallu gweld pethau oedd yn cyfateb i fy mhrofiad i o’r ‘ambell foment’ roeddwn i’n eu cael.

Roedd y sesiynau Monitro Gweithredol o gymorth, ond un diwrnod, roeddwn i yn y tŷ yn paratoi bwyd i fy merch fach pan ddechreuodd fy nghalon rasio. Doeddwn i ddim yn gallu anadlu, roeddwn i’n gallu clywed fy merch fach yn crïo, ond doeddwn i ddim yn gallu canolbwyntio. Roeddwn i’n meddwl fy mod i ar fin marw. Ar ôl beth oedd yn teimlo’n agos i awr (mewn realiti, 15 munud barodd y profiad) daeth popeth i ben mor gyflym ac y dechreuodd.

Dyna pryd y penderfynais i siarad â fy meddyg teulu. Dydw i ddim yn credu y byddwn i wedi meddwl am ofyn am help heblaw am y gefnogaeth y cefais i oddi wrth Mind. Yn ôl fy meddyg, pyliau o banig oedd yr ‘ambell foment’ oeddwn i’n eu cael, a fy mod i wedi bod yn dioddef ohonynt ers tro.

Mae technegau daearu, neu grounding techniques, yn rhywbeth sydd wedi bod o gymorth mawr i fi. Os ydw i’n teimlo fy mod i ar fin cael pwl o banig, rwy’n stopio’r hyn rwy’n ei wneud, rwy’n anadlu, yn edrych ar bum peth o fy amgylch i, yn dweud eu henwau’n uchel drosodd a throsodd nes i’r profiad basio. Erbyn hyn, rwy’n cymryd meddyginiaeth ac rwy’n iawn gyda hynny – mae o gymorth i fi.

Des i i sylweddoli fy mod i’n blaenoriaethu pawb arall cyn ystyried fy anghenion i. Rhaid i fi sicrhau bod fy ngŵr, fy merch, fy ffrindiau a fy nheulu’n iawn gyntaf. Fi sydd ar waelod y rhestr. Pam ydw i’n gwneud hynny?

Rwy’ wedi dod i sylweddoli ei fod yn iawn neilltuo amser i fy hun. Rwy’ wedi dechrau darllen er pleser eto, ac wedi rhoi ychydig o amser i’r neilltu i fi fy hun. Os nad ydw i’n darllen llyfr neu wrando ar gerddoriaeth, rwy’n edrych ar luniau o fy merch pan oedd hi’n fabi er mwyn sylweddoli pa mor lwcus ydw i.

Pe baech chi wedi dweud wrthyf i'r flwyddyn diwethaf fy mod i’n mynd i ddioddef o broblemau iechyd meddwl, byddwn i wedi dweud “na, nid fi”. Wel ie, fi. Oes, mae gen i broblemau iechyd meddwl ac rwy’n iawn gyda hynny. Mae’n iawn i beidio bod yn iawn. Mae’n iawn i ofyn am help.

Mae’r help y cefais i oddi wrth raglen Monitro Gweithredol Mind yn parhau i gael effaith arnaf i.

Yn ogystal â chefnogaeth teulu a ffrindiau, rwy’ bellach yn cymryd popeth un dydd ar y tro i helpu gwella fy iechyd meddwl. Dydy pethau ddim yn hawdd, ac mae rhai dyddiau’n anoddach na’i gilydd, ond mae pobl allan yno sy’n fy ngharu i ac yn fodlon fy nghefnogi pan fyddaf i’n cael diwrnod gwael. Rwy’n ddiolchgar i bob un ohonyn nhw.

Rwy’n erfyn ar bobl i beidio â dioddef yn dawel fel roeddwn i’n meddwl y gallwn i ei wneud. Os gallaf i gymryd cam mawr dewr, gallwch chi wneud hynny hefyd. Roedd Mind yno i fi pan oedd angen rhywun i wrando arnaf i, a dyna’n union y cefais i.

 

Mae Gemma, 36, o Gaerdydd, yn fam i ferch fach hyfryd. Mae hi’n mwynhau darllen a rhannu llyfrau gyda’i merch.  

 

Information and support

When you’re living with a mental health problem, or supporting someone who is, having access to the right information - about a condition, treatment options, or practical issues - is vital. Visit our information pages to find out more.

 

Share your story with others

Blogs and stories can show that people with mental health problems are cared about, understood and listened to. We can use it to challenge the status quo and change attitudes.

arrow_upwardYn ôl i'r brig